Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: to be confirmed

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyng. Dave Mackie; Cyng. Colin Legg;

2.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw beth ei ddatgan ond fe nodwyd yr aelodau etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgolion.  

3.

Cofnodion pdf icon PDF 65 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 25 Tachwedd 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd fel cofnod cywir.  Dim materion yn codi.

4.

Canllawiau a deddfwriaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (dolenni isod)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd VB at y ddogfen ar y we, cafodd dolenni eu dosbarthu gyda’r rhaglen gan nodi mai dim ond ar-lein y mae’r adnoddau sy’n gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth a chanllaw ar gael, ac nid ydynt bellach yn cael eu cyhoeddi fel copïau papur.

 

 

            Roedd VB yn croesawu cynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd, gan nodi fod y canllaw wedi cael ei ddylanwadu gan gyfraniadau o’r gr?p yma a grwpiau CYSAG eraill, a dywedodd fod y dogfennu felly yn ddogfennau cyfeirio pwysig.  Dywedodd y dylid cytuno bod y dogfennau yn addas i’w pwrpas ac y dylid eu defnyddio er mwyn bodloni ein hamcanion statudol ar gyfer Maes Llafur Cytunedig.  Fe nodwyd yn y cyfarfod y bydd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn cael ei hagor yn ffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod hwn a bod gwahoddiad i bob aelod fynychu. 

Ymunodd JA â’r cyfarfod am 16.05pm.

 

            Gofynnwyd i’r aelodau nodi’r argymhelliad i’r Gynhadledd, bod gweithgor yn cael ei sefydlu i gynghori ar gynnwys y Maes Llafur Cytunedig a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Gynhadledd lawn i’w fabwysiadu ym mis Mai. Roedd VB yn gobeithio y byddai cynifer o aelodau â phosibl yn cymryd rhan yn y ddau gyfarfod gweithdy sydd wedi’u cynllunio. 

 

 

            Rhannodd JD gyflwyniad PowerPoint o enghreifftiau o ysgolion cynradd Santes Fair,  Pentref Penarlâg a Westwood, o’u gwaith  yn defnyddio Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn pedwar pwrpas y Cwricwlwm newydd, er enghraifft sut y byddent yn croesawu ffoaduriaid. 

 

 

            Diolchodd CB i JD am rannu gwaith ysbrydoledig gan ddisgyblion.  Dywedodd VB fod gan y Cyngor becyn craidd o gefnogaeth, yn cynnwys i ysgolion.  Roedd yr ysgolion hynny a groesawodd ffoaduriaid wedi rhoi croeso cynnes iddynt.  Mae cynllun peilot ar waith i ysgolion fod yn Ysgolion Noddfa a bydd y cynllun peilot yn cael ei lansio yn nhymor yr haf. 

 

Cam Gweithredu; VB i roi diweddariad i’r cyfarfod yn y dyfodol am waith y cynllun peilot.

 

            Diolchodd VB i JD am gasglu’r gwaith gan y disgyblion. Yn y gorffennol byddai aelodau wedi derbyn sylwadau yn uniongyrchol gan ddisgyblion.  Roedd y cyfarfod yn croesawu’r cyfle i ymweld ag ysgolion mor fuan â phosibl.

 

5.

Cyflwyniad - Prosiectau ysgol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am loches/ymfudo a digartrefedd

Derbyncyflwyniad gan Jennie Downes, Swyddog Addysg Esgobaeth Llanelwy.

Dogfennau ychwanegol:

6.

Gohebiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Fe soniodd VB wrth y cyfarfod am e-bost a gafodd heddiw gan Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn hysbysu Cyfarfodydd CYSAG lleol am bedair swydd wag ar y Pwyllgor, a bod angen enwebiadau erbyn 8 Ebrill 2022. 

 

Cam Gweithredu: VB i ddosbarthu llythyr i aelodau, a dylid rhoi gwybod i VB am unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.  Fe soniodd y Cyng. CB am y cyfnod etholiadau oedd i ddod a’r posibilrwydd y byddai yna aelodau etholedig newydd.

 

            Fe soniodd VB hefyd am ymgynghoriad am gyfansoddiad Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru.

Cam Gweithredu: Rhoi sylwadau i VB a fydd yn adrodd yn ôl yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC.  

 

Ni chodwyd unrhyw fater arall. 

 

7.

Cyfarfodydd yn y dyfodol

Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT  yn cael eu cynnal am 4.00 pm am Dydd Mercher 8th Mehefin 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf CYSAG yn cael ei gynnal am 4.00pm dydd Mercher 8 Mehefin 2022.

 

8.

Presenoldeb aelodau o'r wasg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim