Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

54.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd arTachwedd a 9 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at fater a gododd ar dudalen 9 yng nghofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021, yn ymwneud â chryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.   Dywedodd y byddai diweddariad yn cael ei roi ym mis Medi unwaith bydd y Swyddog Gofal Iechyd Parhaus newydd wedi’i benodi.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021, fel y cawsant eu cynnig gan y Cynghorydd Jean Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

                      Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021, fel y cawsant eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

56.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol gan nodi y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn y flwyddyn ddinesig newydd ar 9 Mehefin 2022 ac y byddai’r eitemau rheolaidd yn cael eu hystyried yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol unwaith bydd y dyddiadau Pwyllgor newydd wedi’u cytuno arnynt. 

                       

            Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd bod y rhan fwyaf o’r eitemau ar yr adroddiad olrhain camau gweithredu wedi’u cwblhau ar wahân i’r eitem ar ddigwyddiadau ymgysylltu gofal sylfaenol a oedd yn parhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

57.

Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a nodi bod y Cynllun Drafft 2022/23 wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer.  Dywedodd bod y themâu a’r blaenoriaethau yr un fath ag ar gyfer 2021/22, ond bod rhai datblygiadau gydag is-flaenoriaethau.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol bod yr adroddiad wedi cael ei gytuno arno gan y Cabinet ac, yn dilyn ymgynghoriad gan y Pwyllgor heddiw a’r Pwyllgor Addysg ym mis Chwefror,  byddai unrhyw newidiadau i’r adroddiad yn cael eu gwneud yn dilyn adborth.   Wedyn rhoddodd wybodaeth fwy manwl o’r adroddiad.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey o ran tai gwag ac effaith digartrefedd ar iechyd a lles pobl, cytunwyd y byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Gymuned, Tai ac Asedau yn anfon e-bost at y swyddogion perthnasol yn gofyn pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd cyn iddynt gael eu rhoi mewn sefydliadau Gwely a Brecwast.   Ychwanegodd os nad yw’r adroddiad sy’n mynd i gyfarfod y Gymuned, Tai ac Asedau ym mis Chwefror yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd byddai’n gofyn am ymateb pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ellis pam nad oedd Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi’u cynnwys yn y cynllun yn dilyn nifer o geisiadau a gafodd gan breswylwyr yngl?n â mynediad at y Gwasanaeth.   Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y cynllun yn parhau ar gyfer y flwyddyn wrth symud ymlaen ac nad oedd yn cynnwys gwasanaethau a oedd yn rhai “busnes fel arfer” lle’r oedd Iechyd Meddwl yn dod o danynt.   Dywedodd y byddai unrhyw sylwadau am flaenoriaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gofal cymdeithasol angen cael eu bwydo i mewn i’r cynllun.   Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion mai un o’r anawsterau oedd bod y Cyngor wedi’i fesur yn erbyn ei berfformiad o fewn y cynllun ond roedd iechyd meddwl yn wasanaeth ar y cyd gydag iechyd yr oeddent yn gweithio gydag yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol lle’r oedd nifer ohonynt yn cael eu hariannu ganddynt.   Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai’n ymgorffori Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r cynllun gan adnabod ei fod yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gydag iechyd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn rhoi adborth ar gynnwys y themâu wedi’u hadnewyddu ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 cyn ei rannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.

58.

Gwasanaeth Cymorth Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu atgoffa’r Pwyllgor bod y Gwasanaeth Pobl Ifanc wedi  symud i GOGDdC ym mis Gorffennaf 2020 ac, fel y gofynnwyd gan y Pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn drosolwg o’r canlyniadau cadarnhaol a oedd wedi’u cyflawni i ofalwyr ifanc yn Sir y Fflint. 

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Plant a Gweithlu drosolwg o’r prif lwyddiannau fel y rhestrir yn 1.10 o’r adroddiad ers i’r Gwasanaeth fod yn weithredol.

 

Rhoddodd Alice Thelwell - Prosiect Gofalwyr Ifanc wybod i’r Pwyllgor am rai o’r uchafbwyntiau dros y 12 mis diwethaf:- 

 

·         Lansio’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr ym mis Mawrth 2021   

·         Digwyddiadau a gynhaliwyd

·         Digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio

·         Creu Llyfryn Lles

·         Sesiynau Cwnsela

·         Grantiau ar gyfer gofal seibiant

 

Dywedodd y Prif Weithredwr - GOGDdC, gyda chymorth partneriaethau, mae Gofalwyr Ifanc wedi symud yn llyfn i Wasanaethau Oedolion.   Bu iddi ddiolch i’r Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu a’r tîm am eu cymorth a chyngor parhaus ar gyllid a oedd wedi’u helpu i gynnig gwasanaethau gwahanol.   Roeddent yn gobeithio cynnal G?yl Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru eleni ynghyd â theithiau eraill gan fod pethau wedi gorfod cael eu gohirio’r llynedd oherwydd y pandemig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei redeg yn dda y mae galw mawr amdano sy’n cael ei ddarparu gan bobl frwdfrydig ond roedd yn cwestiynu'r gyllideb a oedd wedi’i adrodd yn yr adroddiad o’i chymharu â’r galw.   Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr - GOGDdC mai hwn oedd y Contract a oedd ar waith a’u bod nhw wedi derbyn arian ychwanegol yn y 12 mis diwethaf a oedd wedi galluogi iddynt benodi aelod staff dros dro yr oedd hi’n hyderus y byddai’n awr yn ddiogel oherwydd y cymorth a gafwyd gan yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu i gael mwy o gyllid ac roedd yn gobeithio penodi aelod arall o staff.  Roeddent wedi cael problemau dros yr haf gyda materion staffio nad oedd modd eu hosgoi ond roeddent wedi cael cymorth gan y Gwasanaethau Plant i’w helpu drwyddynt.   Dywedodd os yw ‘Gweithredu dros Blant’ yn llwyddiannus gyda’r Tendr Teulu yn Gyntaf byddai hyn yn galluogi i GOGDdC gael swydd ychwanegol a fyddai’n gam cadarnhaol wrth symud ymlaen.  

 

Cytunodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ei fod yn gwestiwn teg a godwyd gan y Cynghorydd Mackie a bod y gwasanaeth wedi’i gomisiynu ar y cyllid yr oedd ganddynt.  Dywedodd eu bod yn ddioddefwyr o’u llwyddiant eu hunain oherwydd y gwasanaeth ardderchog yr oeddent yn ei ddarparu.  

 

Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn adroddiad ardderchog a bu iddynt ddiolch i’r holl staff a oedd yn rhan o redeg y gwasanaeth.  

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn cefnogi cynnydd Gwasanaeth Cefnogi Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint a datblygiad y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc newydd.

59.

Adroddiad Gwasanaethau Rheoledig Mewnol pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar rôl yr Unigolyn Cyfrifol a pherfformiad y gwasanaethau rheoledig mewnol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion Mark Holt sef Rheolwr Cofrestredig - Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig y Cyngor sy’n swydd statudol y mae’r holl wasanaethau rheoledig yn gorfod ei gael i gasglu tystiolaeth drwy ymweld â gwasanaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn i arsylwi a siarad â theuluoedd, preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth i fesur gwasanaethau yn erbyn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.   Eglurodd yr Unigolyn Cyfrifol bod yna 84 o reoliadau gwahanol yn cynnwys:-

 

·         Cartrefi Gofal Preswyl Pobl H?n

·         Tai Gofal Ychwanegol

·         Gwasanaeth Gofal Cartref Sir y Fflint

·         Gwasanaethau Gofal Tymor Byr i bobl ag anabledd dysgu

·         Gwasanaethau Byw â Chymorth

 

Rhoddodd y Cadeirydd sylwadau ar safon ardderchog y gofal a roddwyd i breswylwyr gan nad oedd unrhyw achosion o COVID o fewn y gwasanaeth Byw â Chymorth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yn ymwneud â’r 17 o dai byw â chymorth, cadarnhaodd y Rheolwr Cofrestredig - Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig bod newid wedi bod dros y 5 mlynedd diwethaf gan fod t? ychwanegol wedi’i agor i wneud lle i unigolyn.   Nid oedd unrhyw gynlluniau i newid dros y 5 mlynedd nesaf gan y bydd angen i unrhyw adolygiad o’r gwasanaeth fod yn gynhwysfawr.

 

            Roedd y Cynghorydd Mackie yn awyddus i weld ymweliadau rota yn dychwelyd fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad a byddai’n hoffi diweddariad ar y cynnydd ar gofnodion digidol yn yr adroddiad nesaf.   Mynegodd y Cynghorydd Mackie y farn bod angen buddsoddi mewn cofnodion digidol.   Gofynnodd hefyd i gynnydd yn y maes hwn gael ei fonitro gan y Pwyllgor wrth symud ymlaen. Bu iddo hefyd ddangos pryder a hoffai weld mwy o wybodaeth am y gwiriad cyn ymweld sydd newydd ei gyflwyno ar gyfer gofal tymor byr mewn adroddiad yn y dyfodol.   Cytunodd Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Hilary McGuill, ei fod yn hen bryd i gofnodion fod yn ddigidol, ac roedd yr holl aelodau yn cytuno â hynny.    

 

Mewn ymateb cyfeiriodd y Prif Swyddog at y Gr?p Strategaeth Ddigidol a dywedodd bod yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu angen gwneud y gr?p yn ymwybodol bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi gofyn i’r maes gwasanaeth hwn gael ei flaenoriaethu gan y Cyngor. 

 

Cynigiwyd argymhelliad (a) yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Jean Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

Cynigiwyd argymhelliad (b) yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod Aelodau yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad, ac yn cytuno bod y AGC blynyddol yn dychwelyd ar berfformiad y gwasanaeth ac y dylai bodloni’r rheoliad fod yn adroddiad blynyddol i’r Pwyllgor; a

 

(b)          Bod ymweliadau rota’r Aelodau yn cael eu hail-sefydlu, os yw’r pandemig yn caniatáu hynny, yn 2022.

60.

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi cael ei lunio fel gofyniad gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn gyntaf bu i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddiolch i Emma Murphy a Katrina Shanka am greu’r adroddiad a oedd yn ofyniad yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sy’n asesu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr ar draws Gogledd Cymru.   Dywedodd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiadau gwasanaeth mewn blynyddoedd i ddod.

 

                         Eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod y ddogfen wedi bod drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyn dod i’r Pwyllgor hwn ac y byddai wedyn yn mynd i Bwyllgor Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.   Pwysleisiodd bod amserlenni wedi bod yn dynn oherwydd effaith y pandemig a bod disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill.   Dywedodd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod y ddogfen wedi’i groesawu.

 

                        Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Plant a Gweithlu sicrwydd i’r Aelodau nad oedd y ddogfen wedi’i seilio ar ganlyniadau’r arolwg ar-lein yn unig ond ei fod o gyfoeth o adroddiadau a staff gwybodus yn ogystal ag ymgynghoriadau a gynhaliwyd dros y 5 mlynedd diwethaf.

 

                        Cytunodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor ei fod yn ddogfen ardderchog a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n dda fel dogfen gyfeirio.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod Aelodau yn cefnogi Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2022 a

(b)          Bod Aelodau yn cefnogi’r broses ar gyfer cymeradwyo’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol a derbyn adroddiad gwybodaeth pan fydd ar gael.


61.

Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Micro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod nifer o awdurdodau lleol yn wynebu pwysau o ran bodloni’r galw cynyddol am ofal cymdeithasol, gyda’r boblogaeth h?n sy’n tyfu ac asiantaethau gofal yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr a bod darparu gofal i rannau mwy gwledig o’r Sir yn gallu bod yn broblemus.    Sefydlwyd mentrau meicro-ofal yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb a chael cyllid gan Gadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie ei fod yn adroddiad ardderchog gyda straeon o lwyddiant sylweddol clir ac roedd wedi nodi bod yr angen mewn dau faes sef yr angen am gymorth a’r angen am ddarparwyr wedi’u dangos yn y datganiadau yn yr adroddiad.   Mewn ymateb i gwestiwn a gododd am y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a rheol 4 dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod wedi cael llawer o sgyrsiau gydag AGC yn ceisio cael meicro-ofal nad oedd wedi’i gynnwys yn y Ddeddfwriaeth ar y pryd.   Roedd AGC yn gefnogol iawn ond yn amlwg roeddent wedi’u clymu gan y ddeddfwriaeth.   Gobeithiwyd mewn amser y byddai’r Ddeddfwriaeth yn dal i fyny os byddai mwy o awdurdodau lleol yn darparu Meicro-ofal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones ei bod yn falch iawn i fod yn un o’r awdurdodau cyntaf i roi’r cynllun ar waith.   Roedd y Cadeirydd yn falch fod dau o ddarparwyr Meicro-ofal wedi bod mor llwyddiannus nes ffurfio eu hasiantaethau gofal cartref eu hunain.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn parhau i gefnogi’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r cynllun peilot Meicro-ofal arloesol a chyfraniad cadarnhaol y cynllun i fodloni’r galw am ofal yn Sir y Fflint.

62.

Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Plant pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ddiweddariad i’r Pwyllgor ar Gam 2 o’r Rhaglen Drawsnewid fel y gofynnwyd yn y Pwyllgorau Craffu diwethaf.   Eglurodd y byddai’r rhaglen yn cael ei darparu yn 2022.   Y materion allweddol oedd:-

 

·         Gwerthusiad annibynnol o’r Tîm Therapi Aml-systemig presennol

·         Agor Canolfan Asesu Preswyl Cofrestredig ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam “T? Nyth”

·         Fflat mewn argyfwng ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam yn darparu llety brys cofrestredig a chymorth mewn argyfwng

·         Ail Dîm Therapi Aml-systemig yn darparu asesiadau a therapi i adeiladu gwydnwch a chefnogi’r gwaith o aduno teuluoedd a ‘symud ymlaen’ o D? Nyth

·         Cartref Plant cofrestredig yn darparu lleoliadau hirdymor i hyd at 4 o blant o Sir y Fflint mewn amgylchedd cartrefol a sefydlog.

 

Mewn perthynas â chwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd, roedd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu yn rhagweld y byddant yn weithredol erbyn yr hydref 2022 unwaith y bydd cofrestriad AGC wedi’i gymeradwyo.   Yna bydd adroddiad pellach ar gynnydd yn cael ei ddarparu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn nodi’r cynnydd a’r cynlluniau cyflawni cysylltiedig ar gyfer y Gronfa Drawsnewid.

 

Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eisiau diolch i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am eu harweinyddiaeth ynghyd ag aelodau o’r Pwyllgor am eu cefnogaeth.   Ymatebodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd drwy ddweud eu bod yn falch iawn o fod yn aelodau o’r Pwyllgor ac y byddant yn hoffi diolch i’r holl staff a’r cyfranogwyr a oedd wedi gwneud y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn un llwyddiannus. 

63.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.