Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

40.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 30 Tachwedd ac 8 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 4 o gofnodion 30 Tachwedd a gofynnodd ein bod yn cysylltu â Dave Coyle i gael gwybod am unrhyw gynnydd oedd ganddo yngl?n ag uned mân anafiadau yng Nglannau Dyfrdwy ac ystafelloedd a gwasanaeth mewnwythiennol mewn Ysbytai Cymunedol. Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylai nifer fawr o feddygfeydd teulu gael eu cynnwys pan fyddai ystafelloedd mawr nad oedd yn cael eu defnyddio.

 

                      Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022 eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

                      Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Thomas.       

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir.

41.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol a dywedodd wrth yr aelodau y byddai adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Therapi Galwedigaethol yn cael ei ychwanegu yng nghyfarfod mis Ebrill.  Mae’n bosibl hefyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin ar Sut Mae Plant yn Dod i’n System Gofal - Graddfeydd Amrywiol o Ymyrraeth, Credyd Cynhwysol a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a fyddai modd cael y newyddion diweddaraf am amseroedd aros ar gyfer Asesiadau Therapi Galwedigaethol yng nghyfarfod mis Ebrill.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen a oedd yna broblem cyfathrebu rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr a phlant yn eu cartref eu hunain oherwydd trais domestig. Wrth ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu eu bod yn ymwybodol bod Trais Domestig a Cham-drin Domestig yn cael effaith ar oedolion a phlant, ac yn rhan o’u Canolbwynt Cymorth Cynnar sy’n cynnwys 17 asiantaeth, roedd 2 o’r rhain o adran Tai, yn cydweithio ar atgyfeirio ac yn edrych sut y gallent gefnogi plant a theuluoedd yn gynnar. Roedd yna fenter da gyda’r Heddlu o’r enw Ymgyrch ‘Encompass’ oedd yn gwella cyfathrebu rhwng yr Heddlu ac ysgolion pan roedd plentyn mewn perygl o gam-drin domestig.    Pwrpas rhannu gwybodaeth oedd sicrhau bod gan ysgolion fwy o wybodaeth i gefnogi diogelu plant ac i fod mewn sefyllfa well i ddeall os oedd damwain wedi digwydd. Fe awgrymodd bod eitem yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gan fod sawl blwyddyn wedi bod ers i’r Ganolbwynt Cymorth Cyntaf adrodd arno. Fe eglurodd hefyd wrth yr Aelodau am y Triawd Gwenwynig oedd yn ymwneud ag iechyd meddwl, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Roedd y Ganolbwynt Cymorth Cyntaf yn gweld llawer o hyn.

 

            Fe ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yngl?n ag ymweliadau Climbie a dywedodd fod yna argymhelliad flynyddoedd yn ôl yn dilyn marwolaeth plentyn y dylai Aelodau Etholedig allu cael trafodaethau uniongyrchol gyda staff rheng flaen er mwyn iddynt ddeall y materion.  Fe aeth Aelodau Trosolwg a Chraffu i Fflint yn y gorffennol i weld y timau i ofyn cwestiynau, ond fe ddaeth hyn i stop yn ystod y pandemig, serch hynny, gan fod staff bellach yn ôl yn eu swyddfeydd fe fyddai’n syniad da, yn enwedig i Aelodau newydd gyfarfod y staff.

 

            Fe fydd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) yn trafod gyda’r Hwylusydd i roi manylion cyswllt i’r holl Aelodau am yr asiantaethau sy’n ymwneud â Cham-drin Domestig a Chamdriniaeth yr oedd y Cynghorydd Ellis wedi gofyn amdanynt.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Claydon a oedd adrodd rheolaidd yn digwydd am ddelio â cham-drin domestig naill yn y Pwyllgor hwn neu’r Pwyllgor Tai. Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i bob Pwyllgor oedd yn adrodd ar y mater i’w gynnwys ar eu rhaglen er mwyn iddynt allu cael mynediad ato. Fe ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) pan fyddai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r aelodau ar Ddiogelu Oedolion a Phlant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu y Rheolwr Diogelu Oedolion  ac un o Gadeiryddion Cynhadledd Amddiffyn Plant a oedd yno i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau, yn sgil absenoldeb y Rheolwr Uned Diogelu a ysgrifennodd yr adroddiad.  Fe eglurodd mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd rhoi gwybod i Aelodau am y gwaith oedd wedi cael ei wneud, y gwaith a fyddai’n cael ei wneud ac i ystyried gwybodaeth allweddol yn ymwneud ag ystadegau a pherfformiad am blant ac oedolion mewn perygl yr oedd gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu a diogelu corfforaethol sylweddol amdanynt. Yn ogystal ag ystyried effaith gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a lansiwyd yn ôl yn 2019.

 

                      Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a oedd y Bwrdd Diogelu yn cynnwys Iechyd, a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod yn brif bartner ar y Bwrdd Diogelu yn ogystal â’r holl is-grwpiau. Fe ychwanegodd y Rheolwr Diogelu Oedolion fod yna ddau Arbenigwr Diogelu wedi’u lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac roeddynt mewn cyswllt rheolaidd â nhw.  Fe soniodd hi hefyd am gysylltiadau da gydag Ysbyty Iarlles Caer allai fod yn anodd gan ei fod dros y ffin gyda deddfwriaeth arall

 

                      Gan ymateb i’r Cynghorydd Ellis, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod yna 191 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

                      Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus am blant yn gadael gofal oherwydd eu hoedran ac yn credu y dylent gael gofal y tu hwnt i 18 oed. Fe eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yna gategorïau gwahanol o ymadawyr gofal, ond os oedd plentyn wedi derbyn gofal am hirach na 13 wythnos, nid oedd y cyfrifoldeb yn dod i ben yn 18 mlwydd oed, gan fod yna gyfrifoldeb ychwanegol i’w cefnogi hyd at 25 mlwydd oed. Fe eglurodd fod menter ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer plant sy’n troi’n 18 oed a’u bod yn cael y cyfle i aros mewn amgylchedd gofal maeth petaent yn dymuno.   Fe ychwanegodd fod y polisi wrthi’n cael ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu a’r adborth a gafwyd ers iddo gael ei gyflwyno ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

                      Gofynnodd y Cadeirydd pa arweiniad a roddwyd mewn cysylltiad â’r cyfandaliad roeddynt yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn beilot dwy flynedd o hyd gan Lywodraeth Cymru pan roedd pobl ifanc yn gadael gofal yn derbyn incwm misol. Fe gadarnhaodd yn lleol eu bod yn gweithio gyda CAB sy’n rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc ddefnyddio’r arian yn gyfrifol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal gwerthusiad ac wedi anfon holiaduron i’n Plant sy'n Derbyn Gofal sydd yn derbyn y Peilot Incwm Sylfaenol, er mwyn iddynt gael deall yr effaith mae wedi’i gael. Roedd Cynghorwyr a rhieni Corfforaethol hefyd yn rhan o’r gwerthusiad er mwyn canfod eu barn nhw. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu pan fyddant yn cael y canlyniadau, y byddent yn adrodd yn ôl drwy’r Fforwm Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn ar gyfer Cynllun y Cyngor ac eglurodd fod yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad ar gyfer Cynllun y Cyngor cyfan ac nid portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig, gan nodi cynnydd o fewn y sefydliad ar gamau gweithredu a mesurau.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r mesurau nad oeddynt ar y trywydd iawn ac wedi’u categoreiddio yn goch. Doedd dim yn y portffolio hwn. Fe dynnodd sylw at y prif bwyntiau o fewn yr adroddiad oedd yn dod o dan y pum maes roedd y portffolio hwn yn cyfrannu atynt:-

 

·         Byw’n Annibynnol

·         Diogelu

·         Cymorth i Bobl Fyw Gartref

·         Strategaeth Dementia Lleol

·         Amgylchedd lleol glân, diogel gyda chysylltiadau da 2022/23

 

Gan ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion y dylai pobl oedd yn credu eu bod angen cyfarpar yn y cartref gysylltu â’r tîm un pwynt mynediad ac ar ôl yr asesiad hwnnw, byddai rhywfaint o gyfarpar yn cael eu darparu’n gyflym gan Storfa Cyfarpar Cymunedol. Byddai unrhyw beth oedd yn ymwneud ag addasu cartrefi yn cymryd hirach i’w gyflawni.

 

Gan ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Ellis yngl?n â chyfarpar a gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr ar gyfer  Oedolion fod y rhestr aros am becynnau gofal wedi gostwng yn sylweddol yn yr wythnosau diwethaf. Roedd pobl mewn ardaloedd mwy gwledig yn aros am sawl wythnos yn ogystal â phobl sydd angen gofalwyr sawl gwaith y dydd.  Gyda chefnogaeth gan y Tîm Brocera a’u perthynas gyda darparwyr Gofal Cartref, maent wedi bod yn edrych ar ffyrdd o recriwtio gofalwyr i’r asiantaethau hynny oedd yn gallu ei ddarparu'n uniongyrchol. Roedd y nifer o oriau roedd pobl yn aros am ofal wedi lleihau 400 awr dros yr wythnosau diwethaf, gyda 150 awr arall o bosibl allai gael eu cynnig i bobl yn y gymuned.   Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw un yn aros Ysbyty Iarlles Caer yn aros am becyn gofal oherwydd y cynnydd mewn oriau.

 

Fe ychwanegodd nad oedd yr amser ymateb ac asesiad gan Therapi Galwedigaethol yn flynyddoedd fel roedd rhywun wedi ei awgrymu: yr arhosiad hiraf oedd wedi’i gategoreiddio’n flaenoriaeth isel oedd chwe mis. Roedd hyn yn amser hir i unigolyn oedd yn aros ond roedd y bobl oedd wedi’u categoreiddio’n ‘uchel’ yn cael eu gweld yn gyflym.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey faint o bobl oedd yn aros am becyn gofal o Ysbyty Maelor Wrecsam oedd yn gorfod dod i Ysbytai Cymunedol.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Oedolion eu bod yn defnyddio Ysbytai Cymunedol i ryddhau pobl o Ysbyty Maelor a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod tri unigolyn yn aros am becyn gofal ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr Oedolion sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yng Nghymru os nad oedd hi’n ddiogel. Roedd hi’n ymwybodol bod pobl yn cael eu symud i westai cyn bod pecynnau gofal yn cael eu trefnu yn Lloegr.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.