Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins / 01352 702345 

Eitemau
Rhif eitem

67.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

68.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4ydd Mawrth 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion a’r Cadeirydd i’w harwyddo fel cofnod cywir.

69.

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro un cais am ollyngiad i’w ystyried oedd wedi’i dderbyn ar ôl i’r agenda gael ei gyhoeddi.

 

Cynghorydd Adele Davies-Cooke

 

Nid oedd y Cynghorydd Davies-Cook yn bresennol felly cyflwynwyd y cais am ollyngiad gan y Swyddog Monitro. Roedd yn awyddus i siarad am 5 munud yn unig fel Aelod lleol mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio ynghylch cais rhif 059396 oedd yn gais cynllunio yn ei ward. Roedd wedi bod yn rhan o anghydfod geiriol yn ei chartref gydag unigolyn y gwyddai oedd yn gyfarwyddwr y cwmni oedd yn gwneud y cais. Rhoddodd wybod am hyn i’r Heddlu. Roedd yn gais ar gyfer 80 o gartrefi, siop gyfleus a datblygiad cysylltiedig ac roedd yn debygol o gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ym Mai 2019. Tra bod yr anghydfod yn y gorffennol ac y byddai’n gweithredu’n ddiduedd ac er budd y cyhoedd, roedd yn deall y gallai pobl ystyried fod ganddi gysylltiad personol oedd yn rhagfarnu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Woolley bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu er mwyn i’r Cynghorydd Davies-Cooke siarad fel Aelod lleol am 5 munud. Holodd y Swyddog Monitro am fanylion llawn y gollyngiad. Cytunwyd i ganiatáu iddi siarad am 5 munud yn y Pwyllgor Cynllunio,  a gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar gais rhif 059396, neu unrhyw gais oedd, ym marn y Swyddog Monitro yn debyg. Roedd y gollyngiad am 12 mis a byddai’n dod i ben ar 29 Ebrill 2020.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu gollyngiad i’r Cynghorydd Sir, Adele Davies-Cooke, dan baragraff (f) Rheoliadau (Caniatáu Gollyngiadau) Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio am 5 munud a gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar gais cynllunio rhif 059396, neu unrhyw gais oedd, ym marn y Swyddog Monitro yn debyg. Roedd y gollyngiad am 12 mis a byddai’n dod i ben ar 29 Ebrill 2020.

70.

ADRODDIADAU O YMWELIADAU AELODAU ANNIBYNNOL A CHYNGHORAU TREF/CYMUNED

Pwrpas:        I dderbyn adroddiadau ar lafar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor are u hymweliadau a’r cynghorau canlynol:

 

·         CyngorCymuned Sealand (Ken Molyneux – 21.01.19);

·         CyngorCymuned Leeswood and Pontblyddyn (Rob Dewey – 05.02.19); and

·         CyngorTred Saltney (Ken Molyneux – 13.02.19).

Cofnodion:

Cyflwynodd yr aelodau annibynnol canlynol eu hadroddiadau ar lafar:

 

Ken Molyneux – Cyngor Cymuned Sealand (21.01.19)

Rob Dewey – Cyngor Cymuned Leeswood a Phontblyddyn (05.02.19)

Ken Molyneux – Cyngor Tref Saltney (13.02.19)

 

Dywedodd pob un bod arsylwi cyfarfodydd wedi bod yn brofiad cadarnhaol a’u bod wedi’u harwain yn dda gan Gadeiryddion gyda chymorth parod gan Glercod a bod nifer dda’n bresennol. Roedd clercod wedi bod cydweithredu’n dda cyn y cyfarfodydd gan ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol am leoliadau, amseroedd, mynediad ayb.

 

Gwnaed y pwyntiau ychwanegol canlynol fyddai’n cael eu rhoi’n adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned:

 

·         Hyd cyfarfodydd – nodwyd pan oedd cyfarfodydd yn para am hir, fod pobl yn cael mwy o drafferth canolbwyntio ac yn llai tebygol o aros i glywed eitemau a allai fod yn bwysig iddynt;

·         Pwysigrwydd sgiliau cadeirio da, fel atal pobl rhag siarad nifer o weithiau a chwtogi’r drafodaeth ar ôl i’r materion gael eu trafod yn drylwyr; a

·         Dylai’r Cyngor dan sylw fod yn falch o bresenoldeb cadarnhaol Cynghorydd Ifanc.

 

Cynigiodd y Cadeirydd unwaith fod yr holl ymweliadau wedi gorffen a’u hadrodd i Bwyllgor Safonau, y gellid paratoi taflen i Gynghorau Tref a Chymuned yn cynnwys meysydd arfer da, gwersi i’w dysgu ayb. Cefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn adroddiadau llafar a rhoi adborth i Gynghorau Tref a Chymuned.

71.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Swyddog Monitro’r adroddiad am Drosolwg ar Gwynion Moesegol, oedd yn rhoi cyfanswm cyfredol y cwynion sy’n honni torri amod y Cod a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

                        Roedd y cwynion yn gwahaniaethu rhwng gwahanol Gynghorau a Chynghorwyr ond gan aros yn ddienw. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ers yr adroddiad diwethaf. Roedd pedair cwyn wedi’u datrys ers yr adroddiad diwethaf ac yn destun adroddiadau ar wahân.

 

                        Cyflwynwyd nifer sylweddol o gwynion ynghylch un Cyngor Tref; roedd un wedi ei gyflwyno gan aelod o’r cyhoedd ac roedd yr ymchwiliad yn parhau. Nid oedd yn briodol gwneud sylwadau am yr achos hwnnw tra bod yr ymchwiliad ar y gweill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd yr Ombwdsmon yn eu diweddaru ynghylch pryd oedd achosion parhaus yn debygol o gael eu datrys. Lleisiodd Rob Dewey bryder fod a wnelo dwy ran o dair o’r cwynion â bwlio.

 

            PENDERFYNWYD:

           

            Nodi nifer a math y cwynion.

72.

Aelodau Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau

Pwrpas:        Adroddiadllafar ar y broses ar gyfer delio â'r ffaith bod 2 Aelod yn dod i ben.

Cofnodion:

                        Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai telerau’r ddau aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau’n dod i ben yr wythnos honno ar ôl gwasanaethu am gyfnod o chwe blynedd. 

 

                        Roedd un aelod, Phillipa Earlam, yn awyddus i barhau am dymor pellach, sef uchafswm o bedair blynedd. Roedd yr ail aelod, Ed Hughes, yn awyddus i sefyll i lawr oherwydd ymrwymiadau gwaith. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i ofyn iddynt ail-benodi Phillipa Earlam.  O ran y swydd wag argymhellwyd bod y Cyngor yn hysbysebu’r swydd ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn gallu rhannu costau.

 

                        Ar gyfer y Panel Cyfweld, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai gynnwys Cadeirydd y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, a’r un fath o Wrecsam. Hefyd, byddai aelod lleyg yn sicrhau’r nifer a ganiateid, sef pump.

 

                        Diolchodd y Cadeirydd i Ed Hughes am ei waith caled a’i ymrwymiad i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor yn ystod y chwe blynedd y bu arno. Roedd ei gyfraniad wedi bod yn werthfawr iawn.

  

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor Sir yn argymell ail-benodi Phillipa Earlam am ail dymor, hyd at uchafswm o bedair blynedd;

 

(b)       Diolch i Ed Hughes am ei waith caled ar y Pwyllgor yn ystod y chwe blynedd; a

 

(c)        Gofyn i’r Cyngor Sir gymeradwy proses recriwtio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y swydd wag.

73.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 58 KB

Pwrpas:        Er mwyn I’r Pwyllgor ystyried testunau I’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol.

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. 

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod Sir y Fflint yn cynnal y Fforwm Pwyllgor Safonau ar 24 Mehefin, 11am – 3pm, a gofynnwyd am unrhyw gwestiynau yr hoffai’r aelodau eu gofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a fyddai’n bresennol. Gofynnodd i aelodau roi gwybod iddo os oeddent am fod yn bresennol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Swyddog Monitro mai Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion fyddai fel arfer yn bresennol ond ei fod yn dderbyniol  anfon aelodau yn eu lle.

 

Cytunwyd y byddai’r adroddiad y gofynnwyd amdano yn y cyfarfod ar 4 Mawrth, am wybodaeth bellach ar yr achos a gyfeiriwyd i sylw Panel Dyfarnu Cymru ynghylch cwyn yn erbyn Cynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy, yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor ym Mehefin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol drwy rinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

74.

Llythyrau canlyniad cwynion a ystyriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Pwrpas:        Ystyried y llythyrau a’r argymhellion ynddynt. 

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad oedd yn cynnwys manylion llythyrau canlyniad cwynion a ystyriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

                        Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai darparwyr hyfforddiant yn cael ei gomisiynu i gynnig hyfforddiant i Gyngor Tref, gyda chymorth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Hefyd mae'n bosibl y bydd angen gwasanaeth cyfryngu o ystyried bod yr Aelodau’n gyfarwydd â Chod Ymddygiad Aelodau. Gofynnir i’r Cyngor Tref dan sylw rannu costau’r hyfforddiant a roddir.

 

 

                        Yn dilyn y drafodaeth o dan y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, cytunwyd y byddai cwestiwn yn cael ei ddrafftio i’w ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y Pwyllgor Safonau ynghylch cwynion.

 

            PENDERFYNWYD:

 

  (a)        Comisiynu hyfforddiant ar gyfer Cyngor Tref, gyda chymorth gan  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

 

(b)       Darparu gwasanaeth cyfryngu os bydd angen; a

 

(c)        Gofyn i’r Cyngor Tref rannu costau unrhyw hyfforddiant a roddir.

75.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.