Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 

Nodyn: Please note the venue 

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

28.

Cofnodion pdf icon PDF 166 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2ail Medi 2019.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai'r Cadeirydd eu llofnodi.

29.

Goddefebau

To receive any requests for dispensations.

 

Members of the press/public will be able to remain in the room whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision.  However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.

 

 

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn yr ystafell tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd am oddefebau.

30.

Eitemau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned

Pwrpas:        I drafod unrhyw faterion moesol neu waith y Pwyllgor Safonau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Cofnodion:

(a)       I drafod unrhyw faterion moesol neu waith y Pwyllgor Safonau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned:

 

            Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd wedi derbyn unrhyw beth cyn y cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd am unrhyw faterion gan y rhai oedd yn bresennol, ond doedd dim.

 

 (b)      I fesur diddordeb i gynnal digwyddiad hyfforddi i Gynghorwyr newydd ar y cod ymddygiad a chwilio am wirfoddolwr i’w gynnal:

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod dau gyngor tref a chymuned wedi cysylltu ag o yngl?n â’r posibilrwydd o gynnig hyfforddiant i Gynghorwyr newydd am y Cod Ymddygiad. Os oedd yna awydd am hyfforddiant o’r fath fe allai gael ei ddarparu ac roedd yn chwilio am gyngor tref a chymuned i wirfoddoli i gynnal yr hyfforddiant. 

 

Gofynnwyd a oedd modd i sesiwn o’r fath gynnwys hyfforddiant i Gadeiryddion, a chafodd hyn ei gefnogi. O ran lleoliad ar gyfer yr hyfforddiant, eglurodd y Swyddog Monitro y byddai rhywle yng ngogledd orllewin y Sir yn well gan y gallai gynnwys hyfforddiant gofynnol ar gyfer aelodau newydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’n debygol y bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ddechrau fis Tachwedd. Dywedodd y Cynghorydd William Glynn o Gyngor Cymuned Chwitffordd y byddai’n gofyn yng nghyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Chwitffordd a fyddent yn hapus i gynnal y digwyddiad yn Neuadd Bentref Carmel.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn cael ei gynnig i Gynghorwyr newydd, a bod y sesiwn hefyd yn cynnwys hyfforddiant i Gadeiryddion; ac 

 

 (b)      Ystyried defnyddio Neuadd Bentref Carmel ar gyfer yr hyfforddiant yng nghyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Chwitffordd.

Amrywio Trefn y Rhaglen

Dywedodd y Cadeirydd mai’r eitem nesaf i’w thrafod fyddai Rôl Cynghorydd.

31.

Rôl Cynghorydd pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Mewnymateb i gais gan Aelod, darparu gwybodaeth ynghylch beth sy’n cyfrif fel gwaith/gweithgareddau y tu allan i rôl Cynghorydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn manylu ar rôl Cynghorydd Sir a’r disgwyliadau posibl ganddynt.

 

                        Gyda’i gilydd, y 70 o Gynghorwyr ydi Cyngor Sir y Fflint, felly mae Cynghorydd yn rhan annatod o’r Cyngor. 

 

                        Roedd disgrifiad o rôl Cynghorydd Cyngor Sir y Fflint wedi’i gyhoeddi ar y wefan, ac roedd yn ymdrin ag atebolrwydd, rôl, pwrpas a gweithgarwch.

 

                        Fel canllaw, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn credu fod rôl Cynghorydd ‘meinciau cefn’ yn debygol o fod gyfwerth â gweithio tri diwrnod yr wythnos. Roedd Aelod Cabinet yn debygol o weithio yr hyn oedd gyfwerth â 37 awr yr wythnos. 

 

                        Roedd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned rôl ar wahân eu hunain i’w chwarae. Roedd hi’n bwysig fod Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cydweithio i gynrychioli eu cymunedau ac fel arall, roedd Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu hannog i weithio’n agos â’u gilydd a chynnal cyfarfodydd rheolaidd – dyma oedd pwrpas Fforwm Sir y Fflint.

 

                        Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ‘Canllaw i Gynghorwyr Newydd yng Nghymru’ sydd yn nodi rôl Cynghorydd, ac roedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd canllaw cymdeithas Llywodraeth Leol i weithio mewn amgylchedd gwleidyddol ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd. Croesawodd y pwyllgor yr adroddiad, yn enwedig canllaw CLlLC gan ofyn bod y canllaw’n cael ei anfon at bob Cynghorydd Sir a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.

 

                        Dywedodd Ken Molyneux fod yr wybodaeth am gyfryngau cymdeithasol o fewn y ddogfen yn brin. Fe eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod gan CLlLC brotocol ar wahân ar gyfer cyfryngau cymdeithasol; eglurodd y Swyddog Monitro fod hyn wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor Safonau o’r blaen, ac roedd modd dod o hyd iddo ar wefan CLlLC.  Fe ychwanegodd y byddai rhagor o wybodaeth ar gael gan Glercod Cynghorau Tref a Chymuned oedd â mynediad at Un Llais Cymru neu Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.

             

            PENDERFYNWYD:

 

             (a)      Derbyn yr adroddiad; a

 

 (b)      Anfon copi o ganllaw CLlLC ‘Canllaw i Gynghorwyr Newydd yng Nghymru’, oedd yn nodi rôl Cynghorwyr, at Gynghorau Sir a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.

32.

ADRODDIADAU O YMWELIADAU AELODAU ANNIBYNNOL A CHYNGHORAU TREF/CYMUNED

Pwrpas:        I dderbyn adroddiad llafar gan aelod annibynnol o'r Pwyllgor, Rob Dewey, ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Northop Hall ar 10fed Medi 2019

Cofnodion:

Cyflwynodd Rob Dewey ei adroddiad ar lafar ar ôl ymweld fel aelod annibynnol â chyfarfod Cyngor Cymuned Northop Hall a gynhaliwyd ar 10 Medi.

 

                        Bu’r cyfarfod yn brofiad cadarnhaol iawn dan Gadeiryddiaeth medrus y Cadeirydd gyda chymorth y Clerc. Fe soniodd am arwyddion da y tu allan i’r cyfarfod, yn ogystal ag arwyddion gydag enwau’r cynghorwyr yn y cyfarfod. Roedd y Clerc yn newydd ac roedd cwrs hyfforddiant priodol wedi cael ei ddewis ar ei chyfer. Fe ddarparodd adroddiad da a thrylwyr. Roedd yn canmol lefel yr ymrwymiad a chyfraniadau gan bawb oedd yn bresennol.

 

                        Roedd yn teimlo y byddai’n fuddiol petai Cynghorau Tref a Chymuned yn cyhoeddi cofnodion drafft eu cyfarfodydd blaenorol o ystyried yr amser rhwng cyfarfodydd, a byddai hyn yn gynorthwyol i aelodau’r cyhoedd. Roedd y Cynghorydd Heesom yn cefnogi hyn a gofynnodd i’r Swyddog Monitro edrych ar y posibilrwydd.

 

                        Roedd un ymweliad ar ôl, sef i Gyngor Tref Shotton; roedd y Cynghorydd Ken Molyneux yn ymweld yr wythnos nesaf.

 

            PENDERFYNWYD:

           

Derbyn yr adroddiad llafar a rhoi adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned.

33.

Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu adborth trosfwaol mewn perthynas â’r holl ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad gan egluro fod aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau wedi mynychu pob cyfarfod Cyngor Tref a Chymuned heblaw un dros y 12 mis diwethaf.  Cynhaliwyd yr ymweliadau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned yn cael eu cynnal ar draws y Sir, gyda ffocws penodol ar faterion sy’n ymwneud â Chod Ymddygiad Aelodau (y Cod), a darparu unrhyw adborth sydd yn deillio o’r ymweliadau a allai fod yn ddefnyddiol.

 

                        Yr adborth cyffredinol oedd fod cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint wedi’u trefnu’n dda ac yn boblogaidd ac y dylid canmol Cynghorau Tref a Chymuned a’u Clercod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.

 

                        Roedd copïau o lythyrau a anfonwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned ar ôl pob ymweliad wedi cael eu dosbarthu ac roeddynt ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

                        Roedd themâu cyffredin wedi codi ac roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau yn credu y dylid gwneud gwelliannau i gyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned, sef:

 

  1. Dylai ‘Datgan Cysylltiad’ ymddangos fel eitem sefydlog ar bob rhaglen cyn i eitemau’r cyfarfod cael eu rhestru;
  2. Os bydd Cynghorydd yn Datgan Cysylltiad, dylent nodi ar lafar a yw’r cysylltiad yn bersonol, neu’n bersonol ac sy’n rhagfarnu, a dylid rhoi eglurhad byr o natur y cysylltiad gan gynnwys pa eitem y mae’r cysylltiad yn ymwneud ag o, a dylid ei gyflwyno’n ysgrifenedig cyn diwedd y cyfarfod hefyd;
  3. Dylai rhaglenni fod ar gael ar wefan y Cyngor cyn y cyfarfodydd a dylai cofnodion y cyfarfod gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor;
  4. Er mwyn hyrwyddo hygyrchedd, dylai lleoliad, dyddiad ac amser y cyfarfodydd fod ar gael ar wefan y Cyngor a dylid rhoi digon o arwyddion o amgylch y lleoliad ei hun;
  5. Dylai enwau’r Cynghorwyr gael eu hargraffu mewn cyfarfodydd er mwyn i aelodau’r cyhoedd wybod pwy ydi Aelodau’r Cyngor;
  6. Dylid trefnu sesiynau cynefino i bob Cynghorydd newydd, gan gynnwys eglurhad o’r hyn a ddisgwylir ganddynt o dan y Cod;
  7. Mae’r materion sydd eu hangen o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 wedi’u cyhoeddi ar wefannau Cynghorau Tref a Chymuned:

a)    Gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â’r Cyngor, ac os yn wahanol, y Clerc gan gynnwys:

                                              i.        Rhif Ffôn;

                                            ii.        Cyfeiriad Post;

                                           iii.        Cyfeiriad e-bost;

b)  Gwybodaeth am bob Aelod, gan gynnwys:

                                              i.        Enw’r Aelod;

                                            ii.        Sut y gellir cysylltu â’r Aelod;

                                           iii.        Cysylltiad yr Aelod ag unrhyw Blaid (os o gwbl);

                                           iv.        Y ward y mae’r Aelod yn ei g/chynrychioli (lle y bo’n berthnasol);

                                            v.        Unrhyw swydd yn y Cyngor sydd gan yr Aelod;

                                           vi.        Unrhyw Bwyllgor o’r Cyngor y mae’r Aelod yn rhan ohono.

c)  Cofnodion o’r hyn a ddigwyddodd yng nghyfarfod y Cyngor ac unrhyw ddogfen y cyfeirir atynt yn y cofnodion (yn ôl yr hyn sy’n rhesymol ymarferol);

d)  Unrhyw fantolenni a archwiliwyd o gyfrifon y Cyngor; a

e)  Chofrestr o fuddiannau'r Aelodau.

  

                        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, fe eglurodd y Swyddog Monitro ei bod yn ofyniad i gyhoeddi manylion cyswllt Aelodau, ond roedd modd iddo roi caniatâd, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 221 KB

Pwrpas:        Er mwyn I’r Pwyllgor ystyried testunau I’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol.

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. 

 

Ym mis Tachwedd bydd Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag adroddiad am Drafod gyda’r Cyngor ar Faterion Moesegol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

35.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.