Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim

 

 

46.

Cofnodion pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2019.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 5, cofnod 41, gofynnodd Julia Hughes i’r ail baragraff i gael ei ddiwygio i ddarllen ei bod wedi ‘cyfeirio at archwiliad yn cynnwys aelod o Gyngor Tref Prestatyn’. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

47.

Goddefebau

Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn yr ystafell tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Cofnodion:

Dim

 

48.

Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 81 KB

 

I ddeall os oedd y Cynghorau Tref a Chymuned yn gweld y gyfres ddiwethaf o ymweliadau Aelodau yn ddefnyddiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth gan y Cynghorau Tref a Chymuned ar yr ymweliadau i’w cymryd gan yr Aelodau Annibynnol.  Fe ddywedodd eu bod wedi derbyn naw o ymatebion wedi’u crynhoi yn yr atodiad i’r adroddiad hwn.  Ar y cyfan roedd yr adborth yn gadarnhaol ac fe gafodd nifer o awgrymiadau eu gwneud gan y Cynghorau, fel y manylir yn yr adroddiad, i wella prosesau ymhellach. 

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cynghorau Tref a Chymuned wedi adrodd eu bod wedi gweld y rhaglen o ymweliadau yn fuddiol ac wedi darparu newidiadau ar gyfer y gorau mewn rhai arferion.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y sylwadau wedi’u hatodi i’r adroddiad hwn ac os oedden nhw’n dymuno mabwysiadu unrhyw awgrymiadau pellach neu ddiwygio prosesau presennol.

 

Dyma’r Cynghorydd Patrick Heesom yn llongyfarch y Prif Swyddog, Dirprwy Swyddog Monitro ac Aelodau Annibynnol y Pwyllgor ar lwyddiant y rhaglen gan ddweud ei fod wedi gweithio’n dda ac yn esiampl o arfer da i gael ei fabwysiadu gan awdurdodau eraill. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at yr awgrym bod y Pwyllgor o bosib yn ystyried adolygu gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn cael cyflawnrwydd ac i ddarparu adborth os oedd gwybodaeth hanfodol ar goll.  Fe ddangosodd ei gefnogaeth i’r angen am gyngor ac arweiniad i gael ei roi i Gynghorau Tref a Chymuned i sicrhau fod eu gwefannau yn cydymffurfio â’r gofynion statudol gan dynnu sylw at gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb fel enghraifft.

 

Pwysleisiodd Julia Hughes ar y pwysigrwydd fod gwybodaeth allweddol ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol ar holl wefannau Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd, lleoliad, rhaglen, cofnodion ac adroddiadau.  Dywedodd hefyd ei bod yn cefnogi’r angen i ddarparu cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio.  Cyfeiriodd at yr argymhelliad yn yr adroddiad y dylid gwneud gwiriadau ar wefannau Cynghorau Tref a Chymuned gan argymell fod y gwaith paratoi ar gyfer hyn yn cael ei gynnwys fel eitem ar Raglen Waith i’r Dyfodol a bod rhestr o’r gofynion yn cael eu darparu i helpu Aelodau Annibynnol i gyflawni’r gwiriadau.      

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai’n ddefnyddiol pe bai Cynghorau Tref a Chymuned yn darparu data ar y defnydd a wneir o’u gwefannau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod angen i fanylion cyswllt Clercod Cynghorau Tref a Chymuned fod ar y gwefannau ond heb gynnwys eu cyfeiriad cartref.

 

Cyfeiriodd Ken Molyneux at yr adborth o Gyngor Cymuned Nannerch a oedd wedi bod yn ddefnyddiol ac wedi tynnu sylw at y sylwadau yngl?n â phresenoldeb mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Safonau, cyfleoedd am adborth a’r ‘hawl i ymateb’.   Roedd y pwyntiau a godwyd wedi’u cydnabod ac fe ddywedodd y Pwyllgor yn ogystal â’r adborth ysgrifenedig a ddarparwyd i Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn y cyfarfodydd bod yna hefyd gyfle i glywed adborth ar lafar yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a oedd yn gyfarfodydd cyhoeddus ac i ofyn cwestiynau neu fynegi pryderon yn y cyfarfod  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 63 KB

Pwrpas:        Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cofnodion:

Ystyriwyd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol presennol.  Meddai Julia Hughes bod eitem i ddarparu adborth ar y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd gydag Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor a Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi’i gynnwys ar y Rhaglen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y swydd wag presennol am Aelod Annibynnol a’r bwriad o gynnal cyfweliadau ddiwedd y flwyddyn. Fe awgrymodd y dylai diweddariad gael ei gynnwys fel eitem ar y Rhaglen yn y Flwyddyn Newydd. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Julia Hughes fe gadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro yn dilyn cyhoeddi’r Llyfr Achosion Cod Ymddygiad nesaf gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. 

 

Awgrymodd Julia Hughes fod adborth ar y gwiriadau i wefannau Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnwys ar y Rhaglen ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.      

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol.

 

50.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.