Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 16 Gorffenaf a 23 Gorffenaf 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Gorffennaf (eitem agenda rhif 3) a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 PDF 133 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2025/26 a chyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Fel y manylir yn yr argymhellion. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 4) ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 a oedd yn rhoi diweddariad ar sefyllfa cyllideb refeniw y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y diweddariad ar sefyllfa gyllidebol y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 cyn iddo gael ei ystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol; a
(b) Nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ganfod atebion i'r gyllideb, a chytuno ar y dull o fynd i'r afael â'r her gyllidebol ddifrifol a sylweddol. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru – Cynaliadwyedd Ariannol PDF 102 KB Pwrpas: Cynghori ar yr adroddiad terfynol a gafwyd gan Archwilio Cymru ac i gytuno ar y camau nesaf ac amserlen adrodd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Fel y manylir yn yr argymhelliad. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 5) o Adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau adroddiad lleol o’r enw “Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Sir y Fflint’.
Roedd dau gynrychiolydd o Archwilio Cymru yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol gan Archwilio Cymru a chefnogi ymateb y sefydliad. |
|
Pwrpas: Cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Fel y manylir yn yr argymhelliad. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Perfformiad Blynyddol (eitem agenda rhif 6) a oedd yn nodi dadansoddiad o ba mor dda yr oedd y Cyngor wedi perfformio yn erbyn ei amcanion Llesiant.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, ynghyd ag Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2023/24 Cynllun y Cyngor, gan nodi'r perfformiad a gyflawnwyd. |
|
Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 PDF 141 KB Pwrpas: To accept and approve the findings of the Corporate Self-Assessment 2023/24. To approve the opportunities for improvement identified in Corporate Self-Assessment 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Fel y manylir yn yr argymhellion. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Hunan-Asesiad Corfforaethol 2023/24 (eitem agenda rhif 7) a oedd yn cyflwyno canfyddiadau'r Hunanasesiad Corfforaethol a manylion y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn a chymeradwyo canfyddiadau'r Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24; a
(b) Cymeradwyo'r cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24. |
|
Adroddiad Blynyddol BGC Sir y Fflint a Wrecsam 2023/2024 PDF 105 KB Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam 2023. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam (eitem agenda rhif 8) 2023 y mae’n rhaid ei gynhyrchu ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blaenorol.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi darpariaeth Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam 2023/24. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 4) PDF 139 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2024/25 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 4) (eitem agenda rhif 9) a oedd yn rhoi'r sefyllfa monitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a Chyfrif Refeniw Tai.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2024/25, ynghyd â'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella'r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 4) PDF 186 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 4 ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 4) (eitem agenda rhif 10) a oedd yn rhoi gwybodaeth am y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024/25.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i'w cario ymlaen; a
(c) Cymeradwyo'r dyraniadau ychwanegol. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2023/24 PDF 116 KB Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol (eitem agenda rhif 11) a oedd i'w argymell i'r Cyngor.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 21 Tachwedd i'w gymeradwyo'n derfynol. |
|
Adolygiad o’r Sector Gofal Preswyl 2024 - 2034 ac Adroddiad Cynnydd Ty Croes Atti PDF 148 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw adolygu a diweddaru’r adolygiad gofal preswyl a gwblhawyd yn 2016 / 2019, ac archwilio’r newidiadau a ragwelir yn y sector gofal preswyl, yn lleol ac yn genedlaethol, erbyn y flwyddyn 2034. Bydd yn asesu cyflwr marchnad Sir y Fflint ar hyn o bryd yn ogystal â rhagweld y sefyllfa debygol yn 2034 a chynnig argymhellion i reoli a lliniaru’r risgiau a ragwelir. Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad am ddatblygiad Cartref Gofal T? Croes Atti. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr Adolygiad o’r Sector Gofal Preswyl 2024-2034 ac adroddiad Cynnydd T? Croes Atti (eitem agenda rhif 12) sef y man cychwyn ar gyfer sut y gallai’r Cyngor barhau i ymateb i heriau a galwadau cynyddol y sector.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r camau gweithredu sydd eu hangen i liniaru'r diffyg a ragwelir yn Sir y Fflint;
(b) Nodi ffyrdd o ddylanwadu ar y farchnad annibynnol i gwrdd â’r galw cynyddol, gan gymryd i ystyriaeth y cynigion yn Agenda Ail-gydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru; a
(c) Cydnabod y cynnydd a wnaed ar ddatblygiad Ty Croes Atti. |
|
Gwaith Cyfalaf – Caffael Gwaith Mewnol Safon Ansawdd Tai Cymru PDF 88 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ddyfarnu contract sydd wedi’i gaffael drwy’r Fframwaith Caffael a Mwy, gan alluogi’r Cyngor i barhau â gwaith mewnol ar dai cyfan yn unol â SATC ar oddeutu 400 o eiddo yn ystod y ddwy flynedd ariannol nesaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby adroddiad Gwaith Cyfalaf - Caffael Gwaith Mewnol Safon Ansawdd Tai Cymru (eitem agenda rhif 13) a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract drwy'r Fframwaith Caffael a Mwy.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo dyfarniad Seddon’s Ltd, i gyflawni’r Rhaglen Waith Mewnol T? Cyfan, drwy’r Fframwaith Procure Plus. |
|
Gwaith Cyfalaf – Gwaith caffael sy’n ymwneud â diogelwch tân (Adeiladau uchel iawn) PDF 107 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ddyfarnu contract sydd wedi’i gaffael trwy fframwaith caffael Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, cam 3, gan alluogi’r Cyngor i barhau â’r gwaith sy’n ymwneud â diogelwch tân a chydymffurfio ar ein hasedau sy’n eiddo i’r Cyngor, yn enwedig y blociau o fflatiau uchel iawn yn y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad Gwaith Cyfalaf – Gwaith Caffael yn Ymwneud â Diogelwch Tân (Highrise) (eitem agenda rhif 14) a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract a gaffaelwyd trwy Fframwaith Caffael Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r gystadleuaeth fach drwy Fframwaith Caffael Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru. |
|
Adroddiad Blynyddol ar y Weithdrefn Gwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 128 KB Pwrpas: Bod aelodau yn craffu ar effeithlonrwydd y weithdrefn gwynion gyda gwersi a ddysgwyd i wella darpariaeth gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr Adroddiad Blynyddol (eitem agenda rhif 15) ar Weithdrefn Gwyno a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol sef nodi effeithiolrwydd y drefn gwyno gyda gwersi'n cael eu dysgu i wella darpariaeth gwasanaeth.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi effeithiolrwydd y drefn gwyno gyda gwersi'n cael eu dysgu. |
|
Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint PDF 137 KB Pwrpas: I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar farchnad Micro-ofalwr Sir y Fflint, darparu gwerthusiad o’r prosiect hyd yma a rhoi gwybod am unrhyw ddatblygiadau allweddol wrth symud ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Prosiect Micro Ofal Sir y Fflint (eitem agenda rhif 16) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am farchnad Micro-ofalwyr Sir y Fflint, gan ddarparu gwerthusiad o’r prosiect hyd yma a datblygiadau allweddol wrth symud ymlaen.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r cynnydd a wnaed yn y prosiect Micro-ofal a'r cyfraniad y mae'r cynllun yn ei wneud i fodloni'r galw am ofal yn Sir y Fflint. |
|
Model Cyfranogi Fflint yr Ifanc Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cael Aelodau i gefnogi’r dull o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood adroddiad Model Cyfranogiad Sir y Fflint Ifanc (eitem agenda rhif 17) a oedd yn rhoi trosolwg o’r model arfaethedig i blant a phobl ifanc gael clywed eu llais am faterion sy’n effeithio arnynt a siarad â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn yr awdurdod lleol.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn deall ac yn cefnogi Model Cyfranogiad Sir y Fflint Ifanc i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn Sir y Fflint mewn materion sy’n effeithio arnynt a darparu mecanwaith i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau glywed eu barn. |
|
Arolwg Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint gan Arolygiaeth Prawf EF PDF 108 KB Pwrpas: Cyflwynir yr adroddiad i’r Cabinet i roi sicrwydd am ansawdd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood adroddiad Arolwg HMIP Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint (eitem agenda rhif 18) a roddodd sicrwydd ar ansawdd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chefnogi'r argymhellion o Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, a bod yr Aelodau'n cael eu sicrhau o ansawdd y ddarpariaeth ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint; a
(b) Cymeradwyo dull cadarn o geisio'r gefnogaeth a nodwyd ar hyn o bryd gan bartneriaid allanol. |
|
Cynnal a Chadw dros y Gaeaf – Adolygiad Gwneud Penderfyniadau 2024 PDF 1 MB Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am addasiadau arfaethedig i’r broses bresennol o wneud penderfyniadau yn y ‘Polisi Cynnal a Chadw dros y Gaeaf 2023 – 2025’, a gafodd ei adolygu a’i gytuno ym mis Medi 2023, ac oedd â’r nod o gyflawni arbedion a nodwyd yn y broses o osod y gyllideb ym mis Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad Cynnal a Chadw Gaeaf - Adolygiad Gwneud Penderfyniad 2024 (eitem agenda rhif 19) a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau arfaethedig i'r broses benderfynu bresennol o fewn Polisi Cynnal a Chadw Gaeaf 2023-25.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r cynnig i drosglwyddo i ddull seiliedig ar barth ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gyfer camau graeanu gyda newid sylweddol a gynigir ar gyfer tymor 2024/25; a
(b) Cymeradwyo'r cynnig i liniaru'n llawn ar driniaethau parth o dymor 2025/26 yn dilyn canlyniad y newid sylweddol dros dymor 2024/25. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru (Gosod Amcanion Lles) PDF 117 KB Pwrpas: Adolygu’r argymhellion ar gyfer gwella a gynghorwyd gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Archwilio Cymru (eitem agenda rhif 20) (Pennu’r Amcanion Llesiant) a oedd yn adolygu’r argymhellion ar gyfer gwella a gynghorwyd gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y Cyngor.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r argymhellion ar gyfer gwella. |
|
Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu 2023-24 PDF 208 KB Pwrpas: I ddarparu trosolwg o berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod 2023-24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu (eitem agenda rhif 21) a oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod 2023-24.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu 2023-24; a
(b) Yng ngoleuni'r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â Chanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu; (1) y dylid cynnal adolygiad o'r gwasanaeth, gan ddechrau gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar pam mae defnydd yn lleihau, a pha swyddogaethau y gallai/dylai'r gwasanaeth eu darparu; a (2) Dylai'r ymgynghoriad hefyd archwilio'r effaith bosibl ar y rhai â nodweddion gwarchodedig o leihau oriau agor o bosibl i adlewyrchu'r defnydd llai gan drigolion. |
|
Diweddariad ar Gynnydd Gwerth Cymdeithasol PDF 118 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno data perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad Diweddaru ar Gynnydd Gwerth Cymdeithasol (eitem agenda rhif 22) a oedd yn cyflwyno data perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2023/24.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn gwerth cymdeithasol cynhyrchu ar gyfer chwarteri tri a phedwar o'r flwyddyn ariannol 2023/24 a chadarnhau'r gefnogaeth barhaus. |
|
Arolwg y Gweithlu 2023 PDF 199 KB Pwrpas: Rhannu canlyniadau’r arolwg gweithlu diweddaraf a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno cyfres newydd o werthoedd craidd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Arolwg Gweithlu 2023 (eitem agenda rhif 23) a oedd yn rhannu canlyniadau’r arolwg gweithlu diweddaraf a gofynnodd am gymeradwyaeth i gyflwyno set newydd o werthoedd craidd.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniadau Arolwg Gweithlu 2023;
(b) Cymeradwyo'r cynnydd a wnaed ar fynd i'r afael â materion a godwyd yn yr arolwg; a
(c) Cefnogi mabwysiadu'r set newydd o Werthoedd Craidd arfaethedig. |
|
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet yn dilyn y cyfarfod galw i mewn yn ymwneud â Throsglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig a gynhaliwyd ddydd Mawrth 30 Gorffennaf. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad (eitem agenda rhif 24) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod galw i mewn ynghylch Pontio’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cynhwysedd Cyfyngedig. Ar ôl ystyried y penderfyniad, dewisodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Opsiwn 2, i benderfynu ‘derbyn yr esboniad ond nid ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi penderfyniad cyfarfod galw i mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi mewn perthynas â Chofnod Rhif 4236 y Cyngor yn Newid i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cynhwysedd Cyfyngedig. |
|
Adroddiad Galw i Mewn - Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024 PDF 108 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet yn dilyn y cyfarfod galw i mewn yn ymwneud ag Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024 a gynhaliwyd ddydd Mercher 7 Awst. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: As detailed in the recommendations. Cofnodion: (dolen i'r recordiad)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 25) a oedd yn rhoi diweddariad yn dilyn y cyfarfod galw i mewn yn ymwneud ag Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod penderfyniad cyfarfod galw i mewn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol mewn perthynas â Chofnod Rhif 44243 – Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau; a
(b) O ystyried penderfyniad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, bod y Cabinet yn cadarnhau ei benderfyniad blaenorol. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 99 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd eitem wybodaeth (eitem agenda rhif 26) ar y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau a chynnydd â wnaed ers i’r adroddiadau gael eu cyflwyno ddiwethaf ym mis Mai. Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood adroddiad Diweddaru Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a chynnydd a wnaed ers cyflwyno adroddiadau ym mis Mai.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r cynnydd a wnaed o ran archwilio trefniant grant newydd gydag Aura ac asesiad rheoli cymhorthdal ??cydymffurfio cysylltiedig. |
|
Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd Gofal yn y Cartref a Phreswyl Pwrpas: Cynnig a thrafod newidiadau i’r asesiad ariannol a ffioedd Gwasanaethau Gofal yn y Cartref a Gofal Preswyl. Penderfyniad: As detailed in the recommendation. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Gyllideb Gofal Cartref a Phreswyl a oedd yn cynnig newidiadau i'r asesiad ariannol a chodi tâl am Wasanaethau Gofal Cartref a Gofal Preswyl.
PENDERFYNWYD:
Bod angen y camau gweithredu i liniaru'r alldro andwyol a ragwelir mewn cyllidebau Gofal Cartref a Phreswyl yn ystod y flwyddyn. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol. |