Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Attridge, Butler, Jones a Shotton gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen – Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru (LlC) a Rhaglen Addysg Band B a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC), ac eitem rhif 5 ar y rhaglen - Trefniadaeth Ysgolion – Adolygiad Ardal, Brynffordd a Licswm, gan eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 12 Rhagfyr a 19 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 ac 19 Rhagfyr 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen ac fe’u cymeradwywyd fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnodion cywir. |
|
Pwrpas: Ceisiocymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo model noddi MIM a chynnal y prosiectau o fewn y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ymddiheuriadau am y camgymeriad yn yr atodiad i’r adroddiad, oedd yn nodi mai bwriad y Cyngor oedd uno Ysgol Terrig ac Ysgol Glanrafon ar safle Glanrafon yn Yr Wyddgrug a chau’r ddarpariaeth yn Ysgol Terrig. Dylai’r adroddiad fod wedi amlinellu’r angen i adolygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio mynd i’r afael â’r lleoedd gwag yn Ysgol Terrig a’r diffyg lleoedd yn Ysgol Glanrafon, sydd ill dau â’u heriau eu hunain. Diolchodd i Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Terrig am dderbyn ymddiheuriad y Cyngor ac am eu cadarnhad eu bod yn dymuno gweithio’n ymarferol â’r Cyngor i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Trwy’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd Band B yn cynnwys cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti.
Amlinellodd yr adroddiad y prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i LlC. Eglurodd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol. Darparwyd manylion hefyd am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).
Darparodd Band B gyfle cyffrous arall i’r Cyngor adeiladu mwy o ysgolion newydd a gwella’r cyfleusterau’n llwyr mewn eraill. Byddai hyn yn sicrhau bod llawer mwy o ddisgyblion Sir y Fflint yn cael defnydd o’r cyfleusterau gorau posib, fyddai’n gwella ansawdd y dysgu.
Ar gyfer prosiectau traddodiadol, byddai’r cyllid yn cael ei rannu 50:50 rhwng LlC a’r Cyngor. Fodd bynnag, dan y mecanwaith cyllido MBC newydd, bydd LlC yn cyllido 75% a’r Cyngor yn cyllido 25%.
Y CAS oedd cam cyntaf proses hir o dynnu’r ffrwd gyllido i lawr gan LlC, a dyma oedd datganiad o fwriad y Cyngor. Bydd pob prosiect unigol yn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am wybodaeth am y broses ymgynghori ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan geisio sicrwydd am y model MBC. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cafodd y cynigion eu hystyried yn y lle cyntaf gan Fwrdd y Rhaglen Addysg ac Ieuenctid a Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf. Cyflwynir yr adroddiad a’r argymhellion ger bron y Cabinet heddiw ac, os cânt eu cymeradwyo, bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus manwl yn cychwyn, fel y diffiniwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Ar MBC, eglurodd mai ffurf newydd LlC ar Fenter Cyllid Preifat (MCP) yw hwn, gydag unrhyw brosiectau MBC yn arwain at system addysg ddwy haen o ran ansawdd a dwyster y drefn gynnal a ddefnyddir. Bu i MBC ystyried a dysgu o faterion blaenorol gyda MCP. Bydd gwaith yn cael ei wneud â phartneriaid allweddol mewn cymunedau i sicrhau bod cymunedau’n ymwybodol bod addysg cyfrwng Cymraeg yn ddewis iddynt hwy.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn debygol y byddai rhywfaint o le i symud o fewn y cynigion, ... view the full Cofnodion text for item 113. |
|
Item 4/Minute 113 - Amended version circulated at the meeting PDF 109 KB |
|
Trefniadaeth Ysgolion – Adolygiad Ardal, Brynfordd a Licswm PDF 90 KB
Pwrpas: Darparu ffordd ymlaen ar gyfer trefniadaeth ysgolion cynradd ym Mrynffordd a Licswm. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adolygiad Ardal Trefniadaeth Ysgolion Brynffordd a Licswm, oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ers y Cabinet ym mis Medi, pan gymeradwywyd seibiant byr i alluogi swyddogion i weithio gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Cynradd Brynffordd a Licswm. Darparodd yr adroddiad hefyd wybodaeth bellach ac opsiynau i’w hystyried er mwyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen yn yr ardal.
Er fod yr adroddiad yn argymell symud ymlaen at ymgynghoriad statudol, pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts nad oedd hyn yn golygu cau ysgolion o reidrwydd, a rhoddodd enghreifftiau o ysgolion eraill a symudodd ymlaen at ymgynghoriad statudol ac a oedd wedi ffedereiddio yn hytrach na chau.
Os cafwyd cynigion ar gyfer ffedereiddio oedd yn ymarferol, gallai hyn fod yn opsiwn y byddai’r Cyngor yn ei gefnogi. Byddai barn y gymuned leol yn cael ei cheisio fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol fel yr amlinellwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Gofynnodd y Cynghorydd Shotton tybed a ellid amlinellu beth oedd yn sbarduno’r cynigion, er budd y galeri cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai’r ysgolion allai gael eu hadolygu, dan y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, oedd y rhai hynny â lleoedd gwag a bod gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) leihau’r rhain. Mae lleoedd gwag mewn ysgolion yn aneffeithlon o ran cynaliadwyedd ysgolion bychain oherwydd y gost, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. Pwysleisiodd bwysigrwydd symud y broses ymlaen yn gyflym er mwyn rhoi sicrwydd i’r ysgolion dan sylw o ran y ffordd ymlaen cyn gynted ag y bo modd.
Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar nifer y llythyrau a negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y gymuned, oedd yn fuddiol er mwyn gallu rhoi ystyriaeth i bob barn. Pwysleisiodd nad oedd y cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol wedi’i gysylltu mewn unrhyw ffordd â gofyn ar y Cyngor i fantoli cyllideb.
Nododd y Prif Swyddog mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd y dylai awdurdodau lleol ystyried pob llwybr sydd ar gael i ysgolion, ac y dylid cefnogi ffedereiddio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Byddai unrhyw gynigion pellach i ffedereiddio yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghori ac yn cael eu hystyried.
Atodwyd amserlen ar gyfer y broses i’r adroddiad, ond eglurodd y Prif Swyddog pe byddai cynnig ymarferol ar gyfer ffedereiddio’n dod i law, y gellid symud ymlaen â hwnnw yn gynt os byddai’n bosib. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn gorffen cyn cychwyn gwyliau haf yr ysgolion.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn dilyn her yn LlC, wedi ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ddweud bod y prosesau a ddilynwyd ar drefniadaeth ysgolion yn Sir y Fflint yn gywir ac y gallai’r trigolion roi eu ffydd yn y broses.
PENDERFYNWYD:
Y bydd y Cyngor yn symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaethol ysgolion, gyda'r cynnig i uno ysgolion cynradd Brynffordd a Licswm i greu un ysgol ardal. |
|
Datrysiad Trafnidiaeth Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy PDF 90 KB Pwrpas: Diweddaru’r Cabinet am gynnydd y datrysiad trafnidiaeth integredig ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy.
Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yw un o ystadau diwydiannol mwyaf Cymru, gyda tua 400 o fusnesau’n cyflogi tua 9,000 o bobl, ac mae’r Parc wedi dod yn un o rymoedd economaidd allweddol y rhanbarth. Mae’r ardal gyfagos wedi bod yn destun nifer o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i’r casgliad mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfyngu ar dwf yw’r cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o amgylch y Parc. Er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, rhaid integreiddio pob dull o gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn greiddiol iddo ar yr un pryd.
Amlinellodd yr adroddiad y prif yrwyr ar gyfer newid a’r ymyriadau allweddol ar gyfer llwybr beiciau a theithio llesol, gwelliannau i’r briffordd, y rhwydwaith bysiau a gwelliannau i’r rheilffordd.
Darparodd y cynigion cyffredinol lwyfan y gellid ei ledaenu o ran cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer mannau cyflogaeth allweddol lleol eraill, yn enwedig Brychdyn a’r safle Airbus cyfagos.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ymwneud â darparu mynediad didrafferth i bobl sydd eisiau gweithio yn yr ardal ond yn byw mewn Siroedd eraill yn y Gogledd neu’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed, oedd yn ganlyniad i waith y Cabinet yn hyrwyddo, ymgyrchu a lobïo am ddatrysiad ar gyfer Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ers blynyddoedd lawer. Gwnaeth sylwadau ar nifer y cyfleoedd y byddai hyn yn ei agor i’r Sir, y Gogledd a’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.
Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am i unrhyw newidiadau arfaethedig i batrymau aros ar linell reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a chynigion ar gyfer ffioedd meysydd parcio gorsafoedd rheilffyrdd gael eu cyflwyno i’r Cabinet.
Croesawodd y Cynghorwyr Butler a Bithell yr adroddiad hefyd, gan ddweud y byddai o fudd i gadw gweithwyr ar y Parc. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn falch o weld y gwelliannau arfaethedig i Barth 3, y gwelliannau i’r llwybr beicio a’r arhosfan lorïau arfaethedig y mae galw mawr amdano yn yr ardal.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r gwaith ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy a’i gysylltiadau â chynlluniau ehangach Metro’r Gogledd-ddwyrain gan Lywodraeth Cymru. |
|
Ail Gam y Buddsoddiad Cyfalaf mewn Goleuadau Stryd a Gosod Llusernau LED PDF 98 KB Prwpas: Derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno ail gynnig i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid i osod unedau LED rhad-ar-ynni yn lle’r colofnau goleuadau stryd aneffeithiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ail Gam y Buddsoddiad Cyfalaf yn y Seilwaith Goleuadau Stryd a’r Gwaith i Uwchraddio i Lusernau Deuodau Allyrru Golau (LED), gan egluro bod Llywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant y rhaglen gychwynnol i ailosod unedau, wedi nodi y gallai cyllid pellach fod ar gael i gwblhau’r prosiect.
Os bydd LlC yn ei gymeradwyo, byddai cyllid pellach yn arwain at gael holl seilwaith goleuadau stryd y Cyngor yn gweithio’n gyfan gwbl ar lusernau LED ynni effeithlon. Byddai cais yr ail gam yn tua £1.6m a byddai hyn yn galluogi ailosod y 6,500 o oleuadau sy'n weddill, nad oedd wedi'u cynnwys yn y prosiect cychwynnol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cyflwyniad Cam 2 Rhaglen Gyllido Cymru am Gyllid Cyfalaf i ailosod y Llusernau Goleuadau Stryd sy’n weddill gydag unedau golau LED newydd sy’n fwy effeithlon; a
(b) Cynnig, yn amodol ar gael cyllid gan LlC, contract ar gyfer ailosod yr unedau golau LED o dan Fframwaith Goleuadau Priffyrdd Cymru Gyfan i gaffael y llusernau. |
|
Mabwysiadu Nodyn Cyngor Datblygwr a Chanllawiau Atodol yn ymwneud â Newt Mitigation PDF 88 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r canllawiau atodedig fel Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ychwanegu pwysau i’r canllawiau pan gânt eu defnyddio at ddibenion Rheoli Datblygiad wrth bennu ceisiadau cynllunio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyngor i Ddatblygwyr a Chanllawiau Atodol mewn Perthynas â Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, oedd yn ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu dau nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio yn ffurfiol.
Mae’r Nodyn Cyfarwyddyd i Ddatblygwyr ar Ddatblygiad Tybiannol eisoes wedi’i fabwysiadu, ond heb ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae bellach wedi bod trwy broses ymgynghori gyhoeddus a gellir ei fabwysiadu’n ffurfiol fel Nodyn Cyngor. Roedd y Nodyn Mesurau Lliniaru Madfallod D?r yn Nodyn newydd, a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol rhif 8 presennol ar Warchod Natur, er mwyn ychwanegu cyngor mwy manwl ar y mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â Madfallod D?r Cribog. Gellir mabwysiadu’r Nodyn hwnnw fel Canllaw Cynllunio Atodol ffurfiol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo mabwysiadu’r Nodyn Cyngor Datblygiad Tybiannol a’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, er mwyn rhoi pwysau y tu ôl iddynt fel ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio penodol. |
|
Canolfan Cymorth Cynnar PDF 121 KB Pwrpas: I roi'r diweddaraf am gynnydd wrth gyflawni Canolfan Cymorth Cynnar, a cheisio cymeradwyaeth i lansio’r Ganolfan Cymorth Cynnar yn ffurfiol i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2018. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Ganolfan Cymorth Cynnar, oedd yn egluro y dyluniwyd y Ganolfan i’w gwneud yn bosib darparu ymyrraeth a chefnogaeth mwy amserol a phriodol i deuluoedd â mwy o anghenion.
Dros yr haf, cafodd y Ganolfan ‘lansiad tawel’ i brofi’r gweithdrefnau a’r trefniadau cydweithio arfaethedig. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd atgyfeiriadau gan asiantaethau partner nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant eu cyfeirio i'r Ganolfan. Cynhaliwyd adolygiad o’r lansiad tawel a amlygodd ddeilliannau cadarnhaol yn ogystal â meysydd y gellid eu mireinio a’u cryfhau. Mae’r Ganolfan bellach yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan asiantaethau partner a gweithwyr proffesiynol, a chynigiwyd lansio’r Ganolfan yn ffurfiol i ddarparu mynediad i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2018.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai prif fwriad y Ganolfan Cymorth Cynnar oedd darparu’r lefel uchaf o wybodaeth a dadansoddi’r holl gudd-wybodaeth a gwybodaeth hysbys ar draws y bartneriaeth aml-asiantaeth, er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gafael ar gyngor a gwybodaeth am gymorth cynnar perthnasol er mwyn datblygu sgiliau ymdopi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyn iddynt ymwreiddio.
Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid dod â’r Ganolfan Cymorth Cynnar at sylw Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddangos sut y mae gwaith y Ganolfan yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, a chytunwyd ar hyn. Gofynnodd hefyd am adroddiad i’r Cabinet yn cynnwys arfarniad o’r gwaith, a chytunwyd ar hyn hefyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo lansiad ffurfiol y Ganolfan Cymorth Cynnar i dderbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan y cyhoedd ym mis Ebrill 2018; a
(b) Cymeradwyo arfarniad ffurfiol o’r Ganolfan Cymorth Cynnar o fewn 12 mis i’w lansiad. Bydd yr arfarniad yn darparu dadansoddiad o’r adnoddau y mae asiantaethau’n eu cynnig, pa mor effeithio ydynt a’r deilliannau sy’n cael eu cyflawni. |
|
Pwrpas: Mae'r adroddiad hwn yn bwriadu newid rheolaeth llinell Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau a Cherddoriaeth i adrodd yn uniongyrchol i strwythur Theatr Clwyd a sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio'n llawn er mwyn manteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau ac effeithlonrwydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ar y Cynigion i Integreiddio Datblygu'r Celfyddydau a’r Gwasanaethau Cerdd gyda Theatr Clwyd.
Roedd rhan o gynigion cyllideb Cam 2 2018/19 yn cynnwys £0.075m i’w ddefnyddio o gyllid gostyngiad yn y dreth y Theatr i leihau’r cymhorthdal Gwasanaeth Cerdd presennol o £0.035m ac i roi cymhorthdal o £0.040m i Wasanaeth Datblygu'r Celfyddydau.Roedd y dull hwn yn gwarchod y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol ym mhob un o'r gwasanaethau.
PENDERFYNWYD:
Cytuno i integreiddio Datblygu’r Celfyddydau (Y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau) a’r Gwasanaeth Cerdd gyda Theatr Clwyd fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddogion (Newid Sefydliadol) a’r Prif Swyddog (Addysg a’r Amgylchedd) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet perthnasol, roi’r newidiadau hyn ar waith. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 51 KB Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Prif Weithredwr
Yng Nghylch 5, ystyriwyd 9 o geisiadau yng nghyfarfod y panel ar 29/11/17 a chymeradwywyd wyth cais hyd at werth o £2,229.99. Gyda Chylch 5 wedi’i gwblhau, mae £1,168.22 o’r gyllideb ar ôl i’w dyrannu.
Cymuned a Menter
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6) - Incwm a Gwariant, yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid. Mae’r cais i ddileu yn ymwneud ag un ddyled sy’n dod i gyfanswm o £5,390.31 am Ffioedd Cartref Gofal. Nid oedd gan y cwsmer unrhyw ecwiti yn eu hystâd, gan nad oeddent yn berchen ar y t? yr oeddent yn byw ynddo cyn symud i’r cartref gofal. Er bod y ddyled yn ddilys gan mai’r awdurdod a dalodd Ffioedd y Cartref Gofal, nid oes posib ei hadfer yn dilyn marwolaeth y cwsmer.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Prosiect Penyffordd – Comisiynu Cytundeb Pwrpas: I geisio cymeradwyaeth i gytundebu ar gyfer y prosiect gwella Cyfalaf yn Ysgol Penyffordd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gontractio ar gyfer y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Penyffordd, a gyllidwyd gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru Band A.
Mae gan y prosiect gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn gan LlC a bydd cymeradwyaeth yn cael ei geisio yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror 2018. Roedd cost ddangosol y prosiect ychydig yn uwch na’r cwmpas cyllido LlC y cytunwyd arno ar gyfer y rhaglen Band A.
Cafwyd trafodaeth am gost y prosiect, gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor pe bai’r diffyg yn parhau yn y cyllid. Roedd gwybodaeth gan y contractwr am gadarnhad o’r gwir gostau gan ei gadwyn gyflenwi yn dal heb ddod i law, ond mae disgwyl iddo fod yn hysbys erbyn diwedd Ionawr. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, cytunwyd i ddiwygio’r argymhelliad trwy dynnu’r geiriau ‘a goddefiannau ariannol a amlinellir o fewn yr adroddiad'.
Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cysylltu â LlC i geisio cymorth i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill, gan mai ar faint yn unig y mae methodoleg LlC wedi’i seilio, a chefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r contract er mwyn galluogi cam adeiladu a darparu’r prosiect gwella cyfalaf i fynd yn ei flaen, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynllunio; a
(b) Bod swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill i helpu gyda’r prosiect hwn. |
|
Polisi Gorfodi Cynllunio PDF 89 KB Pwrpas: Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gorfodi Cynllunio diwygiedig at ddibenion ymgynghori. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad y Polisi Gorfodi Cynllunio, oedd yn argymell llunio Polisi diwygiedig i ymgynghori arno.
Mae’r Polisi diwygiedig wedi cael ystyriaeth ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym mis Medi 2017, lle cafodd ei gefnogi ar ôl cynnwys tri mân newid oedd wedi'u hymgorffori yng nghorff y Polisi.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) bod Adran 9 y Polisi’n darparu safle amddiffynadwy i’r Cyngor dros pam fod rhai materion gorfodi’n cael eu dilyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal trwy wefan Sir y Fflint, gyda’r ddogfen derfynol hefyd ar gael ar y wefan honno. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog y byddai crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno ger bron un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Polisi Gorfodi Cynllunio diwygiedig at ddibenion ymgynghori. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd 11 aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol. |
|
Cronfa Gwaddol Cymunedol – Adroddiad Blynyddol PDF 109 KB Pwrpas: i) Derbyn adroddiad blynyddol y Gronfa Gwaddol Cymunedol, gan gynnwys adolygiad o ddyfarniadau grant Sir y Fflint. ii) Cefnogi’r cynnig i gyfuno Cronfa Deddf Eglwys Cymru a chronfa Sefydliad Cymunedol Sir y Fflint a throsglwyddo gweinyddiaeth a rheolaeth y gronfa i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. iii) Cymeradwyo CROSC i adolygu’r cynnig mewn manylder. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol y Gronfa Waddol Gymunedol, oedd yn ystyried cynnig a ddaeth i law gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i reoli, gweinyddu a buddsoddi Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd, sydd ar hyn o bryd yn cal ei weinyddu gan y Cyngor ar ran Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol gan yr Aelodau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar. Awgrymwyd argymhelliad ychwanegol i gael adroddiadau mwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa, a chefnogwyd hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei bod yn galonogol gweld yr incwm a gafwyd o fuddsoddiadau.
Gwnaeth y Cynghorydd Thomas sylwadau ar y broses o wneud cais am gyllid, gan ddweud y byddai'n fuddiol pe gellid hysbysu ymgeiswyr am y cynnydd ar wahanol gamau’r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Parhau i gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a dyfarniad grantiau lleol fel rhan o Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint;
(b) Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018;
(c) Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu grantiau Sir y Fflint a ddyfarnwyd gan Gronfa’r Degwm i’w cyfuno â’r broses sydd eisoes ar waith ar gyfer Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint; a
(d) Darparu adroddiadau’n fwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa. |
|
MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 8) PDF 109 KB Pwrpas: Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:
Cronfa’r Cyngor:
Cyfrif Refeniw Tai:
Yr amrywiannau mwyaf sylweddol a ragamcanwyd oedd y tanwariant ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r amrywiant cadarnhaol ar y gronfa gasglu Treth y Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ar y gorwariant yn ystod y flwyddyn ar Leoliadau y Tu Hwnt i’r Sir, ond roedd yr Aelodau’n fodlon ag ymateb y swyddogion y bydd y maes hwnnw’n cael ei adolygu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai. |