Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Caffi Isa, Mynydd Isa Library Community Centre, Mercia Drive, Mynydd Isa, Mold CH7 6UH

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

29.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arHydref 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y cofnodion yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

30.

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Cofnodion:

            Dim.

31.

Ymateb gan Lywodraeth Cymru i gais am gosbau mwy pdf icon PDF 46 KB

Pwrpas:Nodi’r ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cais gan y Pwyllgor am amrywiaeth gynyddol o gosbau yn y Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ymateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i'r cais gan y Pwyllgor i gynyddu amrediad a hyblygrwydd cosbau yn y Mesur Llywodraeth Leol.

 

Dywedodd Julia Hughes fod yr ymateb gan LlC i gais y pwyllgor yn siomedig gan nad oedd yn rhoi awgrym o pryd y byddai'r rheoliadau'n cael eu hadolygu yn y dyfodol.Teimlai ei bod yn bwysig fod y Pwyllgor yn mynegi ei safbwyntiau ar yr angen am amrediad ehangach a mwy hyblyg o gosbau.

 

Gwnaeth y Swyddog Monitro sylw ar yr ymwybyddiaeth o’r mater hwn ar lefel genedlaethol a’i fod wedi ei godi yn y Gynhadledd Safonau Cymreig diweddar a fynychwyd gan aelodau o'r Pwyllgor Safonau a swyddogion llywodraeth leol perthnasol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylid cysylltu â’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i ganfod eu safbwyntiau ar yr angen i gynyddu amrediad a hyblygrwydd y cosbau.Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro y gallai'r Pwyllgor gysylltu â'r swyddogion monitro mewn awdurdodau eraill a gofyn iddynt godi'r mater gyda Phwyllgor yr Iaith Gymraeg. Gallai'r Pwyllgor hefyd gysylltu â Chadeiryddion Pwyllgorau Safonau eraill i ofyn iddynt ysgrifennu at LlC a gellid rhoi pwysau gwleidyddol drwy CLlLC, arweinwyr y Cynghorau ac Aelodau.Awgrymodd y Swyddog Monitro hefyd y gallai cynghorau tref a chymuned lobïo grwpiau fel Un Llais Cymru pe dymunent.

 

Yn dilyn cynnig gan Julia Hughes cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Swyddogion Monitro mewn awdurdodau lleol eraill i rannu’r ohebiaeth a anfonwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Safonau Sir y Fflint i LlC, a'r ymateb a dderbyniwyd, a'r cais ar i’r mater gael ei godi gyda’u Pwyllgorau Safonau priodol gyda’r bwriad o gyflwyno cais ar y cyd i LlC os oeddent yn rhannu’r un pryderon. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Swyddogion Monitro mewn awdurdodau lleol eraill i rannu’r ohebiaeth a anfonwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Safonau Sir y Fflint i LlC, a'r ymateb a dderbyniwyd, a'r cais ar i’r mater gael ei godi gyda’u Pwyllgorau Safonau priodol.

32.

Y Canllaw Diweddaraf ar Ddefnydd o'r Cyfryngau Cymdeithasol gan CLlLC pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas: Diweddaru’r Pwyllgor ar y Canllaw Diwygiedig gan CLlLC

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i roi’r diweddaraf i’r Pwyllgor ar y canllawiau diwygiedig gan CLlLC.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd nad oedd y Cyngor wedi mabwysiadu protocol arwahân ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ond ei fod wedi cylchredeg y canllawiau a gyhoeddwyd gan CLlLC i Aelodau oedd yn mynd i’r afael â’r materion a gaiff eu codi gan y cyfryngau cymdeithasol yn glir a chynhwysfawr.Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro mai pwrpas y canllawiau a oedd wedi eu diweddaru oedd i alluogi Cynghorwyr i elwa o’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol tra’n lleihau’r risgiau cysylltiedig fel niwed i enw da a/neu dorri’r cod ymddygiad, yn ogystal â darparu cyngor ymarferol ar sut i reoli'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn lles personol y Cynghorwyr.Roedd y canllawiau a oedd wedi eu diweddaru hefyd yn darparu dolen i ganllawiau newydd yn ymwneud yn benodol ag ymdrin â chamdriniaeth ar-lein.Roedd copi o’r canllawiau ynghlwm â’r adroddiad. 

 

                        Yn ystod trafodaeth ymatebodd y Swyddog Monitro i’r cwestiwn a godwyd gan Glerc Cyngor Tref Saltney yn ymwneud â pha gamau y gellid eu cymryd pe bai'r polisi cyfryngau cymdeithasol yn cael ei dorri.Eglurodd y byddai'r Ombwdsmon, wrth ymchwilio i gwyn, yn edrych i weld a oedd darpariaethau’r cod ymddygiad wedi eu torri ac y byddai’n defnyddio canllawiau atodol, pan fo diffyg eglurder o fewn y cod, neu’n edrych am eglurhad pellach yngl?n â beth allai hynny olygu. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro mai dim ond os oedd y cod ymddygiad wedi ei dorri y gallai’r Ombwdsmon weithredu.Wrth ymateb i gwestiynau pellach a godwyd gan Glerc Cyngor Tref Saltney yn ymwneud â sut i atal unrhyw achosion o dorri’r polisi cyfryngau cymdeithasol, eglurodd y Swyddog Monitro mai Cadeiryddiaeth gref oedd yr amddiffyniad cyntaf yn erbyn ymddygiad annerbyniol a allai ddatrys materion yn gynnar. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Lloyd nifer o bryderon yn ymwneud â'r defnydd amhriodol o'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod etholiadau lleol. Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r Awdurdod yn mynd i’r afael â'r cwynion a wnaed i’r Cyngor ac y byddai’n edrych i weld a oedd ymgeiswyr wedi torri’r rheolau, ond nid oedd ganddo'r adnoddau i fonitro'r defnydd helaeth o'r cyfryngau cymdeithasol yn llawn.Dywedodd fod yr aelodau presennol yn ddarostyngedig i’r cod ymddygiad yn ystod etholiadau lleol a dywedodd y byddai'r ddeddf etholiadol yn cael ei thorri pe byddai ymgeiswyr yn dweud anwiredd am gymeriad ymgeisydd arall (er enghraifft eu gwrthwynebydd).  

 

                        Tynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw at dudalen 34 yng nghanllawiau CLlLC sydd wedi eu diweddaru a sydd ynghlwm i'r adroddiad ar fonitro'r cyfryngau cymdeithasol.

 

                        Wrth ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ar fater camdriniaeth arlein gan droliaid, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y canllawiau ar aros yn ddiogel ac ymdrin â throliaid a gaiff eu cynnwys yng nghanllawiau CLlLC ar y cyfryngau cymdeithasol a thynnodd sylw at yr wybodaeth ar dudalennau cymorth Facebook a Twitter yngl?n â sut i atal defnyddwyr a rhoi gwybod am gamdriniaeth.

 

                        Wrth ymateb i ymholiad pellach gan Gyngor Cymuned  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned gan Aelodau Annibynnol

Pwrpas:  Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned gan Aelodau Annibynnol yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 1 Hydref 2018. 

 

 

Cofnodion:

                        Eglurodd y Cadeirydd fod aelodau o’r Pwyllgor yn ymweld â’r holl gynghorau tref a chymuned i arsylwi arferion a chael dealltwriaeth o sut y caiff busnes cyngor lleol ei drin. Roedd yr ymweliadau yn cael eu cynnal gyda'r bwriad o elwa o rannu profiadau a gwybodaeth yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd eglurodd y Swyddog Monitro nad bwriad yr ymweliadau oedd bod yn broses asesu a’u bod gyda chaniatâd.Y safbwynt oedd bod yna fuddion cadarnhaol i’w hennill gan yr Awdurdod a'r Cynghorau Tref a Chymuned o gydweithio a rhannu arferion da a gweithdrefnau.Eglurodd mai’r bwriad oedd rhoi adborth ar yr ymweliadau i’r Cynghorau Tref a Chymuned ar ddiwedd y rhaglen pan fyddai’r holl wybodaeth a gasglwyd yn cael ei hystyried.Dywedodd pe byddai yna unrhyw bryderon penodol yn codi yn y cyfamser y byddai'r Awdurdod yn codi hyn gyda'r Cyngor Tref neu Gymuned dan sylw. 

 

Gofynnodd nifer o Glercod Cynghorau Tref a Chymuned a ellid darparu adborth yn y cyfamser i’r Cynghorau Tref a Chymuned yr ymwelwyd â hwy i ddarparu sicrwydd y dilynir arfer da ac nad oedd unrhyw bryderon wedi eu hamlygu. Dywedodd Julia Hughes y byddai o fudd i’r Pwyllgor Safonau a’r Cynghorau Tref a Chymuned i gael cadarnhad y dilynir arfer da.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson fod adborth yn cael ei ddarparu i Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn ymweliad ac eiliwyd hyn.O’i roi i bleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Kenneth Molyneux i adrodd ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Argoed a phresenoldeb mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2018.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd rhoddodd y Swyddog Monitro gyngor ar weithdrefnau yn ymwneud â datganiadau o gysylltiad mewn cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned.Pwysleisiodd y Swyddog Monitro pan fo datganiad o gysylltiad yn cael ei wneud ei bod yn hanfodol fod yr unigolyn a oedd yn gwneud y datganiad wedi cwblhau ffurflen datgan cysylltiad ar y pryd neu fel arall byddai'r datganiad yn cael ei ystyried fel un di-rym. Hefyd dywedodd y Swyddog Monitro pan fo datganiad o gysylltiad wedi ei gofrestru’n flaenorol roedd yn parhau yn angenrheidiol i ddatgan y cysylltiad mewn cyfarfodydd dilynol.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod yr adroddiad yn cael ei nodi a’i dderbyn; a

 

(b)       Fod adborth yn cael ei ddarparu i Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn ymweliad.

34.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad a oedd yn darparu cyfanswm y cwynion moesegol yn honni torri’r cod ymddygiad a oedd wedi eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir yngl?n â sut roedd cofrestr y cwynion wedi ei llunio a dywedodd fod cwynion pellach wedi eu cyflwyno yn ymwneud ag un Cyngor Tref ers yr adroddiad diwethaf. Roedd un gwyn wedi ei gwneud gan aelod o’r cyhoedd ac roedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu ymchwilio i'r gwyn honno.  

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar y rhestr o gwynion a dderbyniwyd yn ystod 2016/17 a 2017/18. Yn ystod trafodaeth dywedodd y Swyddog Monitro mai ychydig o gwynion a oedd wedi datblygu’n ymchwiliad ac roedd lleiafswm o’r rhain wedi mynd ymlaen i wrandawiad.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Bod y nifer a’r mathau o gwynion yn cael eu nodi. 

35.

Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2016/17

Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar ar Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2016/17. Dilynwch y ddolen ganlynol i weld yr adroddiad:-

 

https://gov.wales/docs//apw/publications/180213-apw-annual-report-2016-2017-en.pdf

 

Cofnodion:

                        Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar lafar ar Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2016/17. Rhoddodd drosolwg o’r prif adrannau canlynol o fewn yr adroddiad:

 

  • amdanom ni – Panel Dyfarnu Cymru – swyddogaethau statudol
  • perfformiad a chynnydd
  • crynodebau o achosion
  • ein cwsmeriaid – arolwg boddhad cwsmer
  • blaenoriaethau busnes
  • gwariant

 

Manteisiodd y Cynghorydd Richard Lloyd ar y cyfle i ddiolch i’r Dirprwy Swyddog Monitro am y sesiwn hyfforddi yr oedd wedi ei ddarparu’n ddiweddar yng Nghyngor Tref Saltney. Roedd nifer o aelodau o Gynghorau Tref a Chymuned eraill wedi bod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

36.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 55 KB

Pwrpas:  Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w  cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol sydd ynghlwm.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 3 Rhagfyr, a dywedodd fod adolygiad o’r Cod Ymddygiad Cynllunio ar yr amserlen i’w drafod yn y cyfarfod fel rhan o adolygiad treigl yr Awdurdod o'r Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

37.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.