Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion pdf icon PDF 72 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

 

Cofnodion:

Tudalen 3 eitem 5 – Dyddiad yn anghywir 5 Hydref 2016, cytunodd pawb ar y dyddiad cywir 15 Chwefror 2017.

Tudalen 3 – CB cyfarfod heb gworwm ar 15 Chwefror 2017. PL cworwm angen aelod o bob adran, gan fod GW wedi mynychu roedd hynny’n iawn.

Tudalen 4 eitem 5 – Trafododd CB ddirprwyon yn mynychu yn lle aelodau. PL dirprwyon yn mynychu yn lle aelodau yn iawn os yn yr un safle a’r sawl nad yw’n mynychu.

Tudalen 6 eitem 11 – CB cyfarfod nesaf i'w gynnal yn yr ysgol, pam newid i Neuadd y Sir?  PL cyfarfod yn Neuadd y Sir i aelodau newydd.

Cytunodd CB a DM fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

                                               

3.

Rôl y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol pdf icon PDF 2 MB

Trafod rôl y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yn monitro a chefnogi – gweler y llyfryn ‘Felly rydych yn ymuno â’ch Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol lleol.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llawlyfr i aelodau'r CYSAG Saesneg Tudalen 7-19 a Chymraeg Tudalen 19-30.

 

Aeth PL trwy'r llawlyfr yn amlinellu’r rôl.  Tud13 trafodaeth ar addoli ar y cyd, Tud14 trafodaeth ar ddulliau addysgu ac adnoddau, Tud15 trafodaeth ar gynadleddau meysydd llafur cytûn, Tud16 trafodaeth y pwyllgor, Tud17 trafodaeth ar gyfathrebu.

 

Eitem Tudalen 12 Pwyllgor A – CB cynrychiolwyr Dyneiddiol a allant gael eu cyfethol?  PL – Yn ôl Cylchlythyr 10/94 gall Dyneiddwyr gael eu cyfethol.

 

Tudalen 17 eitem yn hysbysu yngl?n â gwaith y CYSAG – CB angen codi ymwybyddiaeth CYSAG a’r pwyllgor hwn.  CB yn cynnig llythyr ar gyfer yr uchod Pl i weithredu.

 

Eitem tudalen 15 addysgu crefyddol o fewn y gymuned ffydd - CB unrhyw broblemau gyda ffydd yr eglwys yn wahanol mewn ysgolion i fywyd yn y cartref?  CB a yw rhieni yn gofyn am beidio dysgu crefyddau eraill/unrhyw grefyddau i'w plant?  Trafododd PL ddysgu maes llafur Cymru a Lloegr gyda sawl ffydd yn cael eu dysgu. Cynigiodd CB anfon adroddiad blynyddol i’r pwyllgor craffu a’r cabinet. Trafododd LA/IH blant ysgolion cynradd yn chwilfrydig yngl?n â'r hyn gaiff ei ddysgu.  PL astudiaeth Lesley Francis yn dangos fod plant sydd eisoes â ffydd yn fwy goddefgar o eraill.

 

DM dylai posteri fod mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth yngl?n â CYSAG.  Pl i weithredu - Poster neu daflen i’w defnyddio i hysbysu ysgolion o waith CYSAG.

 

Trafododd RW ddeiseb i ddiddymu'r gofyniad statudol o addoli ar y cyd gyda 1333 o lofnodion a deiseb yn gwrthwynebu hyn gyda 2209 o lofnodion.  Cwestiynodd hawliau dynol ac mae’n ysgrifennu at ysgrifennydd y cabinet ar lefel Llywodraeth Cymru.  PL i weithredu - Llythyr i ysgrifennydd y cabinet ar lefel Llywodraeth Cymru yngl?n â’r deisebau. PL pawb i rannu unrhyw wybodaeth yngl?n â newidiadau i’r e-bost
philiplord@gwegogledd.cymru <mailto:philiplord@gwegogledd.cymru>

Handbook for SACRE members P7-18 English & P19-30 Welsh.

 

4.

Dadansoddi adroddiadau Arolygu pdf icon PDF 67 KB

I dderbyn a dadansoddi Adroddiadau Arolygon diweddar Estyn.

 

Cofnodion:

Brig Tudalen 31 – PL yn nodi tair ysgol yn yr adroddiad arolygu, yn crybwyll addysg grefyddol yn gadarnhaol. Fframwaith arolygu yn y dyfodol yn newid i 5 cwestiwn allweddol yn hytrach na 3. 

 

Tud32 Eitem ar weithio mewn partneriaeth – Cwestiynodd DM weithio mewn partneriaeth, trafododd PL wahaniaethau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. 

 

RP Estyn beth yw’r briff ar gyfer addysg grefyddol? Mae angen i Estyn a Chymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru gyfathrebu. Dywedodd PL fod disgwyl i Estyn wneud sylw pan nad yw gofynion Addysg Grefyddol neu addoli ar y cyd yn cael eu diwallu, nid oes angen i Estyn wneud sylw os y nodir arfer da er ei fod yn aml yn gwneud hynny.  Bydd adolygiad addysg grefyddol gan Estyn yn edrych ar addysg gynradd yn cael ei gynnal yn nhymor yr Hydref. PL i weithredu - Ysgrifennu at yr ysgolion.

 

5.

Ymarferydd Arweiniol - Cefnogi'r gofynion TGAU Newydd

I dderbyn cyflwyniad yn ymwneud â chynllun GwE i gefnogi'r gofynion TGAU newydd mewn Astudiaethau Crefyddol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Lucy Ashford yr ymarferydd arweiniol gyflwyniad Sir y Fflint/Wrecsam yn rhannu systemau/adnoddau. Sharepoint ar ganolbwynt a sefydlwyd gan PL, gall athrawon ddefnyddio gwefannau CBAC ac EDUQAS i lawrlwytho gwybodaeth.  Cynhadledd wedi ei sefydlu a 60 wedi mynychu i rannu sut i farcio gwaith a derbyn dealltwriaeth dyneiddwyr ac anffyddwyr ar agweddau o’r cwricwlwm. Cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, angen rhestr o gysylltiadau/siaradwyr ac atgynhyrchu hen gysylltiadau a rhai newydd rhwng ysgolion. Dylai PL ysgrifennu llythyr i groesawu cyllid ychwanegol yn canolbwyntio ar faes llafur arholiadau, ymarferwyr arweiniol wedi gweithio’n hynod o dda.  RP dim ond un dewis sydd gennym o ran bwrdd arholi yng Nghymru ac mae prisiau wedi cynyddu. IH Ysgolion Uwchradd wedi gweithio'n dda, a allwn ddefnyddio'r un syniad o ran ymarferydd arweiniol i gysylltu ysgolion cynradd? RP yn gofyn am ddewis o fyrddau arholi TGAU. CB a ydym yn cymharu canlyniadau arholiadau yn y DU a Chymru yr un fath?  PL mae bwrdd arholi CBAC wedi ychwanegu mwy o gynnwys i’r TGAU eleni.  Mae athrawon o'r farn fod y TGAU hwn yn fwy anodd.

 

6.

Cydweithio ysgol i ysgol - Diweddariad

Derbyn adroddiad llafar gan Philip Lord, cynghorydd herio

Cofnodion:

Anfonwyd pecyn i ysgolion oedd ag adnoddau cyfun.  PL i greu safle rhannu ar y canolbwynt.

7.

Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru pdf icon PDF 403 KB

i.                 I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ym Mrynbuga, Sir Fynwy.

ii            Cyfarfod haf Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru, 7 Mehefin, Wrecsam.

iii           Etholiadau pwyllgor gwaith Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru

 

Cofnodion:

Cofnodion Cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru 3 Mawrth 2017 Tud33-43.

Tudalen 35 eitem 6 – PL Defnyddiodd Estyn hwy fel arfer da yng nghwricwlwm Donaldson, roedd dysgu'n wahanol iawn. IR da o beth yw edrych ar ddulliau eraill o gael pobl i astudio, mae her yn dda. PL rydym yn y broses o drawsnewid o’r cwricwlwm presennol a does gennym ni ddim cwricwlwm newydd eto, pryder am y blynyddoedd nesaf yn ymwneud â sut y gall Addysg Grefyddol fod mewn rhai ysgolion. CB mae addysg grefyddol yn cael ei wthio i'r cyrion. Pwy sy’n gyfrifol am gytuno/cyflawni gofyniad statudol y maes llafur? CB Pwy yw’r cyswllt yma? RP gall mentrau golli golwg o’r cwricwlwm ac addysg pob plentyn, egwyddorion allweddol i fod â gwybodaeth a dealltwriaeth grefyddol, mae adroddiad Donaldson yn codi’r cwestiynau hyn. PL O’i ysgrifennu daw rôl CYSAG gan yr Awdurdod Lleol ac yna CYSAG. PL Estyn i weld CYSAG a CCYSAGC beth fydd yn cael ei ddarparu yn yr ysgolion, CYSAG i gefnogi ysgolion.

Cofnodion CCYSAGC wedi eu derbyn ac mae cyfarfod nesaf CCYSAGC ar 7 Gorffennaf 2017 am 10:00am yn Neuadd y Dref Wrecsam, bydd PL yn mynychu, croeso i’r mynychwyr yma hefyd.

Etholiadau gweithrediaeth CCYSAGC dywedodd PL mai dau enwebiad a dim ond dau gais oedd wedi eu derbyn ??Alison Lewis??.  Gill Vaisey ac Ernie Goldsworthy.  Pleidlais trwy godi dwylo tri i Jill Vasey a thri i Ernie Goldsworthy, pleidlais y cadeirydd oedd Gill Vaisey.

 

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Byddcyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 2pm ar y dyddiadau canlynol:

 

DyddMercher, 11 Hydref  2017

DyddMercher, 21 Chwefror  2018

DyddMercher, 13 Mehefin  2018

 

Cofnodion:

Bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 2pm ar y dyddiadau canlynol:  Dydd Mercher Hydref 11 2017, dydd Mercher Chwefror 21 2018, dydd Mercher Mehefin 13 2018.

 

PL i roi cyflwyniad ar Y Ffindir.

Cytunodd y gr?p y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn well mewn ysgolion o bosibl Bryn Coch.  IH I weithredu i e-bostio yr ystafelloedd ar gael i PL. RW I weithredu i ebostio yr ystafelloedd addas i 18 o bobl i PL.