Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Hydref 2017. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Penodiad Aelod Annibynnol PDF 77 KB Pwrpas: Penodi aelod annibynnol (cyfetholedig) i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gytuno ar benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor, yn dilyn y gweithgaredd recriwtio a wnaethpwyd ar y cyd ag Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (a oedd hefyd eisiau llenwi dwy swydd wag).
Rhoddodd ddiweddariad ar ganlyniad y cyfweliadau a gynhaliwyd ar ôl cyhoeddi’r agenda hon. Cyflwynwyd wyth cais ac o’r wyth hynny, cafodd pump ohonynt eu rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad ac wedi hynny argymhellwyd y dylid penodi Julia Hughes i’r Pwyllgor. Dosbarthwyd disgrifiad cryno o Julia, yn cynnwys gwybodaeth am ei chefndir a’i phrofiadau, o amgylch y Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gyfansoddiad y cyd-banel ac eglurodd fod cynnwys y Cynghorydd Wolley (yn ei rôl fel Cynghorydd Tref), yn lle Jonathan Duggan-Keen gan nad oedd ar gael, wedi cwrdd â’r gofynion deddfwriaethol. Byddai’r tymor swydd a argymhellir ar gyfer yr aelod newydd yn cyd-fynd â thymor swydd aelod annibynnol arall ac felly’n lleihau costau recriwtio.
Mewn ymateb i’r ymholiadau, darparodd y Prif Swyddog wybodaeth am y broses recriwtio. Penderfynwyd bod y gofyniad statudol ar gyfer hysbysebion ym mhapurau lleol ardal yr Awdurdod yn rhy ddrud, er y byddai’r gost hon wedi’i rhannu gyda’r Awdurdod Tân ac Achub ar yr achlysur hwn. Yn ogystal, y dull hwn oedd y lleiaf llwyddiannus o ran denu ceisiadau, o’i gymharu â hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor. Ni lwyddodd ein hymdrechion i archwilio cyfleoedd hysbysebu ar y cyd â chynghorau eraill i ennyn diddordeb.
Cymeradwywyd penodiad Julia Hughes gan y Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid anfon llythyr i ddiolch i Noelle Jones, yr 'unigolyn lleyg’ ar y panel.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid argymell y Cyngor i benodi Julia Hughes i’r Pwyllgor Safonau hyd at ddiwedd Mai 2022; ac
(b) Y dylid diolch i Noelle Jones am ei chyfranogiad. |
|
Fforwm Safonol Gogledd Cymru PDF 84 KB Pwrpas: I dderbynnodiadau'r Is-gadeirydd. Cofnodion: Cyflwynodd Mr Robert Dewey ei adroddiad ar gyfarfod diweddar Fforwm Safonau Gogledd Cymru, y bu ynddo ar ran y Pwyllgor.
Wrth grynhoi pwyntiau allweddol ei adroddiad, awgrymodd y gellid dangos y fideo newydd, i’w gynhyrchu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mewn cyfarfod Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. Roedd yn teimlo ei fod yn bwysig i annog mwy o Gynghorau Tref a Chymuned i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a chyfeiriodd at ddull Pwyllgor Safonau Ynys Môn o ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned yn ystod eu cyfarfodydd.
Gan mai tro Sir y Fflint fydd cynnal y cyfarfod Fforwm nesaf ym mis Mai 2018, bydd y Swyddog Monitro yn dechrau ar baratoadau ym mis Mawrth / Ebrill i nodi dyddiad ac eitemau ar gyfer yr agenda. O ran presenoldeb mewn cyfarfodydd diweddar, nodwyd mai prif nod y Fforwm oedd cefnogi aelodau annibynnol, er roedd croeso i gynghorwyr fynychu hefyd.
Diolchwyd i Mr Dewey am ei adroddiad a’i adborth.
Darparodd y Swyddog Monitro’r ymatebion canlynol i'r materion a godwyd:
· Sesiynau Hyfforddi Aelodau – fel y cytunwyd yn flaenorol, cofnodwyd presenoldeb ond nid oedd y wybodaeth hon ar gael ar wefan y Cyngor.
· Delio â chwynion yn erbyn Aelodau – roedd proses statudol yn caniatáu ar gyfer gwrandawiad gyda thribiwnlys achos, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol. Roedd posibilrwydd i Aelod gael ei wahardd nes gwneud y penderfyniad terfynol, fodd bynnag roedd rhaid ymdrin â hyn yn ofalus, roedd rhaid ystyried ystod eang o ffactorau gan gynnwys rhagdybiaeth dieuogrwydd. Roedd modd i Gynghorau gymryd camau anffurfiol i ddiogelu llywodraethu pan fo cyhuddiad wedi’i wneud yn erbyn Aelod. Roedd cynlluniau ar waith i Swyddfa Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyhoeddi, at ddibenion ymgynghori, rhai meini prawf y byddai’n ystyried er mwyn dangos tryloywder.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Penderfyniad Tribiwnlys Achos PDF 79 KB Pwrpas: I'r pwyllgor ystyried penderfyniad diweddar tribiwnlys achos mewn cysylltiad a chyn Gynghorydd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar benderfyniad y tribiwnlys achos yn ymwneud â’r Cyn Gynghorydd Alison Halford, a gafodd ei gwahardd am 14 mis (er iddi ymddeol yn ystod Etholiadau mis Mai 2017). Adroddwyd y penderfyniadau i’r Pwyllgor i ystyried a oedd unrhyw wers y gellid ei dysgu a’i rhannu ag Aelodau eraill, i’w cynorthwyo â dilyn y Cod Ymddygiad.
Cafwyd crynodeb cryno o ganfyddiadau’r tribiwnlys achos a benderfynodd fod y Cynghorydd Halford wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy (i) ddefnyddio iaith anweddus, (ii) defnyddio sianelau anghywir i godi pryderon a (iii) dewis y gynulleidfa anghywir.
Yn ystod trafodaeth, darparodd y Swyddog Monitro fanylion am y cynllun yswiriant indemniad a oedd ar gael i Aelodau a oedd yn dewis ymuno.
Roedd Ms. Phillipa Earlam o’r farn bod gan y Pwyllgor ddyletswydd i wneud sylw ar y penderfyniad wedi i'r cyfnod ar gyfer apelio ddod i ben. Cadarnhawyd gan y Swyddogion bod y cyfnod bellach wedi dod i ben.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson am lefelau presenoldeb y sesiynau cynefino Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Cod Ymddygiad. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro yn ôl at yr ystadegau a oedd wedi’u hadrodd i’r Pwyllgor yn flaenorol, a oedd yn adlewyrchu presenoldeb uchel o Aelodau newydd y Cyngor. Roedd yr hyfforddiant hefyd ar gael i Aelodau a oedd yn dychwelyd, a oedd efallai wedi mynychu sesiynau yn y gorffennol.
Codwyd pryderon gan Mr Robert Dewey bod rhai Aelodau efallai yn ‘disgyn trwy’r rhwyd’ o safbwynt hyfforddiant, yn benodol hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Dywedodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb yr unigolyn oedd sicrhau ei fod yn gwybod y diweddaraf o ran yr hyfforddiant oedd ar gael iddo.
Cytunodd y Swyddog Monitro i rannu drafft o’r pwyntiau a godwyd cyn eu dosbarthu i Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi dyfarniad y tribiwnlys achos; ac
(b) Y dylai’r Swyddog Monitro baratoi crynodeb drafft o’r pwyntiau a godwyd yn y Pwyllgor i’w rhannu gydag Aelodau. |
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 49 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Derbyniwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.
O ran yr eitemau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2018, darparodd y Swyddog Monitro gefndir i gais Un Llais Cymru am wybodaeth yn ymwneud â rôl yr Aelod Cyngor Tref / Cymuned ar y Pwyllgor. Darparwyd ymateb ynghyd â gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod a chael trafodaeth bellach os oedd angen.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor am awgrymiadau o bynciau hyfforddi ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan y bydd yr aelod annibynnol newydd yn bresennol.
Yn dilyn awgrymiad gan Mr. Robert Dewey, cytunwyd y byddai’r canllawiau dedfrydu a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru a’r nodweddion lliniaru yn ffurfio rhan o’r sesiwn hyfforddi, ynghyd ag enghreifftiau o achosion o Lyfr Achosion yr Ombwdsman.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |