Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

Cofnodion:

DMc    Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir

Cofnodion:

PL       Eitem Agenda 5, Penderfyniad (b) – Ni chysylltwyd ag Estyn o ran y sylw Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol ar gyfer Ysgol Pen Coch.

 

DMc    Eitem Agenda 6 – Gofynnwyd am eglurhad am gais gan Kirsty Williams AC.

 

PL       Bydd data ar gael yn nhymor y gwanwyn er na fydd yn cael ei ddangos yn y data tan y flwyddyn nesaf oherwydd nad yw ysgolion yn cynnig cyrsiau bellach. Gan nad oes rhaid i ysgolion ddarparu TGAU Addysg Grefyddol, bydd yn ddiddorol darganfod gyda beth fyddant yn ei ddisodli.          

 

RW     Os darganfyddir nad yw ysgol yn darparu’r ddarpariaeth ofynnol, dylid adrodd hyn yn ffurfiol i’r Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yng Nghyngor Sir y Fflint.

 

PL       Eitem Agenda 7 – Mae ymateb i’r ail lythyr addoli ar y cyd wedi dod i law gan Kirsty Williams AC. Mae’r ateb yn dweud nad yw hwn yn fater i’r Gweinidog a dylid cysylltu â Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.

            Roedd yr ymateb gan Mr Blaker yn egluro’r rhesymau dros y newidiadau i’r fanyleb a nodi na ellid newid y fanyleb ar hyn o bryd yng nghylch oes y fanyleb bresennol er mwyn sicrhau cywirdeb academaidd ar draws Cymru a Lloegr.  

            Mae’n bosibl bod achos i ymateb i Mr Blaker i amlinellu anfodlonrwydd.

 

PENDERFYNIADAU

 

(a)  Bod PL yn cysylltu ag Estyn o ran y sylw am Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol ar gyfer Ysgol Pen Coch;

 

13.

Fframwaith Arolygu newydd Estyn

I dderbyn cyflwyniad ar y Fframwaith Arolygu Newydd.

Cofnodion:

PL       Mae Estyn wedi creu fideo YouTube tri munud newydd i amlinellu’r fframwaith newydd ac argymhellir bod aelodau yn edrych arno pan fydd yn gyfleus.

 

https://www.youtube.com/watch?v=sNZBKB_OK_4

 

            Mae pum maes arolygu bellach:

·         Safonau;

·         Lles ac agweddau tuag at ddysgu;

·         Profiadau addysgu a dysgu;

·         Gofal, cymorth ac arweiniad;

·         Arweinyddiaeth a rheolaeth

14.

Dadansoddi adroddiadau Arolygu (Adroddiad Ynghlwm) pdf icon PDF 68 KB

I dderbyn a dadansoddi Adroddiadau Arolygon diweddar Estyn.

 

Cofnodion:

PL       Nid yw pob Adroddiad Arolygu Estyn yn cynnwys sylwadau am ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Ysgrifennwyd at y Gr?p Cynghori a Mark Campion (Estyn) er mwyn egluro pam nad yw wedi’i gynnwys mewn rhai adroddiadau.

           

Dan y fframwaith newydd, dyfarnwyd sgôr ‘Rhagorol' ar gyfer y categori ‘Gofal, Cymorth ac Arweiniad’. Fodd bynnag, mae hyn er gwaethaf sylw sy’n nodi nad oes gan rai aelodau o staff ddealltwriaeth ddigon clir o ofynion y rhaglen hon (gan gyfeirio at y rhaglen ‘thought of the day’). O ganlyniad, nid yw’r ysgol yn bodloni’r gofyniad statudol hwn.

 

Holwyd a ddylid cysylltu ag Estyn i egluro eu sefyllfa ar pa mor briodol yw dyfarnu sgôr rhagorol ar gyfer Gofal, Cymorth ac Arweiniad tra nad yw’r ysgol yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer darparu gweithred ddyddiol o Addoli ar y Cyd.

 

DMc    Mae safonau wedi cael sgôr ‘Da’, ond wrth gyfeirio at y sylw fod lleiafrif o ddisgyblion yn gallu mynegi eu syniadau yn hynod o aeddfed a chlir, mae’n debyg bod gallu lleiafrif yn cario mwy o ddylanwad na gallu’r mwyafrif.

 

PL       Mae’r sylw hwn yn ymwneud mwy â safonau llythrennedd yn hytrach nag Addysg Grefyddol.

 

DMc    Ar y cyfan, mae’n adroddiad da, cadarnhaol.

 

PL       Nid oes argymhelliad yn yr adroddiad am addoli ar y cyd.

 

CL       Mae adroddiad Ysgol Rhos Helyg yn gadarnhaol a chanmoladwy iawn.

 

PENDERFYNIADAU

 

(a)  Bod PL yn cysylltu ag Estyn o ran yr anghysonder yn adroddiad Castell Alun rhwng y sgôr a’r sylw.

 

15.

Canlyniadau Arholiadau 2017 (Adroddiad Ynghlwm) pdf icon PDF 66 KB

Ystyried adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PL       Cyfeirir at dablau data TGAU (tudalen 13 Pecyn Agenda) a thrafodir yr holl ganlyniadau.

 

            Mae canlyniadau cwrs llawn A*-C yn uwch na’r canlyniadau cwrs byr.

            Nododd y drafodaeth rhai camgymeriadau yn y tablau.

 

Mae HPD yn gadael y cyfarfod.

 

PL       Gan ymateb i gwestiwn gan JD, nid yw’n hysbys a roddir ystyriaeth i ddarparu Addysg Grefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

PL     Gan ymateb i gwestiwn gan IR, mae perfformiad gwael y cwrs byr yn debyg i’r canlyniadau cenedlaethol. Yn hanesyddol, mae’r cwrs llawn wedi’i lunio o ddwy fanyleb ‘cwrs byr’.  Byddai disgyblion sydd wedi eu targedu ar radd C ac uwch yn cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs llawn a byddai’r disgyblion sydd wedi eu targedu yn is na gradd C yn cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs byr, byddai hyn yn sicrhau y byddai cynifer ag sy’n bosibl o ddisgyblion yn cael cymhwyster TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol.  Felly mae’r ganran o ddisgyblion sy’n cyflawni gradd A*-C yn y cwrs llawn yn uwch o lawer na chanlyniadau'r cwrs byr.

 

PL       Mae’n galonogol bod tri chwarter o ddisgyblion ar draws Cymru yn dilyn cyrsiau Addysg Grefyddol.

 

LO       Gall Addysg Grefyddol ffurfio rhan o bynciau eraill fel Her Dinasyddion Byd-eang Bagloriaeth Cymru.

 

IR        Mae’n bwysig osgoi cyfeiriadau penodol oherwydd gallant fod yn “beryglus”. Mae rhai cyfeiriadau yn anghyfforddus a dylid codi unrhyw bryderon drwy’r sianeli cywir.

 

RW    Mae angen gwybodaeth gadarn ar CSFf gan Benaethiaid.

 

IR        Y cyfarfod hwn yw’r cyntaf i godi pryderon am Adroddiad Estyn Castell Alun ac os oes pryderon mewn ysgolion eraill, dylid eu datrys yn fewnol.

            Caiff trafodaeth materion penodol mewn ysgolion unigol mewn cyfarfodydd ei godi gyda Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid.

DMc    Cwestiynu dilysrwydd canlyniadau a ddangosir ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon yn y tablau data ar dudalen 15 Pecyn Agenda.

 

PENDERFYNIADAU

(a)  Bod PL yn diwygio’r tablau data TGAU i ddileu camgymeriadau;

(b)  Bod PL yn ailwirio ffigurau Treffynnon.

 

16.

CYSAG a chydweithio ysgol i ysgol

Monitro a chynllunio deunyddiau ar gael i ysgolion cynradd.

Cofnodion:

PL       Cyfeirir at gyflwyno ffurflen asesu newydd sy’n cael ei datblygu.

Dylai ysgolion ddefnyddio’r disgrifyddion lefelau ar gyfer cynllunio eu cwricwlwm Addysg Grefyddol. Mae’r ffurflen newydd wedi’i dylunio i gael ei defnyddio gan athrawon a fydd yn llenwi ffurflen monitro wedyn.

Mae angen mireinio’r ffurflen cyn iddi fod ar gael i ysgolion.

 

RW     Cyn caniatáu i’r ffurflen gael ei defnyddio mewn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, byddai angen i’r Esgobaeth gymeradwyo’r cynnwys.

 

JD       Byddai’n gadarnhaol pe gallai plant gael mynediad i’w hadborth eu hunain. Hefyd, gall hunanwerthuso gan staff a all ei drafod wedyn ar y cyd fel tîm helpu i osod blaenoriaethau.

 

Mae IR yn gadael y cyfarfod.

 

PL       Caiff drafft terfynol y ffurflen ei chyfieithu cyn ei chyhoeddi.

            Gan ymateb i gwestiwn gan DMc, bydd y ffurflen ar gael i bob ysgol nid dim ond ysgolion eglwys.

 

JD       Gofynnwyd a ofynnir i ysgolion am adborth hefyd cyn i’r ffurflen gael ei chymeradwyo.

 

PC      Hefyd yn holi a fydd ysgolion Catholig yn cael eu cynnwys.

 

PL       Gallai fod posibilrwydd i brofi’r ffurflen yn anffurfiol, gyda chaniatâd Eglwys Gatholig Esgobaeth Wrecsam.

 

PENDERFYNIADAU

 

(a)  Bod PL yn cysylltu â RW o ran cynnwys y ffurflen.

 

 

 

 

 

 

 

17.

WASACRE (Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru)

i.                 I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas

 

ii.                Derbyn diweddariad gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’r cwricwlwm newydd

 

iii.              Cytuno ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfod nesaf CCYSAG, Mawrth 9 2018 - Abertawe

Cofnodion:

PL       Nid oedd cofnodion cyfarfod diwethaf CCYSAGC wedi dod i law.

Gan gyfeirio at y diweddariad gan Lywodraeth Cymru o ran y cwricwlwm newydd, mae rhwydweithiau arloesi wedi cael dogfen gan CCYSAGC am gynnwys y maes llafur. Pryd bynnag fydd adolygiad newydd o Addysg Grefyddol yn dechrau, mae bob amser yn dechrau gyda dadansoddiad o nodau Addysg Grefyddol.

 

Pan fydd Addysg Grefyddol wedi’i gynnwys dan gwricwlwm ehangach Dyniaethau, mae dealltwriaeth disgyblion yn aml yn dibynnu ar faes arbenigedd yr athro.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i CCYSAGC am help gan nad oes ganddynt arbenigwr Cyfnod Allweddol 2.

 

Pan fydd gwybodaeth wedi dod i law, gellir gwneud sylwadau beirniadol i gynorthwyo datblygiad ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynnal perthnasoedd gyda CCYSAGC a grwpiau CYSAG unigol.

 

RW     Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi darparu sylwadau i Lywodraeth Cymru ar p’un a fydd y Meysydd o Brofiad Dysgu (AOLE) ar gyfer y dyniaethau yn lleihau Addysg Grefyddol fel cyfanrwydd.

 

            Mae angen sicrwydd y bydd Addysg Grefyddol yn cael ei gadw a’i gynnwys ar lefel gynradd.

 

Mae RW yn gadael y cyfarfod.

 

PL       Cynhelir cyfarfod nesaf CCYSAGC ddydd Gwener 9 Mawrth 2018 yn Abertawe

 

PENDERFYNIADAU

 

(a)  Cofnodion CCYSAGC i’w trafod yn y cyfarfod nesaf.

(b)  Bod PL yn mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC ac adrodd yn ôl i’r gr?p.

 

18.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf am 2pm ddydd Mercher, 13 Mehefin 2018 yn Ysgol Gynradd Pentref Penarlâg. 

 

Cofnodion:

  • 2:00pm, dydd Mercher 13 Mehefin 2018 yn Ysgol Eglwysig Pentref Penarlâg.

 

DMc    Diolchir i bawb am eu presenoldeb.