Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod o Bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a Hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol ag eitem rhif 9: Arolwg Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Tachwedd 2023 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 12th Mawrth, 24th Ebrill a 30th Mai 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 24 Ebrill a 30 Mai.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai PDF 173 KB Pwrpas: Darparu diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Tai 2019 - 2024 gan ganolbwyntio’n benodol ar y flwyddyn ariannol 2023/24.
Roedd gan y Strategaeth Tai gynllun cyflawni a oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny:
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod hwn yn adroddiad blynyddol a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Atodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r blaenoriaethau i’r adroddiad. Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod darpariaeth y gwasanaeth tai statudol yn cael ei hariannu drwy Gronfa'r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi: · Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro. · Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol |
|
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau PDF 110 KB Pwrpas: Darparu trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru ac amlinellu’r cynnwys a’r argymhellion. Mae ymateb arfaethedig i’r argymhellion wedi’i gyflwyno i’w ystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol”, oedd yn trafod sut y gallai meithrin cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol helpu i leihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol, pe bai awdurdodau lleol yn newid o fod yn ‘ddarparwr uniongyrchol’ i fod yn ‘alluogwr’.
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ oedd y trydydd adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru mewn cyfres a oedd yn canolbwyntio ar dlodi a beth oedd llywodraeth leol yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu argymhellion a disgwyliadau Archwilio Cymru o ran camau nesaf awdurdodau lleol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r argymhelliad yn yr adroddiad yn galw am waith ar draws sefydliadau a chefnogaeth ariannol ar adeg pan oedd y Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol a byddai angen buddsoddiad parhaus er mwyn iddo fod yn llwyddiant.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai a gynigodd argymhelliad pellach, sef “Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith nifer o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar hyd a lled y Sir ac yn cyfleu hyn i’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin”.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod argymhellion o’r fath angen buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am yr argymhelliad ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol” yn cael eu nodi; a
(b) Bod yr ymateb a argymhellir mewn perthynas ag argymhellion Archwilio Cymru yn cael ei nodi a chefnogi bod hyn yn cael ei adrodd i’r Pwyllgorau priodol ym mis Mehefin 2024. |
|
Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth PDF 100 KB Pwrpas: Adolygu’r Argymhellion ar gyfer Gwella, yn ogystal ag ymateb y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr archwiliad Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Safbwynt a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth.
Roedd yn astudiaeth genedlaethol a bu i Archwilio Cymru gynnal y gwaith hwn yng Nghyngor Sir y Fflint yn ystod mis Gorffennaf a mis Medi 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2023.
Roedd yr archwiliad yn ceisio:
egwyddor datblygu cynaliadwy; ac
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu)nad oedd unrhyw argymhellion ffurfiol wedi cael eu nodi a bod tri argymhelliad ar gyfer gwella wedi codi o’r archwiliad hwn, gyda’r Cyngor yn darparu camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella. Ychwanegodd fod y Cyngor eisoes wedi dechrau gweithio ar yr hyn a oedd wedi cael ei argymell yn y cynllun gweithredu a chyfeiriodd at enghreifftiau o adborth gan fudd-ddeiliaid a chwsmeriaid yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau Cabinet.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a oedd wedi awgrymu “Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newidiadau i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys Safbwyntiau Defnyddwyr Gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd.” A, “Bod y Cabinet yn ystyried y dylid cynnal arolwg blynyddol o ddefnyddwyr gwasanaeth wrth gyflwyno biliau Treth y Cyngor.”
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y camau gweithredu a gynlluniwyd gan y Cyngor mewn ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella yn cael eu cefnogi;
(b) Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newidiadau i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys Safbwyntiau Defnyddwyr Gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd; a
(c) Bod yr argymhelliad bod arolwg blynyddol o’r preswylwyr yn cael ei gynnal yn cael ei ystyried yr un pryd ag adroddiad ar arolwg cenedlaethol o breswylwyr sy’n cael ei gynnig gan CLlLC. |
|
Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2023/24 PDF 112 KB Pwrpas: Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2023/24 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.
Roedd yr Hysbysiad yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut yr oedd wedi bodloni Safonau’r Gymraeg.
Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023/24 ac roedd yn darparu trosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.
Darparodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau wybodaeth am fentrau mwy; recriwtio siaradwyr Cymraeg; meysydd i’w gwella; a chwynion.
Yn ystod y 12 mis nesaf, roedd y Cyngor yn anelu i:
Byddai ardal ar y wefan fewnol i gyfeirio Aelodau a swyddogion at yr hyn oedd ar gael i’w cefnogi, megis brawddegau cyffredin. Yn ogystal, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol ar y gost o ddarparu gwasanaethau cyfieithu mewn cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. |
|
Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio PDF 135 KB Pwrpas: Diweddaru ar gynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad gan egluro bod Archwilio Cymru, ym mis Medi 2022, wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau o ddefnydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru.
Nod yr archwiliad oedd rhoi cipolwg ar y dull o ymdrin ag Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy Nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn nodi pedwar argymhelliad a saith maes gwella allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r argymhellion a oedd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynnydd i ddiwallu’r argymhellion gan Archwilio Cymru yn “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn cael ei nodi. |
|
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad Archwiliad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd fis Tachwedd 2023, yn cynnwys y cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar yr argymhellion yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ym mis Hydref y byddent yn ymweld â Sir y Fflint i ymgymryd ag Arolygiad Gwerthuso Perfformiad llawn o Wasanaethau Plant ac Oedolion.
Diben yr arolwg oedd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol mewn ymarfer ei ddyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. Hwn oedd yr arolygiad llawn cyntaf i'r portffolio ei gael ers dros wyth mlynedd ac roedd yn gyfle i arddangos yr arfer creadigol ac arloesol yn Sir y Fflint.
Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn ar 22 Chwefror 2024 ac roedd, ar y cyfan, yn gadarnhaol o ran y canfyddiadau ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd cynllun gweithredu wedi cael ei lunio yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan yr arolygwyr.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r tîm a oedd wedi cefnogi’r gwaith a oedd angen ei wneud drwy’r arolwg heriol. Ychwanegodd fod yr arolygwyr wedi gwneud sylwadau ar y gefnogaeth gadarnhaol a ddarparwyd gan Gynghorwyr. Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi. Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog a’r tîm.
PENDERFYNWYD:
Nodi canlyniad yr adroddiad a chefnogi’r Cynllun Gweithredu canlyniadol. |
|
Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed PDF 118 KB Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint a cheisio ymrwymiad ar gyfer cefnogaeth barhaus ar draws meysydd portffolio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint ac yn ceisio ymrwymiad ar gyfer cefnogaeth barhaus ar draws meysydd portffolio.
Roedd y ‘Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’ gan Lywodraeth Cymru yn nodi’r camau gweithredu oedd eu hangen i alluogi pobl yng Nghymru i heneiddio’n dda a byw o fewn cymunedau sy’n gyfeillgar i oed. I gefnogi’r strategaeth, darparwyd cyllid Llywodraeth Cymru i’r holl awdurdodau lleol i’w cefnogi i wneud cais a chynnal aelodaeth Dinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd yByd.
Ym mis Mai 2023, derbyniodd Cyngor Sir y Fflint gadarnhad o’i gais llwyddiannus i ymuno â Rhwydwaith Cyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd ar ôl dangos ymgysylltiad helaeth â phobl h?n ac ystod o wasanaethau a mentrau cyfeillgar i oed yn y sir.
Fel aelod o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd, roedd Sir y Fflint wedi datblygu cynllun cyfeillgar i oed i amlinellu’r camau gweithredu oedd eu hangen ar gymunedau yn Sir y Fflint i ddod yn fwy cyfeillgar i oed. Roedd y cynllun yn seiliedig ar strategaethau a pholisi lleol a chenedlaethol, ac ar flaenoriaethau ac anghenion a nodwyd drwy ymgysylltu â’r gymuned. Roedd y cynllun yn ddogfen weithio a byddai’n datblygu yn unol â blaenoriaethau sy’n newid a strategaethau newydd.
Roedd Sir y Fflint yn bodloni ymrwymiadau i ddarparu canolfannau gwybodaeth ar-lein ac i rannu enghreifftiau o’r arfer orau ar draws Cymru ac yn fyd-eang. Roedd hyn wedi cynnwys cyfraniadau at newyddlen Cyfeillgar i Oed Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, gwnaed cyflwyniad gan ddinasyddion o grwpiau cymunedol Sir y Fflint, gyda chefnogaeth gan y tîm Gwasanaethau Cymdeithasol, yng Nghynhadledd Cymru Oed-gyfeillgary Comisiynydd Pobl H?n ar 8 Tachwedd 2023. Cafwyd ymateb da iawn i’r gwaith ac roedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle cafodd ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd a wnaed i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint gan gynnwys y cais llwyddiannus am aelodaeth gyda Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd; a
(b) Bod y Cabinet yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a chydweithrediad parhaus i’r holl dimau gwasanaeth i gynorthwyo i ddatblygu Sir y Fflint fel lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio. |
|
Adroddiad Archwilio Ffioedd Gohiriedig PDF 92 KB Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y cynnydd yn dilyn yr Adroddiad Archwilio Taliadau Gohiriedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod archwiliad o ffioedd gohiriedig a rheoli atebolrwydd gofal preswyl mewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei gynnal fel rhan o raglen waith Archwilio Mewnol ar gyfer 2022/23.
Roedd Taliad Gohiriedig ond ar gael i unigolion a oedd yn derbyn gofal a chefnogaeth mewn cartref preswyl neu gartref gofal. Roedd yn gytundeb rhwng yr unigolyn a oedd yn derbyn gofal a’r Cyngor a oedd yn caniatáu ar gyfer gohirio neu oedi talu costau gofal tan ddyddiad diweddarach. Roedd y costau gohiriedig yn cael eu had-dalu yn y dyfodol.
Yn ystod yr Archwiliad Mewnol o’r broses Taliadau Gohiriedig bresennol, nodwyd wyth mater yr oedd angen gweithredu arnynt. Roedd pump ohonynt yn goch a thri ohonynt yn oren. Ers cwblhau’r adroddiad archwilio roedd y Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl wedi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen i fynd i’r afael â’r camau gweithredu a gytunwyd, roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud ochr yn ochr â gweithredu system meddalwedd cyllid newydd a fyddai’n cefnogi’r mesurau monitro a rheoli ychwanegol a nodwyd yn yr adroddiad archwilio.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y wybodaeth ar y camau gweithredu a gymerwyd ers cwblhau’r adroddiad Archwilio Mewnol yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr Aelodau yn derbyn sicrwydd bod y camau gweithredu sy’n weddill yn cael eu cyflawni o fewn y terfynau amser a nodwyd yn yr adroddiad archwilio a bod y cynnydd yn cael ei fonitro’n effeithiol. |
|
Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru - Adroddiad Archwilio Cymru PDF 114 KB Pwrpas: Ystyried adroddiad Archwilio Cymru “Craciau yn y Sylfeini” a’r argymhellion o fewn yr adroddiad a sut caiff elfennau allweddol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 eu gweithredu yn Nghymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd fod Archwilio Cymru, yn ôl ym mis Awst 2023, wedi cyhoeddi adroddiad ar Reoli Adeiladu yng Nghymru o’r enw ‘Craciau yn y Sylfeini’ i ddeall pa mor dda yr oedd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cryfhau ac yn gwella gwasanaethau rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau yn dilyn Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn edrych ar yr holl Awdurdodau Rheoli Adeiladu yng Nghymru a sut yr oedd pob un yn paratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau a gofynion uwch y Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Roedd yn canolbwyntio ar gydnerthedd gwasanaethau presennol a chadernid systemau sicrwydd diogelwch adeiladau.
Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn rhoi trosolwg hanfodol ac yn codi pryderon nad oedd digon o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i wasanaethau Rheoli Adeiladu. Roedd yn awgrymu bod diffyg trefniadau cynllunio cadarn a phenderfyniadau clir ac adnoddau annigonol gan beri pryderon na fyddai cyfrifoldebau a gofynion newydd y Ddeddf 2022 yn cael eu bodloni fel y bwriadwyd yng Nghymru.
Gwnaed wyth argymhelliad gan Archwilio Cymru, roedd pedwar ohonynt wedi’u cyfeirio at LywodraethCymru a phedwar wedi’u cyfeirio at Awdurdodau Lleol. Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o adolygiad Archwilio Cymru, eu hargymhellion a’r ymateb i’r argymhellion hynny a’r camau oedd angen eu cymryd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol a gofynnwyd cwestiynau yngl?n ag ymateb y Cyngor i’r argymhellion, yn enwedig o amgylch gosod ffi a chynnydd ar amserlenni a oedd wedi’u hamlinellu yn atodiad 1.
PENDERFYNWYD:
Bod canlyniad adroddiad Archwilio Cymru yn cael ei nodi a bod y camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r pedwar argymhelliad a wnaed i Awdurdodau Lleol yn cael eu cefnogi. |
|
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Healey a darllenodd ddatganiad a oedd wedi’i baratoi ymlaen llaw.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod twristiaeth yn cynhyrchu cyfraniad blynyddol amcangyfrifedig o £325 miliwn i economi Sir y Fflint, gan gefnogi tua 3,300 o swyddi.
Roedd y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft wedi cael ei lunio ar y cyd â phartneriaeth eang o fusnesau ac asiantaethau partner er mwyn ymgymryd â dull cydweithredol o ran cefnogi datblygiad y sector economi ymwelwyr ac ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a fyddai’n cael eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle’r oedd y ffrydiau gwaith wedi cael eu harchwilio’n fanwl, gan ganolbwyntio ar y ffaith fod y Cyngor yn ddibynnol ar arian y gronfa ffyniant gyffredin, treth ar dwristiaeth, treth ar ail gartrefi a’r strategaeth toiledau.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi fersiwn ddrafft y Cynllun Rheoli Cyrchfan. |
|
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2024/25 PDF 123 KB Pwrpas: Ystyried y taliadau gwresogi arfaethedig yn eiddo'r cyngor gyda systemau gwresogi cymunedol ar gyfer 2024/25 cyn cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol yn Sir y Fflint, gyda 417 o eiddo ar systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.
Roedd y Cyngor wedi aildrafod y tariff tanwydd ar gyfer 2024/25 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2024. Roedd disgwyl i’r gyfradd i’w chodi am nwy ostwng o tua 51% dros y 12 mis nesaf. Roedd deiliaid contract cymunedol yn cael biliau yn seiliedig ar gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor ac er bod prisiau trydan a nwy yn parhau i fod ddwywaith yn uwch na phrisiau cyfartalog hanesyddol, roedd cyfraddau contract nwy y Cyngor yn awr yn lleihau o’u pwynt uchel yn 2022/23.
Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn. Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen i’r Cyngor alinio ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol i sicrhau eu bod yn adennill y gost yn llawn. Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2024/25 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r Cyngor yn cyflwyno dull fesul cam yn 2024/25 o ran biliau unigol i bob contract cymunedol yn seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol yn hytrach na phris cyfrannol oherwydd gofynion Rheoliadau’r Rhwydwaith Gwresogi (Mesur a Bilio).
Roedd y Cyngor wedi dechrau ar osod mesuryddion unigol ym mhob un o anheddau’r Cyngor o fewn y CRT, a oedd yn cael eu gwasanaethau gan system wresogi gymunedol. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu’r mesuryddion newydd â phorth er mwyn i’r Cyngor allu darparu datganiad cywir o ddefnydd ynni i ddeiliaid contract a chyflwyno eu biliau yn unol â hynny. Roedd y Cyngor hefyd wrthi’n gosod rheolyddion gwresogi ychwanegol yng nghartrefi deiliaid contract lle’r oedd hynny’n ymarferol, er mwyn iddynt allu rheoli a rheoleiddio eu gwres yn unigol. Byddai’r gwaith hynny wedi’i gwblhau o fewn blwyddyn ariannol 2024/25.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai a Chymunedau lle’r oedd y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi yn cael eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo. Bod yr holl newidiadau yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2024. |
|
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i drosglwyddo’r eiddo yn fewnol o gronfa'r Cyngor i’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad gan egluro yr arferai’r eiddo yn 93 a 95 Ffordd Penarlâg yn Yr Hôb gael ei osod yn fasnachol fel bwyty / safle bwyd i fynd. Roedd yr eiddo wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac wedi mynd yn adfail.
Roedd y broses gyfreithiol o ddod â’r math yno o brydles fasnachol i ben yn faith iawn. Tynnwyd yr eiddo o’r brydles y llynedd a’u dychwelyd i’r Cyngor ac roeddent wedi cael eu gwneud yn ddiogel.
Fel cyn gartrefi’r Cyfrif Refeniw Tai, roeddent yn ddelfrydol ar gyfer bodloni’r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro. Roedd hwn yn arian dyraniad haen uchaf o’r Grant Tai Cymdeithasol i ddod ag eiddo adfeiliedig neu wag yn ôl i ddefnydd yn gyflym i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd ar draws y DU.
Ceisiwyd awdurdod i gwblhau trosglwyddiad mewnol o 93 a 95 Ffordd Penarlâg, Yr Hôb o gronfa’r Cyngor i’r Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys cost drosglwyddo o £0.150 miliwn o’r Cyfrif Refeniw Tai i gronfa’r Cyngor (£0.075 miliwn yr annedd). Hefyd, i nodi’r costau prosiect ac ailwampio ar gyfer yr eiddo a gymeradwywyd yn defnyddio pwerau dirprwyedig yn amodol ar grant y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro gan Lywodraeth Cymru fel y manylwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y cais i drosglwyddo’r eiddo yn fewnol o gronfa’r Cyngor i’r Cyfrif Refeniw Tai am gost o £0.150 miliwn yn cael ei gymeradwyo. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 107 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A548 Ffordd Caer, Y Fflint, yn cynnwys mân ddiwygiadau i’r dyluniad a hysbysebwyd.
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug.
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Sebra ar Ffordd Llywelyn, Y Fflint, yn cynnwys mân ddiwygiadau i’r dyluniad a hysbysebwyd.
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A5119 Ffordd Fawr, Sychdyn.
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i adeiladu Croesfan Pâl ar yr A5119 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug.
Nodi bod gwrthwynebiadau ffurfiol wedi cael eu derbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael eu hadolygu a’u hystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i weithredu cyfyngiadau aros (llinellau melyn dwbl), ar y B5444 Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug.
Nodi bod gwrthwynebiad ffurfiol wedi cael ei dderbyn fel rhan o’r weithdrefn ymgynghori statudol sydd wedi cael ei adolygu a’i ystyried yn deg. Mae’r adroddiad dirprwyedig hwn yn cadarnhau cynnydd y cynigion i ostwng y terfyn cyflymder presennol o 40mya ar yr A5026 Ffordd Holway, Treffynnon a chyflwyno Ffordd Gyfyngedig (20mya) ar Adran o’r A5026 Ffordd Holway a’r A5026 Whitford Street, Treffynnon.
Tai a Chymunedau
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6) - Incwm a Gwariant, yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Pennaeth Cyllid am unrhyw ddyled ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Estyniad i Gontract Gwasanaethau Yswiriant Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn Contract y Gwasanaethau Yswiriant. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y contract Gwasanaethau Yswiriant presennol a’r estyniad arfaethedig.
PENDERFYNWYD:
Bod yr estyniad dwy flynedd, hyd at 31 Mawrth 2027, i’r Cytundebau Hirdymor presennol gyda Zurich Municipal a Phartneriaid Rheoli Risg yn cael ei gymeradwyo. |
|
Ail-gomisiynu Gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a Gwaith Oedolion gydag Anableddau Dysgu Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a Gwaith i Oedolion. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am ail-gomisiynu gwasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y contract cyfredol i’r darparwr gwasanaeth presennol am wasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu, a gaiff ei ddarparu gan Hft, yn cael ei gymeradwyo. Cynigir y byddai’r estyniad am gyfnod o bum mlynedd a 2 fis arall gan ddechrau ar 1 Chwefror 2025, gyda’r dewis i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall, felly byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2032. Mae’r gwariant disgwyliedig ar gyfer y dyfarniad contract arfaethedig yn golygu bod y penderfyniad am ddyfarniadau uniongyrchol hirdymor angen penderfyniad Cabinet yn ôl y trothwyon i’r awdurdod gymeradwyo amrywiadau sylweddol fel y nodir yn Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r awdurdod lleol; a
(a) Bod dyfarniad uniongyrchol y contract i’r darparwr gwasanaeth presennol am wasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu, a gaiff ei ddarparu gan CBC Clocktower fel y manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. Cynigir y byddai’r Dyfarniad Uniongyrchol am gyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2025, gyda’r dewis i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall, felly byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2032. Mae’r gwariant disgwyliedig ar gyfer y dyfarniad contract arfaethedig yn golygu bod y penderfyniad am ddyfarniadau uniongyrchol hirdymor angen penderfyniad Cabinet neu benderfyniad dirprwyedig yn ôl y trothwyon i’r awdurdod gymeradwyo eithriadau fel y nodir yn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |