Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Catherine McCormack; Cyng. Ian Roberts; Gareth Jones

2.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

Cofnodion:

Dim wedi eu datgan.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 81 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 26 Chwefror 2020 .

Cofnodion:

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.

 

Cynigiwyd gan DM, eiliwyd gan CB a derbyniwyd eu bod yn gofnod cywir. 

 

Materion yn codi:

Cynigiodd VB y dylid gwahodd Ysgol y Foel i rannu eu gwaith mewn cyfarfod yn y dyfodol.Cafodd cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ar 17 Mawrth 2020 ei ganslo oherwydd y pandemig.

4.

Dadansoddiad o adroddiadau arolygon Estyn pdf icon PDF 83 KB

Derbyn Adroddiadau Arolygon Estyn

 

 

Cofnodion:

            Cyfeiriodd VB at yr adroddiad a gylchredwyd gyda’r rhaglen ar ddadansoddiad o adroddiadau arolygu yn nhymor yr hydref 2019 a thymor y gwanwyn 2020. Oherwydd y pandemig mae Estyn wedi gohirio arolygiadau mewn ysgolion am y tro. Dywedodd fod Jayne Borthwick, Cynghorydd Cynradd yn gweithio er mwyn annog ysgolion i rannu eu harfer dda.Croesawodd y Cyng. B yr adroddiad.Wrth ymateb i PC, cadarnhaodd VB er nad yw Estyn yn cael arolygu cymeriad crefyddol y byddai’n chwilio am enghreifftiau i’w rhannu o’n holl ysgolion eglwysig.

 

Cam Gweithredu:VB i weithio gydag arweinwyr yr Esgobaeth i rannu arferion da o’u hysgolion.Cytunodd JM y byddai’n rhannu enghreifftiau o waith o’i ysgol.

 

5.

Derbyn diweddariad ar y cyfarfod WASACRE (Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru) a gynhaliwyd o bell ar 7 Hydref 2020

gellir gweld papurau'r cyfarfod yn http://www.wasacre.org.uk/meetings.html

 

Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Cofnodion:

            Dywedodd VB ar lafar fod cyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn nhymor y gwanwyn a’r haf wedi cael eu canslo oherwydd sefyllfa’r coronafeirws.Cynhaliwyd cyfarfod yr hydref ar-lein drwy blatfform Microsoft Teams a chafodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd ei gynnal ar yr un diwrnod. Dyma 25ain blwyddyn Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru.

Dyma’r pwyntiau allweddol a gododd yng nghyfarfod yr Hydref:

·         Trafodaeth ynghylch Fframwaith AG – gweler yr eitem rhaglen isod

·         Trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cefnogaeth a hyfforddiant arbenigol ar gyfer AG ar draws Cymru er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd.Mewn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a Swyddogion o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ar 18 Mehefin, cadarnhawyd y byddai cyllid ar gael ar gyfer pecyn dysgu proffesiynol am gyfres o adnoddau yn benodol ar gyfer AG, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer pawb sy’n ymwneud â dysgu AG ac i hyfforddi myfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.Soniwyd hefyd bod angen hyfforddiant penodol ar gyfer lleoliadau nas cynhelir.Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru hefyd wedi cytuno i ariannu cynhadledd i hyfforddi athrawon ar sut i ddefnyddio’r Fframwaith Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.Gan ystyried yr amgylchiadau newydd, cynigiwyd y byddai’n cael ei gynnal ar-lein.

·         Cyflwynwyd gwybodaeth am addasiadau arfaethedig i arholiadau Addysg Grefyddol TGAU a Safon Uwch ar gyfer haf 2021 – sydd nawr wedi eu disodli gan benderfyniad y Gweinidog ynghylch Graddau a Bennir gan Ganolfannau.

·         Ystyrir cynnig hyfforddiant i gynghorwyr a chlercod CYSAG a bydd paragraff addas yn cael ei gynnwys yn llawlyfr diwygiedig Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Ar Addysg Grefyddol, yn ogystal â pharatoi geirfa sy’n cynnwys termau’n ymwneud ag AG.

·         Nodwyd ei bod yn amlwg fod rhai athrawon sy’n gweithio yng Nghymru yn holi am gyngor gan sefydliadau wedi’u lleoli yn Lloegr.Nodwyd bod angen i Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru gynyddu ei phroffil fel sefydliad ac yn y man sicrhau bod athrawon yn ymwybodol o’u CYSAG lleol a all gynnig cyngor iddyn nhw.Mae cyfrif Twitter Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn cael ei ddefnyddio’n amlach ac mae tudalen Facebook yn cael ei chreu. Mae gwefan newydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru hefyd yn cael ei chreu ar hyn o bryd.

·         Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ethol Aelodau i’r Bwrdd Gweithredol; anfonodd 20 CYSAG eu pleidleisiau.Cafodd y rhain eu casglu a’u gwirio gan berson annibynnol. Is-Gadeirydd – cafwyd 3 enwebiad – cafodd Tania ap Sion ei hethol. Pwyllgor Gwaith – y ddau enwebiad llwyddiannus - Phil Lord a John Meredith.

·         Bydd y cyfarfod nesaf ar 23 Mawrth ac mae gennym hyd at dri chynrychiolydd o’n CYSAG ni a all fynychu.Hysbyswyd aelodau y gellir gweld holl bapurau’r cyfarfod yn http://www.wasacre.org.uk/cym/meetings

·         Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru a’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer AG (PYCAG) yn parhau i gyfathrebu’n rheolaidd am ddatblygiadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

 

6.

Derbyn diweddariad ar ddatblygiad y Fframwaith Cefnogi ar gyfer Addysg Grefyddol wrth baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022

Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddodd VB ddiweddariad ar lafar am y gwaith parhaus gan Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru a PYCAG sy’n ystyried ac yn ymateb i’r datblygiadau’n ymwneud yn uniongyrchol ag AG yn y cwricwlwm newydd i Gymru. Cafodd cynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru gyfarfod gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru ac eraill ar sawl achlysur drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae cydweithwyr o Lywodraeth Cymru hefyd wedi mynychu cyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru a’r Bwrdd Gweithredol, ac maen nhw wedi rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed.

Rhoddodd cydweithwyr o Lywodraeth Cymru sicrwydd i’r Bwrdd Gweithredol y byddai’r fframwaith drafft yn cael ei gyhoeddi yn hydref 2020. Yng nghyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ym mis Hydref, dywedodd Cadeirydd PYCAG mai ym Mehefin 2020 oedd y tro diwethaf iddi weithio ar y Fframwaith a theimlai bryd hynny ei fod yn barod i gael ei rannu â Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol.Yna cafodd y ddogfen ei throsglwyddo i’r adran gyfreithiol yn Llywodraeth Cymru.Soniodd VB nad oes cadarnhad hyd yma pryd y rhennir y ddogfen gyda phob CYSAG na phryd bydd y dyddiad cyhoeddi wedi hynny.

Y bwriad oedd creu’r ddogfen mewn cydweithrediad â Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol fel y gallan nhw deimlo cydberchnogaeth o’r ddogfen a chroesawu’r ffaith y bydd yn cael ei mabwysiadu fel maes llafur cytunedig yr Awdurdod Lleol. Dylai pob CYSAG gael cyfle i ymateb i’r ddogfen cyn iddi cael ei chyhoeddi’n derfynol.

Cytunodd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei siom nad yw’r Fframwaith wedi ei chyhoeddi. Serch hynny, nododd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yr angen i nodi a chydnabod yr heriau ychwanegol a’r cyfyngiadau amser mae gweithwyr Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd gan fod angen iddyn nhw weithio ar faterion eraill yn ymwneud ag ymateb i’r pandemig.

Ers hynny, mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cael cyfarfod gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr a rhoddwyd sicrwydd y byddai’n cael ei ryddhau ym mis Ionawr.Fodd bynnag, nid yw hyn wedi digwydd hyd yma.Mae’r Bwrdd Gweithredol nawr wedi cael gwahoddiad i gyfarfod arall gyda Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.Mae’r ddogfen wedi ei golygu’n swyddogol gan olygyddion cwricwlwm felly wrth i ni agosáu at y Pasg, gallwn obeithio y bydd dogfen ddrafft yn barod i’w rhannu gyda phob CYSAG.

Cynigwyd a chytunwyd y dylai’r gr?p hwn gael cyfle i ymateb i’r ddogfen ddrafft mewn cyfarfod arbennig ac adrodd yn ôl i gyfarfod CYSAG ym Mehefin.

 

Cam Gweithredu: VB i drefnu cyfarfod ychwanegol, y dyddiad i’w gadarnhau. 

 

Ymunodd JA â’r cyfarfod am 4.25pm

 

 

7.

Dysgu o bell

PortfolioDerbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Cofnodion:

            Croesawodd y Cyng. B ymdrechion ysgolion yn ystod y cyfnod hwn a gofynnodd sut mae addysg grefyddol a moesol wedi parhau. Esboniodd VB fod gofynion sylfaenol y cwricwlwm ar gyfer Cymru, a threfniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrinfa nas cynhelir, wedi cael eu diwygio fel rhan o Ddeddf Coronafeirws 2020, yn amodol ar adolygiadau misol.Rhaid i ysgolion wneud pob ymdrech i gyflawni eu dyletswyddau cwricwlwm.Ni wnaed dadansoddiad manwl o bynciau unigol ar draws ysgolion ond mae GwE wedi gweithio gydag ysgolion i edrych ar ddysgu cyfunol a pharatowyd adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu Addysg.

 

Esboniodd VB fod hyn yn golygu y dylai ysgolion wneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i ddysgu holl ddyletswyddau’r cwricwlwm.Os nad yw ysgolion wedi bodloni gofynion y cwricwlwm ar ôl cymryd pob cam rhesymol, yna ystyrir eu bod wedi cwrdd â’u dyletswyddau deddfwriaethol.

 

Wrth gyfeirio’n benodol at Addoli ar y Cyd mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru yn datgan “Dylai grwpiau gael eu cadw ar wahân, sy’n golygu y dylai ysgolion osgoi ymgynnull yn dorfol er enghraifft cynnal gwasanaethau neu addoli ar y cyd gyda mwy nag un gr?p”.

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi datblygu dull dysgu ac addysgu ‘Dysgu Cyfunol’ er mwyn bod yn addas ar gyfer disgyblion sy’n dysgu mewn amgylcheddau gwahanol – gartref neu yn yr ysgol oherwydd y pandemig. Mae’r pedwar consortiwm ac Estyn wedi cynhyrchu modelau dysgu cyfunol.Mae Rhwydweithiau Dysgu AG hefyd yn gweithio ar ddeunyddiau ac mae adnoddau wedi eu rhannu ar Hwb.Mae pwyslais nawr ar gynhyrchu adnoddau safonol i hyrwyddo’r arfer orau mewn AG yn ogystal ag ar gynnydd, gan fod hwn yn parhau i fod yn fodel dysgu angenrheidiol.Mae enghreifftiau o AG hefyd yn nogfen ganllawiau Dysgu Cyfunol Estyn a’r Consortia.

Bu ysgolion yn cynnal gwasanaethau rhithiol ar gyfer dosbarthiadau, grwpiau blwyddyn a hyd yn oed ysgolion cyfan pan oedden nhw yn yr ysgol y tymor diwethaf.Mwy heriol gyda dysgu o bell.

 

Holodd y Cyng. B sut mae ysgolion wedi ymdrin â lles plant.Dywedodd SP eu bod wedi recordio gwasanaethau yn ei ysgol ef am faterion yn ymwneud â lles ac AG drwy gyfrwng SeeSaw ar gyfer rhieni a disgyblion, gyda gweithgareddau wythnosol y gallai teuluoedd eu gwneud gyda’i gilydd.Dywedodd LO fod yr Esgobaeth wedi cynhyrchu deunyddiau cefnogi da iawn y gellir eu rhannu yn yr ysgol neu gartref a chyfeiriodd at y dathliadau Nadolig a gafodd eu rhannu ar-lein. Dywedodd JC ei fod wedi derbyn cyngor da gan Gynghorydd Herio AG GwE ac aeth ei ysgol ati i adeiladu eglwys wedi’i gwneud o lego.

 

Dywedodd VB fod rhai ysgolion yn dal i gynnal gwasanaethau ar-lein ac yn cynhyrchu adnoddau i ddisgyblion, e.e.Diwrnod Cofio'r Holocost ac Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i ysgolion.

 

Mae HPD yn croesawu sut y bu ysgolion yn defnyddio’r adnoddau a dywedodd fod adnoddau ar gael yn ddwyieithog gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.Dywedodd fod swyddog o Ymddiriedolaeth Undeb yr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Gohebiaeth

Cofnodion:

Dim.

9.

Cyfarfodydd y dyfodol

Dyddiad cyfarfod nesaf:   

 

Dydd Mercher, 16 Mehefin  2021

 

Cofnodion:

Dyddiad y cyfarfod nesaf:Dydd Mercher, 16 Mehefin 2021 am 4pm drwy webex

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.55pm