Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote attendance meeting
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Paul Cunningham; Y Cynghorydd Roz Mansell; Anna Stephens; Claire Homard; John Morgan; Robert Hughes |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw beth ei ddatgan ond fe nodwyd yr Aelodau Etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgolion. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2024 Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd: derbyn y cofnodion fel cofnod cywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi. |
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu Derbyn adroddiad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd VB at yr adroddiad a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen a chanfyddiadau Estyn yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd ar gyfer chwe ysgol y tymor hwn, y mae rhai ohonynt wedi cael eu harolygu o dan y trefniadau peilot ar gyfer y Fframwaith Arolygu newydd. Roedd yn falch o nodi unwaith eto nad oedd unrhyw ysgol wedi derbyn argymhellion o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyda’r adroddiadau yn nodi sylwadau cryf yn ymwneud â lles a moeseg.
Tynnodd VB sylw penodol at adran 3.2 yn yr adroddiad, gan nodi bod athrawon yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion ddatblygu ymwybyddiaeth o’u hardal leol, Cymru a diwylliant Cymru a ‘chynefin’.
Yn adran 4.3 o’r adroddiad, roedd VB yn falch o nodi gwaith Ysgol Bryn Gwalia er enghraifft, lle mae disgyblion yn cael ymdeimlad cryf o berthyn trwy eu gwaith ar ‘Saith Rhyfeddod yr Wyddgrug’.
Cam Gweithredu: Cytunwyd y byddai VB yn rhoi diweddariad i gyfarfod CYSAG/CYS yn y dyfodol ar y fframwaith arolygu newydd mewn perthynas ag agweddau yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addoli ar y cyd. Diolchodd y Cynghorydd ME i Swyddogion a GwE am eu gwaith yn cefnogi ysgolion ac am y gwaith a wnaed gan ysgolion.
Nododd y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn ysgrifennu yn ffurfiol at ysgolion i ddiolch iddynt ac i egluro’r gwaith o rannu arferion da gyda’r Pwyllgor hwn. Roedd y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad.
|
|
Adborth o gyfarfod WASACRE 5 Mawrth Cofnodion drafft eisoes wedi’u dosbarthu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd VB y cofnodion drafft a ddosbarthwyd ymlaen llaw i’r gr?p. Nodwyd yr adolygiad gan CCYSAGC am gynnwys yr Adroddiad Blynyddol; gwaith datblygu pellach ar adnoddau dysgu proffesiynol gyda rhestr chwarae ar Hwb ac yn y pen draw rhaglen i lywodraethwyr ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Mae JD yn rhan o’r gweithgor adnoddau cenedlaethol ar ran yr Esgobaeth ac mae’n darparu cyfle gwych i ysgolion Sir y Fflint gyfrannu at y gwaith o gynhyrchu adnoddau cenedlaethol.
Roedd JD yn falch o ddweud bod cefnogaeth gref o fewn CCYSAGC gan Sir y Fflint yn ogystal â chefnogaeth gan AM a bod MP yn cyflwyno yn y cyfarfod pan fydd yn cael ei gynnal yn Wrecsam.
Cynigiodd y Cynghorydd ME y gellid ystyried cyfethol er mwyn cefnogi buddiannau pwyllgor/prosiectau penodol, ac y gellid eu penodi am ddwy flynedd heb hawliau pleidleisio.
Cytunwyd: ystyried aelodau cyfetholedig ar y telerau hyn.
|
|
Cylch Gorchwyl Drafft y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) Cyflwyniad ar y ddogfen ddrafftgan Kim Brookes, Uwch Reolwr, Cymorth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn diweddariad ar lafar ynghylch y cylch gorchwyl drafft gan Kim Brookes, Clerc y Pwyllgor (Uwch Reolwr Cymorth i Fusnesau a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid).
Dywedodd y Clerc, o dan y rheoliadau, y byddai’n ofynnol i bob Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd gytuno ar Gyfansoddiad a Chylch Gorchwyl a’u gweithredu o fis Medi 2026. Ar hyn o bryd, mae gennym CYS ‘cysgodol’ sy’n cyd-fodoli gyda’r un cyfansoddiad a chylch gorchwyl â’r CYSAG presennol. Bydd y ddau gorff ar waith tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2025/26, yna bydd CYSAG yn cael ei ddiddymu a’r CYS yn parhau.
Cyfeiriodd y Clerc at y cylch gorchwyl drafft ar gyfer y CYS newydd a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen gan wahodd dod yn ôl gyda sylwadau erbyn diwedd y tymor. Nodwyd bod y newidiadau arfaethedig mewn perthynas â Phwyllgor A. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau mewn perthynas â threfniadau gwaith y Panel.
Mewn ymateb i gwestiwn gan HD, nodwyd nad oedd rhai grwpiau cynrychioli wedi mynychu ers tro.
Cam Gweithredu: VB i ysgrifennu at y cyrff cynrychioli hynny ac egluro a oeddent yn dal i ddymuno cael eu cynrychioli.
Gofynnodd y Cynghorydd AP bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ba ddemograffeg y gellir eu cynghori i’r Panel gan ddata cyfrifiad cenedlaethol. Dywedodd VB nad oedd unrhyw gyrff cynrychioli eraill wedi cysylltu â’r CYSAG hyd yma.
Cam Gweithredu: Cytuno ar ddrafft terfynol yn dilyn unrhyw newidiadau o’r ymgynghoriad yng nghyfarfod tymor yr hydref.
Ymunodd y Cynghorydd DM â’r cyfarfod.
Ystyrir bod yr eitem ganlynol yn eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 14, Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Mae budd y cyhoedd i gelu’r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd mewn datgelu'r wybodaeth - ystyried gwahardd y wasg a’r cyhoedd.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r cynigydd symud yr eithriad. Cynigiwyd gan y Cynghorydd ME, ac eiliwyd gan HD.
Cadarnhaodd ST bod y cyfarfod wedi stopio cael ei recordio. Rhannodd VB fanylion yr ymgeisydd ar gyfer swydd yr aelod cyfetholedig.
Cytunwyd: cyfethol Danielle McDonald fel aelod cyfetholedig y Panel ar y telerau a gytunwyd arnynt yn flaenorol ar gyfer penodi aelodau cyfetholedig.
|
|
Enwebu aelod cyfetholedig I dderbyn diweddariad llafar.
Cofnodion: VB |
|
Gohebiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim
|
|
Cyfarfodydd yn y Dyfodol Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol yn 4.00 pm ar y dyddiadau canlynol.
Dydd Iau 21 Tachwedd 2024 Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 4pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Iau 21 Tachwedd 2024 Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
|