Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Prosiect Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru PDF 111 KB Pwrpas: I dderbyn cynnig am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cefnogi gwaith adeiladu Archif newydd i Sir y Fflint a Wrecsam a chytuno ar awdurdodau dirprwyedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro bod gwasanaethau archifau Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio dros y blynyddoedd diwethaf dan Femorandwm o Ddealltwriaeth, i rannu sgiliau ac adnoddau i greu gwasanaeth archifau gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth.
Arweiniodd hynny at lansio un gwasanaeth ar y cyd, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ym mis Ebrill 2020, yn gweithio dros 2 safle presennol – yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg a Charchar Rhuthun.
Ym mis Hydref 2023, cymeradwyodd y Cabinet gynnig ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) i Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn ceisio grant o £7,371,397 tuag at adeiladu canolfan archifau newydd yn yr Wyddgrug, yn gartref i’r gwasanaeth ar y cyd ac i gynnal rhaglen ymgysylltu. Cytunodd y ddau Gyngor hefyd i ddarparu cyfraniadau cyfatebol – £3,078,537 gan Gyngor Sir y Fflint a £2,052,358 gan Gyngor Sir Ddinbych.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod symud i un adeilad yn galluogi AGDdC i gyfuno a defnyddio eu hadnoddau’n well, yn gwarchod casgliadau archifau’r rhanbarth ac yn eu galluogi i gynnal cynllun gweithgarwch cyffrous a fyddai’n cyflwyno’r archifau i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol iawn at les trigolion a’r hyn maent yn ei ddysgu.
Ar 28 Mawrth 2024, dywedodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri fod y cais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Roeddent wedi cytuno i ddarparu grant at y cam datblygu a oedd yn talu am gamau RIBA 1–3 i ddechrau. Byddai Cronfa Treftadaeth y Loteri wedyn yn adolygu cyflwyniad y cam datblygu cyn rhyddhau grant cam Cyflawni RIBA 5–7.
Roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu Cytundeb Cydweithio a Phenawdau’r Telerau ar gyfer y Brydles, i reoli’r trefniadau ar y cyd rhwng y ddau Gyngor, er mwyn cyflawni’r prosiect ac er mwyn gweithredu’r gwasanaeth ar y cyd. Roedd y cytundebau hynny, a oedd yn cael eu datblygu gan dîm amlddisgyblaethol o swyddogion o’r ddau awdurdod, i gael eu cwblhau yn nes ymlaen y mis hwn a byddent yn disodli’r Memorandwm o Ddealltwriaeth.
Roedd gweithgarwch y prosiect i ddechrau ganol Mai, a byddai penderfyniad dirprwyedig yn galluogi i drafodaethau am y contract gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri gael eu cynnal mewn da bryd, i gychwyn y prosiect ar amser ac osgoi costau ychwanegol oherwydd oedi ar y cychwyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn ystyried bod AGDdC wedi bod yn llwyddiannus â’r cais am grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri;
(b) Derbyn y cynnig grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar ran AGDdC; a
(c) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog Gweithredol ac Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, i alluogi i Gyngor Sir y Fflint ffurfio Cytundeb Cydweithio sy’n darparu ar gyfer adeiladu’r cyfleuster newydd, a gweithredu Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, a Phenawdau’r Telerau ar gyfer Prydles y ganolfan archifau newydd yn yr Wyddgrug. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraff(au) 14 o Adran 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Amlinellol Strategol y Cyngor, sy’n nodi anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ystâd yr ysgol dros y saith mlynedd nesaf drwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad gan egluro bod Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru’n mynnu bod pob Awdurdod Lleol yn cyflwyno eu Rhaglenni Amlinellu Strategol treigl i Lywodraeth Cymru (LlC) eu hystyried erbyn 31 Mawrth 2024.
Roedd y Rhaglen Amlinellu Strategol yn nodi amlinelliad lefel uchel o’r darpar brosiectau roedd Cyngor yn ystyried y gallai eu hariannu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn bodloni’r meini prawf am gyllid a osodwyd gan LlC.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r prosiectau a oedd yng nghyflwyniad Cynllun Amlinellu Strategol y Cyngor i LlC. Roedd yn egluro’r egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith leiaf bosib’ ar gyllidebau refeniw’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo cyflwyniad y Rhaglen Amlinellu Strategol i Lywodraeth Cymru. |
|
Gwaith Cyfalaf – Caffael Gwaith ar y Gragen Allanol dan SATC ar adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor (Toi, Pwyntio, Rendro, Ffenestri a Drysau ac ati) Pwrpas: Derbyn cymeradwyaeth yr Aelodau i estyn dau gontract sydd wedi’u caffael yn barod; drwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy’r Fframwaith Caffael a Mwy, gan alluogi’r Cyngor i barhau â gwaith SATC ar gragen allanol oddeutu 1500 o eiddo yn ystod y pum mlynedd ariannol nesaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan yr Aelodau i benodi dau gontractwr; trwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy Fframwaith Procure Plus, i wneud gwaith ar gragen allanol gyfan tua 1,500 o adeiladau dros y pum mlynedd ariannol nesaf.
Roedd y gwaith yn parhau â’r ail ran o welliannau cyfalaf a oedd wedi’u cynllunio er mwyn sicrhau bod cartrefi’r Cyngor a oedd yn cael eu rhentu’n parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r holl ofynion deddfwriaethol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet ac Aelod Cabinet Tai a Chymunedau yn cymeradwyo’r Dyfarniad Uniongyrchol a oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad, i ymgymryd â’r gwaith ar gragen allanol gyfan yr adeiladau drwy’r fframwaith Procure Plus. Arweiniodd yr ymarfer tendr blaenorol at benodi’r rhai a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad yn llwyddiannus i gyflawni’r rhaglen flaenorol a nhw oedd y contractwyr a oedd wedi gwneud y gwaith. |
|
Dewisiadau ar gyfer y dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd Pwrpas: Cyflwyno adroddiad am ddewisiadau tymor hwy i ddarparu’r gwasanaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r trefniadau gweithredu presennol a gwerthusiad o ddewisiadau i gyflawni yn y dyfodol ac yn gofyn cymeradwyaeth i roi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, wrth ymgynghori ag Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, i fwrw ymlaen â’r dewis(iadau) a ffefrir a’u gweithredu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd;
(b) Gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant gynnull cyfarfod arbennig cyn gynted ag y bo modd i ystyried yr opsiynau a oedd yn yr adroddiad;
(c) Bod adroddiad yn gwerthuso’r holl ddewisiadau’n dod yn ôl ger bron y Cabinet ar frys, gan gynnwys sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a safbwyntiau Aura;
(d) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i weithredu’r dewisiadau hyn wrth ymgynghori ag Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden ac Arweinydd y Cyngor; a
(e) Bod rhagor o adroddiadau’n dod ger bron y Cabinet wrth i waith gael ei wneud i roi diweddariad ar y cynnydd, ac unrhyw gamau gweithredu penodol sydd eu hangen, a rhoi diweddariadau cyfrinachol ehangach i’r Aelodau hefyd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |