Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Cafwyd datganiad cysylltiad personol gan y Cynghorydd Thomas yn eitem rhif 7 ar yr agenda – Mabwysiadu Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Cafwyd datganiad cysylltiad personol gan y Cynghorydd Bithell yn eitem rhif 10 ar yr agenda – Model Bwrdd Llywodraethu Diwygiedig ar gyfer Theatr Clwyd. Derbyniwyd datganiad cysylltiad personol gan y Prif Weithredwr yn yr eitem hon hefyd oherwydd roedd yn aelod o’r Bwrdd.
Cafwyd datganiadau cysylltiad personol a rhagfarnus gan y Cynghorwyr Attridge a Jones yn eitem rhif 13 ar yr agenda – Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Cona – Amrywiad i’r Contract Arfaethedig. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 24 Ebrill 2018 fel cofnod cywir. Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 PDF 189 KB Pwrpas: Nodi a mabwysiadu Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor am 2017/18. Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio'n dda ac yn unol ag adroddiadau monitro blaenorol ar gyfer Cynllun y Cyngor a’r adroddiadau Perfformiad Blynyddol.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn adroddiad alldro cynnar gyda’r gwahanol feysydd gwasanaeth yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad llawn.
Lle nad oedd targedau wedi cael eu cwrdd, neu lle dangosodd ddangosydd perfformiad statws RAG coch, byddai cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu i edrych yn fanwl ar ba gamau y gellid eu cymryd i atal tanberfformio yn y dyfodol ac a ddylid cario’r dangosydd drosodd i Gynllun y Cyngor 2018/19 i gadw ei broffil. Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cael eu hadrodd yn gyntaf i’r Cabinet.
Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 83% o'r gweithgareddau wedi’u hasesu i fod wedi gwneud cynnydd da, a 74% wedi cyflawni’r canlyniad oedd mewn golwg. Dangosodd y dangosyddion perfformiad gynnydd da, gyda 56% wedi cwrdd neu'n agos at darged y cyfnod. Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r mwyafrif wedi eu hasesu i fod yn gymedrol (63%), mân (8%) neu'n ddibwys (6%). Ar y risgiau, eglurodd fod y rhan fwyaf wedi eu dylanwadu gan ffactorau allanol fel newidiadau cyllid.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn cael eu nodi a’u cadarnhau; a
(b) Y dylai’r Cabinet gael ei sicrhau gan y cynlluniau a’r gweithredu i reoli'r gwaith o ddarparu Cynllun y Cyngor 2017/18. |
|
Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio PDF 101 KB Pwrpas: Cymeradwyo Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r dull cydweithredol arfaethedig yng ngogledd Cymru i weithredu’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar y Strategaeth Adfywio Ranbarthol a Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI).
Lansiodd Llywodraeth Cymru (LlC) y Rhaglen TRI i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau adfywio ar draws Cymru. Roedd y cyllid yn amodol ar gyflwyno strategaeth adfywio ranbarthol a mabwysiadu dull blaenoriaeth ranbarthol o ddatblygu cynigion buddsoddi.
Roedd strategaeth adfywio ddrafft wedi cael ei datblygu o fewn yr amserlen heriol a osodwyd ar gyfer y broses, a dull cydweithredol wedi’i fabwysiadu ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad, ac i dargedu’r adnoddau prin at ardaloedd adfywio blaenoriaeth a phrosiectau thematig a fyddai’n defnyddio tair blynedd gyntaf y rhaglen TRI.
Roedd strategaeth adfywio ddrafft Gogledd Cymru’n cynnig deuddeg o drefi fel ardaloedd adfywio blaenoriaeth, a chawsant eu rhestru yn yr adroddiad. Cafodd y trefi hyn eu hadnabod ar sail eu safle ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer amddifadedd. Roedd safleoedd trefi Treffynnon a Shotton yn Sir y Fflint yn 7fed ac 8fed. Roedd dau brosiect thematig a allai gael eu gweithredu i’r trefi yn Sir y Fflint, sef adnewyddu tai ac adeiladau allweddol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r strategaeth adfywio ranbarthol ddrafft i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru. |
|
Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol PDF 99 KB Pwrpas: I drafod yr adolygiad seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a cheisio cyfraniad y Cabinet at waith y Gweithgorau cenedlaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi manylion a’r camau nesaf yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.
Roedd y galw am ofal iechyd a chymdeithasol wedi cynyddu’n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd hyn wedi creu her sylweddol i’r gwasanaethau cyhoeddus a phenderfynodd Llywodraeth Cymru (LlC) sefydlu’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adnabod sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus ragweld ac ymateb yn well i’r galw newydd arnynt.
Ar sail canfyddiadau’r ymgynghori a’r fforymau rhanddeiliaid, gwnaeth yr adroddiad terfynol ddeg o argymhellion i LlC oedd yn adlewyrchu canfyddiadau Adroddiad Interim Gorffennaf 2017 yn agos. Cafodd yr argymhellion eu crynhoi yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod manylion wedi dod i law am Gronfa Arloesi a Thrawsnewid a bod £100m ar gael ar draws Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Y disgwyl oedd y byddai Gogledd Cymru’n derbyn tua £10m ac y byddai proses fidio’n dechrau ym mis Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas pa mor bwysig oedd helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain er mwyn osgoi ynysu cymdeithasol a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan allweddol o hynny. Awgrymodd y gellid defnyddio peth o’r cyllid o’r Gronfa Arloesi a Thrawsnewid i’r pwrpas hwn. Croesawyd yr awgrym gan y Prif Swyddog a eglurodd fod argymhelliad 7: 'Harneisio arloesi a chyflymu datblygiadau technoleg a seilwaith’ wedi’i anelu’n benodol at bethau o’r fath. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y gallai elfen strategaeth ddigidol argymhelliad rhif 7 gael ei chysylltu i'r cais ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r ymateb i’r adroddiad; a
(b) Bod y Cabinet yn cyfrannu at y gwaith cenedlaethol drwy drefnu bod Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Rhaglen Ranbarthol Gogledd Cymru. |
|
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu Canllaw Cynllunio Atodol yn ffurfiol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol (AHN). Mae’r CCA wedi’i baratoi ar y cyd gan Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam ac mae wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol. Mae’r CCA yn cael ei argymell ar gyfer mabwysiadu gan y tri Awdurdod Cynllunio Lleol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (SPG) – Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AoHNE) yn gofyn am gymeradwyo terfynol ar gyfer mabwysiadu’r SPG yn ffurfiol.
Roedd yr SPG wedi cael ei baratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Dinbych a Wrecsam ac wedi bod yn destun ymgynghori helaeth gyda’r cyhoedd. Yr argymhelliad oedd bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yn mabwysiadu’r SPG.
Nod yr SPG oedd gwella ansawdd datblygu yn ac o gwmpas yr AoHNE a sicrhau bod yr Ardal yn ystyriaeth ddylunio ar ddechrau un y broses o ddylunio datblygiad.
Siaradodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) am yr atodiadau oedd yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a’r ymatebion a’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, a’r SPG diwygiedig yn dangos y diwygiadau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) fel bod gan yr Ardal bwysau fel ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau, ceisiadau ac apeliadau cynllunio perthnasol. |
|
Ansawdd Aer yn Sir y Fflint PDF 104 KB Pwrpas: I roi trosolwg o’r canfyddiadau o Adroddiad Ansawdd Aer rhanbarthol, a baratowyd yn Awst 2017 ac argymell sut y gall Cyngor Sir y Fflint wneud mwy i hybu ystyriaethau ansawdd aer pan wneir penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Ansawdd yr Aer yn Sir y Fflint oedd yn rhoi trosolwg a chanfyddiadau o’r Adroddiad Rhanbarthol ar Ansawdd yr Aer ac yn argymell sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.
Y brif ffynhonnell llygredd aer yn Sir y Fflint oedd allyriadau o gerbydau ar y prif ffyrdd yn cysylltu Lloegr i weddill Gogledd Cymru, ar hyd yr A55 a'r A494 er enghraifft. Roedd rheoli ansawdd yr aer yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ac roedd angen cydweithio'n lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i wella’r aer yr oedd pobl yn ei anadlu.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i gyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi’n lawn. Croesawodd yr aelodau’r adroddiad a chyfeiriwyd at ardaloedd o lygredd aer drwg fel yr A494, Parc Siopa Brychdyn a’r cyffiniau, a’r tu allan i ysgolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Annog holl bolisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir y Fflint, lle’r oedd hynny’n briodol, i ystyried yn rhagweithiol beth fyddai’r effaith ar ansawdd yr aer;
(b) Y dylai gwaith y Cyngor gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel rhan o'u thema amgylcheddol, hyrwyddo dull amlasiantaethol o wella ansawdd yr aer; a
(c) Nodi cynnwys adroddiad cyfunol rhanbarthol Gogledd Cymru ar Ansawdd yr Aer. O ganlyniad i’r asesiad, nodir hefyd nad oes angen uwchgyfeirio unrhyw weithredu ac y bydd parhau i fonitro’r sefyllfa’n ddigon i gwrdd â’n hymrwymiadau cyfreithiol. |
|
Adroddiad Sir y Fflint yn Cysylltu PDF 141 KB Pwrpas: I roi diweddariad ar y ddarpariaeth bresennol o ran y gwasanaeth, datblygiadau a'r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi eu cyflawni. Cytuno ar gyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid Corfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad yn rhoi Diweddariad ar Sir y Fflint yn Cysylltu yn nodi’r cynnydd hyd yma gyda throsglwyddo gwasanaethau wynebu'r cwsmer i Sir y Fflint yn Cysylltu fel y gallai cwsmeriaid dderbyn ymateb i'w ymholiadau drwy’r pwynt cyswllt cyntaf bob tro lle’r oedd hynny’n bosib.
Roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys atebion tai, bathodynnau glas a refeniw a budd-daliadau gan olygu bod arbedion wedi bod yn bosib gyda swyddogaethau cefn swyddfa.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhai newidiadau ar y gweill i wneud arbedion pellach heb orfod cau'r un o’r canolfannau, a hyn i’w gyflawni drwy newid yr oriau agor o fis Mehefin 2018. Ar sail y galw a’r pwysau presennol a’r ffigurau is yn galw heibio ym Mwcle, eglurodd fod y ganolfan bellach wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod a’i bod yn gwbl hygyrch i bawb; roedd wedi’i lleoli ar lawr cyntaf yr adeilad o’r blaen. Byddai swyddogion yn mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Bwcle yn y dyfodol i ofyn iddynt helpu gyda hyrwyddo’r ganolfan Cysylltu gyda phreswylwyr lleol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r diweddariad ar wasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu; a
(b) Nodi rôl gwasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu gyda chefnogi’r Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol. |
|
Diweddariad gan Theatr Clwyd am Aelodau’r Bwrdd PDF 89 KB
Pwrpas: Cytuno ar Aelodau’r Bwrdd ar gyfer blwyddyn 2018/19. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad ar Fodel Bwrdd Llywodraethu Diwygiedig ar gyfer Theatr Clwyd yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith gyda diwygio’r model ar gyfer Bwrdd Llywodraethu’r Theatr, gan gynnwys cynnig penodi unigolion i fod ar y Bwrdd.
Roedd y rhestr o 13 unigolyn a gynigiwyd fel Aelodau Bwrdd am y flwyddyn 2018/19 wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r camau nesaf gyda gloywi a diwygio’r model ar gyfer y Bwrdd Llywodraethu fyddai cynefino ar gyfer holl Aelodau’r Bwrdd ar ddechrau Mehefin, hyn i’w ddilyn gan gyfarfod cyntaf y Bwrdd nes ymlaen yn y mis. Byddai cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd yna’n dod yn ôl o flaen y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo penodi’r 13 Aelod Bwrdd a restrwyd yn yr adroddiad, ac yn unol â’r model newydd ar gyfer y Bwrdd a gadarnhawyd gan y Cyngor. |
|
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWYDD) 2018/27 PDF 97 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2108/27. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ar Gynllun Busnes North East Wales (NEW) Homes oedd yn gofyn cymeradwyo’r Cynllun Busnes a’r broses arfaethedig ar gyfer cymeradwyo benthyciad newydd i NEW Homes i ddatblygu neu brynu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint.
Roedd y Cynllun Busnes yn cyflwyno elfennau allweddol o gynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac a berchenogir fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.
Mae Bwrdd NEW Homes wedi adolygu datblygiad y cwmni a’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn amcanion gwreiddiol y Cynllun Busnes a arweiniodd at Gynllun Busnes diwygiedig ar gyfer NEW Homes.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), fel rhan o’r broses adolygu, yr ystyriwyd tri phrif faes portffolio yn erbyn y rhagolygon a wnaed yn y Cynllun Busnes gwreiddiol. Y rhain oedd:Y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), Unedau Adran 106 a Thai Gosod a Reolir, gyda’r manylion llawn yn yr adroddiad.
Canmolodd y Cynghorydd Roberts y gwaith a wnaed yn ei ward lle’r oedd tai wedi’u codi yn lle’r unedau meisonét anaddas, gan helpu i drawsnewid canol tref y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod prinder cartrefi fforddiadwy i’w rhentu o hyd, a chyfeiriodd at Lys Alexandra yn yr Wyddgrug fel datblygiad llwyddiannus. Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y cwestiwn polisi o gartrefi fforddiadwy’n cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2018/2027; a
(b) Rhoi awdurdod o dan bwerau dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, drwy ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, i gymeradwyo benthyca darbodus pellach drwy’r Cyngor (hyd at uchafswm o £10m) i’w fenthyca ymlaen i NEW Homes er mwyn datblygu neu brynu cartrefi fforddiadwy. Hyn ar yr amod bod NEW Homes yn cwrdd â’r paramedrau benthyca cytunedig yn Atodiad 2 yr adroddiad. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 53 KB Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Roedd y camau a gymerwyd fel a ganlyn:-
Strydlun a Thrafnidiaeth
Hysbysu'r Aelodau o wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu system Un Ffordd ar gyfer Alexandra Road a Victoria Road yn Yr Wyddgrug.
Hysbysu’r Aelodau o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn (Gwahardd Gyrru) (Ac Eithrio ar gyfer Mynediad) Tyddyn Street, Yr Wyddgrug 201.
Newid Sefydliadol
Mae’r tir i gael ei werthu i denant Hope Hall Farm, Yr Hob, ar ôl iddo ildio ei Denantiaeth Busnes Fferm yn y cyfeiriad hwnnw a symud wedyn i Wood Farm.
O dan adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae gan y Cyngor ddisgresiwn i leihau neu ryddhau rhywun o dalu ardrethi lle mae’n fodlon y byddai’r trethdalwr yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny a lle byddai’n rhesymol iddo wneud hynny ar ôl ystyried buddiannau trethdalwyr y Cyngor. Mae cais a dderbyniwyd gan drethdalwr oedd yn rhedeg busnes partneriaeth yn Saltney, a’r busnes hwnnw heb fod yn masnachu mwyach, wedi’i wrthod ar y sail na chredir y byddai dyfarnu Rhyddhad Ardrethi ar Sail Caledi o fudd i’r cyhoedd yn gyffredinol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau sydd i’w cymryd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol oherwydd gwybodaeth esempt o dan baragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah – Amrywiad Contract Arfaethedig
Pwrpas: Ystyried cyflymu Cam 2 o gynllun buddsoddi Ysgol Uwchradd Cei Connah gan ddefnyddio cyllid Band B ac amrywiad contract i alluogi arbedion effeithlonrwydd prosiect o tua £220K. Cofnodion: Ar ôl datgan buddiannau personol a rhagfarnus yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr Attridge a Jones yr ystafell ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Cona – Bwriad i Amrywio Contract oedd yn gofyn am ganiatâd i gomisiynu Kier Construction ar gyfer cam un y Contract Dylunio ac Adeiladu dau gam ar gyfer Cyfnod 2 y prosiect gwelliannau cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Cona.
Byddai angen cyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC) llwyddiannus i Lywodraeth Cymru (LlC) oherwydd roedd yn disgyn o dan y gwerth ariannol a fyddai’n golygu gorfod cyflwyno Achos Busnes Llawn (FBC).
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Cabinet yn cefnogi a chymeradwyo cychwyn ar gam un y Contract Dylunio ac Adeiladu dau gam gyda Kier Construction, ar gyfer Cyfnod 2 y rhaglen adeiladu.O dan Gyfnod 1, bydd y gwaith dylunio manwl a chadarnhau costau yn cael ei wneud ar yr un pryd ag y bo'r contractwr / tîm presennol a gwaith adeiladu Cyfnod 1 yn digwydd ar y safle. |
|
Adeilad Newydd Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfleoedd Gwaith – Comisiynu Contract Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer contract prosiect datblygu Cyfalaf ar gyfer disodli Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith yn Queensferry. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar Gomisiynu’r Contract ar gyfer Canolfan Newydd Anableddau Dysgu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith oedd yn gofyn caniatâd i gontractio gyda Kier Construction ar gyfer Canolfan Newydd Anableddau Dysgu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith yn Queensferry.
Roedd costau dangosol y prosiect fymryn yn uwch na’r dyraniad a neilltuwyd yn y rhaglen gyfalaf a chais ydoedd i gymeradwyo uchafswm pris contract hyd nes y cyflwynir prosesau peirianyddol gwerth pellach i leihau costau lle byddai hynny’n bosib.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod llythyr wedi’i ddrafftio ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn am gyllid ychwanegol i gefnogi’r prosiect ac ychydig o gyllid cyfalaf, oedd wedi’i gefnogi gan Aelodau’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Cabinet yn cefnogi a chymeradwyo’r contract gyda Kier Construction i adeiladu a darparu Canolfan Newydd Anableddau Dysgu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith yn Queensferry ond y dylid cadw o fewn y terfynau ariannol yn yr adroddiad; a
(b) Bod y Cabinet yn gofyn i Lywodraeth Cymru am arian cyfalaf atodol i gwrdd â’r amcangostau ychwanegol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |