Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cworwm

Penderfyniad:

Y byddai’r Cynghorwyr Paul Johnson ac Arnold Woolley yn cael eu cofnodi fel sylwedyddion i’r cyfarfod er mwyn i’r Pwyllgor fod â chworwm.

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Monitro y gofyniad cyfansoddol i gyfarfodydd o’r Pwyllgor fod â chworwm pan fo o leiaf hanner o’r rhai sy’n bresennol yn aelodau annibynnol.    Yn dilyn egluro’r opsiynau oedd ar gael i’r Pwyllgor, cytunwyd y byddai’r Cynghorwyr Paul Johnson ac Arnold Woolley yn aros fel sylwedyddion yn y cyfarfod ac yn cael cyfranogi gyda chaniatâd y Cadeirydd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Cynghorwyr Paul Johnson ac Arnold Woolley yn cael eu cofnodi fel sylwedyddion i’r cyfarfod er mwyn i’r Pwyllgor fod â chworwm.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Yn amodol ar y ddau gywiriad, bod y Cadeirydd yn arwyddo’r cofnodion fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2017.

 

Cofnod rhif 36: Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ – nodwyd gwallau teipograffyddol ym mrawddeg olaf adran (ii) a phwynt bwled cyntaf adran (v). 

 

 Ar yr un eitem, cynghorwyd y Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ymatebion yr ymgynghoriad eto ac y disgwylid datganiad yn hwyrach yn y mis. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y ddau gywiriad, bod y Cadeirydd yn arwyddo’r cofnodion fel cofnod cywir.

4.

Diweddariad llafar ar aelodaeth y Pwyllgor yn dilyn yr etholiadau

Cofnodion:

Adroddwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf bod Aelodau wedi cytuno y dylai Jonathan Duggan-Keen barhau i wasanaethau ar y Pwyllgor fel cynrychiolydd y Cyngor Tref a Chymuned nes y gellid ei ail-benodi neu wneud penodiad newydd.    Roedd yr ymarfer ymgynghori â'r Cynghorau Tref a Chymuned i fod i ddod i ben ar ddiwedd y mis.

5.

Goddefebau

Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd unrhyw rai.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw rai.

6.

Sefydlu Aelodau pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas: Rhoi diweddariad ar sefydliad a hyfforddiant aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r hyfforddiant sydd wedi cael ei gyflwyno eisoes i gynghorwyr sir a’r cynlluniau i sefydlu’r cynghorydd a oedd ar wyliau; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ystyried nad oes angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol fel rhan o'r rhaglen sefydlu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro wybodaeth ar y rhaglen sefydlu aelodau lle cafwyd lefelau presenoldeb da gan Aelodau newydd ac Aelodau oedd yn dychwelyd.   Byddai sesiwn hyfforddiant ychwanegol yn cael ei darparu ar gyfer un o’r Aelodau newydd oedd ar wyliau yn ystod y cyfnod hwn.

 

Byddai adroddiad ar sesiynau hyfforddiant y Cynghorau Tref a Chymuned, a oedd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.   Dywedodd y Cynghorydd Johnson y gellid bod wedi estyn y sesiynau hyn dros gyfnod hirach er mwyn galluogi aelodau cyfetholedig newydd y Cynghorau Tref a Chymuned i gymryd rhan.    Byddai’r awgrym hwn yn cael ei drafod fel rhan o’r adroddiad i’r cyfarfod nesaf.

 

Rhoddwyd adborth cadarnhaol ar y sesiynau hyfforddiant gan amrywiol aelodau o’r Pwyllgor oedd wedi bod yn bresennol. 

 

Yn dilyn cais gan Ken Molyneux, cytunodd y Swyddog Monitro i ddosbarthu canlyniadau'r etholiad lleol ar gyfer pob plaid wleidyddol yn Sir y Fflint i aelodau annibynnol y Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r hyfforddiant sydd wedi cael ei gyflwyno eisoes i gynghorwyr sir a’r cynlluniau i sefydlu’r cynghorydd a oedd ar wyliau; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ystyried nad oes angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol fel rhan o'r rhaglen sefydlu.

7.

Gweithdrefn Datrysiad Lleol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas: Cymeradwyo ac annog mabwysiad gweithdrefn Un Llais Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Ddatrys Leol Un Llais Cymru ac annog ei fabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar fabwysiadu Gweithdrefn Penderfyniadau Lleol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn cynorthwyo i leihau'r nifer o gwynion lefel-isel a gyflwynir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

 

Gofynnwyd am farn ynghylch a ddylid annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu protocol model symlach a oedd wedi’i ddarparu gan Un Llais Cymru.     Eglurwyd bod y protocol yn caniatáu peth hyblygrwydd i gynghorau ei addasu i’w defnydd eu hunain ar gam lle nad oedd cwynion byw neu gyfredol.

 

Er nad oedd gan y Cynghorwyr Heesom a Woolley unrhyw broblemau gyda chynnwys y protocol, roedd gan y ddau amheuon ynghylch parodrwydd y Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu gweithdrefn gan Un Llais Cymru.    Gwnaeth y Cynghorydd Wolley sylw hefyd am yr angen am agwedd unffurf ledled Cymru. 

 

 Yn dilyn trafodaeth bellach, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y trefniadau gwneud penderfyniad a fabwysiadwyd yn flaenorol gan y Cyngor yn addas ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned ac mai'r protocol a gyflwynir nawr oedd yr unig gynsail addas iddynt ei fabwysiadu. 

 

 O ystyried y pryderon a godwyd, gwnaed nifer o awgrymiadau ar y ffordd orau i hybu'r protocol ac annog ei fabwysiadu.

 

Yn dilyn awgrymiad gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Penderfyniadau Lleol Un Llais Cymru ac annog Cynghorau Tref a Chymuned i’w fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Ddatrys Leol Un Llais Cymru ac annog ei fabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 46 KB

Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w  cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Penderfyniad:

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. 

 

YnYn y cyfarfod gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Hydref, codwyd pryderon am bresenoldeb isel mewn cyd gyfarfodydd blaenorol.    Felly, cytunwyd y byddai'r Swyddog Monitro yn hyrwyddo’r cyfarfod yn gynharach ac yn gofyn am eitemau ar gyfer y rhaglen gan y Cynghorau Tref a Chymuned, er mwyn gallu rhoi trefniadau yn eu lle cyn toriad mis Awst.   Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor anfon unrhyw awgrymiadau am leoliad i'r Swyddog Monitro. 

 

Awgrymwyd sesiynau hyfforddi ar y canlynol yn y dyfodol:

 

·         Rolau a Chyfrifoldebau – fel y’i cyflwynwyd cyn cychwyn y cyfarfod, er mwyn galluogi holl aelodau’r Pwyllgor i gymryd rhan.

·         Goddefebau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.