Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

43.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

44.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Rhagfyr  2017.

.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2017.

 

Fel mater o gywirdeb, nodwyd fod y cyfarfod wedi ei gynnal yn Neuadd Y Sir.

 

Materion yn Codi

 

Ar gofnod rhif 37, cadarnhawyd fod llythyr o ddiolch wedi ei anfon at Noela Jones am ei chyfranogiad ar y panel cyfweld.

 

Ar gofnod rhif 38, roedd y Swyddog Monitro wedi ei gynghori y byddai cyfarfod nesaf Fforwm Safonau Gogledd Cymru yn debyg o gael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd yn hytrach na Sir y Fflint.  Byddai’n ceisio cadarnhad ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Ar gofnod rhif 39, roedd crynodeb o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth wedi ei gytuno gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd a byddai’n cael ei gylchredeg i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

45.

Goddefebau pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cais am oddefeb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Christine Jones oedd am siarad yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 057808 oedd yn ymwneud â chodi chwe annedd.  Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd wedi datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu gan fod safle’r cais wedi ei leol y tu ôl i’w chartref.  Fel arfer byddai’r cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn cael eu trin drwy Bwerau Dirprwyedig a roddwyd i’r Prif Swyddog, fodd bynnag roedd cryfder barn gyhoeddus ar y cais yn golygu y byddai o bosib angen i’r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried.

 

Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro y cynghorwyd Aelodau i ofyn i Aelod arall o’r Pwyllgor Cynllunio weithredu fel Aelod ward ar eu rhan mewn achosion o’r fath, a bod y Cynghorydd Ian Dunbar wedi ei holi yn yr achos hwn.  Byddai hawl gan y Cynghorydd Jones i siarad am dri munud (yr un fath ag aelodau o’r cyhoedd) ond roedd yn ceisio goddefeb am bum munud, sef yr un fath ag Aelodau'r Pwyllgor.  Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi cynghori’r Cynghorydd Jones i wneud cais i siarad am y ddau funud ychwanegol a fyddai’n rhoi digon o amser ac a oedd yn unol â’r amser a roddwyd yn flaenorol i Aelodau eraill.

 

Eglurwyd bod y cais cynllunio eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth amlinellol.  Ar y cam hwnnw, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio am bum munud ac i wneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig i swyddogion ar y mater.  Fodd bynnag, ar 8 Rhagfyr 2014, penderfynodd y Pwyllgor Safonau ddyfarnu goddefeb i siarad am dri munud yn unig, y teimlent oedd yn ddigonol.  Nid oedd y cais am oddefeb i gyfathrebu gyda swyddogion bellach yn berthnasol gan fod hyn bellach yn cael ei ganiatáu o dan y cod ymddygiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at bwysigrwydd cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau goddefeb.

 

Yn dilyn ymholiad gan Mr  Rob Dewey, eglurwyd bod y tir - nad oedd dan berchnogaeth y Cynghorydd Jones - y tu ôl i’w heiddo.  Mynegodd Mr.  Dewey bryder am ddyfarnu goddefeb, oherwydd agosrwydd safle'r cais a mynegodd ei fwriad i ymwrthod rhag pleidleisio.

 

Awgrymodd Mrs. Julia Hughes y dylid cymharu gyda cheisiadau llwyddiannus eraill er mwyn sefydlu cynsail ar agosrwydd at safle’r cais.  Eglurodd Swyddogion na ddylai hyn fod yn ffactor wrth wneud penderfyniadau gan fod gofeddeb wedi ei ddyfarnu i Aelodau yn y gorffennol, pan mai nhw oedd yn berchen ar safle’r cais dan sylw.  Gallai’r Pwyllgor gael ei arwain gan gynseiliau ond rhaid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun.  Mewn ymateb i sylwadau pellach, eglurwyd mai dewis Aelodau oedd ceisio goddefeb yn Sir y Fflint os oeddynt am fynychu'r cyfarfod er mwyn cynorthwyo'r drafodaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, siaradodd Mr  Ken Molyneux o blaid dyfarnu goddefeb i'r Cynghorydd Jones siarad am bum munud yn y Pwyllgor Cynllunio ar y mater cyn gadael yr ystafell.  O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Adolygiad o Godau a Phrotocolau pdf icon PDF 78 KB

Gosod rhaglen i adolygu codau a phrotocolau o fewn y Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried amserlen er mwyn adolygu’r codau a phrotocolau o fewn Cyfansoddiad y Cyngor oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor.  Rhannwyd amserlen ddrafft, gan gydnabod y gellid bod angen adolygu eto fel bo’n angenrheidiol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at y protocol ar gynhyrchu newyddlenni cynghorwyr a dywedodd y dylid canolbwyntio mwy ar y risgiau sydd ynghlwm â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.  Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Swyddog Monitro i gylchredeg canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a threfnu eitem ar gyfer yr agenda yn y dyfodol er mwyn trafod hyn mewn mwy o fanylder.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar eglurder yr adroddiad, yn amodol ar newid gwall teipograffyddol a'r eitem yn y dyfodol ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu’r amserlen ar gyfer adolygu codau a phrotocolau; a

 

(b)       Rhoi eitem ar ddefnydd cynghorwyr o’r cyfryngau cymdeithasol ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cylchredeg canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

47.

Sesiwn Cynefino a Hyfforddiant i'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:    

Bod y Pwyllgor yn cynorthwyo â nodi anghenion hyfforddi a datblygu ei aelodau yn unigol ac ar y cyd.

 

Bod y Pwyllgor yna yn cynorthwyo â llunio rhaglen hyfforddi a datblygu i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried anghenion hyfforddiant a datblygu aelodau’r Pwyllgor, yr oedd rhai ohonynt wedi ymuno yn ystod blwyddyn bresennol y Cyngor.

 

Awgrymodd Mrs. Julia Hughes hyfforddiant ar God Ymddygiad Aelodau.  Cyfeiriodd at gylch gwaith y Pwyllgor a gofynnodd sut gallai aelodau fod yn sicr o’r hyfforddiant a roddir i gynrychiolwyr eglwys a rhieni-lywodraethwyr ar gynnal y safonau.  Byddai’r Swyddog Monitro yn ceisio cadarnhad ar y cymorth hwn oedd yn cael ei ddarparu gan y portffolio Addysg ac Ieuenctid.  Awgrymodd Ms.  Hughes bod y Pwyllgor yn ystyried manylion rhaglenni hyfforddiant a lefelau presenoldeb, yn arbennig o ystyried y pryderon am ystadegau presenoldeb hyfforddi cynrychiolwyr cynghorau tref a chymuned.  Cyfeiriodd ar yr arfer yng Nghyngor Sir Ddinbych i aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau fynychu cynghorau tref a chymuned yn eu tro.  Hyrwyddwyd hyn fel peirianwaith cefnogaeth i arsylwi ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am y canfyddiadau, ac i amlygu gwaith y ddwy ochr.

 

Siaradodd Mr.  Rob Dewey o blaid mabwysiadu trefniadau tebyg yn Sir y Fflint, fel y gwnaeth y Cynghorydd Paul Johnson a ddywedodd y byddai angen hyfforddiant er mwyn galluogi aelodau’r Pwyllgor i gyflawni’r rôl hon.

 

Awgrymodd Arnold Woolley y dylid ymgynghori a chynghorau tref a chymuned yn y man cyntaf.  Dywedodd y dylid sefydlu'r rheswm dros ddiffyg mynychu sesiynau hyfforddi er mwyn canfod ffordd ymlaen.

 

Wedi trafodaeth, cytunodd y Swyddog Monitro i ysgrifennu at gynghorau tref a chymuned er mwyn ceisio barn ar (i) ymagwedd gyson ar gyfer yr ymweliadau a (ii) rhesymau posib dros ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi.  Byddai’r ymatebion yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.

 

O safbwynt Cod Ymddygiad Aelodau, eglurodd y Swyddog Monitro y gellid gwahanu hyfforddiant ar amrywiol agweddau ar draws gwahanol gyfarfodydd, gan gynnwys safon Sir y Fflint a’r gwahaniaethau lleol i’r model cenedlaethol.

 

Cytunwyd y byddai’n well rhoi hyfforddiant at Gynllun Indemniad y Cyngor ar adeg pan oedd fwyaf o’i angen, oherwydd y nifer isel o wrandawiadau.  Awgrymodd y Swyddog Monitro sesiwn hyfforddi i ddarparu trosolwg o egwyddorion cyfiawnder cenedlaethol..

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Darparu hyfforddiant ar draws cyfarfodydd yn y dyfodol i gynnwys elfennau o God Ymddygiad Aelodau: Safonau Sir y Fflint a gwahaniaethau lleol i'r model cenedlaethol, yn ogystal â throsolwg o egwyddorion cyfiawnder cenedlaethol;

 

(b)       Rhannu gwybodaeth ar hyfforddiant a chanllawiau Cod Ymddygiad gyda chynrychiolwyr eglwys a rhieni-lywodraethwyr Addysg ac Ieuenctid er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor; a

 

 (c)      Bod y Swyddog Monitro i ysgrifennu at gynghorau tref a chymuned er mwyn ceisio barn ar (i) ymagwedd gyson ar gyfer yr ymweliadau a (ii) rhesymau posib dros ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi.  Byddai’r ymatebion yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.

48.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 51 KB

Pwrpas:        Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w  cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

Cofnodion:

O ganlyniad i drafodaeth gynharach, yr eitemau i’w rhoi ar y rhaglen oedd:

 

·         Defnydd cynghorwyr o’r cyfryngau cymdeithasol.

·         Hyfforddiant atgoffa yn cynnwys elfennau o God Ymddygiad Aelodau.

·         Eglurder ar hyfforddiant a chanllawiau Cod Ymddygiad i gynrychiolwyr eglwys a rhieni- lywodraethwyr.

·         Ymatebion gan gynghorau tref a chymuned ar yr ymweliadau arfaethedig a rhesymau posib dros ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi.

 

Yn dilyn awgrymiadau gan Mrs. Julia Hughes, cytunodd y Swyddog Monitro i drefnu crynodeb o gwynion Cod Ymddygiad (natur a lefel honiadau) fel eitem sefydlog ar yr agenda.  Byddai eitem ar wersi a ddysgwyd o Lyfr Achosion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd yn cael ei drefnu ddwywaith y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Paul Johnson, eglurwyd y byddai Cofnod o Ofeddebau yn cael ei gyhoeddi ar y wefan (o dan ddolen ‘Agendau, Adroddiadau, a Chofnodion’ ar adran y Cyngor a Democratiaeth).

 

PENDERFYNWYD:

 

Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

49.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.