Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

21.

Goddefebau

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybodaeth gefndir ar yr oddefeb a ofynnwyd amdani gan y Cynghorydd Mike Peers (a oedd yn absennol) yn ymwneud â’i gais cynllunio personol 061720. Ar ôl derbyn caniatâd cynllunio yn flaenorol ar gais cynllunio presennol ar ei eiddo, roedd cais diweddarach y Cynghorydd Peers am ddiwygiad i’r estyniad hwnnw wedi ei gymeradwyo dan y broses penderfyniad dan ddirprwyaeth mewn camgymeriad, gan mai'r Pwyllgor Cynllunio ddylai benderfynu ar geisiadau gan aelodau etholedig.

 

I gywiro’r mater, byddai’r eitem yn cael ei chyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol i alluogi'r Pwyllgor Cynllunio i ardystio neu ddirymu’r caniatâd cynllunio a oedd wedi cael ei roi.

 

Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd y Cynghorydd Peers yn ceisio goddefeb i ysgrifennu a siarad â swyddogion am y mater ac i ysgrifennu a siarad ac/ neu ateb cwestiynau pan fyddai’r cais yn cael ei glywed gan y Pwyllgor Cynllunio, ond gadael cyn y drafodaeth a’r bleidlais.

22.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cyfarfod symud i sesiwn gaeedig – yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985. Eiliwyd hyn gan Julia Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem yn cael ei hystyried i fod yn eithriedig yn rhinwedd paragraff 18C, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

23.

Goddefebau pdf icon PDF 1 MB

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu goddefeb i Gynghorydd Sir y Fflint Mike Peers dan baragraffau (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i ysgrifennu a siarad â swyddogion ac i ysgrifennu at gyfarfodydd y Cyngor / Pwyllgor ond i adael cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar gais cynllunio 061720. Mae hyn yn caniatáu cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y mater gyda swyddogion Cyngor Sir y Fflint cyn belled fod o leiaf un tyst wrth siarad â swyddogion, gan felly sicrhau bod o leiaf tri o bobl wedi eu cynnwys yn y sgwrs ac y dylid cadw cofnod. Dylid caniatáu’r oddefeb am 12 mis, gan ddod i ben ar 29 Tachwedd 2021 a byddai’n ymestyn i unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg i raddau helaeth.

24.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.