Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

42.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

43.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd  2019

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

 

44.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd  y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 30 Ionawr. Cyfeiriodd at gyflwyniad ar y Storfa Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith sydd wedi’I gyflawni yn y storfa cyfarpar. Hefyd dywedodd yr Hwylusydd y cynhelir cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 yn Hwb Cyfle. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Adroddodd nad oedd unrhyw gamau heb eu cymryd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

 

45.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru pdf icon PDF 96 KB

Darparu rhagolwg o berfformiad a safon gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn 2018-19. Mae’r adroddiad yn nodi’r heriau ac amcanion y dyfodol ar gyfer 2019-2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi trosolwg o berfformiad ac ansawdd gwaith Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.   Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi gweithgareddau allweddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2018 – Mawrth 2019 a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf ar ailddylunio/ailstrwythuro Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (2019/2020) a chyflwyno’r elfen gwasanaeth newydd ar ôl mabwysiadu o dymor y Gwanwyn 2020. Gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau y wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr Adroddiad Blynyddol a’r Adolygiad Ansawdd Gofal (2018/19) a’r Achos Busnes ar gyfer ei adolygu gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Eglurodd bod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen eang oedd yn ceisio nodi gwaith a threfniadau cyfreithiol, ariannol a staffio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Adroddodd ar y meysydd allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd yr aelodau sut oedd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cymharu â’r gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig i fabwysiadwyr posibl yn y sector preifat.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod mabwysiadwyr posibl yn derbyn gwasanaeth gwell na gwaeth yn y sector preifat na’r hyn a ddarparwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a dywedodd ei fod yn fater o ddewis personol.  Fodd bynnag, nododd ansawdd y gefnogaeth ac arweiniad a ddarperir gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru i fabwysiadwyr.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Paul Cunningham y gwaith ardderchog a gyflawnwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a’r Panel Mabwysiadu. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie bryderon o ran recriwtio a chyfeiriodd at y cynigion yn yr ‘achos busnes’ oedd ynghlwm yr adroddiad. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd a dywedodd nad oedd yn ymwybodol o faterion penodol o ran recriwtio o fewn yr Awdurdod cynnal. Wrth wneud sylwadau ar y cynnig yn yr ‘achos busnes’ i greu swyddi ychwanegol, dywedodd bod cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gost.  Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau, cytunwyd y byddai adroddiad arall i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym Mawrth 2020.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol (Ebrill 2018 – Mawrth 2019);

 

(b)          Nodi’r cynnydd mewn perthynas ag Adolygiad Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Hydref 2019); a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diwygiedig ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ym Mawrth 2020

 

 

46.

Strategaeth Gofal Ychwanegol i gynnwys diweddariad ar Dreffynnon pdf icon PDF 131 KB

Rhoidiweddariad i’r aelodau ar y tri chynllun gofal ychwanegol gweithredol a’r pedwerydd cynllun y disgwylir iddo fynd ar waith ganol Chwefror 2020

Cofnodion:

Gwahoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig, Mark Holt i roi diweddariad ar y tri chynllun gofal ychwanegol gweithredol a’r bedwerydd cynllun oedd fod i ddechrau ym mis Chwefror 2020.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig, drosolwg o’r cynlluniau gofal ychwanegol yn Llys Eleanor, Shotton, Jasmine, yr Wyddgrug a Llys Raddington, y Fflint. Dywedodd bod y cynlluniau yn darparu datrysiadau llety â chymorth oedd tu hwnt i unrhyw ffurf arall o ddarpariaeth ac yn llwyddiannus iawn ac wedi eu gordanysgrifio. Disgwylir i’r bedwaredd cynllun (Plas yr Ywen, Treffynnon) gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2020 gan agor ar 24 Chwefror 2020 a gwahoddodd y Pwyllgor i ymweld â’r cyfleusterau newydd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Cofrestredig i’r cwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd o ran y ddarpariaeth o ofal diwedd bywyd.  Gofynnodd y Cynghorydd Paul Cunningham os oedd ceisiadau gan breswylwyr lleol ar gyfer cynlluniau gofal ychwanegol yn cael eu blaenoriaethu dros geisiadau gan bobl oedd yn byw tu hwnt i Sir y Fflint.  Dywedodd y Rheolwr Cofrestredig bod meini prawf llym o ran dyrannu’r fflatiau ac roedd angen i bobl fod yn byw yn Sir y Fflint neu bod â chysylltiadau cryf gyda Sir y Fflint.  

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Carol Ellis am yr angen am gynllun gofal ychwanegol ym Mwcle, eglurodd y Rheolwr Cofrestredig y gallai Sir y Fflint gyflawni cynllun pellach yn y dyfodol, yn seiliedig ar lwyddiant y gofal ychwanegol hyd yma a’r rhagolygon o ran angen y boblogaeth h?n, pe byddai’r lleoliad iawn ar gael ar gyfer datblygu. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cyllid ar gyfer datblygiad newydd yn ardal Bwcle a dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf a'r pedwar cynllun gofal ychwanegol a chefnogi’r Strategaeth Gofal Ychwanegol yn Sir y Fflint.

 

 

47.

Diogelu Oedolion a Phlant pdf icon PDF 209 KB

Pwrpas:  Darparu gwybodaeth ystadegol i Aelodau yngl?n â Diogelu -  Oedolion a Phlant

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant o fewn ffiniau’r Sir.   Eglurodd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth allweddol am ystadegau a pherfformiad mewn perthynas â phlant ac oedolion dan fygythiad, y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu sylweddol a diogelu corfforaethol amdanynt.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu amrywiaeth o waith a gyflawnwyd gan yr Uned Ddiogelu a’r gweithgareddau a gyflawnwyd gan grynhoi rai o’r dysgeidiaethau allweddol o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.

 

Adroddodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, o ran gweithgareddau’r Uned Ddiogelu a chyfeiriodd at y gwaith yn ymwneud â’r cyfrifoldebau craidd o amgylch Amddiffyn Plant, Diogelu Oedolion, Oedolion dan Fygythiad, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Sy'n Derbyn Gofal.Roedd tîm yr Uned Ddiogelu hefyd yn rhan o grwpiau rhanbarthol, grwpiau cyflawni, darparu hyfforddiant i oedolion a phlant, adolygiadau ac ymchwiliadau i ymarfer plant ac oedolion.Roedd y negeseuon allweddol o gyfarfodydd y Bwrdd Rhanbarthol yn y chwarter olaf ar gael yn yr atodiadau i’r adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod yr Uned Ddiogelu wedi cael dau arolygiad thematig llwyddiannus gan Arolygiaeth Gofal Cymru eleni; cafodd y gwasanaeth Diogelu Oedolion a Phlant ei arolygu ym mis Chwefror a chafod y Gwasanaeth Plant dan Ofal ei arolygu ym mis Hydref ynghyd â meysydd eraill o’r Gwasanaethau Plant.

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddogion i’r sylwadau a godwyd gan y Cadeirydd mewn perthynas â darpariaethau diogelu ar gyfer oedolion ifanc sy’n gadael y gwasanaethau gofal. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Derbyn yr adroddiad ar Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth ac effaith y gofynion ychwanegol.

 

48.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Dave Mackie ar ei ymweliad i Gartref Preswyl Marleyfield a nododd yr amgylchedd ‘cartref o gartref’ oedd yno. Dywedodd ei fod wedi mwynhau’r ymweliad ac nad oedd unrhyw faterion i’w hadrodd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

49.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.