Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

62.

Datgan Cysylltiad

To receive any Declarations and advise Members accordingly.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Bithell a Thomas gysylltiadau personol yn eitem rhif 16 ar y rhaglen - Cais Cam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Bailey Hill.

63.

Cofnodion pdf icon PDF 162 KB

To confirm as a correct record the minutes of the last meeting.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 wedi’u cylchredeg gyda’r rhaglen. 

 

            Eglurodd y Cynghorydd Thomas o ran cofnod 59, Canlyniadau Ymgynghori i Amodau Arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n Drafft, byddai swyddogion yn gweithio gyda chymunedau a nododd mai caeau chwarae wedi’u marcio oedd yr unig ofod i gerdded c?n, i archwilio’r ddarpariaeth o ofod amwynder ychwanegol, os mai’r Cyngor oedd yn berchen ar y gofod hwnnw.  Fel arall, byddai'n gyfrifoldeb y Cyngor Tref neu Gymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

64.

Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a Chyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr eitem ar lafar, a amlinellodd y Setliad Dros Dro a ddaeth i law 10 Hydref.  Esboniodd fod y Cyllid Allanol Cyfun dros dro, a oedd yn cynnwys Grantiau Cefnogi Refeniw a Chyfraddau Annomestig, yn £187.816 miliwn ar gyfer 2018/19, a oedd yn cynrychioli gostyngiad o 0.9%, o'i gymharu â ffigur 2017/18 o £189.519, a oedd yn cyfateb i ostyngiad o £1.703 miliwn.

 

                        Roedd trosglwyddiadau i’r Setliad yn cynnwys y Grant Amgylcheddol Sengl – Gwastraff (£1.640 miliwn), Grant Byw'n Annibynnol Cymru (£1.586 miliwn), Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol (£0.827 miliwn), Plant sy’n Derbyn Gofal (£0.302 miliwn) a Grant Gofal Seibiant Gofalwyr (£0.131 miliwn). 

 

                        Roedd cyfrifoldeb newydd wedi’i nodi yn y Setliad o £0.197 miliwn ar gyfer atal digartrefedd, a fyddai angen rhoi sylw manwl iddo yng ngofynion ariannu Sir y Fflint.  Gan ystyried yr addasiad hwnnw, roedd gan y Setliad effaith negyddol o £1.9 miliwn ar y rhagolwg cyfredol o’r Gyllideb ar gyfer 2018/19.

 

                        Esboniodd y Cyllid Gwaelodol o £1.772 miliwn a oedd wedi’i gynnwys i sicrhau nad oedd yr awdurdod wedi cael gostyngiad a oedd yn fwy na 1% o’i gymharu â’i ddyraniad 2017/18 ac arian ychwanegol.  Ni fyddai gwybodaeth mewn perthynas â grantiau penodol yn dod i law cyn 24 Hydref.

 

                        Roedd Arian Cyfalaf Cyffredinol y Cyngor wedi lleihau o gyfanswm 2017/18 o £6.634 miliwn i £6.516 miliwn, a oedd yn ostyngiad net o £0.118 miliwn.

 

                        Esboniodd y Prif Weithredwr fod yna gyfnod ymgynghori o chwe wythnos, a oedd yn dod i ben 21 Tachwedd. Byddai’r Setliad Dros Dro’n cael ei drafod yn y cyfarfod Cyngor Sir arbennig 14 Tachwedd. 

 

                        Roedd Cam 1 o’r gyllideb wedi’i drafod ym mhob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Byddai Cam 2 yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Cabinet a'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.  Byddai Cam 3 o’r gyllideb yn manylu ar y sefyllfa ariannu genedlaethol a’r risgiau.

 

                        Adroddodd y Cynghorydd Shotton ar ddifrifoldeb y sefyllfa, ac effaith caledi ariannol ar y gwasanaethau a roddir i bobl Sir y Fflint.  Dyletswydd y Cyngor oedd darparu ar gyfer anghenion bobl leol, y dylid fod yn bosibl o’r arian a roddir i awdurdodau lleol, gan Lywodraeth y DU, ond roedd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn destun ymosodiad, oherwydd y toriadau parhaus i'r gyllideb.  Deisyfodd ar Aelodau'r Cabinet i barhau i lobïo Llywodraeth y DU am wrthdroi’r polisi cyllidol cyfredol cyn Datganiad y Canghellor 22 Tachwedd.  Pe bai unrhyw fath o wrthdroi gyda’r toriadau, yna byddai lobïo’n digwydd gyda Llywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau lleol.

 

                        Cytunodd y Cynghorydd Attridge ac anogodd Aelodau i lobïo ASau ac ACau, gan egluro pa wasanaethau y gellid effeithio arnynt.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod y Digwyddiadau Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ‘Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol 2017’ wedi dechrau’r wythnos hon, lle byddai’r heriau a wynebir, ynghyd â sut y gallai cymunedau gymryd rhan i helpu i amddiffyn y gwasanaethau roeddent yn eu gwerthfawrogi fwyaf, yn cael eu trafod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad ar lafar.

65.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 pdf icon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn y Blaenoriaethau Gwella fel y manylwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17.

 

            Esboniodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid cyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, a rhaid i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.  Roedd yr asesiad yn ystyried asesiadau ystyried perfformiad ar gyfer bob Blaenoriaeth Gwella drwy:

 

·         Gynnydd yn erbyn camau gweithredu a phrosiectau allweddol;

·         Cynnydd yn erbyn risgiau a heriau wedi’u nodi;

·         Canlyniadau dangosyddion perfformiad (dadansoddi targedau a thuedd); a

·         Gweithgaredd rheoleiddio, archwilio ac arolygu.

 

Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol, er gwaethaf cefnlen o galedi ariannol a wynebai'r Cyngor, roedd Sir y Fflint wedi'i sgorio fel yr awdurdod gorau yng Nghymru i ddangos gwelliant rhwng 2015/16 a 2016/17.

 

Diolchodd yr Aelodau'r staff ar draws yr awdurdod am y gwaith a wnaed yn ystod cyfnodau anodd parhaus, wrth gael ei sgorio fel yr awdurdod gorau i ddangos gwelliant, a oedd yn gyflawniad nodedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi bod Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 yn cael ei gyhoeddi.

66.

Adolygiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a datblygiad y Cynllun Lles pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adolygiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Datblygiad y Cynllun Lles, a roddodd drosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint hyd yn hyn, a datblygiad y Cynllun Lles.  Rhoddodd yr adroddiad drosolwg cryno hefyd o'r partneriaethau strategol a oedd yn adrodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

            Nod lefel uchel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd “gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.”   Roedd Asesiad Lles ar gyfer Sir y Fflint wedi’i lunio a’i gyhoeddi’n unol â gofynion statudol ac yn cyflwyno darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint.  Amlinellwyd diweddariadau cynnydd yn yr adroddiad.

 

            Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi dewis a chefnogi pum thema a oedd â nifer o flaenoriaethau:

 

1.    Thema: Lles a Byw’n Annibynnol;

2.    Thema: Diogelwch Cymunedol;

3.    Thema: Cymunedau Gwydn;

4.    Economi a Sgiliau; ac

5.    Amgylchedd.

 

Dechreuodd cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn Hydref 2017 a byddai’n dod i ben yn Ionawr 2018. Byddai digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus statudol.  Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i geisio cefnogaeth, ac i'r Cabinet gefnogi'r strwythur a'r cynnwys.   Byddai’r Cynllun hefyd yn cael ei gyflwyno i gyrff statudol eraill y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Aelodau'n cael sicrwydd ar lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn;

 

(b)       Bod themâu/blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cefnogi;

 

(c)        Bod lefel cynnydd y partneriaethau strategol amrywiol yn cael eu cefnogi; a

 

(d)       Bod y camau nesaf a amlinellir yn yr adroddiad a’r amserlen o ran darparu’n cael ei nodi.

67.

Polisi Diogelu Corfforaethol pdf icon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Polisi Diogelu Corfforaethol, a amlinellodd y gwaith a wnaed i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu, yn nodi meysydd i’w gwella ac yn cyflwyno’r Polisi Diogelu Corfforaethol i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

 

            Rhoddodd y Polisi Diogelu Corfforaethol fframwaith i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion, gyda’r Polisi’n disgrifio rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig pob gweithiwr ac Aelod etholedig, gwirfoddolwr a chontractwr.  Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod datblygu’r Polisi wedi bod yn broses gadarnhaol, a oedd wedi cynnwys hyfforddiant yn cael ei roi gan AFTA Thought, gyda thua 300 o weithwyr yn bresennol.  I gefnogi gweithrediad o’r Polisi, byddai dogfen gryno a chyfres o Gwestiynau Cyffredin yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i weithwyr. Roedd dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant ac oedolion hefyd ar gael ar-lein.  Byddai cyflwyniadau ar ddiogelu’n cael eu rhoi i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y misoedd i ddod, i godi ymwybyddiaeth Aelodau.

 

            Byddai gweithrediad o’r Polisi’n cael ei fesur drwy nifer o ddangosyddion perfformiad, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

  

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod y gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion; a

 

(b)       Bod y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi a’i weithredu.

68.

Adolygiad Strategol o’r Sector Gofal pdf icon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad o’r Adolygiad Strategol o’r Sector Gofal.  Er mwyn cefnogi’r sector lleol, roedd Cyngor Sir y Fflint wedi ariannu swydd 12 mis i edrych ar y ffactorau allweddol a oedd yn dylanwadu ar freguster y sector gofal yn Sir y Fflint.  

 

Roedd cynllun rhaglen wedi’i ddatblygu i roi sylw i feysydd blaenoriaeth allweddol o’r gwaith, a byddai’r prosiect yn cefnogi’r achos tystiolaethol a wneir yn Sir y Fflint ar freguster y sector, gan helpu i roi sylw i rai o’r materion brys a godwyd gan ddarparwyr a chomisiynwyr.  Byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi’r achos am fwy o fuddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol, a byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'i rannu gyda phartneriaid.

 

Byddai’r adroddiad, a nododd yr angen am fwy o arian, gwelliannau gweithlu a chydnabod anghenion llawn y farchnad, yn hwyluso’r sail dystiolaeth ar gyfer gwneud achosion yn genedlaethol.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i Aelodau o’r Cabinet am gefnogi’r darn hwn o waith ar ddatblygu achos busnes, a’r argymhellion wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod pob partner yn cefnogi’r gwaith a wnaed ac roedd y cyfrifoldebau ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Cyngor.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhagweld galw yn y dyfodol.  Dywedodd y byddai’n helpu cefnogi cam nesaf o lobïo i Lywodraethau’r DU a Chymru, gan ei fod yn dangos breguster y sector gofal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod yr adroddiad yn trafod goblygiadau posibl o ran sut y gallai Brexit effeithio ar y sector gofal.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad, a oedd yn dangos pa ymyriadau a oedd eu hangen yn y sector gofal, a’r pwysigrwydd o ddatblygu gweithlu y gellid ei gadw.  Dywedodd fod Cyngor Sir y Fflint o blaid gwasanaethau fel cartrefi gofal.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr, pe bai’r Cyngor yn cael gwared ar ddarpariaeth tri chartref gofal yn y Sir, byddai'r awdurdod yn dal â dyletswydd i ddarparu llefydd, ond nid oedd cyflenwad gan ddarparwyr allanol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai unrhyw ddewisiadau amgen i gartrefi gofal y Cyngor ei hun yn fwy drud.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad;

 

(b)       Bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi; a

 

(c)        Bod y dull gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo er mwyn iddynt ymateb i anghenion y sector gofal.

69.

Polisi Cynhyrchu Incwm pdf icon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Polisi Cynhyrchu Incwm, a argymhellodd nifer o amcanion allweddol ac egwyddorion i gynorthwyo wrth osod ffioedd a thaliadau addas sydd wedi'u meincnodi, ynghyd â threfn o adolygu'n rheolaidd a monitro.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y bu gofyniad hirsefydlog i ddatblygu Polisi a oedd yn dod â’r holl ffioedd a thaliadau ynghyd i un lle, yn ogystal ag adolygu eu dulliau o’u cyfrifo a’u cymhwyso.  Roedd nifer o amcanion allweddol ac egwyddorion allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad er ystyriaeth.

 

            Awgrymwyd y dylid cynnal gwaith monitro ffioedd a thaliadau drwy Fyrddau Rhaglenni’r Cyngor.  Byddai mabwysiadu’r Polisi’n darparu’r fframwaith strategol a’r cysondeb i roi sylw i faterion ffioedd a thaliadau yn y Sir.  Wrth eu mabwysiadu, byddai’r ffioedd a’r taliadau'n cael eu cynyddu.  Gellir cael achosion lle byddai angen dull cynyddol fel bod modd adennill y gost lawn dros gyfnod hirach o amser, oherwydd y bwlch sylweddol rhwng yr adenilliad o'r gost lawn a’r taliadau.

 

            Roedd targed incwm cylchol o £500,000 wedi’i osod ond nid yn cael ei gyflawni.  Byddai’r gallu i gyflawni’r targed yn parhau, pe na bai dull mwy trylwyr a heriol yn cael ei fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Nodi a chymeradwyo’r Polisi Incwm.

70.

Canlyniad y Broses Ymgynghori ar Deithio Llesol pdf icon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad am Ganlyniad y Broses Ymgynghori ar Deithio Llesol, a amlinellodd gynnydd yn dilyn ystyriaeth o adroddiad gerbron y Cabinet 6 Mehefin, ar ddarparu dyletswyddau o dan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. 

 

            Roedd nifer o ddigwyddiadau ymgynghori anffurfiol wedi'u cynnal cyn yr ymgynghoriad statudol ac o ganlyniad i adborth, roedd nifer o ddiwygiadau wedi'u gwneud i'r Map Rhwydwaith Integredig.  Cafodd rhai ceisiadau am lwybrau eu gwrthod, a bu sawl diwygiad i’r Map Rhwydwaith Presennol.  Byddai’r Map Rhwydwaith Integredig wedi’i ddiwygio a’r Map Rhwydwaith Presennol wedi’i ddiwygio yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo 3 Tachwedd 2017.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr ymatebion a amlinellir yn atodiad yr adroddiad yn gais uchelgeisiol, ac ni fyddai modd cyflawni sawl cynllun.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnwys yr adroddiad a'i gyflwyniad i Lywodraeth Cymru’n cael ei gymeradwyo.

71.

Mabwysiadu Parth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Mabwysiadu Parth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

                        Esboniodd nad oedd y ffyrdd o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi’u mabwysiadu, ond dros y 6 mis diwethaf, roedd materion wedi’u datrys ac roedd y Cyngor mewn safle i fabwysiadu’r ffyrdd a’r troedffyrdd.  Wrth fabwysiadu, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu’r Cyngor gyda swm cyfnewidiol a oedd yn gyfwerth â’r gost o ailadeiladu rhai o’r ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn yr ardal.  Roedd yr adroddiad yn argymell ailddyrannu’r arian mewn ffordd fwy adeiladol, er mwyn uwchraddio'r llwybrau troed i ddarparu rhwydwaith beiciau penodol o amgylch Parth 3, a oedd yn unol â dyhead y Cyngor i wella Cysylltiadau Teithio Llesol ledled Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.  Roedd y cynnig hefyd wedi’i alinio ag uchelgeisiau Cynllun Glannau Dyfrdwy a’r weledigaeth ehangach o gysyniad "Metro” cludiant integredig Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

                        Roedd materion parcio sylweddol o fewn Parth 3, a oedd wedi creu problemau mynediad a digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn gysylltiedig â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn parcio eu cerbydau ar rai ffyrdd dros nos.  Byddai’r cynigion yn yr adroddiad yn helpu i roi ateb i’r ddau fater hyn.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a'r llwybr beiciau, gan fod darn helaeth o'r rhwydwaith beiciau a oedd ar goll drwy'r Parth.  Mynegodd bryder yngl?n â’r problemau parcio dros nos ym Mharth 3, y gellid ond ei ddatrys drwy ddarparu parc i lorïau.  Roedd y Cynghorydd Attridge yn cytuno gyda’r safbwyntiau o ran y problemau parcio dros nos, a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ddeall y byddai’r broblem yn symud i fan arall hyd nes y byddai parc lorïau’n cael ei roi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo defnyddio Adran 228 o’r Ddeddf Priffyrdd, fel dull i fabwysiadu’r priffyrdd ym Mharth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy; a

 

(b)       Chymeradwyo’r ailddyraniad o’r arian swm cyfnewidiol, sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru, i wella'r troedffyrdd i ddarparu rhwydwaith beiciau integredig sy’n gwasanaethu pob busnes a leolir ym Mharth 3.

72.

Gwydnwch Cymunedol a Strategaeth Budd Cymunedol pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad Gwydnwch Cymunedol a Strategaeth Budd Cymunedol, a roddodd drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn yr ardal, gan adeiladu ar waith blaenorol i dyfu’r sector cymdeithasol drwy ddatblygu menter gymdeithasol, yn cynnwys Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Darparu Amgen.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig cytuno ar y Strategaeth Budd Cymunedol a oedd yn diffinio cyfres o fuddion cymunedol am y tro cyntaf, y gellid eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond y gellid eu defnyddio hefyd i asesu lefel y budd cymunedol a ddarparwyd gan sefydliad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod 24 menter gymdeithasol / sefydliad cymdeithasol a oedd yn gweithio yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf yn fuddiolwyr cefnogaeth y Cyngor, i helpu eu datblygiad.  Roedd hynny, ynghyd â’r rhaglen Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol, wedi arwain at nifer o asedau'n cael eu trosglwyddo i fentrau cymdeithasol / sefydliadau cymunedol.  Roedd canlyniadau’r gwaith hwnnw, o ran datblygu sefydliadau a’u galluogi i gymryd asedau a gwasanaethau, wedi arwain at waith sector cymdeithasol cryfach ar lefel gymunedol.  Cymerodd y cyfle hwn i longyfarch Caffi Isa a oedd wedi ennill y Wobr Busnes Cymdeithasol Gorau yn Seremoni Wythnos Fusnes Sir y Fflint yr wythnos flaenorol.

 

Ychwanegodd, gyda chynnydd yn nifer a maint sefydliadau yn y sector cymdeithasol, roedd hyn wedi galluogi gwaith y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen sector cymdeithasol gryfach hon, ac i allu adnabod y sector fel un gwerthfawr, a oedd yn ymdebygu i fusnes.  Roedd hefyd yn annog mwy o ymwybyddiaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymdeithasol, am ddarparu amcanion cymdeithasol neu fuddion cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Strategaeth Budd Cymunedol.

73.

Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle pdf icon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle, a oedd yn cynnwys y Polisi drafft i’w fabwysiadu cyn ei gyhoeddi.  Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd wrth fodloni Safonau’r Gymraeg hefyd.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y Polisi’n atgyfnerthu ymrwymiadau’r Cyngor i’r Gymraeg.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n gwneud ymholiadau ac yn rhoi manylion ynghylch unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i Aelodau ddysgu Cymraeg.  Byddai’n anfon unrhyw fanylion at holl Aelodau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Aelodau’n cael sicrwydd bod gwaith yn cael ei wneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg;

 

(b)       Bod Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle’n cael ei fabwysiadu; a

 

(c)        Derbyn yr adroddiadau blynyddol ar waith a wnaed i fodloni Safonau’r Gymraeg.

74.

Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog pdf icon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog.  Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â’r rhai sy’n gwasanaethu heddiw. 

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid a oedd wedi llofnodi’r Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig.  Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed i fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gefnogi a bod yr ymrwymiadau pellach yn cael eu cefnogi; a

 

(b)       Bod Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn i'r Cyngor llawn ei gymeradwyo, a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

75.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 5) pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 5) a oedd yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm  a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

                        Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £1.348 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £3.734 miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.026 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.090 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, wrth ystyried y gorwariant a ragamcanwyd ar hyn o bryd ym Mis 5, a’r dyraniadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol, rhagwelwyd y byddai'r balans ar y Gronfa Wrth Gefn yn £3.734 miliwn.  Atgoffodd Aelodau y gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn unwaith.

 

Ni fu sylwadau o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y wythnos flaenorol a oedd angen eu codi yn y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

76.

Bryn y Beili - Cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cam 2 pdf icon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Gais Cam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri – Bailey Hill, sy’n manylu ar gynnydd y prosiect ac yn cynnig sefyllfa’r Cyngor a chyfraniadau tuag at y prosiect, cyn cyflwyno’r cais.

 

                        Roedd Bailey Hill yn brosiect sylweddol i wella amgylchedd treftadaeth y Castell Mwnt a Beili a oedd yn cynnwys torri llawer iawn o goed, gwella mynediad, man chwarae newydd a dehongliad ar hyd y safle, yn cynnwys ardal arddangos yn y Porthdy.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod cyfraniad y Cyngor tuag at gynllun meistr cyffredinol a’r costau cyfalaf wedi’u nodi’n flaenorol fel cyllid ar gyfer yr ardal chwarae. 

           

            (Wedi iddynt ddatgan cysylltiadau’n flaenorol, gadawodd y Cynghorwyr Bithell a Thomas yr ystafell yn ystod ystyriaeth o’r eitem.)

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar sefyllfa’r Cyngor a chyfraniadau tuag at y prosiect, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i gyflwyno Cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cam 2, yn unol â’r sefyllfa a’r cyfraniadau a amlinellwyd (yn amodol ar fân newidiadau) gan y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg.

77.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 49 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gwahardd a chyfyngu ar aros a llwytho a lleoedd parcio.  Gorchymyn Gorfodaeth sifil a chyfuno.  Diwygiad Rhif 4

I gynghori Aelodau ar y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Rhif 4, Diwygio Gwahardd a Chyfyngu ar aros a llwytho a lleoedd parcio arfaethedig sy’n cyflwyno Dim Aros ar Unrhyw Adeg, Aros Cyfyngedig a Pharcio Cyfyngedig ar Cymau Road a Wyndham Drive, Abermorddu.

 

Cymuned a Menter (Gwasanaethau Refeniw)

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny, ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth Neuadd Plwyf Helygain wedi cael ei wrthod ar y sail na thybir y byddai cefnogi dyfarniad o Ryddhad Ardrethi ar Sail Caledi o fudd i’r cyhoedd ehangach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

78.

Ail-leoli Swyddfa Ewloe a Champws Dinesig Neuadd y Sir – Cynllun Amlinellol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Ail-Leoli Swyddfa Ewloe a Champws Dinesig Neuadd Y Sir - Cynllun Amlinellol.

 

                        Roedd y Cyngor wedi lleihau maint ei swyddfeydd a oedd yn ofynnol yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, a bellach ond yn meddiannu Camau 1 a 2. Roedd Unity House yn Ewloe yn wag, ac roedd trafodaethau i gwblhau’r hawliad dadfeiliad wedi dod i ben.  Yn y tymor byr i ganolig, roedd opsiwn hyfyw i ystyried symud nifer fawr o staff swyddfa o Neuadd y Sir i Unity House, wrth ystyried y strategaeth tymor hirach ar yr un pryd ar gyfer canolbwynt dinesig.

 

                         Roedd gwaith cynllunio cychwynnol ac achos busnes cysylltiedig yn nodi’r opsiynau tymor byr i ganolig, yn nodi y gellid adleoli i Unity House yn 2018. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o fanylion ar gostau a chynlluniau ac yn cynnig dull graddol i symud.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorwyr Thomas ac Attridge, esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cael ei ystyried yn gyfrinachol, oherwydd natur y wybodaeth fasnachol ynddo, yn enwedig o ran amcangyfrif o werth y tir yn Neuadd y Sir.  Cytunwyd y byddai manylion nad oeddent yn gyfrinachol yn yr adroddiad yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl.

 

                        Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu diwygio a'u cytuno fel yr amlinellwyd isod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod achos busnes yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad manwl gydag Undebau Masnach a'r gweithlu ac ar gyfer ystyriaeth yng nghyllidebau 2018/19; a

 

(b)       Bod cynllun meistr yn cael ei gomisiynu ar gyfer campws Neuadd y Sir, a bod tendrau’n cael eu gwahodd i ddymchwel ar gyfer Camau 3 a 4.

79.

Adroddiad Caffael Contract ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr Adroddiad Caffael Contract ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gael contract gyda Kier Construction ar gyfer y prosiect buddsoddiad Cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo bod y Cyngor yn gwneud contract cyfreithiol gyda Kier Construction i alluogi dechrau adeiladu’r prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

80.

Gwasanaeth Argraffu Digidol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Gwasanaeth Argraffu Digidol a oedd yn cynnig strwythur sefydlu dros dro diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi penodiad cronfa o gyflenwyr ar gontract 2 flynedd, a fydd yn sicrhau y bydd y Cyngor yn cael y telerau mwyaf manteisiol yn economaidd ar gyfer ei anghenion argraffu lliw; ac

 

(b)       Yng ngoleuni’r llai o alw am wasanaethau print, i ddiwygio’r gwasanaeth argraffu digidol a bod y strwythur sefydlu dros dro sy'n cael ei atodi i'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

81.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r wasg yn bresennol, ac nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.