Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 23ain Hydref 2018 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 23 Hydref 2018 fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 a chymeradwyo Cam 1 a Cham 2 cynigion y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20: Rhagolwg wedi’i Ddiweddaru a Chynigion Cyllideb Cam 1 a 2, a oedd yn nodi’r datrysiadau ar gyfer y camau hynny. Roedd Cam 1 yn ymdrin â datrysiadau cyllideb cyllid corfforaethol, gyda Cham 2 yn ymdrin â datrysiadau cyllideb ar gyfer y portffolios gwasanaeth.
Roedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar wedi ystyried y cynigion ar gyfer y ddau gam, ar ôl ystyried argymhellion ac adborth gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu portffolio a oedd wedi cyfarfod yn ystod Hydref a Thachwedd. Roedd sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cynnwys effeithlonrwydd cost cludiant a chronfeydd wrth gefn a balansau. Byddai swyddogion yn darparu ymatebion i effeithlonrwydd cludiant a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y dyfodol ar gronfeydd wrth gefn a balansau. Fe wnaeth Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gefnogi’r ymgyrch #CefnogiGalw yn ffurfiol.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion ar y rhagolwg wedi’i ddiweddaru cyn y setliad dros dro a manylion y pwysau newydd. Rhoddodd Tabl 2 o’r adroddiad y rhagolwg diwygiedig.
Roedd cynigion cyllideb Cam 1 wedi’u rhannu yng ngweithdai Aelodau yng Ngorffennaf a Medi, gyda chynigion yn gyfanswm o £7.937 miliwn. Drwy gydol Hydref a Thachwedd, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol wedi ystyried y cynigion Cam 2. Roedd y cynigion hynny’n gyfanswm o £0.963 miliwn a byddai’n cyfrannu £0.630m at y gyllideb unwaith y byddai targedau incwm a gostyngiadau gweithlu wedi gostwng.
Yn amodol ar lwyddiant ymgyrchu ar gyfer Setliad Llywodraeth Leol gwell ac ar ôl ystyried y cynigion a wnaed ar gyfer Camau 1 a 2, roedd y bwlch a oedd yn weddill ar gyfer Cyllideb Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2019/20 oddeutu £6.7 miliwn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), gyda chefnogaeth lawn ei haelodau, yn benderfynol bod y Setliad Dros Dro yn gwbl annigonol i fodloni'r anghenion cyllido sydd wedi’u gweld o ran llywodraeth leol yng Nghymru. Fel Cyngor wedi’i ariannu’n isel fesul capita, a Chyngor wedi’i ariannu’n isel yn y setliad blynyddol yn seiliedig ar fformiwla ar gyfer 2019/20, roedd Sir y Fflint yn arbennig o agored i’r risgiau o gyllid annigonol ar gyfer llywodraeth leol.
I wrthbwyso’r angen am gynnydd blynyddol llawer uwch na'r arfer mewn Treth y Cyngor, gwahoddwyd y Cyngor i adnewyddu ei ymgyrch am gyllid tecach i lywodraeth leol drwy roi pwysau ar y canlynol gan Lywodraeth Cymru (LlC):
· Y £30 miliwn ychwanegol sy’n cael ei gadw ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru i’w drosglwyddo i Gynghorau (mae hwn yn werth tua £1.3 miliwn i Sir y Fflint); · Y £15 miliwn ychwanegol sy’n cael ei gadw ar gyfer ysgolion yng Nghymru i’w dalu i Gynghorau (mae hwn yn werth £0.800 miliwn i Sir y Fflint a’i hysgolion); · £13 miliwn yn ychwanegol i’w ganfod fel nad oedd yr un Cyngor yn wynebu gostyngiad blynyddol yn eu grant llywodraeth (yn werth tua £1.9 miliwn i Sir y Fflint); a’r · £33 miliwn o gyllid 'canlyniadol’ ychwanegol ... view the full Cofnodion text for item 257. |
|
Trosolwg Cwsmer Digidol PDF 97 KB Pwrpas: I roi diweddariad am y cynnydd a sicrhau Aelodau o'r egwyddorion cynllunio sydd yn sail i greu un Canolfan Gyswllt fel rhan o gyflwyno thema Cwsmer Digidol y Strategaeth Ddigidol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Trosolwg Cwsmeriaid Digidol, a roddodd fanylion ynghylch creu un ganolfan gyswllt i’r Cyngor.
Egwyddorion allweddol dyluniad tîm canolfan gyswllt cyfun oedd:
· Cynyddu gwydnwch yn y tîm i ymdopi ag absenoldeb a chaniatáu bod adnoddau’n cael eu targedu’n fwy effeithiol pan fu digwyddiadau a gynhyrchodd symiau uchel o gontractau; · Cynyddu’r ddarpariaeth iaith Gymraeg yn y tîm; · Rhoi'r dewis i gwsmeriaid a dinasyddion gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau'n hawdd ar-lein; a · Rhoi’r gallu i gwsmeriaid a dinasyddion gael mynediad at sawl gwasanaeth drwy eu Cyfrif Cwsmeriaid mewn ffordd sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr ac yn sythweledol, wrth i fwy o wasanaethau symud i’r ganolfan gyswllt.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), fod tair swydd wedi’i phenodi ar gyfer y prosiect yn ddiweddar, sef Rheolwr Rhaglen Gwytnwch Cymunedol a Chwsmeriaid Digidol, Swyddogion Trafodion Cwsmeriaid a Rheolwr Rhaglen Incwm a Marchnata.
Bwriadwyd cael cam 1 yn fyw erbyn canol Mawrth 2019, ond byddai Prif Swyddogion yn adolygu parodrwydd technegol a’r staff fis ymlaen llaw, i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen ar yr adeg honno. Byddai hyn yn sicrhau eu bod â hyder y byddai gwasanaethau’n cael eu darparu heb unrhyw ddirywiad mewn ansawdd, o ganlyniad i’r symud.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y feddalwedd TG newydd wedi cael problemau diweddar, gan nad oedd wedi bod yn weithredol ar dri achlysur. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), fod y cwmni meddalwedd wedi cael cwmni mwy yn cymryd yr awenau, a bod y Cyngor wedi gorfod defnyddio cynnyrch gwahanol ar fyr rybudd. Nid oedd y system wrth gefn o’r feddalwedd honno wedi’i gosod, a oedd wedi arwain at y digwyddiadau y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd Thomas. Roedd hyn bellach wedi’i unioni a rhoddodd sicrwydd y byddai profion rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng y brif system a’r system wrth gefn.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Thomas y dylai staff canolfan gyswllt Strydwedd fod ynghlwm wrth Fwrdd y Rhaglen, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), y byddai hynny’n digwydd, ynghyd â staff o’r ganolfan gyswllt tai hefyd ynghlwm wrth y peth. Awgrymodd hefyd, fel Aelodau Cabinet perthnasol, y dylai’r Cynghorwyr Attridge a Thomas fod yn rhan o’r broses honno.
Ynghylch cwestiwn pellach am Fuddsoddi i Arbed, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sicrwydd mai nod y Strategaeth Ddigidol oedd gweld gostyngiad mewn nifer galwadau. Nes bo hynny’n amlwg, byddai adnoddau’n aros yr un fath.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas hefyd, pan fyddai taliadau am wastraff gardd yn cael eu cyflwyno, bod 85/90% o breswylwyr wedi dewis talu dros y ffôn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn o bosibl oherwydd ei fod yn daliad newydd, ond fe ddylai’r ffigur hwnnw ostwng wrth i daliadau gael eu hadnewyddu o’r naill flwyddyn i’r llall.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Roberts, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod angen gweithio ar y wefan i sicrhau ei bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Yn ogystal, roedd porth talu newydd yn y broses o gael ei phrynu, a fyddai'n mynd â phreswylwyr yn syth i'r ... view the full Cofnodion text for item 258. |
|
Cludiant i’r Ysgol – Hawl Brodyr a Chwiorydd PDF 83 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i beidio mabwysiadu rheolau brodyr a chwiorydd ar gyfer darpariaeth cludiant i’r ysgol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant Ysgol – Hawl i Frodyr a Chwiorydd, a oedd yn rhoi sylw i’r mater o hawl i frodyr a chwiorydd, ar ôl penderfyniadau ffurfiol gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Cabinet.
Yn dilyn ystyriaeth o’r mater, lle amlinellwyd y manylion llawn yn yr adroddiad, argymhellwyd na ddylai brodyr a chwiorydd gael hawl awtomatig i gludiant ac na ddylai darparu cludiant i frawd neu chwaer h?n greu cynsail i frodyr a chwiorydd ieuengach.
Argymhellwyd y dylid ystyried pob cais o'r newydd ac yn ôl ei rinweddau ei hun, ac os oedd y Polisi Cludiant Ysgol wedi newid ers i unrhyw frawd neu chwaer h?n gael cludiant am ddim, yna byddai'r brawd neu’r chwaer ieuengach yn ddarostyngedig i'r Polisi mewn grym ar yr adeg y gwneir eu cais a'r dyddiad dechrau disgwyliedig.
Roedd y Cynghorwyr Bithell a Roberts yn cefnogi’r argymhelliad, er iddo fod yn benderfyniad anodd, gan nodi nad oedd unrhyw hawl statudol am gludiant am ddim i frodyr a chwiorydd, ac mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod i ddarparu gwasanaeth o'r fath.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo na fydd hawl i frodyr a chwiorydd yn gymwys ar gyfer darpariaeth gwasanaeth cludiant ysgol. |
|
Cludiant i’r Ysgol – Anghysondebau Cludiant PDF 83 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddileu’r holl anghysondebau cludiant i’r ysgol ym mis Gorffennaf 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant Ysgol – Anghysondebau Cludiant, yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Ngorffennaf 2018 i nodi opsiynau ar gyfer rheoli rhai o’r trefniadau cludiant anstatudol. Wedi hynny, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r dull o ddelio ag anghysondebau yng Ngorffennaf 2018.
O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r Cyngor o ran cyllidebau, argymhellwyd nawr y dylid tynnu’r anghysondebau hanesyddol o Orffennaf 2020, gyda rhybudd o 12 mis yn cael ei roi i rieni/gofalwyr ac ysgolion o ran tynnu'n ôl, a fyddai'n caniatáu digon o amser i wneud trefniadau teithio amgen i’r ysgol ac oddi yno.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn argymhelliad a oedd yn anodd ei gyflwyno, gan ei bod yn deall effaith y penderfyniad, yn enwedig ar gludiant mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, roedd angen cysondeb, a gafodd sylw yn yr adroddiad.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Thomas y dylai'r offeryn mesur fod ar gael ar-lein, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y bydd hyn yn cael sylw. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y tîm Derbyniadau Ysgol yn treulio llawer o amser yn egluro i rieni sut roedd yr offeryn mesur yn gweithio a byddai hynny’n parhau. Byddai penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd yn cael eu hannog i fod yn fwy rhagweithiol wrth roi gwybodaeth am gludiant ysgol.
PENDERFYNWYD:
Bod yr amserlenni ar gyfer cael gwared ar drefniadau cludiant ysgol anstatudol hanesyddol a dod â gwasanaethau bws â chymhorthdal yn cludo dysgwyr nad ydynt yn gymwys i ben, yn cael eu cymeradwyo. |
|
Mid-Year Council Plan 2018/19 Monitoring Report PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn adroddiad yn seiliedig ar eithriad, a oedd yn canolbwyntio ar danberfformio. Byddai adroddiad perfformiad canol blwyddyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Rhagfyr.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar geisiadau a wnaed mewn cyfarfod blaenorol am ddarlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrediad o wybodaeth perfformiad a oedd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu fanteisio arnynt ar gyfer adrodd ar berfformiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r canlynol: · Lefelau cyffredinol cynnydd a hyder wrth gyflawni gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor; · Perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor; a’r · Lefelau risg cyfredol o fewn Cynllun y Cyngor.
(b) Bod adroddiad canol blwyddyn manwl a llawn yn cael ei gyflwyno yn Rhagfyr; a
(c) Chael adroddiad pellach gyda darlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrediad o wybodaeth perfformiad a oedd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu fanteisio arnynt ar gyfer adrodd ar berfformiad. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 6) PDF 114 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 6) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro cyllideb refeniw diweddaraf 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 6 y flwyddyn ariannol, os oedd popeth yn aros yr un fath.
Y sefyllfa a ragamcanwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran cost a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £0.222 miliwn (£0.303 miliwn ym Mis 5); a · Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2019 yn £7.469 miliwn.
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a · Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; costau setliad ar gyfer cam-drin plant yn hanesyddol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effaith; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.
Nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.
|
|
Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) PDF 124 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth rhaglen gyfalaf Mis 6 (diwedd mis Medi) 2018/19 ar gyfer Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6), a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2018/19 ers iddi gael ei gosod yn Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2018), ynghyd â gwariant hyd yma ac alldro wedi’i ragweld.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £6.105 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiadau net yn y rhaglen o £6.031 miliwn (CF £1.264 miliwn, Cyfrif Refeniw Tai £7.925 miliwn); a · Dwyn ymlaen i 2019/20, cymeradwywyd ym Mis 4 (£0.074 miliwn).
Y gwariant gwirioneddol oedd £25.985 miliwn.
Yr alldro terfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg ariannu bach o £0.068 miliwn. Bu nifer fach o dderbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn, a oedd yn gosod y diffyg ariannu cyfredol, am y cyfnod o 3 blynedd, yn £8.577 miliwn, ynghyd â diffyg a ragamcanwyd o £8.216 miliwn yn rhaglen gyfalaf 2018/19 i 2020/21, cais am ddyraniad ychwanegol o £0.500 miliwn tuag at adleoli gwasanaethau i Unity House a chynnydd bach yn y cyllid cyfalaf a gyhoeddwyd yn y Setliad Dros Dro. Roedd hyn cyn y gwireddwyd unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu gyllid arall.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen, a nodir yn yr adroddiad. |
|
Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2019/20 PDF 91 KB Pwrpas: Cymeradwyo eiddo cyfatebol Sylfaen Treth Band D ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Sail Treth y Cyngor ar gyfer 2019/20, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith fod y Sail ar gyfer 2019/20 wedi’i chyfrifo yn 64,317 o eiddo sy’n gyfwerth â band D, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n destun Treth y Cyngor, llai’r rhai hynny a oedd wedi’u heithrio o Dreth y Cyngor, neu lle’r oedd disgowntiau aelwyd statudol yn gymwys.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod nifer yr eiddo wedi cynyddu o 482, a oedd o ganlyniad yn bennaf i adeiladau newydd. Argymhellwyd bod dim disgownt ar gyfer eiddo sydd o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau a Ragnodir (A, B neu C) ar gyfer ardal gyfan y Sir, a Phremiwm o 50% ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi sy'n dod o fewn cynllun Premiwm Treth y Cyngor, yn parhau i gael eu gosod.
Holodd y Cynghorydd Bithell a oedd modd cynyddu’r Premiwm o 50% ar gyfer eiddo gwag tymor hir, i annog perchnogion i godi safonau eiddo er mwyn iddynt allu cael eu defnyddio. Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod hwn yn rhywbeth a oedd, ac a fyddai, yn parhau i gael ei adolygu.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Sail Dreth o 64,317 ar gyfer eiddo cyfwerth â Band D ar gyfer y flwyddyn ariannol o 2019/20;
(b) Bod dim disgownt yn parhau i gael ei osod ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau a Ragnodir (A, B neu C) ac er mwyn i hyn fod yn gymwys ar gyfer ardal gyfan y Sir; a
(c) Bod Premiwm o 50% yn parhau i gael ei osod ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi sy’n dod o fewn cynllun Premiwm Treth y Cyngor. |
|
Adolygu Gorchymyn Parth Cerddwyr – Stryd Fawr Treffynnon PDF 82 KB Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymchwilio i’r opsiynau ariannu er mwyn ail-ffurfweddu’r Stryd Fawr yn Nhreffynnon heb Orchymyn Parth Cerddwyr. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad yr Adolygiad o’r Gorchymyn Pedestreiddio – Stryd Fawr Treffynnon, a ddilynodd cyfnod prawf lle tynnwyd y cyfyngiad ar draffig ar y Stryd, i ganiatáu bod asesiad cyson a gwrthrychol o'r budd o gael gwared ar y Gorchymyn yn y tymor hir yn cael ei wneud.
Aseswyd effaith y prawf, a daethpwyd i’r casgliad bod budd lleol a chefnogaeth leol i gael gwared ar y Gorchymyn yn barhaol.
Nid oedd unrhyw gyllid ar gael i wneud y newidiadau parhaol hanfodol i’r strydlun i gynnwys y trefniadau traffig newydd, gyda chost y gwaith parhaol yn sylweddol, sef amcangyfrif o £800,000. Byddai staff o dîm Menter ac Adfywio’r Cyngor nawr yn gweithio gyda’r Cyngor Tref a busnesau lleol i nodi ffynonellau ariannu posibl ar gyfer y cynllun terfynol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnig i gael gwared ar Orchymyn Pedestreiddio Stryd Fawr, Treffynnon, yn cael ei gefnogi ac yr ymrwymir i’r nod tymor hir o ailadeiladu cynllun y briffordd i hwyluso traffig yn ddiogel ac yn barhaol, unwaith y gellir canfod ffynonellau ariannu allanol ar gyfer y cynllun; a
(b) Bod cais yn cael ei wneud i swyddogion weithio gyda’r Cyngor Tref i archwilio pob opsiwn i ddarparu’r cyllid addas i adeiladu’r cynllun parhaol. |
|
Ardaloedd Chwarae Plant PDF 201 KB Pwrpas: Cyflwyno argymhellion AURA ar gyfer y cynllun arian cyfatebol blynyddol a dyraniadau cyfalaf 2019/20. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Ardaloedd Chwarae Plant Awyr Agored, a oedd yn tynnu sylw at ddau argymhelliad gan Aura i’r Cyngor. Roedd y rhain yn seiliedig ar gyllideb refeniw arian cyfatebol y Cyngor a dyraniadau cyfalaf, i fodloni pob datganiad o ddiddordeb gan Gynghorau Tref a Chymuned, ac i gynnal y rhwydwaith presennol o ardaloedd chwarae drwy wella safleoedd yr ystyrir iddynt fod yn y cyflwr gwaethaf.
Croesawodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, a arweiniodd yn y pen draw at fwy na 100 ardal chwarae yn y Sir yn cael buddsoddiad, yn dilyn sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen rhyw 8 mlynedd yn flaenorol. Cytunodd y Cynghorydd Bithell a rhoddodd sylwadau ar yr esiamplau o gydweithredu da gyda Chynghorau Tref a Chymuned i sicrhau'r ardaloedd i blant, nawr ac yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi pob un o’r 23 datganiad o ddiddordeb ar gyfer rhaglen arian cyfatebol 2018/19, a bod y gordanysgrifiad o gost o £0.063 miliwn yn cael ei ddiwallu o ddyraniad cyfalaf blwyddyn 2 o £0.140 miliwn sy’n weddill; a
(b) Bod y £0.077 miliwn sy’n weddill o raglen gyfalaf blwyddyn 2, ynghyd ag oddeutu £0.040 miliwn sy’n weddill o Flwyddyn 3 (£0.200 miliwn minws oddeutu £0.080 miliwn-£0.100 miliwn ar gyfer Bailey Hill a £0.060 miliwn i ddisodli dau gae 3G yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy), yn cael eu defnyddio i wella’r safleoedd ardal chwarae a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad. |
|
Pwrpas: Adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Polisi Adolygu Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb a gyflwynwyd yn dilyn gweithredu'r Cod Ymarfer newydd yn Hydref 2018.
Roedd y Polisi Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio yn diffinio cyfnodau archwiliadau diogelwch ar gyfer dosbarthu bob ffordd gerbydau, troedffordd, ffordd feiciau a maes parcio a gynhelir gan y Cyngor, ac fe ddiffiniodd y meini prawf adnabod hefyd a'r amserlenni ar gyfer cwblhau unrhyw waith adfer gofynnol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod archwiliadau diogelwch yn ffordd bwysig o gadw’r briffordd yn ddiogel ac yn hanfodol bwysig mewn achosion llys ar gyfer darparu tystiolaeth fod y Cyngor ag agwedd gyfrifol o ran ei ddyletswyddau fel Awdurdod Priffyrdd. Pe bai aelod o’r cyhoedd yn cael damwain y gellir ei neilltuo i gyflwr darn o’r briffordd, yna roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn atebol i dalu iawndal oni bai y gallai brofi ei fod wedi cymryd gofal rhesymol i gadw'r briffordd yn ddiogel. Rhaid rheoli nifer yr hawliadau gan eu bod ag effaith ar gyllidebau cynnal a chadw’r briffordd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Polisi Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio, yn amlinellu dull y Cyngor i bob archwiliad diogelwch, meini prawf adnabod diffygion ac amseroedd ymateb. |
|
Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru PDF 89 KB Pwrpas: Mae chwe Awdurdod Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio ar ail gam y Tendr Gofal Cartref Rhanbarthol. Cytunwyd yn rhanbarthol y dylai Cam 2 ganolbwyntio ar gaffael gwasanaethau byw â chymorth oherwydd oedi mewn ail-gomisiynu’r gwasanaethau hyn yn dilyn her gyfreithiol ddiweddar gan Mencap. Mae’r adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar gam 2 o gaffael gwasanaethau byw â chymorth. Roedd yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cynnig i Sir y Fflint dendro ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan Rhanbarthol. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 45 KB Pwrpas; Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Strydwedd a Chludiant
Mae angen pwerau dirprwyedig i ymestyn ar y contract cyfredol ar gyfer adeiladu isadeiledd ffyrdd beiciau a safleoedd bws ar Barth 3 o Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd cost cyffredinol y contract yn cael ei ymestyn o 31%.
Tai ac Asedau
Gwerthu hen ddeiliadaeth amaethyddol wag, Fferm Glannau Dyfrdwy, Saltney Ferry, drwy Dendr Anffurfiol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band B – Uned Atgyfeirio Disgyblion Arfaethedig/Prosiect Ysgol Gynradd Queensferry Pwrpas: Mynd ymlaen â’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ym Mhortffolio Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion ac Ysgol Gynradd Queensferry. Bydd yn darparu model PPRU mwy effeithlon gan wella canlyniadau i ddysgwyr diamddiffyn.Bydd y prosiect hefyd yn mynd i’r afael â materion addasrwydd yn yr ysgol gynradd.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Moderneiddio’r Ddarpariaeth Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry, a nododd opsiwn i’r Cabinet ei ystyried mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf a moderneiddio’r Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac isadeiledd Ysgol Gynradd Queensferry.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo i barhau gyda'r prosiect cyfalaf arfaethedig ar gyfer yr Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac Ysgol Gynradd Queensferry i gaffael contractwr, i ddylunio, datblygu, tendro a chwblhau cyflwyniad Achos Busnes llawn i Lywodraeth Cymru, yn unol â meini Prawf Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |