Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Dim.

19.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a strategaeth gyffredinol y gyllideb.  Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) yr adroddiad cam cyntaf y gyllideb a oedd yn manylu ar y rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n cyfrif am ofyniad llawn y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi darparu diweddariad ar y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol wedi hynny. Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi’i gynnal i ffurfio llinell sylfaen gywir a chadarn o’r pwysau o ran costau a oedd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa argyfwng gan gynnwys cyflymder yr adenillwyd incwm yn erbyn targedau a osodwyd.

 

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r datrysiadau cyfyngedig sydd ar gael i ariannu’r pwysau o ran costau gyda’r strategaeth gyllido yn ddibynnol iawn ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif  Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y Dyfodol – Yr hyn a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau o ran Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Y Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Senarios Ariannu Posibl;
  • Yr Amserlen o ran y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw

 

Darparwyd manylion ychwanegol o amgylch pwysau penodol o ran costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Prif Gyfrifydd fel rhan o’r cyflwyniad.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y pwysau o ran costau sydd wedi ei ddangos ar gyfer ehangu Cartref Gofal Preswyl Marleyfield a holodd a oedd y pwysau hwn yn ymwneud â chostau staff ychwanegol.  Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a oedd swydd y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref hefyd yn ymwneud â gweithio gyda phlant sydd ar goll o’r ysgol. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) fod y pwysau o ran costau ar gyfer ehangiad Cartref Gofal Preswyl Marleyfield yn cynnwys costau staff i gefnogi’r gwlâu ychwanegol ond byddai hefyd yn cynnwys y cyllid ar gyfer y costau glanhau, bwyd a chyfleustodau ychwanegol oedd eu hangen. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref yn rôl a ragnodwyd gyda meini prawf clir yn amlinellu beth oedd yn cael ei ystyried yn blentyn ar goll. Byddai eu rôl yn cynnwys ymweld â phlant a oedd wedi dychwelyd i’w cartref / lleoliad er mwyn deall yn well pan fod y plentyn wedi bod ar goll a rhannu gwybodaeth gyda’r Heddlu i ddeall yn well y patrymau lle’r oedd plant mewn perygl o gael eu camfanteisio arnynt. Byddai cyswllt gydag addysg, os oedd plentyn ar goll gyda’r nos ac os nad oeddynt chwaith yn mynychu’r ysgol. Ategodd y Prif Weithredwr ei gefnogaeth i greu’r swydd hon a oedd wedi’i amlygu’n fater rhanbarthol gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau mwy o wydnwch.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie y swyddogion am eu gwaith i baratoi’r adroddiad cyllideb ac adleisiwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

SEFYLLFA ARGYFWNG

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad cyflym ar y sefyllfa argyfwng. Nododd fod y gyfradd achosion wedi gostwng ychydig ers y diwrnod blaenorol gyda nifer yr achosion dyddiol ar y cyfan yn is nag ychydig wythnosau yn ôl. Y cyngor a gafwyd oedd y byddai’n cymryd oddeutu 3 wythnos o ddechrau’r cyfnod atal byr i weld tuedd lawn o ran ei effaith, a gobeithiwyd y byddai’r darlun cyffredinol ar gyfer Cymru yn llawer gwell. Roedd y Prif Weinidog wedi nodi y byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu bythefnos ar ôl diwedd y cyfnod atal byr er mwyn gweld a oedd y ffigyrau’n aros yn sefydlog ac osgoi ymyrraeth arall tan o leiaf y Flwyddyn Newydd.

 

            Roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i ddyblu’r gallu Profi, Olrhain a Diogelu, ac roedd yr holl wasanaethau a effeithiwyd wedi ailagor ar 9 Tachwedd fel y bwriadwyd. Roedd yr holl sylw ar hyn o bryd ar wydnwch iechyd a gofal cymdeithasol dros fisoedd y gaeaf ac roedd cynllun brechu ar gyfer Gogledd Cymru mewn grym yn barod am un neu ragor o frechlynnau pa y byddent ar gael.  Byddai papur briffio Aelodau pellach yn cael ei gylchredeg yn ddiweddarach yn yr wythnos. 

 

            Cododd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon am y posibilrwydd y byddai’n rhaid i nyrsys gofal dwys edrych ar fwy nac un claf ar draws y ffin yn Lloegr, a cheisiwyd sicrwydd na fyddai hyn yn cael ei gyflwyno mewn ysbytai yng Nghymru.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n ymholi ynghylch diogelwch a chymarebau staff wrth graffu ar Gynllun Chwarthor 3 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  

Dogfennau ychwanegol:

SGWOBRAU GOFAL CYMDEITHASOL

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Gwobrau Gofal Cymdeithasol wedi’u cynnal ar 10 Tachwedd, 2020 ac roedd Gwasanaethau Sir y Fflint wedi ennill gwobrau cyntaf ac ail.  Roedd GOGDdC wedi llwyddo i ennill y wobr gyntaf am Gefnogaeth Gymunedol, gyda HfT yn gorffen mewn ail safle agos iawn. Byddai cynrychiolwyr o’r ddau wasanaeth yn cael eu gwahodd i ddod i gyfarfod y Cyngor Sir ar 8 Rhagfyr er mwyn caniatáu llongyfarchiadau ffurfiol. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog gyfleu diolch a llongyfarchiadau’r Pwyllgor i’r holl staff dan sylw. 

     

I gofio am Ddiwrnod y Cadoediad, oedodd y Pwyllgor ddau funud o ddistawrwydd am 11.00am. 

Dogfennau ychwanegol:

20.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.