Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Swyddfa Cyngor Tref, Adeilad Cei, Ffordd Fron, Cei Connah CH5 4PJ
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Nodyn: Joint meeting with Town & Community Councils
Rhif | eitem |
---|---|
Cyflwyniad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Bydd Mr Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn mynychu er mwyn rhoi cyflwyniad ar y testun canlynol:
‘Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau ar bob lefel o lywodraeth leol gan gynnwys cyflwyno p?er cyffredinol o gymhwysedd. Cyn i’r diwygiadau hynny ddigwydd, oes yna unrhyw beth yr ydych yn credu fod angen i lywodraeth leol ei wneud er mwyn paratoi, ac ydych chi'n meddwl bod angen newidiadau i'r cod ymddygiad a'r drefn foesegol yn benodol’
Bydd cyfle i gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau wrth yr Ombwdsmon ac i drafod y materion a godwyd. Cofnodion: Roedd Mr. Nick Bennett, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn bresennol gyda Mrs. Annie Ginwalla i roi cyflwyniad ar waith tîm Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wrth iddynt ystyried cwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru.
Prif feysydd y cyflwyniad oedd:
· Ystadegau ar gyfer y deng mlynedd diwethaf – cynnydd o 126% yn y cwynion a dderbyniwyd gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan arwain at 4,502 o argymhellion ar gyfer gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru. · Mae’r ymholiadau a chwynion a dderbyniwyd yn dangos tuedd ar i fyny dros y pum mlynedd diwethaf gyda gostyngiad a groesawir yn y nifer o gwynion Cod Ymddygiad. · Cyd-destun i amlinellu’r materion allweddol gan gynnwys y posibilrwydd o fwy o bwerau datganoledig ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol. · Roedd cwynion Cod Ymddygiad yn bennaf yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch a datgelu a chofrestru diddordebau. · Cwynion na gadarnhawyd a’r rhai ddaeth i ben. · Roedd y cwynion Cod Ymddygiad gan y math o Awdurdod yn dangos rhwyg o 53/46% rhwng cynghorau tref/cymuned a cynghorau sir/ bwrdeistref sirol. · Roedd ffeithiau Sir y Fflint yn dangos fod llai na 4% o gwynion Cod Ymddygiad wedi eu gwneud yn Sir y Fflint. Nodwyd mai dim ond Pwyllgor Safonau’r awdurdod allai benderfynu a yw’r Cod Ymddygiad wedi ei dorri gan yr awdurdod hwnnw neu Banel Dyfarnu Cymru. · Roedd profi lles y cyhoedd yn ymwneud â chyfres o ffactorau i benderfynu a ddylid ymchwilio i’r gwyn neu'r achos o dorri’r Cod. Cymrwyd ymagwedd gymesur i ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bobl, gyda phob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. · Cwynion na chawsant eu cadarnhau – dim ond un o’r 22 o gwynion na chawsant eu cadarnhau a gafodd ei gyfeirio i’r Panel Dyfarnu y llynedd. · Cwynion trallodus. · Y dyfodol · Mesur newydd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – pedwar maes lle gobeithia Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dderbyn pwerau ychwanegol. · Casgliad
Roedd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i weld cwynion lefel isel rhwng cynghorwyr yn cael eu trin drwy Broses Ddatrys Leol er mwyn galluogi ei dîm i ganolbwyntio ar gwynion mwy difrifol a’r rhai a gyflwynwyd gan aelodau o’r cyhoedd. Tra roedd proses o’r fath mewn grym ar lefel sirol, roedd hyn yn rhywbeth dewisol i Gynghorau Tref a Chymuned oedd yn cael eu hannog i ystyried mabwysiadu'r Protocol Datrysiad Lleol a gynhyrchwyd gan Un Llais Cymru. Yn ystod trafodaeth, dim ond pedwar cynrychiolydd a ddangosodd fod Gweithdrefn Ddatrys Leol wedi ei mabwysiadu gan eu Cyngor Tref/Cymuned. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro bwysigrwydd mabwysiadu gweithdrefn o’r fath cyn unrhyw gwynion byw.
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd Mr. Bennett a Mrs. Ginwalla i nifer o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor a chynrychiolwyr y Cynghorau Tref a Chymuned:
Ymddygiad tra-arglwyddiaethol parhaus lefel isel gan gynghorwyr a’r effaith ar y cynghorau hynny – Roedd yna ddisgwyliad i ddilyn peth ffurf o'r Broses Ddatrys Leol. Os methai hyn, byddai Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio drwy ystyried yn gyntaf unrhyw dystiolaeth ddogfennol o batrymau ymddygiad ... view the full Cofnodion text for item 27. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Medi 2017. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017.
PENDERFYNWYD:
Fod y cofnodion yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir. |
|
Goddefebau Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Cofnodion: Cafodd copïau o gais goddefeb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Geoff Collet ar ôl cyhoeddi'r rhaglen eu dosbarthu gan y Dirprwy Swyddog Monitro. Roedd y Cynghorydd Collett yn dymuno siarad am bum munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio sydd i ddod ar gais cynllunio 056742. Roedd wedi datgan cysylltiad personol a sy’n rhagfarnu ar yr eitem gan fod ei gartref gyferbyn â'r datblygiad arfaethedig. Cadarnhawyd mai o dan baragraffau perthnasol (d) a (f) y ceisiwyd yr oddefeb.
Gan nad oedd y Cynghorydd Collett yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ni fyddai ganddo’r hawl i bleidleisio a gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol ac sy’n rhagfarnu, dim ond am dri munud y byddai’n cael siarad. Pe byddai’n cael ei ganiatáu byddai'r oddefeb yn caniatáu dau funud ychwanegol iddo i siarad ar yr eitem a chynrychioli ei etholwyr yn llawn.
Yn dilyn trafodaeth teimlai'r Cynghorydd Arnold Wolley fod hyn yn gais rhesymol a chynigiodd fod yr oddefeb yn cael ei chaniatáu. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Geoff Collett o dan baragraffau (d) ac (f) o Reoliadau’r Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais cynllunio 056742, neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg. Mae’r Cynghorydd Collett i adael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais. Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 2 Hydref 2018. |
|
Cael adroddiad dilynol i’r hyn a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar yr adolygiad o oddefebau yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol pan roedd y Pwyllgor yn penderfynu pa oddefebau ddylai barhau mewn grym a pha rai ddylid eu diddymu.
Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i ymestyn sawl goddefeb hyd y cyfarfod hwn er mwyn galluogi’r Dirprwy Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr Aelodau hynny i ofyn a oeddent yn dymuno ymestyniad pellach. O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Veronica Gay wedi gofyn am ymestyn ei goddefeb mewn perthynas â Throsglwyddo Canolfan Gymunedol, Llyfrgell, a Chanolfan Ieuenctid yn Ased Cymunedol ar 1 Hydref 2018. Mewn perthynas ag aelodau o Gyngor Cymuned Argoed a gâi eu cynrychioli ar ‘MIFFY’, adroddwyd fod y Clerc wedi cadarnhau nad oedd angen y goddefebau hyn mwyach.
Eglurodd y Swyddog Monitro y gallai Aelodau oedd wedi derbyn goddefeb yn gynharach, ail ymgeisio ar delerau tebyg pe dymunent. Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom y dylid egluro hyn yn glir wrth yr unigolion perthnasol.
PENDERFYNWYD:
Y dylai’r oddefeb a roddwyd i'r Cynghorydd Veronica Gay gan y Pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2016, mewn perthynas â Throsglwyddo'r Ganolfan Cymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid i fod yn Assed Cymunedol, barhau tan 1 Hydref 2018. |
|
Cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ar 24 Tachwedd 2017 yn Wrecsam. Oes yna unrhyw faterion yr hoffai’r Pwyllgor eu rhoi ar y rhaglen? Y dyddiad cau ar gyfer awgrymu eitemau yw 13 Tachwedd. Cofnodion: Cadarnhawyd y byddai Rob Dewey yn mynychu’r Fforwm ar 24 Tachwedd 2017 ac nad oedd y Cadeirydd ar gael ar y dyddiad hwnnw. Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Patrick Heesom, eglurodd y Swyddog Monitro fod Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Safonau fel arfer yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm, gan ddarparu cyfle i'r aelodau annibynnol hynny i rwydweithio. Cytunodd i gadarnhau a oedd Aelodau’r Cyngor yn gallu mynychu fel gwylwyr.
Atgoffwyd aelodau y gallant gysylltu â’r Swyddog Monitro i gyflwyno unrhyw eitemau ar gyfer y cyfarfod erbyn 13 Tachwedd 2017. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 46 KB Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Nid oedd gan gyfarfod fis Tachwedd unrhyw eitemau busnes ar hyn o bryd a byddai’n cael ei ganslo oni bai fod ceisiadau am oddefebau yn cael eu derbyn.
Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad cryno ar benodiad yr aelod lleyg ar y Pwyllgor i gael ei hysbysebu ar y cyd gyda’r Awdurdod Tân. Fel yr awgrymwyd yn gynharach, byddai’r hysbyseb yn pwysleisio natur fanteisiol gwaith y Pwyllgor i apelio at amrediad ehangach o ymgeiswyr. Rhagwelwyd y byddai’r cyfweliadau’n cael eu cynnal yn niwedd Tachwedd 2017 i alluogi’r Pwyllgor i ystyried argymhellion y cyd banel cyfweld yn Rhagfyr cyn ystyriaeth gan y Cyngor llawn ar 12 Rhagfyr. Cytunodd y Swyddog Monitro i hysbysu'r Pwyllgor pan fyddai'r pecyn gwybodaeth recriwtio ar gael.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |