Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Arnold Woolley diddordeb personol a rhagfarnus yn eitem rhif 5 ar yr Arolwg o Ryddhad a oedd yn ymwneud yn benodol â Chyngor Tref Bwcle.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi dosbarthu manylion Cyfnodau yn y Swydd ar gyfer aelodau lleyg y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:
Bod y cofnodion yn cael eu derbyn, eu cymeradwy a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.
|
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Cofnodion: Ar ôl dosbarthu'r agenda, cafwyd dau gais am ryddhad gan y Cynghorydd Sir Carol Ellis, a Chynghorydd Tref Bwcle David Ellid
Darparodd yr Is-swyddog Monitro fanylion y ceisiadau a oedd yn gysylltiedig â chais cynllunio (rhif cyfeirnod:057259) a fyddai’n effeithio ar Ganolfan Gymunedol Hawkesbury.
Cynghorydd Tref Bwcle David Ellis
Darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir i’r cais a oedd yn ceisio “siarad a phleidleisio” ar gais cynllunio a fyddai, pe bai’n caniatâd, yn effeithio ar Ganolfan Gymunedol Hawkesbury. Cadarnhaodd mai’r paragraff perthnasol y byddai'r cais am ryddhad yn cael ei wneud oddi dano oedd (d).
Cynghorydd Sir Carol Ellis
Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried cais am ryddhad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Carol Ellis “i allu siarad ond nid pleidleisio” ar gais cynllunio a fyddai’n effeithio ar bob defnydd yn Ardal Hawkesbury. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai’r paragraff perthnasol y byddai'r cais am ryddhad yn cael ei wneud oddi dano oedd (d).
PENDERFYNWYD:
Cynghorydd Tref David Ellis Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Tref David Ellis o dan baragraff (d) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i siarad yng Nghyngor Tref Bwcle am y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais fydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg ond i adael yr ystafell cyn i’r cais gael ei ddadlau a chyn pleidleisio arno. Hefyd i wneud sylwadau ysgrifenedig ar y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg i Gyngor Tref Bwcle.Caniateir y rhyddhad am gyfnod o 12 mis.
Cynghorydd Sir Carol Ellis Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Sir Carol Ellis o dan baragraff (d) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i siarad am y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais fydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg yng Nghyngor Tref Bwcle ac am 5 munud yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, ond i adael yr ystafell cyn i’r cais gael ei ddadlau a chyn pleidleisio arno. Hefyd i wneud sylwadau ysgrifenedig ar y cais (rhif cyfeirnod:057259), neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Y Fflint a/neu Gyngor Tref Bwcle.Caniateir y rhyddhad am gyfnod o 12 mis.
|
|
Y Pwyllgor i adolygu trwyddedau yn unol â’r gofyniad i adolygu trwyddedau’n flynyddol
Cofnodion: Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad ac esboniodd bod rhaid adolygu pob rhyddhad a ganiateir gan y Pwyllgor Safonau ac sy’n parhau i fod ar waith gan y Pwyllgor unwaith bob 12 mis o'r dyddiad y caniatawyd y rhyddhad yn y lle cyntaf.
Dosbarthodd yr Is-swyddog Monitro restr yr holl ganiatâd am ryddhad a roddwyd gan y Pwyllgor a oedd yn parhau i fod ar waith yn ogystal â’r rhai a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar ond roedd y Cynghorwyr dan sylw wedi gofyn iddynt gael eu hymestyn. Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu p’un ai a ddylai’r rhyddhad barhau i fod ar waith neu gael eu hymestyn.
Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod yna sawl caniatâd am ryddhad ar gofnod a oedd wedi’u rhoi 10 mlynedd ynghynt a bod llythyrau wedi cael eu hanfon at bob Aelod i roi gwybod iddynt am yr argymhelliad i ddileu rhyddhad a roddwyd 10 mlynedd yn ôl neu fwy. Gofynnwyd i aelodau gysylltu â’r Swyddog Monitro i neu Is-swyddog Monitro os oedd ganddynt unrhyw bryderon am y cynnig.Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo cael gwared ar ryddhad a roddwyd dros 10 mlynedd ynghynt. Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylid cytuno ar yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan Ken Molyneux a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod Cynghorwyr a chanddynt ryddhad effeithiol wedi cael gwybod am ofyniad y Pwyllgor Safonau i adolygu eu rhyddhad a phenderfynu p’un ai a fyddant yn parhau i gael effaith, yn ogystal â'r rheiny a chanddynt ryddhad a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD:
Dileu pob rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau dros 10 mlynedd ynghynt.
Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson o dan baragraff (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 am gyfnod o 12 is (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Bwcle wrth ystyried cais am gymorth ariannol gan Ganolfan Gymunedol Hawkesbury. Mae’r rhyddhad yn caniatáu iddo aros yn yr ystafell i siarad ac ateb cwestiynau ond rhaid iddo adael yr ystafell (ac felly ddim pleidleisio) ar ôl gwneud hynny.
Cynghorwyr Sir Dennis Hutchinson a Mike Peers Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Mike Peers am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) o dan baragraffau (d), (f) a (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i gyfathrebu gyda swyddogion Cyngor Tref Bwcle a Chyngor Sir Y Fflint mewn pob mater sy’n gysylltiedig â Hen Neuadd Gymunedol Baddonau Bwcle Cyfyngedig i:
Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi) o dan baragraffu (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) ... view the full Cofnodion text for item 21. |
|
Aelodaeth y Pwyllgor - Sedd Wag ar y Pwyllgor PDF 73 KB Cynghori ar yr angen i lenwi sedd wag ar y pwyllgor a’r cyfle i hysbysebu ar gyfer y sedd wag ar y cyd â'r Awdurdod Tân.
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad a siaradodd am y lle gwag sydd ar y Pwyllgor Safonau ar gyfer aelod lleyg. Rhoddodd wybod iddynt fod yr Awdurdod Tân hefyd yn ceisio penodi aelod lleyg i’w Bwyllgor Safonau ac o ganlyniad roedd yna gyfle i ystyried hysbysebu ar y cyd am y penodiad a’r posibilrwydd o benodiad ar y cyd i leihau costau a rhoi proffil uwch i'r ymgyrch hysbysebu.
Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd, esboniodd y Swyddog Monitro nad yw’r cyfnod yn y swydd i aelod lleyg o’r Pwyllgor yn llai na phedair nac yn fwy na chwe blynedd. Roedd rheoliadau’n gofyn i banel penodi gael ei sefydlu a meini prawf penodol gael eu pennu ar gyfer unrhyw aelod lleyg a benodir i’r Pwyllgor. Yn ystod y trafodaethau awgrymwyd y gellid sefydlu panel cyfweld ar y cyd gyda’r Awdurdod Tân yn cynnwys Cadeirydd Pwyllgor Safonau'r Cyngor a’r Awdurdod Tân, Cynghorydd Cymunedol, aelod lleyg, a Chadeirydd yr Awdurdod Tân. Byddai hyn yn golygu cyfanswm o ddau gynrychiolydd o’r Cyngor, dau gynrychiolydd o’r Awdurdod Tân, ac unigolyn lleyg.
Yn ystod trafodaeth cymeradwywyd yr argymhelliad i geisio cydsyniad yr Awdurdod Tân i hysbysebu ar y cyd gyda’r Cyngor am aelod lleyg i Bwyllgorau Safonau’r ddau awdurdod, a dylid archwilio'r posibilrwydd o benodi ar y cyd gyda'r Awdurdod Tân. Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y panel cyfweld ar y cyd a awgrymwyd a chynnig bod hyn hefyd yn cael ei gymeradwyo a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arnold Woollet.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Johnson ynghylch cydbwysedd y rhywiau ac aelodaeth ar y Pwyllgor, cydnabu'r Swyddog Monitro y pwyntiau a godwyd a dywedodd y byddai’n siarad gyda’r tîm cyfathrebu i geisio ystod eang o ymgeiswyr i’w hystyried. Awgrymodd ei fod yn dosbarthu copïau o’r meini prawf a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol i’r Pwyllgor, er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid ceisio cydsyniad yr Awdurdod Tân i hysbysebu ar y cyd gyda’r Cyngor am aelod lleyg i Bwyllgorau Safonau’r ddau awdurdod, a dylid archwilio'r posibilrwydd o benodi ar y cyd gyda'r Awdurdod Tân; a
(b) Y dylid sefydlu panel cyfweld ar y cyd a fyddai’n cynnwys Cadeiryddion Pwyllgor Safonau'r Cyngor a’r Awdurdod Tân, Cynghorydd Cymunedol, aelod lleyg, a Chadeirydd yr Awdurdod Tân.
|
|
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2016/17 PDF 76 KB Pwrpas: Nodi’r materion sy’n ymwneud â Chwynion Cod Ymddygiad a adroddwyd yn Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r prif faterion yn yr Adroddiad Blynyddol gyda ffocws arbennig ar safonau cynghorwyr Sir a Thref a Chymuned. Rhoddodd wybod mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd adrodd ar berfformiad swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) dros y flwyddyn ac i gyflwyno unrhyw negeseuon allweddol sy’n codi o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn.
Cyfeiriodd yr Is-swyddog Monitro at y prif ystyriaethau oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghylch cwynion Cod Ymddygiad ac achosion cod ymddygiad.
Yn ystod y drafodaeth cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn dosbarthu copi lliw o’r Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
|
|
Ymweliad yr Ombwdsman â chyd-gyfarfod y Pwyllgor Safonau a'r Cynghorau Tref a Chymuned Pwrpas: I drafod pynciau a chwestiynau a dderbyniwyd gan gynrychiolwyr ar gyfer ymweliad yr Ombwdsman yng nghyfarfod mis Hydref.
Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad ar ymweliad nesaf yr Ombwdsmon, Mr. Nick Bennet, â chyd-gyfarfod y Pwyllgor Safonau a Chynghorau Tref a Chymuned ar 2 Hydref 2017. Cyfeiriodd at y cwestiynau a gyflwynwyd i’w trafod hyd yma a rhoddodd wybod bod Cynghorau Tref a Chyngor hefyd wedi’u gwahodd i gyflwyno cwestiynau. Gofynnodd y Swyddog Monitro i aelodau’r Pwyllgor os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau yr hoffent eu gofyn i’r Ombwdsmon. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y cwestiynau a ganlyn:
Awgrymodd y Swyddog Monitro bod diwygio Cynghorau Tref a Chymuned yn bwnc addas i’w ddadlau yn y cydbwyllgor a chefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drefniadau etholiadau lleol ac awgrymodd y gellid hefyd talu sylw i'r mater hwn yn y cyfarfod, os yn bosibl.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 46 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro y rhaglen waith i’r dyfodol a cyfeiriodd at bynciau’r cyfarfod nesaf.
Gan roi sylwadau ar bwnc rhyddhad, dywedodd y Swyddog Monitro y gellid gofyn i’r Pwyllgor ystyried unrhyw ‘adnewyddiadau’ pellach sy’n codi o ganlyniad i’r arolwg o rhestr rhyddhad a’r cyfnod estynedig a roddwyd i gynghorwyr.
Cytunodd y Swyddog Monitro ddarparu diweddariad i’r cyfarfod nesaf ar recriwtio unigolyn lleyg i’r Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol gan gynnwys yr eitemau uchod.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd dim aelod o’r wasg na'r cyhoedd yn bresennol.
.
|