Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

15.

Croesco a chyflwyniadau

Cofnodion:

Yn dilyn cyfnod o fyfyrio ar y dechrau, croesawodd DM y cydweithwyr i’r cyfarfod. Cytunwyd parhau i gynnal y cyfarfod er gwybodaeth gan nad oedd nifer yr aelodau yn gwneud cworwm. Oherwydd bod cylch gorchwyl y pwyllgor wedi dyddio, cynigodd CH y dylid creu drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i amseriad y cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn cynorthwyo ysgolion â’u costau athrawon llanw a gofyn i Ffederasiynau Penaethiaid enwebu cynrychiolwyr athrawon.

 

Cam Gweithredu:

Cynnig diwygio’r cylch gorchwyl yn y cyfarfod nesaf. Nodi bod y cyfarfod nesaf i ddechrau am 4.00pm yn Ysgol Maes Garmon a rota lleoliadau rhwng y Cyngor ac ysgolion.

 

16.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

17.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018.

 

Materion yn codi: 

 

Oherwydd bod Phil Lord yn dychwelyd i’w rôl gyda GWE, dywedodd CH mai hi fyddai’n ymgymryd â rôl Ymgynghorydd Statudol y Pwyllgor yn y cyfamser.  Yr Ymgynghorydd Gwella Ysgolion fyddai’n cyflawni’r rôl ar ôl i’r Awdurdod benodi un. 

 

Tudalen 3 – CH i fynd ar drywydd unrhyw adroddiadau Estyn sy'n amlygu cydymffurfedd â gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd. Dywedodd RW ei bod yn ceisio eglurhad gan Estyn yngl?n â’u meini prawf ar gyfer dyfarniadau.

 

Tudalen 4 – nodwyd bod yr adnoddau lefel A ar gael yn Saesneg a Chymraeg.

 

Tudalen 5 – CH i weithredu ar ddatrysiadau yn a) a b).

 

Cam Gweithredu:

 

Tudalen 6 – dywedodd RW y byddai unrhyw gynrychiolaeth cred ehangach ar y pwyllgor o fewn y canllawiau statudol crefyddol. 

 

18.

Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG 2017-18 pdf icon PDF 320 KB

Ystyried adroddiad i gymeradwyo drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG.

 

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad hwn er nad oedd nifer o’r aelodau wedi derbyn copïau cyflawn gyda’r hysbysiad cyfarfod. 

 

Cam Gweithredu:

CH: adroddiad llawn i’w ddwyn ymlaen yn y cyfarfod nesaf.

 

19.

Dadansoddi adroddiadau arolygu

Cofnodion:

Cadarnhaodd AB bod adolygiad o adroddiadau archwilio diweddar yn dangos bod ysgolion yn cyfeirio at gredoau ysbrydol, moesegol a moesol disgyblion ac felly byddai CYSAG yn hyderus bod ysgolion yn cyflawni eu gofynion statudol. 

 

Cam Gweithredu.

Adroddiad i'w ddwyn ymlaen yn y cyfarfod nesaf.

 

20.

Y newyddion diweddaraf am Gwricwlwm Cymru - Dan arweiniad Alison Butler ar ran Claire Homard

Cael y newyddion diweddaraf am gynnydd dysgu Addysg Grefyddol yn y cwricwlwm newydd a chael adborth.

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniad gan AC, ceisiwyd adborth gan unigolion yngl?n â’r meysydd dysgu Dyniaethau arfaethedig.   Anogodd RW y gr?p i drafod a rhoi adborth am themâu allweddol yn ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am ymateb terfynol erbyn 16 Tachwedd.  Trafodaeth gr?p am hyfforddi llywodraethwyr ar y cwricwlwm newydd; monitro cydymffurfedd mewn ysgolion.  

 

Item 7 - Powerpoint slides pdf icon PDF 587 KB

21.

Cais gan Lywodraeth Cymru am Gwestiynau ac Adborth ar Weithdy CYSAG

I’w drafod gan y Pwyllgor

 

Cofnodion:

Wedi’i ohirio

 

22.

WASACRE

(a)           Dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y gymdeithas yn Llangefni 6th  Gorffennaf 2018

(b)           Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ar 20 Tachwedd, Ysgol Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

 

 

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd cofnodion CCYSAGC wedi cael eu cynnwys gyda’r hysbysiad cyfarfod chwaith.

 

Cam Gweithredu:

 

CH i godi’r mater gyda’r Adran Gwasanaethau Pwyllgorau.  Anfonir ymddiheuriadau gan y gr?p ar gyfer cyfarfod 20 Tachwedd 

 

23.

Cyfarfodydd y dyfodol

Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol am 2.00 pm ddydd

 

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019

Cofnodion:

Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 – 4.00pm yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, i’w gadarnhau

 

Dydd Mercher 12 Mehefin 2019

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.20pm