Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins / 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

               Datganodd y Cynghorydd Wren fuddiant personol a rhagfarnus yn eitem rhif 7 ar yr agenda - Gollyngiadau. Datganodd hefyd fuddiant personol yn eitem agenda rhif 5 – Trosolwg o Gwynion Moesegol.

 

Datganodd y Cynghorydd Parkhurst gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu yn eitemau 4 – Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau i Hyrwyddo Ymddygiad Moesegol a 5 – Trosolwg ar Gwynion Moesegol.

 

Penderfynwyd addasu gweddill y rhaglen a thrafod yr eitemau yn y drefn a ganlyn: 7, 3, 6, 4 a 5.

2.

Goddefebau pdf icon PDF 644 KB

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Monitro y derbyniwyd dau o geisiadau am oddefebau ar ôl dosbarthu’r rhaglen.

 

Y Cynghorydd Bill Crease

 

Ceisiai’r Cynghorydd Crease oddefeb i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint neu siarad â hwy, i ysgrifennu at Gyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u pwyllgorau, siarad yn eu cyfarfodydd a/neu ateb cwestiynau ynddynt, i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth, ac i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor Cynllunio yng Nghyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint.  Roedd a wnelo’r cais â’r ffaith ei fod yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin.  Roedd ei wraig hefyd yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin.  Roedd hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin. 

 

Credai y byddai ei wybodaeth gefndirol, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin, yn dod ag arbenigedd i unrhyw drafodaethau yngl?n â rhandiroedd.  Roedd o’r farn y byddai dan anfantais o beidio â chael cyfrannu mewn cyfarfodydd, yn enwedig felly yn sgil newid yn y ddeddfwriaeth yn ddiweddar a ganiatâi i aelodau o’r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd,

 

Y Cynghorydd Antony Wren

 

Ceisiai’r Cynghorydd Wren oddefeb i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint neu siarad â hwy, i ysgrifennu at Gyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u pwyllgorau, siarad yn eu cyfarfodydd a/neu ateb cwestiynau ynddynt, i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth, ac i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor Cynllunio yng Nghyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint.  Roedd a wnelo’r cais â’r ffaith ei fod yn denant ar un o’r lleiniau yn Rhandiroedd Lôn y Felin, Cei Connah (eiddo Cyngor Sir y Fflint wedi’i osod ar brydles i Gyngor Tref Cei Connah), yn Ysgrifennydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin, yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint, a’i fod ddim yn uwchraddol nac israddol i unrhyw denant arall.

 

Esboniodd fod ei wraig hefyd yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin.  Roedd ei resymau dros geisio goddefeb yr un fath â rhai’r Cynghorydd Crease.

 

Rhoes y Swyddog Monitro gyngor i’r Pwyllgor yngl?n â chaniatáu goddefebau a soniodd am geisiadau tebyg a ddaeth gerbron y Pwyllgor Safonau yn y gorffennol. 

 

            DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cyfarfod fynd i sesiwn caeedig – yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985.  Eiliwyd hyn gan Gill Murgatroyd.

 

Aeth y Cynghorwyr Crease a Wren i’r ystafell aros ar-lein ac ataliwyd ffrwd fyw’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrid fod yr eitem yn eithriedig yn rhinwedd paragraff 18C, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Yn dilyn y drafodaeth caniatawyd i’r Cynghorwyr Crease a Wren ddychwelyd i’r cyfarfod ac fe ail-ddechreuodd y ffrwd fyw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Bill Crease fel  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 65 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2022 fel rhai cywir.  Bu i’r Cynghorydd Wren ymatal gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.

 

Materion yn codi

 

Cofnod 36

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y dosbarthwyd y Cynllun Gweithredu. 

 

Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y darperid dau o sesiynau. 

 

Cofnod 37

Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau – nid oedd y Swyddog Monitro wedi derbyn ymateb gan bob Cyngor, ond roedd y rheiny a ymatebodd o blaid yr awgrym yn ôl pob golwg.  Darperid y wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod nesaf.

 

Cofnod 39

 

Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor – eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r ymweliadau hyn yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn fel y gallai Cynghorwyr newydd sefydlu yn eu swyddogaethau newydd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 70 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er ystyriaeth, gan argymell cynnal ymweliadau’r Aelodau Annibynnol ym mis Gorffennaf:

 

·         Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2022 (adrodd yn ôl)

·         Adolygiad Parhaus o’r Cyfansoddiad

·         Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr

·         Ffurfio Fforwm Annibynnol ar gyfer Cymru gyfan

·         Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol

 

Mewn ymateb i awgrym gan Gill Murgatroyd, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n paratoi awgrymiadau ar gyfer pob cyfarfod hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan gynnwys Ymweliadau’r Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a pharatoi awgrymiadau ar gyfer pob cyfarfod o fis Medi ymlaen, gan gynnwys Ymweliadau’r Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

5.

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd Arweinwyr Grwp i hybu Ymddygiad Moesegol pdf icon PDF 89 KB

Rhannu’r canllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru ar y ddyletswydd newydd hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd newydd ar Arweinwyr Grwpiau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grwpiau.  Pennwyd dyletswydd newydd hefyd yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf.

 

Mae’n rhaid i Arweinwyr Grwpiau a’r Pwyllgor ystyried y canllawiau statudol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Pwyllgor eisoes wedi ystyried y canllawiau hynny ar ffurf drafft cynnar.  Cyhoeddwyd drafft arall o’r canllawiau er ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn; roeddent yn bur debyg i’r canllawiau blaenorol wrth gynnig ffyrdd y gallai Arweinwyr Grwpiau hyrwyddo ymddygiad da, ac awgrymu y byddent yn dwyn anfri ar eu swyddi pe byddent yn methu â gwneud hynny.  Un gwahaniaeth gwerth ei nodi oedd y swyddogaeth adrodd, a oedd yn llai manwl bellach.

 

Dechreuodd yr ymgynghoriad ym mis Chwefror a daeth i ben ym mis Mai oddeutu’r un pryd â’r cyfnod cyn etholiadau.  Hwn felly oedd y tro cyntaf y gellid cyflwyno’r canllawiau drafft i’r Pwyllgor.

 

Atodwyd copi o’r adroddiad templed i’r adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ffurf drafft.  Cynhelid trafodaeth am y canllawiau statudol ag Arweinwyr y Grwpiau ar 27 Mehefin 2022.

 

Penderfynwyd cyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r canllawiau arfaethedig, a

 

(b)       Chyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.

 

6.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 85 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd ei fod yn cynnwys crynodeb o’r cwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.  Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor roedd yr adroddiad yn gwahaniaethu rhwng cwynion a wnaed yn erbyn gwahanol Gynghorau a Chynghorwyr ond nid yn enwi neb.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi syniad o’r nifer o gwynion a wnaed a’u math, ynghyd â dyfarniad yr Ombwdsmon ymhob achos.  Derbyniwyd saith o gwynion ers yr adroddiad diwethaf fis Tachwedd 2021.  Gwnaed dyfarniad ynghylch pump o’r cwynion hynny ac ni ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’run ohonynt gan nad oeddent yn bodloni’r prawf yng ngham 2.  Roedd dwy o’r cwynion yn rhai diweddar ac roedd yr Ombwdsmon wrthi’n penderfynu a fyddai’n ymchwilio iddynt ai peidio.  Roedd a wnelo un o’r cwynion â cham-drin clerc mewn cyfarfod cyhoeddus ac roedd honno dan ymchwiliad.

 

Cyfryngau cymdeithasol oedd wrth wraidd y rhan helaeth o’r cwynion, ac roedd a wnelo pedair o’r saith â sylwadau a wnaed ar-lein.  Roedd y Pwyllgor yn gyfarwydd â’r trafferthion a gyfyd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r trefniadau ar gyfer diogelu rhyddid barn wleidyddol.  Nid oedd y cod ond diogelu ychydig rhag ymddygiad gwael neu heriol.  Yn yr hyfforddiant sefydlu anogid Cynghorwyr i ganiatáu i Gynghorwyr eraill fod â barn wahanol iddynt hwy heb gega arnynt, lladd arnynt na’u gwawdio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, eglurodd y Swyddog Monitro y cyflëwyd pwysigrwydd hyn i Aelodau newydd yn y sesiynau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, a ddarperir hefyd i aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi nifer y cwynion a’u math.

 

7.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodi nifer y cwynion a’u math.