Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Penodi Caderydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Cofnodion:

Penodi Chris Bithell fel Cadeirydd

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Cofnodion:

Penodi Catherine McCormack fel Is-Gadeirydd

 

CROESO A CHYFLWYNIADAU

Cafwyd diweddariad gan VP ar aelodaeth:

Cyflwynwyd AM fel aelod cyfetholedig, CM fel Prif Gynrychiolydd Uwchradd a JM fel cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig. 

 

Gofynnwyd am enwebiadau gan Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd ac mae’r Parch Simon Percy o Ysgol Gynradd Golftyn wedi cael ei enwebu fel cynrychiolydd ysgolion cynradd.

 

Mae gwahoddiad wedi cael ei ymestyn hefyd i Wendy White yn ei chymhwysedd fel Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer Esgobaeth Gatholig Wrecsam yn dilyn ymddeoliad cyn ddeiliad y swydd.

 

Cynghorodd RW fod Sue Jones yn rhoi’r gorau iddi 18 mis yn ôl ac ni ddylai fod ar y rhestr erbyn hyn.Yna gwahoddwyd RW i chwilio am enwebiad newydd ar ran CYSAG.

 

3.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Janet Axworthy, Paul Cunningham a Gareth Wyn Jones 

4.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

Cofnodion:

Dim

5.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion o gyfarfod 12 Mehefin 2019 fel cofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol.

 

Materion sy'n codi:

  • Angen cynrychiolydd AG uwchradd. Bydd VB yn mynd â hyn i gyfarfod Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd am enwebiadau
  • Reminder to be sent to elected members who have not attended for some time.

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

 

6.

Diweddariad Adroddiadau Arolygu Estyn pdf icon PDF 71 KB

Cofnodion:

            Cafwyd crynodeb gan VB ar yr adroddiadau archwiliad o dymor hydref 2019. Bydd yn parhau i roi adborth i Estyn yngl?n â’r diffyg enghreifftiau da wedi’u nodi mewn adroddiadau yngl?n ag Addysg Grefyddol.

 

            Gwahoddiad i Ysgol y Foel i’r cyfarfod nesaf ynghylch yr adborth cadarnhaol a gafodd yr ysgol yn ei archwiliad Estyn diweddaraf ar gyfer Addysg Grefyddol. 

 

            Ysgrifennir at yr ysgolion yn eu llongyfarch ar y sylwadau cadarnhaol yn eu hadroddiadau archwilio mewn perthynas ag Addysg Grefyddol ac Addoli Ar Y Cyd.

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Addysg Grefyddol

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan yr Uwch-Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion.

Cofnodion:

            Cafwyd diweddariad ar lafar gan VB. Mae’r teitl newydd ar gyfer Addysg Grefyddol (Crefydd, Gwerthoedd a Moesau) yn achosi problemau ac mae dal posibilrwydd i drafod hynny. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl am fframwaith ddrafft ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

            Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi gofyn am Gyfarfod Arbennig i gael ei gynnal ym mhob awdurdod i roi adborth i Lywodraeth Cymru. Mae CYSAG Wrecsam yn cynnal eu cyfarfod ar 26/03/20 ac wedi ymestyn cynnig agored i bobl ymuno ar gyfer trafodaeth ar y cyd.VB i ddosbarthu manylion i weld os gall rhywun fynychu.VB i ysgrifennu at CYSAG Wrecsam yn diolch iddyn nhw am y gwahoddiad.

8.

CYMDEITHAS CYNGHORAU YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL CYMRU

·                I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 26 Mawrth 2019.   http://www.wasacre.org.uk/meetings.html

 

·                Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 17 Mawrth 2020 ym Merthyr Tudful

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan VB ar y prif bwyntiau o Gyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru diwethaf:

 

·         Adnoddau ar gael i’r holl CYSAGau

·         Y gobaith yw bydd y CYSAGau yn mabwysiadu’r Fframwaith AG ar y cyd â’r cwricwlwm newydd er nad oes raid iddyn nhw a gallan nhw ysgrifennu cwricwlwm/maes llafur eu hunain.Byddai hyn fodd bynnag yn golygu cyfanswm sylweddol o amser ac adnoddau i’w gyflawni.

·         Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi ysgrifennu at Brif Swyddogion Addysg yngl?n â diffyg cydymffurfiad â gofynion Addysg Grefyddol.Mae hyn wedi cael ei godi gyda phenaethiaid uwchradd mewn cyfarfod diweddar o’r Fforwm Penaethiaid.VB i ddod a gwybodaeth bellach i’r cyfarfod nesaf yngl?n â’r sefyllfa yn Ysgolion Sir y Fflint ynghylch cydymffurfiad â’r gofynion hyn.

 

            VB i fynychu’r cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru nesaf ar 17 Mawrth 2020 ym Merthyr Tudful gan roi gwybod i’r gr?p o ddyddiad a lleoliad ar gyfer cyfarfod tymor yr haf yn syth wedyn fel bod cyn cymaint o gynrychiolwyr ag sy’n bosib yn gallu mynychu.

 

            Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi gofyn am wirfoddolwyr i’w Pwyllgor Gwaith ac am Is-Gadeirydd.Cynigodd VB ei henw ymlaen ac fe gymeradwywyd hynny gan y cyfarfod.

 

9.

Adroddiad Blynyddol ar gyfer CYSAG 2019-2020

I dderbyn adroddiad yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Addysg a Phortffolio Ieuenctid

 

Cofnodion:

            Cynghorodd VB y cyfarfod ei bod wedi drafftio cymaint ag y gallai hyd yma (dosbarthwyd copi).Gofynnir am adborth erbyn dydd Gwener, 6 Mawrth 2020 ac mi fydd yna’n e-bostio’r fersiwn terfynol. VB i lunio drafft o’r llythyr gan y Cadeirydd i gael ei gynnwys. Bydd yn ei anfon at y Cadeirydd yfory i’w gadarnhau.

 

10.

Gohebiaeth:

Syniadau AG:Derbyniwyd gan Rheinallt Thomas, anfonwyd ar ran REMW.   Ffeiliau PDF ar Syniadau AG ar gyfer 3 tymor y flwyddyn academaidd hon yn Saesneg a Chymraeg. Copïau wedi cael eu hanfon i ysgolion.  

 

Cofnodion:

            Syniadau AG adderbyniwyd gan Rheinallt Thomas ar ran REMW.   Ffeiliau PDF o Syniadau AG ar gyfer 3 tymor y flwyddyn academaidd hon yn Gymraeg a Saesneg. Copïau wedi’u hanfon at ysgolion.Copïau yw darparu i CYSAG trwy e-bost.

 

11.

Cyfarfodydd y dyfodol

Dyddiad y cyfarfod nesaf:   

 

10th Mehefin 2020- 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

 

 

Cofnodion:

Dydd Mercher 10 Mehefin 2020   4pm