Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Chwefror 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018.
Tynnodd Mrs. Phillipa Earlam sylw at anghywirdeb o ran ei henw dan yr eitem Goddefebau.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybodaeth gefndir am ddau gais am oddefeb gan y Cynghorydd Sir Mike Peers a gafwyd ar ôl cyhoeddi’r rhaglen hon. Eglurodd nad y Cynghorydd Peers oedd yr Aelod lleol ar y ceisiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd am gymryd rhan yn yr eitem gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio.
Ceisiadau cynllunio 057514 a 057295 yn Neuadd Hawkesbury, Bwcle
Eglurwyd bod y Cynghorydd Peers yn aelod o bwyllgor rheoli Canolfan Gymunedol Hawkesbury a’i fod yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a fyddai’n ystyried y ceisiadau yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ei gais oedd cymryd rhan yn y drafodaeth i godi pryderon am fynediad cyfyngedig gan gerbydau'r gwasanaethau brys i gyfleusterau gerllaw ac i bleidleisio.
Eglurodd Cynghorydd Woolley, er bod ganddo rywfaint o wybodaeth am yr adeilad, nid oedd ganddo fuddiant breintiedig ar y ceisiadau.
Holodd Mr. Rob Dewey am y rheswm pam roedd y Cynghorydd Peers yn cyfeirio at baragraff (c) sy’n ymwneud â goblygiadau cydbwysedd gwleidyddol posibl, yn ogystal â pharagraff (e) ac (f). Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn bosibl bod y Cynghorydd Peers wedi teimlo y gallai fod mater, o ystyried trefniadau cworwm y Pwyllgor Cynllunio yng Nghymru a gallai’r Pwyllgor ystyried a ddylid cynnwys paragraff (c) fel y sail ar gyfer y penderfyniad ai peidio.
Roedd y Cadeirydd yn cofio nad oedd y Pwyllgor wedi rhoi hawliau pleidleisio ar oddefebau tebyg yn y gorffennol. Gofynnodd a oedd y Pwyllgor am roi caniatâd i siarad a chyfathrebu yn ysgrifenedig ond nid i bleidleisio. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro am eglurhad am yr amser byddai'r Cynghorydd Peers yn ei gael i siarad dan yr oddefeb, gan fod ganddo hawl i siarad am dri munud mewn unrhyw achos. Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid rhoi pum munud o amser siarad oherwydd y materion cymhleth oedd yn ymwneud â’r cais.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor am roi goddefeb dan baragraffau (e) ac (f) yn unig, i siarad am bum munud a chyfathrebu yn ysgrifenedig gyda swyddogion, ond byddai rhaid iddo adael y cyfarfod cyn y bleidlais. Byddai’r oddefeb yn berthnasol am 12 mis a byddai’n cynnwys ceisiadau tebyg fel a benderfynwyd gan y Swyddog Monitro.
O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom bod ei benderfyniad i ymatal yn cael ei gofnodi yn y cofnodion.
Cais cynllunio 057689 ar Ffordd Alltami, Bwcle
Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd y Cynghorydd Peers yn ceisio goddefeb i siarad a phleidleisio ar y cais, ac os byddai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n arwain at gyfraniadau ariannol tuag at addysg yn Ysgol Gynradd Mountain Lane lle roedd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr.
Gwnaeth y Swyddog Monitro lunio cymhariaeth gyda chais a gyflwynwyd yn 2014 gan y cyn Gynghorydd Alison Halford, lle roedd goddefeb wedi’i roi i siarad, pleidleisio a chyfathrebu yn ysgrifenedig. Roedd y penderfyniad hwnnw wedi’i wneud ar y sail y byddai’r ysgol berthnasol yn cael mantais yn hytrach na’r Cynghorydd Halford. Nid oedd y penderfyniad a ... view the full Cofnodion text for item 61. |
|
Ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned PDF 70 KB Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn cytuno ar rota o ymweliadau a’r canllawiau er mwyn eu cynnal. Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad i ystyried y dull i aelodau annibynnol y Pwyllgor gynnal ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned, fel a awgrymwyd yng nghyfarfod mis Ionawr. Yn dilyn cyfathrebu â Chynghorau Tref a Chymuned, dim ond un Cyngor Tref oedd wedi rhoi ymateb i groesawu’r ymweliadau. Ar y sail honno, gofynnwyd i aelodau roi ystyriaeth i p’un a oeddent am ohirio’r eitem wrth aros am ymgynghoriad pellach, neu fwrw ymlaen a rhoi ystyriaeth i’r canllawiau drafft yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Woolley fod y Pwyllgor yn derbyn yr argymhelliad a’r canllawiau fel a nodir yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.
Eglurodd Mrs. Julia Hughes mai nod yr ymweliadau oedd helpu i wella safonau a sicrhau bod gan aelodau’r cyhoedd fynediad da i’w cyfarfodydd lleol. Yr arfer a gaiff ei weithredu gan gyngor cyfagos oedd nid rhag-gyhoeddi rota ar gyfer yr ymweliadau, ond darparu rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd cyngor i aelodau annibynnol sy’n cymryd rhan. Yna byddent yn cysylltu â’r Clercod a chyflwyno eu hunain, gan egluro eu bwriad i fynychu cyfarfod i arsylwi yn hytrach na chymryd rhan (yr un fath ag aelod o’r cyhoedd) a gadael y cyfarfod cyn unrhyw eitemau eithriedig. Pe bai gofyn i'r aelod gyflwyno ei hun, defnyddir sgript gyffredin i egluro pwrpas yr ymweliad o ran codi ymwybyddiaeth o’r Cod Ymddygiad a chefnogi cynghorau i ddeall eu rhwymedigaethau. Bydd adborth cyffredin ar lafar yn cael ei adrodd yn rheolaidd i’r Pwyllgor Safonau ar faterion fel mynediad i raglenni, materion gweithdrefnol, cyfranogiad aelodau, rhoi enghreifftiau o arfer da ac amlygu anghenion hyfforddiant.
Awgrymodd Mrs. Phillipa Earlam dylid cyhoeddi rhestr wirio i ddangos tryloywder ond roedd y Cynghorydd Johnson yn pryderu y gellid ei ddehongli fel arolwg. Teimlai ei bod yn bwysig hyrwyddo’r ymweliadau fel gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac aeth ymlaen i ofyn a fyddai gwrthdaro buddiannau ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a oedd ar Gynghorau Tref a Chymuned hefyd. Dywedodd y Swyddog Monitro na fyddai angen i’r Aelodau hyn ddatgan cysylltiad personol.
Awgrymodd y Swyddog Monitro ei fod yn ysgrifennu at Glercod i egluro natur yr ymweliadau o ran cymryd nodiadau o ganfyddiadau ac edrych ar brosesau sy’n arwain at ymddygiad moesegol da a oedd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.
Trafododd Aelodau sut dylid adrodd adborth yn ôl i’r Pwyllgor. Roedd Mrs. Hughes yn teimlo y dylai adborth llafar fod yn gyffredinol, gyda’r pwyntiau allweddol wedi’u cynnwys yn y cofnodion a oedd yn ddogfen gyhoeddus. Dywedodd Mr. Rob Dewey y gallai adborth ddangos nifer y cynghorau yr ymwelwyd â nhw a hefyd y prif ganfyddiadau.
Awgrymodd Cynghorydd Johnson y gellid arsylwi’r dull a gymerwyd gan y cyngor cyfagos a’i addasu i’w ddefnyddio gan Sir y Fflint. Dywedwyd bod aelodau yn gallu gweld cofnodion a gyhoeddwyd gan y cyngor hwnnw i weld sut roedd adborth ar lafar yn cael ei adrodd.
Cynigiodd Mrs. Hughes ddiwygiad i’r cynnig cadarn gan y Cynghorydd Woolley nad oedd y rota ar gyfer ymweliadau yn cael ei gyhoeddi a bod ... view the full Cofnodion text for item 62. |
|
Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 80 KB Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad am gwynion am achosion honedig o dorri cod ymddygiad yr aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd cyfanswm o naw cwyn wedi dod i law yn 2016/17 a chafwyd dau yn 2017/18 hyd yma.
Gan fod yr adroddiad i fod yn ymddangos yn rheolaidd ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gofynnodd Mrs. Julia Hughes a ellid ei wella i ddangos yr Awdurdod, ffynhonnell y g?yn a chanlyniad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac o ganlyniad, byddai angen i’r adroddiad gael ei ystyried mewn sesiwn gaeedig.
Roedd Cynghorydd Heesom yn teimlo y gallai’r wybodaeth yn yr adroddiad gael ei hymestyn wrth ei chadw fel dogfen gyhoeddus. Cefnogwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley.
Awgrymodd y Swyddog Monitro y gallai’r adroddiad nodi Cyngor Tref neu Gymuned ‘1’, ‘2’ ac ati, ac Aelod ‘a’, ‘b’ ac ati, i wahaniaethu’r math o gyngor a sawl sy’n cwyno, heb eu hadnabod. O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y gwelliant.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod nifer a mathau o gwynion yn cael eu nodi; a
(b) Bod adroddiadau’r dyfodol yn darparu eglurder ar wahanol gynghorau ac aelodau gan ddefnyddio ffigyrau a llythrennau i wahaniaethu rhyngddynt heb eu hadnabod. |
|
Llyfr Achos Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) Pwrpas: I dderbyn diweddariad llafar ar Lyfr Achos yr Ombwdsmon (dolen isod).
Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro drosolwg o ganlyniadau cwynion a gafodd eu hymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel a ddangosir yn rhifyn mwyaf diweddar Llyfr Achosion yr Ombwdsmon. Roedd dolen i’r Llyfr Achosion wedi’i chynnwys ar y rhaglen er gwybodaeth. |
|
Cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru Pwrpas: Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ym mis Mai yng Ngwynedd -dyddiad i'w gadarnhau. Oes yna unrhyw faterion yr hoffai’r Pwyllgor eu rhoi ar y rhaglen? Cofnodion: Cytunodd y Swyddog Monitro i gynghori’r Pwyllgor am y dyddiad a gytunwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm a oedd i gael ei gynnal ym mis Mai yng Nghyngor Gwynedd. Er mai’r arfer arferol oedd gwahodd Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Safonau, roedd pob aelod o’r awdurdod cynnal yn cael mynychu os oeddent yn dymuno.
Gwnaeth y Cadeirydd wahodd aelodau i awgrymu pynciau ar gyfer rhaglen y cyfarfod.
Cyfeiriodd Mrs. Phillipa Earlam at drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol a gofynnodd am eitem ar arferion/protocolau ar gyfryngau cymdeithasol a weithredir gan gynghorau eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Swyddog Monitro yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ddyddiad y cyfarfod; a
(b) Bod y Swyddog Monitro yn cyflwyno eitem rhaglen i ymgynghori ar arferion/protocolau cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu gweithredu gan gynghorau eraill. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 52 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Byddai’r rhaglen o sesiynau hyfforddiant a nodwyd gan y Dirprwy Swyddog Monitro cyn dechrau’r cyfarfod yn cael ei threfnu.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at drafodaeth am y protocol cyfryngau cymdeithasol yn y cyfarfod blaenorol a dywedodd eu bod yn ceisio adborth gan y swyddogion perthnasol cyn cyflwyno sylwadau i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddai eitem ar ganlyniad canllawiau CLlLC wedi’u diweddaru yn cael ei adrodd i gyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd Cynghorydd Heesom bod y Swyddog Monitro yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw oblygiadau yn y dyfodol sy’n codi o newidiadau o ran diogelwch gwybodaeth.
Fel pwynt cywirdeb, nodwyd y byddai Cyngor Gwynedd yn cynnal Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD:
Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |