Rhaglen a chofnodion

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

CaiffAelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

JD ynghylch ei gwaith cyfredol ar ddysgu proffesiynol ar eitem 5 ar yr agenda. Aelodau Etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgol. 

28.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 7 Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwydfel cofnod cywir.    Dim materion yn codi

29.

Aelodaeth a chylch gorchwyl ar gyfer y Cyngor Cynghorol Sefydlog newydd

Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd KB bod canllaw Llywodraeth Cymru ddim ar gael eto ar y trefniadau cylch gorchwyl ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd. Efallai bydd Aelodau yn dymuno rhoi sylw ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau gwaith y pwyllgor megis cyfnodau mewn swydd a threfn cadeirydd.   Efallai bydd rhaid ystyried trefniadau ynghylch unrhyw newidiadau i bwyllgor cyfansoddiad y Cyngor ar nifer yr aelodau etholedig.

 

Cytunwyd: Aelodau i aros tan fydd canllaw ar gael ar aelodaeth newydd cyn ystyried unrhyw newidiadau i drefniadau gwaith.

Dywedodd VB yr addawyd y canllaw erbyn diwedd y flwyddyn ond y gallai fod yn ddefnyddiol cael cyflwyniad gan Gydlynydd Dyneiddiwr Cymru sydd wedi bod yn cyfarfod gyda CYSAG eraill.

 

Cytunwyd: i anfon gwahoddiad am gyfarfod i’r Cydlynydd Dyneiddiwr Cymru.

Cynigiodd y Cynghorydd CB bod angen rhoi ystyriaeth i grwpiau/ cymdeithasau eraill. Dywedodd VB ei bod yn edrych ar ddata gan ystadegau cenedlaethol i hysbysu’r math o gynrychioliad sydd yn adlewyrchu orau’r ardal. 

 

30.

Dysgu Proffesiynol

I dderbyn trosolwg ar y Dîm Datblygu Dysgu Proffesiynol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moesau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd VB bod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC)  yn gweithio ar adnoddau datblygu proffesiynol RVE ar ran Llywodraeth Cymru, gan geisio am ddatganiadau o ddiddordeb gan 10 gyfranogwyr i ymuno â’r gweithgor. Adnoddau dwyieithog a ddatblygwyd yn Nhymor y Gwanwyn ac wedi’u dosbarthu drwy HwB.

 

            Mewn ymateb i’r Cynghorydd CB, dywedodd VB bod y cyfranogwyr yn adnodd ychwanegol ar draws Cymru a bydd yn cael eu cefnogi gan gynghorwyr Addysg Grefyddol. Tra bod hyn yn gadarnhaol bod cyllid ychwanegol ar gael, bydd y gweithgor yn cael ei fonitro gan CCCYSAGC a fydd eisiau gwneud cais am ragor o gyllid yn ôl yr angen.

 

            Cadarnhaodd JD bod y dull yn ychwanegol i gyfranogwyr yr Eglwys yng Nghymru sydd hefyd yn datblygu adnoddau o’r fframwaith ac yn cydnabod yr adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn annog cyfranogwyr i ymuno â’r gr?p fel cyfle datblygu proffesiynol dda. 

 

31.

Cynhadledd Maes Llafur y Cytunwyd Arno 2022

Derbyn cyflwyniad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd mai cyngor CCYSAGC oedd mabwysiadu’r maes llafur erbyn mis Medi 2022 gyda’r Panel Ymgynghori Cenedlaethol i Addysg Grefyddol yn chwilio am ganllaw ar gyfer CYSAG at sut i roi’r maes llafur gyda’i gilydd. Cynigiodd VB ein bod yn dechrau gyda gweithgor i baratoi drafft, ar ôl y cyfarfod ar 9 Chwefror gyda dyddiad pellach i’w gymeradwyo,

 

Cytunwyd  i agor y gynhadledd yn dilyn y cyfarfod ar 9 Chwefror 2022.

 

 

32.

Autumn term WASACRE meeting (23 Tachwedd 2021)

Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd VB er bod y rhan fwyaf o waith rheolaidd y Pwyllgor megis derbyn adroddiadau Estyn a data perfformiad ysgol heb fod yn bosibl yn ddiweddar, diolchodd i’r aelodau oedd wedi cynrychioli’r awdurdod yng nghynhadledd CCYSAGC, Cynghorwyr DM; MP a CM.

 

            Ar nodyn penodol yn y Gynhadledd oedd myfyrdod y Cadeirydd a roddodd ddechrau cadarnhaol i’r cyfarfod. Cafwyd gyflwyniadau gan Gonsortia rhanbarthol, er eu bod wedi dangos gwahanol ffyrdd o wneud pethau,  roeddynt yn falch o adrodd o ranbarth y Gogledd bod CYSAG lleol yn parhau yn weithredol.

 

33.

Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2020 - 2021

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG 2020 – 2021 yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd VB ei fod dal yn ofyniad i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Cam Gweithredu: VB i baratoi drafft terfynol ar aelodaeth a gwaith CYSAG eleni a’i anfon i aelodau i gael unrhyw sylwadau drwy’r Cadeirydd.

 

Cam Gweithredu: Cadeirydd i ysgrifennu’r Rhagair i’r Adroddiad. 

 

34.

Gohebiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyr gan CCYSAGC yn cynghori ar gyfleoedd datblygu proffesiynol.

Dim mater arall.

35.

Cyfarfodydd yn y dyfodol

Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT  yn cael eu cynnal am 4.00 pm am

 

Dydd Mercher 9th Chwefror 2022

Dydd Mercher 8th Mehefin 2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfodydd CYSAG Sir y Fflint yn y dyfodol am 4.00pm:

 

Dydd Mercher 9 Chwefror 2022

Dydd Mercher 8 Mehefin 2022

 

Daeth y cyfarfod i ben am 16.33