Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

10.

Cofnodion pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2019.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod 6: Roedd y wybodaeth am wasanaeth cyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a rhannu costau drwy gyd-benodi Clercod wedi’i gynnwys yn yr adborth i Gynghorau Tref a Chymuned ym mis Mehefin.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson a’r Cadeirydd, cytunwyd bod manylion cyrsiau hyfforddiant ar gyfer Clercod yn cael eu rhannu gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

 Cofnod 7: Byddai eitem yn y dyfodol am ganllawiau'r hyn a oedd yn cyfrif fel gwaith / gweithgareddau y tu hwnt i rôl Cynghorydd yn cael ei chynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai'r Cadeirydd eu llofnodi.

11.

Goddefebau pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro'r weithdrefn sef y caniateir i'r ymgeiswyr siarad cyn gofyn iddynt adael yr ystafell, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu ar y goddefebau mewn amodau pwyllgor.

                                     

Cyngor Cymuned Penarlâg – Cais Cynllunio 060060

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro pedwar cais am oddefeb gan Gynghorwyr Cymuned Penarlâg; roedd dau ohonynt wedi’u diweddaru (Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver) a dau gais arall a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen (Cynghorwyr Joyce Angell a Bob Connah).

 

Roedd y pedwar cais yn ymwneud â chais cynllunio ar Dir Hamdden Herbert Gladstone a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Cymuned.   Gan fod holl Gynghorwyr Cymuned Penarlâg yn Ymddiriedolwyr y Tir Hamdden, fe'u cynghorwyd gan y Swyddog Monitro, drwy'r Clerc, ei fod yn gysylltiad personol ac sy'n rhagfarnu ac y byddai angen iddynt ofyn am oddefeb cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.   Nid oedd yr eithriad o dan baragraff 12(2) Cod Ymddygiad yr Aelodau yn berthnasol i geisiadau cynllunio.

 

Roedd y ceisiadau’n ceisio gwahanol lefelau o oddefeb.   Ar gais y Cynghorydd Connah, ni allai’r Swyddog Monitro gofio bod y Pwyllgor wedi rhoi’r hawl i bleidleisio ar oddefebau tebyg yn y gorffennol.   Dywedodd mai'r Cynghorwyr unigol oedd i benderfynu ar lefel y cysylltiad i’w ddatgan ac a oeddent yn dymuno cyfranogi tra bo’r eitem yn cael ei hystyried ai peidio, a allai olygu nad oes cworwm i'r cyfarfodydd hynny.   Fel yr Aelod Lleol, byddai gan y Cynghorydd Carver yr hawl i siarad am bum munud ym Mhwyllgor Cynllunio'r Cyngor Sir pe bai'n cael goddefeb.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver, a oedd yn bresennol, i gyflwyno sylwadau.

 

 Eglurodd y Cynghorydd Clive Carver bod y cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Glwb Pêl-droed Hawarden Rangers a bod y Cynghorydd Cheryl Carver yn dymuno siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.   Er ei fod yn cydnabod y cynsail ar geisiadau blaenorol, gofynnodd os yw'r oddefeb i bleidleisio'n cael ei gymeradwyo ar gyfer y Cynghorydd Connah, y dylid ymestyn hyn i'r tri ymgeisydd arall nad ydynt yn ceisio'r hawl i bleidleisio.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y Cynghorydd Carver bod 17 aelod ar y Pwyllgor Cynllunio na fyddai angen i'w penderfyniadau gael eu cadarnhau gan y Cyngor Cymuned llawn.   Eglurodd gymhlethdod y cais oherwydd natur y safle.

 

Ar y pwynt hwn, cynigodd y Cynghorydd Woolley y dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd- yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985. Gofynnodd y Cadeirydd bod y rhai yn oriel y cyhoedd yn gadael yr ystafell cyn i’r pwyllgor drafod ac y byddent yn cael eu gwahodd yn ôl i glywed y penderfyniad.

 

Yn ystod y drafodaeth, ceisiwyd safbwyntiau a oedd anghenion gweddill Cynghorwyr Cymuned Penarlâg, sydd heb gyflwyno goddefeb, yn ystyriaeth berthnasol, a’r pwysigrwydd o osod cynsail.   Cytunwyd y byddai'r ffurflen gais yn cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r paragraffau lle gellir rhoi goddefeb.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley bod y Cynghorydd Angell yn cael goddefeb ar y seiliau a nodwyd, ac fe gefnogwyd hyn.   Cynigodd bod y Cynghorydd Connah  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

Item 4 - Revised and additional dispensations pdf icon PDF 119 KB

12.

Amrywio Trefn y Rhaglen

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid newid trefn y rhaglen er mwyn symud eitem rhif 6 ymlaen er budd y rhai yn oriel y cyhoedd.

13.

ADRODDIADAU O YMWELIADAU AELODAU ANNIBYNNOL Â CHYNGHORAU TREF/CYMUNED

Pwrpas:        I dderbyn adroddiadau ar lafar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor ar eu hymweliadau â’r cynghorau canlynol:

 

·         CyngorTref Cei Connah (Julia Hughes - 28.05.19 a 05.06.19)

·         CyngorCymuned Chwitffordd (Jonathan Duggan-Keen - 06.06.19)

·         CyngorCymuned Penarlag (Jonathan Duggan-Keen - 10.06.19)

·         CyngorCymuned Y Waun (Jonathan Duggan-Keen - 12.06.19)

·         CyngorTref Fflint (Julia Hughes - 24.06.19)

Cofnodion:

Cyflwynodd yr aelodau annibynnol canlynol eu hadroddiadau llafar:

 

Mr. Jonathan Duggan-Keen –Cynghorau Cymuned Penarlâg, Chwitffordd a Gwernaffield a Phantymwyn

Mrs. Julia Hughes- Cynghorau Tref Cei Connah a'r Fflint

 

Yn ystod ei hadroddiad ar Gyngor Tref Cei Connah, nododd y Cadeirydd y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r holl Gynghorau Tref / Cymuned yn gosod trefniadau amgen i alluogi cyhoeddi rhaglenni a gwybodaeth berthnasol pe digwydd nad yw'r Clerc ar gael.   Dywedodd hefyd y gallai aelod o’r cyhoedd sy’n holi am fynychu cyfarfod gael gwybod bod y cyfarfod yn debygol o fod yn un byr a’u cynghori yngl?n â’r gweithdrefnau, er enghraifft, sefyll pan fo’r Cadeirydd yn dod i’r ystafell, eu cynghori yngl?n â sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd neu egluro pam fod eitem yn cael ei heithrio rhag y wasg neu'r cyhoedd.

 

 Gan nad oedd Clerc Cyngor Tref y Fflint wedi derbyn adborth gan y Pwyllgor Safonau a ddosbarthwyd dros e-bost, gofynnodd y Cadeirydd bod yr holl lythyrau adborth hyd yma'n cael eu postio ato.   Awgrymodd hefyd y gofynnir i Glercod gadarnhau eu bod wedi derbyn llythyrau adborth a anfonwyd drwy e-bost.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol a fydd yn cael eu hadrodd yn ôl i Gynghorau Tref a Chymuned:

 

·         Byddai darparu arwyddion enwau ar gyfer aelodau pwyllgor yn cynorthwyo’r arsylwyr i adnabod y siaradwyr;

·         Pwysigrwydd nodi’r rhesymau dros ddatgan cysylltiad;

·         Darparu cyfarwyddiadau clir i leoliadau cyfarfod a meysydd parcio.

 

Ar ôl cynnal y pedwar ymweliad terfynol (gan gynnwys ymweliad y Cadeirydd i Gyngor Tref Shotton ar 8 Gorffennaf), byddai adroddiad cyffredinol yn cael ei gyflwyno i’r cyd-gyfarfod gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned ar 30 Medi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y derbynnir yr adroddiadau llafar ac y rhoddir adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned.

14.

Eitemau i'w Gohirio

Cofnodion:

Oherwydd y cyfyngiadau amser ac er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i’r eitemau ar y rhaglen, cytunwyd y byddai eitemau 5 (y wybodaeth ddiweddaraf am Gynnydd Trosglwyddo Asedau Cymunedol) a 7 (Adborth gan y Fforwm Safonau) yn cael eu gohirio tan fis Medi.

15.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 150 KB

Pwrpas:        Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Cofnodion:

Ystyriwyd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan nodi’r ddwy eitem sy’n cael eu gohirio o’r cyfarfod hwn.

 

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 2 Medi a fyddai’n cynnwys Adolygu Safon Sir y Fflint a Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW).   Cytunwyd na fyddai unrhyw hyfforddiant gan olygu y gellir dechrau am 6pm.

 

Byddai’r cyfarfod ar 30 Medi yn cynnwys adroddiad cyffredinol ar ymweliadau i Gynghorau Tref / Cymuned, yr eitem a awgrymwyd ar weithgareddau y tu hwnt i rôl Cynghorydd ac Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

16.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol.