Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfa Cyngor Tref, Adeilad Cei, Ffordd Fron, Cei Connah CH5 4PJ

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Joint meeting with Town & Community Councils 

Eitemau
Rhif eitem

27.

Cyflwyniad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Bydd Mr Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn mynychu er mwyn rhoi cyflwyniad ar y testun canlynol:

 

‘Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau ar bob lefel o lywodraeth leol gan gynnwys cyflwyno p?er cyffredinol o gymhwysedd.  Cyn i’r diwygiadau hynny ddigwydd, oes yna unrhyw beth yr ydych yn credu fod angen i lywodraeth leol ei wneud er mwyn paratoi, ac ydych chi'n meddwl bod angen newidiadau i'r cod ymddygiad a'r drefn foesegol yn benodol’

 

Bydd cyfle i gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau wrth yr Ombwdsmon ac i drafod y materion a godwyd.

Cofnodion:

Roedd Mr. Nick Bennett, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn bresennol gyda Mrs. Annie Ginwalla i roi cyflwyniad ar waith tîm Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wrth iddynt ystyried cwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru.

 

Prif feysydd y cyflwyniad oedd:

 

·         Ystadegau ar gyfer y deng mlynedd diwethaf – cynnydd o 126% yn y cwynion a dderbyniwyd gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan arwain at 4,502 o argymhellion ar gyfer gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

·         Mae’r ymholiadau a chwynion a dderbyniwyd yn dangos tuedd ar i fyny dros y pum mlynedd diwethaf gyda gostyngiad a groesawir yn y nifer o gwynion Cod Ymddygiad.

·         Cyd-destun i amlinellu’r materion allweddol gan gynnwys y posibilrwydd o fwy o bwerau datganoledig ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol.

·         Roedd cwynion Cod Ymddygiad yn bennaf yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch a datgelu a chofrestru diddordebau.

·         Cwynion na gadarnhawyd a’r rhai ddaeth i ben.

·         Roedd y cwynion Cod Ymddygiad gan y math o Awdurdod yn dangos rhwyg o 53/46% rhwng cynghorau tref/cymuned a cynghorau sir/ bwrdeistref sirol.

·         Roedd ffeithiau Sir y Fflint yn dangos fod llai na 4% o gwynion Cod Ymddygiad wedi eu gwneud yn Sir y Fflint.  Nodwyd mai dim ond Pwyllgor Safonau’r awdurdod allai benderfynu a yw’r Cod Ymddygiad wedi ei dorri gan yr awdurdod hwnnw neu Banel Dyfarnu Cymru.

·         Roedd profi lles y cyhoedd yn ymwneud â chyfres o ffactorau i benderfynu a ddylid ymchwilio i’r gwyn neu'r achos o dorri’r Cod.  Cymrwyd ymagwedd gymesur i ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bobl, gyda phob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

·         Cwynion na chawsant eu cadarnhau – dim ond un o’r 22 o gwynion na chawsant eu cadarnhau a gafodd ei gyfeirio i’r Panel Dyfarnu y llynedd.

·         Cwynion trallodus.

·         Y dyfodol

·         Mesur newydd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – pedwar maes lle gobeithia Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dderbyn pwerau ychwanegol.

·         Casgliad

 

Roedd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i weld cwynion lefel isel rhwng cynghorwyr yn cael eu trin drwy Broses Ddatrys Leol er mwyn galluogi ei dîm i ganolbwyntio ar gwynion mwy difrifol a’r rhai a gyflwynwyd gan aelodau o’r cyhoedd.  Tra roedd proses o’r fath mewn grym ar lefel sirol, roedd hyn yn rhywbeth dewisol i Gynghorau Tref a Chymuned oedd yn cael eu hannog i ystyried mabwysiadu'r Protocol Datrysiad Lleol a gynhyrchwyd gan Un Llais Cymru.  Yn ystod trafodaeth, dim ond pedwar cynrychiolydd a ddangosodd fod Gweithdrefn Ddatrys Leol wedi ei mabwysiadu gan eu Cyngor Tref/Cymuned.  Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bwysigrwydd mabwysiadu gweithdrefn o’r fath cyn unrhyw gwynion byw.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd Mr. Bennett a Mrs. Ginwalla i nifer o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor a chynrychiolwyr y Cynghorau Tref a Chymuned:

 

Ymddygiad tra-arglwyddiaethol parhaus lefel isel gan gynghorwyr a’r effaith ar y cynghorau hynny – Roedd yna ddisgwyliad i ddilyn peth ffurf o'r Broses Ddatrys Leol.  Os methai hyn, byddai Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio drwy ystyried yn gyntaf unrhyw dystiolaeth ddogfennol o batrymau ymddygiad  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

PSOW Presentation pdf icon PDF 931 KB

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

29.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Medi 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y cofnodion yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

30.

Goddefebau

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Cofnodion:

Cafodd copïau o gais goddefeb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Geoff Collet ar ôl cyhoeddi'r rhaglen eu dosbarthu gan y Dirprwy Swyddog Monitro.  Roedd y Cynghorydd Collett yn dymuno siarad am bum munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio sydd i ddod ar gais cynllunio 056742.  Roedd wedi datgan cysylltiad personol a sy’n rhagfarnu ar yr eitem gan fod ei gartref gyferbyn â'r datblygiad arfaethedig.  Cadarnhawyd mai o dan baragraffau perthnasol (d) a (f) y ceisiwyd yr oddefeb.

 

Gan nad oedd y Cynghorydd Collett yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ni fyddai ganddo’r hawl i bleidleisio a gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol ac sy’n rhagfarnu, dim ond am dri munud y byddai’n cael siarad.  Pe byddai’n cael ei ganiatáu byddai'r oddefeb yn caniatáu dau funud ychwanegol iddo i siarad ar yr eitem a chynrychioli ei etholwyr yn llawn.

 

Yn dilyn trafodaeth teimlai'r Cynghorydd Arnold Wolley fod hyn yn gais rhesymol a chynigiodd fod yr oddefeb yn cael ei chaniatáu.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Geoff Collett o dan baragraffau (d) ac (f) o Reoliadau’r Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais cynllunio 056742, neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg.  Mae’r Cynghorydd Collett i adael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais.  Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 2 Hydref 2018.

Dispensation request pdf icon PDF 79 KB

31.

Adolygu Goddefebau pdf icon PDF 72 KB

Cael adroddiad dilynol i’r hyn a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar yr adolygiad o oddefebau yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol pan roedd y Pwyllgor yn penderfynu pa oddefebau ddylai barhau mewn grym a pha rai ddylid eu diddymu.

 

Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i ymestyn sawl goddefeb hyd y cyfarfod hwn er mwyn galluogi’r Dirprwy Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr Aelodau hynny i ofyn a oeddent yn dymuno ymestyniad pellach.  O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Veronica Gay wedi gofyn am ymestyn ei goddefeb mewn perthynas â Throsglwyddo Canolfan Gymunedol, Llyfrgell, a Chanolfan Ieuenctid yn Ased Cymunedol ar 1 Hydref 2018. Mewn perthynas ag aelodau o Gyngor Cymuned Argoed a gâi eu cynrychioli ar ‘MIFFY’, adroddwyd fod y Clerc wedi cadarnhau nad oedd angen y goddefebau hyn mwyach.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro y gallai Aelodau oedd wedi derbyn goddefeb yn gynharach, ail ymgeisio ar delerau tebyg pe dymunent.  Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom y dylid egluro hyn yn glir wrth yr unigolion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylai’r oddefeb a roddwyd i'r Cynghorydd Veronica Gay gan y Pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2016, mewn perthynas â Throsglwyddo'r Ganolfan Cymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid i fod yn Assed Cymunedol, barhau tan 1 Hydref 2018.

32.

Cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru

Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ar 24 Tachwedd 2017 yn Wrecsam.  Oes yna unrhyw faterion yr hoffai’r Pwyllgor eu rhoi ar y rhaglen?  Y dyddiad cau ar gyfer awgrymu eitemau yw 13 Tachwedd.

Cofnodion:

Cadarnhawyd y byddai Rob Dewey yn mynychu’r Fforwm ar 24 Tachwedd 2017 ac nad oedd y Cadeirydd ar gael ar y dyddiad hwnnw.  Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Patrick Heesom, eglurodd y Swyddog Monitro fod Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Safonau fel arfer yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm, gan ddarparu cyfle i'r aelodau annibynnol hynny i rwydweithio.  Cytunodd i gadarnhau a oedd Aelodau’r Cyngor yn gallu mynychu fel gwylwyr.

 

Atgoffwyd aelodau y gallant gysylltu â’r Swyddog Monitro i gyflwyno unrhyw eitemau ar gyfer y cyfarfod erbyn 13 Tachwedd 2017.

33.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 46 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w  cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Nid oedd gan gyfarfod fis Tachwedd unrhyw eitemau busnes ar hyn o bryd a byddai’n cael ei ganslo oni bai fod ceisiadau am oddefebau yn cael eu derbyn.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad cryno ar benodiad yr aelod lleyg ar y Pwyllgor i gael ei hysbysebu ar y cyd gyda’r Awdurdod Tân.  Fel yr awgrymwyd yn gynharach, byddai’r hysbyseb yn pwysleisio natur fanteisiol gwaith y Pwyllgor i apelio at amrediad ehangach o ymgeiswyr.  Rhagwelwyd y byddai’r cyfweliadau’n cael eu cynnal yn niwedd Tachwedd 2017 i alluogi’r Pwyllgor i ystyried argymhellion y cyd banel cyfweld yn Rhagfyr cyn ystyriaeth gan y Cyngor llawn ar 12 Rhagfyr.  Cytunodd y Swyddog Monitro i hysbysu'r Pwyllgor pan fyddai'r pecyn gwybodaeth recriwtio ar gael.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.