Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ysgol Maes Garmon, Conway Street, Mold, CH7 1JB
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Croesco a chyflwyniadau Cofnodion: Agorodd VB y cyfarfod wrth holi pwy oedd is-gadeirydd etholedig y cyfarfod.Mae Delyth McIntyre wedi ymddiswyddo.Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cyng Chris Bithell yn cadeirio’r cyfarfod.Cytunwyd bod y cyfarfod â chworwm gan fod traean o’r swyddi wedi’u llenwi wedi’u cynrychioli (gellir diystyru swyddi gwag ar gyfer cyfrifo hyn).
Hoffai’r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyfleu wrth Delyth McIntyre y byddent yn gweld ei cholli a diolchwyd iddi am ei chyfraniad rhagorol i CYSAG.Cam Gweithredu:Bydd VB yn ysgrifennu ati ar ran y gr?p.
Gofynnodd y Cadeirydd fod cardiau enwau yn cael eu defnyddio yn y cyfarfod nesaf.Cam Gweithredu:VB i weithredu.
|
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.
Cofnodion: Dywedodd CB wrth y gr?p ei fod yn aelod o’r Eglwys yng Nghymru. |
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2018. Materion yn codi:
Tudalen 4 – Mae Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Sir y Fflint 2017-18 gan VB a bydd yn ei ddosbarthu
Tudalen 5 – Nid yw Cofnodion CCYSAGC wedi’u cynnwys yn y rhybudd o’r cyfarfod.Er gwybodaeth, mae’r rhain ar gael ar wefan CCYSAGC yma www.wasacre.org.uk/cym-meetings.html |
|
Cylch Gorchwyl Diwygiedig ar gyfer Cymeradwyo PDF 223 KB Cofnodion: Soniodd VB am bob adran sydd wedi’u diwygio yn dilyn eu hadolygu.Mynegodd y Cadeirydd bryderon o ran cynrychiolaeth. Cam Gweithredu:VB i ddilyn trywydd y cais am enwebiadau.
Mae angen tynnu sylw cynrychiolwyr ysgol fod y cyfarfod wedi symud o 2pm i 4pm.Cam Gweithredu:I’w egluro pan gaiff y cofnodion a’r rhaglen eu dosbarthu.
Tudalen 7 – Darparwyd cywiriadau o ran yr enwau cywir ar gyfer yr Enwadau Crefyddol sydd i gael eu cynrychioli.Cam Gweithredu:VB i sicrhau eglurder o ran y teitlau cywir.
Tudalen 10 – (j) copi o’r adroddiad blynyddol i gael ei anfon at CCYSAGC erbyn 13 Rhagfyr.Cam Gweithredu:VB i ddilyn trywydd hyn.
Tudalen 10 - 5.2 Newid i Prif Swyddog Addysg.Cam Gweithredu:VB i’w newid.
Gyda’r diwygiadau uchod, cytunwyd yn unfrydol ar y Cylch Gorchwyl diwygiedig. |
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu I dderbyn adroddiad yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Addysg a Phortffolio Ieuenctid Cofnodion: Rhoddodd VB grynodeb o adroddiadau arolygu.Dywedodd wrth y gr?p, byddai’n arfer da pe gallai ysgolion ddefnyddio enghreifftiau Addysg Grefyddol wrth ddangos enghreifftiau i Estyn.Cytunodd CYSAG i weithio ar hyn.
Soniodd JA am adroddiad Estyn rhagorol Ysgol Gynradd Ewloe Green a dywedodd y dylid ei nodi a dylid ysgrifennu at yr ysgol i’w llongyfarch.Cam Gweithredu:VB i ysgrifennu ar ran CYSAG.
|
|
Cwricwlwm Newydd i Gymru - Ymgynghoriad Cenedlaethol I dderbyn trosolwg o Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn sy'n nodi cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ei hangen ac mae'n agored i'w ymgynghori o 28 Ionawr i 22 Mawrth 2019. Cofnodion: Rhoddodd VB grynodeb o’r ddogfen ymgynghori ac anogodd aelodau i’w darllen yn llawn. Cam Gweithredu:VB i ddrafftio sylwadau ar gyfer ymgynghori ar ran CYSAG yn enwedig o ran cwestiynau 9 – 13. |
|
WASACRE · I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 20 Tachwedd 2018.
·
I gytuno ar bresenoldeb yng
nghyfarfod nesaf CYSAGC ar 26 Mawrth 2019.
Cofnodion: Trafodwyd presenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth 2019, ond nid oes unrhyw un ar gael i fynychu.VB i weld a yw hi ar gael i fynychu ar ran CYSAG.
Cynhelir cyfarfod Tymor yr Haf yng Nghonwy a chaiff presenoldeb ei drafod. |
|
Cyfarfodydd y dyfodol Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir 12th Mehefin 2019 Cofnodion: Mae angen pwysleisio wrth gynrychiolwyr athrawon bod y cyfarfodydd yn dechrau am 4pm bellach.Cam Gweithredu:GJ i godi hyn yn y Fforwm Addysg Grefyddol
Dydd Mercher 12 Mehefin 2019 – 4pm – lleoliad i’w gadarnhau
Daeth y cyfarfod i ben am 5:30pm |