Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Gofynnir am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor. Cofnodion: Eglurodd y Swyddog Monitro y gofynion fel y maent yn y Cyfansoddiad a dywedodd nad oedd y Cadeirydd presennol am gael ei ail benodi oherwydd ymrwymiadau gwaith.
Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd newydd i’r Pwyllgor. Enwebodd y Cynghorydd Woolley Rob Dewey ac eiliodd Phillipa Earlam hyn. Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
Penodi Rob Dewey yn Gadeirydd y Pwyllgor.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd weddill y cyfarfod) |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Gofynnir am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Pwyllgor. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is Gadeirydd i’r Pwyllgor. Cafodd enwebiad Phillipa Earlam, sef Julia Hughes, ei eilio gan Ken Molyneux. Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
Penodi Julia Hughes fel Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Gorffennaf 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd a chymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018, yn ddibynnol ar nifer o newidiadau i gofnod rhif 86 a gwall teipograffyddol ar gofnod rhif 87.
Materion yn Codi
O safbwynt paragraff olaf cofnod rhif 86, dywedodd Philippa ei bod hi ar ddeall bod y daflen wedi ei chylchredeg ar ddiwrnod y Fforwm.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y weithdrefn sy'n ymwneud â chynghorydd yn sefyll i lawr wrth i ymchwiliad gael ei gynnal. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n defnyddiol rhannu hwn gyda'r Pwyllgor.
Cytunodd y Swyddog Monitro gysylltu â’i swyddog cyfatebol yng Nghyngor Gwynedd er mwyn gweld beth oedd y ddogfen a gweld a ellid ei osod ar raglen cyfarfod gr?p nesaf y Swyddogion Monitro.
Cofnod rhif 88: Y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol – holodd Julia Hughes am ganlyniad dau gam gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod wedi derbyn copi o dempled yr adroddiad blynyddol. Byddai’r mater o amlder yr adrodd ar Drosolwg o Gwynion Moesegol yn cael ei drin o dan y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Canllawiau Sancsiynau Panel Dyfarnu Cymru PDF 82 KB Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y Canllawiau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar ganllawiau sancsiynau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru, i’w defnyddio pan fyddai tribiwnlys achos neu dribiwnlys apêl yn canfod fod cynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau. Manylwyd ar bum pwrpas y canllaw yn ogystal â’r dull gweithredu pum cam ar gyfer penderfynu ar gosb.
Wrth gofio trafodaeth yn y Gynhadledd Safonau, eglurodd y Swyddog Monitro mai er mai nifer fechan o achosion sy’n cyrraedd y cam tribiwnlys, roedd amrywiaeth ehangach o sancsiynau addas ar gael i’w defnyddio yn Lloegr. Tra na allai Panel Dyfarnu Cymru ymgyrchu dros newid i ddedfwriaeth yng Nghymru, roedd yn bosib y gallai cyngohrau wneud eu sylwadau eu hunain. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i fabwysiadu newid o’r fath ac y gallai'r Pwyllgor, pe dymunent, ystyried ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi sylwadau ar hyn.
Wrth gynnig yr awgrym hwn fel argymhelliad ychwanegol, dywedodd y Cynghorydd Woolley y gallai rhoi mwy o opsiynau i baneli o ran sancsiynau leihau'r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y canllawiau;a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amrywiaeth o sancsiynau a hyblygrwydd sy'n bodoli yn Lloegr drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. |
|
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017/18 PDF 79 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Safonau am Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad oedd yn crynhoi prif faterion Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o safbwynt safonau cynghorau sir a thref / cymuned. Atodwyd manylion am gwynion Cod Ymddygiad ar gyfer pob cyngor at yr adroddiad.
Nodwyd y bu cynnydd o 14% mewn cwynion Cod Ymddygiad a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd sylweddol mewn cwynion am ymddygiad cynghorwyr tref / cymuned, gyda'r rhan fwyaf yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch. Tra bo’r rhan fwyaf o gwynion Cod Ymddygiad wedi eu cau ar ol eu hystyried am y tro cyntaf, bu gostyngiad yn y nifer o gwynion oedd yn cael eu cau ar ol ymchwiliad llawn. O’r tri achos oedd wedi eu hatgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru, cafwyd fod dau ohonynt yn achosion difrifol.
Atgoffodd y Swyddog Monitro fod gwybodaeth fanwl ar gael yn Llyfr Achosion yr Ombwdsmon. Er y bu cynnydd yn y nifer o gwynion, roedd hyn yn dal yn ganran isel o ystyried y nifer o gynghorau tref / cymuned yng Nghymru. Nodwyd bod yr ystadegau a nodwyd ym mhob adroddiad blynyddol yn cynnwys peth achosion oedd yn cario drosodd o flwyddyn i flwyddyn.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar natur amrywiol y cwynion, dywedodd y Swyddog Monitro bod cyflwyno’r Gweithdrefnau Datrysiadau Lleol wedi bod o gymorth i hidlo cwynion lefel isel.
Pan holodd Phillipa Earlam, dywedodd y Swyddog Monitro mai nifer isel o gwynion oedd wedi eu derbyn yn Sir y Fflint ac y byddai diweddariad yn cael ei roi ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r materion sy’n ymwneud â Chwynion Cod Ymddygiad a adroddwyd yn Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
Llyfr Achos Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) Pwrpas: I dderbyn diweddariad llafar ar Lyfr Achos yr Ombwdsmon (dolen isod).
Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro drosolwg o ganlyniadau’r cwynion a gafodd eu hymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel a ddangosir yn rhifyn mwyaf diweddar Llyfr Achosion yr Ombwdsmon. Roedd dolen i’r Llyfr Achosion wedi’i chynnwys ar y rhaglen er gwybodaeth. O'r tri achos, doedd dim tystiolaeth o dorri amod yn un achos, a doedd dim angen gweithredu yn y ddau achos arall.
Ar achos lle roedd aelod â chysylltiad personol a chysylltiad oedd yn rhagfarnu wedi siarad mewn cyfarfod, dywedodd Julia Hughes er bod y Cadeirydd caniatáu hynny, cyfrifoldeb aelodau unigol yw gwybod na ddylent siarad. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ac eglurodd bod yr amgylchiadau lliniaru oedd yn gysylltiedig â'r achos penodol hwn yn golygu nad oedd angen gweithredu pellach. |
|
Fforwm Safonol Gogledd Cymru Pwrpas: Derbyn adroddiad llafar gan Julia Hughes. Cofnodion: Cyflwynodd Julia Hughes ei hadroddiad ar y Gynhadledd Safonau a gynhaliwyd 14 Medi 2018, roedd copïau o’r adroddiad wedi eu cylchredeg cyn y cyfarfod. Tra bo’r adroddiad yn cynnwys ei chanfyddiadau ei hun o'r gynhadledd, roedd yn cydnabod y byddai pawb wnaeth fynychu â'u safbwyntiau eu hunain a gwahoddddd gynrychiolwyr eraill y Pwyllgor a fynychodd i gyfrannu.
Amlygodd rai o'r pwyntiau allweddol a godwyd gan y siaradwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru.
Soniodd y Cynghorydd Heesom am y nifer isel o aethodau etholedig oedd yn bresennol yn y gynhadledd, yr oedd yn teimlo oedd wedi ei chadeirio yn effeithiol gan y Swyddog Monitro. O safbwynt trafodaeth ar ollyngiadau, roedd yn teimlo y dylai'r Gr?p Strategaeth Cynllunio adolygu'r broses yn Sir y Fflint, gan ystyried y gwaith a wnaed gan Gyngor Gwynedd ar ddalgylchoedd o safbwynt ardaloedd ceisiadau. Wrth egluo’r dull gweithredu yn Sir y Fflint, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â Chyngor Gwynedd ac adrodd yn ôl am y canfyddiadau yn y cyfarfod nesaf lle bydd cyfle i wneud hynny. Awgrymodd y Cadeirydd ein bod yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar yr un mater.
Cytunodd y Swyddoog Monitro i gylchredeg dolen i’r wefan lle roedd papurau a chlipiau fideo o'r gynhaldedd ar gael.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 49 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
Cyfarfod mis Tachwedd:
Roedd y cyfarfod wedi ei symud i 12 Tachwedd er mwyn annog cynrychiolwyr cynghorau tref/ cymuned i fynychu. Roedd y lleoliad wedi ei newid i Gaffi Isa ym Mynydd Isa a byddai sesiwn hyfforddiant yn cael ei gynnal cyn i’r cyfarfod gychwyn. Maes o law byddai’r Swyddog Monitro yn cysylltu â’r holl Glerciaid er mwyn rhoi cyfle iddynt gyflwyno pynciau ar gyfer rhaglenni. Roedd eitemau eraill ar gyfer y cyfarfod yn cynnwys:
· Adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro ar yr hyfforddiant a gyflawnwyd. · Gwybodaeth am y broses gollyngiadau yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. · Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru. · Fersiwn ddiweddaraf Llyfr Achosion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd i’w gyhoeddi yn fuan. · Eitem i ystyried amlder adrodd ar Drosolwg Cwynion Moesegol.
Ar gyfer cyfarfodydd ar ôl mis Tachwedd:
· Cwynion Cod Ymddygiad yn Sir y Fflint. · Adborth o ymweliadau â Chynghorau Tref / Cymuned.
Ar y pwynt olaf, cytunodd y Swyddog Monitro i ddarparu rhestr llawn o Gynghorau tref / cymuned i’r Pwyllgor (gan nad oedd y rhestr a ddarparwyd eisoes yn un cyflawn) yn osgyal â'r ddogfen yn manylu ar bwrpas yr ymweliadau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |