Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

21.

Cofnodion pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar y cyd â’r Pwyllgor                              Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 24 Mai, a                  cofnodion y cyfarfod ar 14 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018.

 (ii)       Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y ddau gyfarfod fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

22.

Menter Gymdeithasol Double Click - Adroddiad Cynnydd pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:  Rhoi gwybod i aelodau am gynnydd cliciwch ddwywaith ers ei sefydlu fel Cwmni Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad i roi gwybod am gynnydd Double Click ers iddo ddechrau fel Cwmni Cymdeithasol. Gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Datblygiad ac Adferiad - Gwasanaethau Oedolion, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Datblygiad ac Adferiad - Gwasanaethau Oedolion, wybodaeth gefndir a chyd-destun a dywedodd fod Double Click wedi datblygu’n fawr fel Menter Gymdeithasol cwbl annibynnol, gan gynnig rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i’r staff i gyd, gan gynnwys pobl â materion iechyd meddwl.  Dywedodd y gallai Double Click gyflogi pobl ag amrywiaeth o sgiliau o ganlyniad i symud i fod yn fenter gymdeithasol. Mae Double Click wedi sicrhau cyllid loteri allanol a oedd wedi’i ddefnyddio i brynu offer o’r radd flaenaf a oedd yn cefnogi datblygiad y busnes.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif ystyriaethau, fel a nodir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at weithio mewn partneriaeth i wella profiadau hyfforddeion/gwirfoddolwyr, hyfforddiant a chyllid grant.  Cyflwynodd Andrew Lloyd-Jones, Rheolwr Cyffredinol, Double Click, a’i wahodd i roi trosolwg o’r gwasanaethau a’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a ddarperir i’r holl staff gan gynnwys pobl a oedd wedi profi, neu’n parhau i brofi, problemau iechyd meddwl.

 

            Eglurodd Mr Lloyd-Jones fod tair lefel o ddysgu yn Double Click, gyda’r nod (ar Lefel 3) o ddatblygu’r hyfforddai tuag at ennill achrediad yn Double Click ar y cyd â choleg neu brifysgol.  Er ei fod yn ymwneud â busnes, roedd Double Click yn gallu cefnogi ei wirfoddolwyr, hyfforddeion a gweithwyr yn unol ag unrhyw anghenion ychwanegol. Aeth Mr Lloyd-Jones ymlaen i ddweud, yn ogystal â datblygu sgiliau graffig/argraffu, roedd hyfforddeion yn cael cyfle i gaffael hyder trwy ymwneud â thasgau gweinyddol a gofal cwsmer o ddydd i ddydd, a chael cefnogaeth i reoli llif arian a trafodion arian mân.Dywedodd Mr Lloyd-Jones fod gan Double Click 22 hyfforddai ar hyn o bryd a oedd ar wahanol lefelau o ran datblygiad. Roedd y cwrs Learn Direct yn llwyddiannus wrth ddatblygu sgiliau hyfforddeion ym mhob agwedd ar ddylunio graffeg ac roedd yn caniatáu i unigolion ddysgu ar eu cyflymder eu hunain cyn cael hyfforddiant a chefnogaeth 1:1 gan aelod o staff oedd â chymhwyster dylunio graffeg. Roedd gan bob hyfforddai eu rhaglen ddatblygu eu hunain a’u portffolio personol o waith a oedd yn cael ei ddiweddaru wrth i'r hyfforddai ddatblygu.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i Mr Lloyd-Jones am ei gyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y datganiad cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a oedd yn dod i ben 31 Mawrth 2017 a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad, a rhoddodd longyfarchiadau i Mr Lloyd-Jones a’i dîm am yr elw a wnaed gan Double Click yn ystod blwyddyn gyntaf ei weithrediad ac am gyrraedd ei dargedau o ran gwerthiant. Gan ymateb i sylw a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie am yr amser a gymerwyd i sefydlu’r menter fusnes, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod sefydlu’r fenter yn broses hir oherwydd cymhlethdod y materion cyfreithiol ac adnoddau dynol a oedd angen sylw gofalus.

 

            Mynegodd  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad ar y Strategaeth Anabledd Dysgu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad am Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun i egluro’r Strategaeth a dywedodd y byddai’n mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gael cymeradwyaeth ym mis Tachwedd 2018, yna byddai’n mynd drwy brosesau cymeradwyo’r chwe awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Sarah Bartlett, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru, a’i gwahodd i gyflwyno’r adroddiad.  Eglurodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, er mwyn gwireddu’r weledigaeth a darparu gwasanaethau ar sail beth oedd yn bwysig i bobl, roedd pum pecyn gwaith wedi’u cynllunio a fyddai’n egluro sut byddai pethau’n newid i sicrhau bywydau da i bobl ag anableddau dysgu. Mae’r pecynnau gwaith yn dilyn dull ar sail asedau i adeiladu ar y sgiliau, rhwydweithiau ac adnoddau cymunedol oedd gan bobl ag anableddau dysgu eisoes. Cânt eu cynhyrchu ar y cyd â phobl ag anableddau dysgu a’u rhieni/gofalwyr. Yr allwedd i gyflawni’r weledigaeth fydd gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu gwerthfawrogi’n wirioneddol a’u cynnwys yn eu cymunedau. Soniodd Sarah Barlett am y pum pecyn gwaith a amlinellir yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr ymgynghoriadau eang a gynhaliwyd ar y Strategaeth a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a dywedodd fod cwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor yn cael eu croesawu.

 

Wrth gydnabod y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran yr angen i egluro targedau a chamau gweithredu yn y Strategaeth, tynnodd y Prif Swyddog sylw at y mesurau ar dudalen 90 yr adroddiad fel enghraifft o’r camau gweithredu i’w cymryd i weithredu’r Strategaeth.Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/Blynyddoedd Cynnar fod hon yn Strategaeth Gogledd Cymru gyffredinol ac roedd gwaith yn barhaus yn Sir y Fflint o ran gweithredu’r strategaeth ar lefel leol.Cyfeiriodd at yr angen i roi sylw i ofynion nifer o Ddeddfau yn y sector.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at nifer y plant yn yr adroddiad gydag anhawster dysgu difrifol neu ddwys. Soniodd am yr angen i rieni fod â sicrwydd bod Datganiad o Angen Addysgol ar waith drwy gydol addysg eu plentyn o’r ysgol gynradd i addysg uwch a choleg neu brifysgol. Gofynnodd pa mor dda roedd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cysylltu â gwasanaethau Addysg.Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Datblygiad ac Adferiad - Gwasanaethau Oedolion fod gan nyrsys a gweithwyr cymdeithasol dimau wedi’u cyd-leoli sy’n gweithio’n dda iawn. Ychwanegodd o ran angen addysgol, mae tîm trosglwyddo a phanel trosglwyddo sy’n cyfarfod gyda chynrychiolwyr addysgu bob mis.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin fod cyfeiriad yn cael ei wneud at y Lluoedd Arfog yn y Strategaeth. Cytunodd y Prif Swyddog i symud hyn ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at hyfforddiant i Feddygon Teulu o ran anableddau dysgu a gofynnodd a oedd hyfforddiant wedi’i gynllunio neu a oedd eisoes yn digwydd. Dywedodd y Prif Swyddog fod rhywfaint o hyfforddiant yn digwydd, fodd bynnag mae angen rhagor o gysonder ar draws y rhanbarth. Ychwanegodd fod pobl ag anableddau  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Cynnydd i Ddarparwyr pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad ar y cynnydd i ddarparwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnydd i Ddarparwyr - Creating a Place Called Home … Delivering What Matters, a hefyd dywedodd wrth y Pwyllgor am y llwyddiant diweddar yng Ngwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru 2018.Gwahoddodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno fideo byr ar Gynnydd i Ddarparwyr ac i adrodd am y prif ystyriaethau fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu wybodaeth gefndir a dywedodd mai newid allweddol diweddar yn y sector gofal fu cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector symud oddi wrth gomisiynu gwasanaethau ar sail tasgau a symud tuag at sicrhau bod darparwyr yn cefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol eu hunain a hyrwyddo lles. Dywedodd fod yr ethos hwn hefyd wedi’i adlewyrchu yn Adroddiad Comisiynydd Pobl H?n Cymru 2014, ‘Lle i’w Alw’n Gartref? - Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl h?n sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru’ a oedd ynghlwm i’r adroddiad.  Er mwyn symud y cysyniad hwn ymlaen,  gwnaeth yr Awdurdod estyn gwahoddiad agored i bob cartref gofal preswyl yn Sir y Fflint, a gwnaeth 16 o’r 26 Cartref Gofal Nyrsio a Phreswyl ymrwymo i fod yn rhan o’r rhaglen. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod y cartrefi hyn yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau darparwr mewnol yr Awdurdod ei hun, a thimau gwaith cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, timau rheoli ac ati, i weithredu arfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn.  

 

Gwnaeth yr Uwch Reolwr egluro, er mwyn cydnabod y cynnydd roedd y cartrefi gofal yn ei gyflawni o ran gweithredu arferion gofal sy’n canolbwyntio ar unigolyn, roedd yr Awdurdod wedi datblygu ei becyn gwaith hunanasesu ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ ei hun.  Er mwyn dangos cynnydd, cyflwynodd yr Awdurdod 3 lefel o achrediad a gaiff eu dilysu gan Dîm Contract a Chomisiynu Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r Rheolwyr Cartrefi Gofal. Ym mis Medi 2018, cafodd y prosiect ei gydnabod yn gyhoeddus gan ennill Gwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff. Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU.  I gloi, soniodd yr Uwch Reolwr am y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd yma gan gartrefi gofal preswyl yn Sir y Fflint, fel a nodir yn yr adroddiad. 

 

Mynegodd Cynghorydd Hilary McGuill bryder am gartrefi gofal nad oeddent wedi eu hymrwymo i’r Rhaglen eto. Eglurodd yr Uwch Reolwr fod pob cartref gofal yn ymwybodol o’r Rhaglen a’u bod yn ymgysylltu ond eu bod ar wahanol gamau o ran cynnydd.    Dywedodd fod y Tîm Monitro Contract yn gweithio’n agos gyda chartrefi gofal, gan ddarparu canllawiau a chefnogaeth, i wella perfformiad lle bo angen i’w galluogi i gyflawni’r canlyniadau a safonau dymunol.

 

Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am breswylwyr Sir y  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

Cofnodion:

Soniodd y Cynghorydd Hilary McGuill am ei hymweliad i Llys Gwenffrwd, Treffynnon, a dywedodd fod yr awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol yn y cartref wedi creu argraff arni. Dywedodd fod preswylwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael gofal da mewn amgylchedd cartref oddi cartref. 

 

Gan ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd McGuill am barcio yn Llys Gwenffrwd, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/Blynyddoedd Cynnar ei bod wedi codi’r mater hwn gyda’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ac roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai aelod o’i dîm yn ymweld i edrych ar y broblem.

26.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Dywedodd fod gweithdy’r gyllideb wedi’i drefnu i Aelodau’r Pwyllgor ar 10 Hydref. Byddai cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 31 Hydref 2018 i ystyried cynigion y gyllideb Cam 2.  

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 15 Tachwedd 2018, a dywedodd y cytunwyd y byddai’n cael ei gynnal yn Llys Raddington, y Fflint. Eglurodd byddai Aelodau’n cael cyfle i gael taith o’r adeilad cyn y cyfarfod a fyddai’n dechrau am 3.00pm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.