Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau                 yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

40.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Hydref a                15 Tachwedd 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2018 ac 15 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

41.

Strategaeth Ranbarthol Gofalwyr pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o’r strategaeth i’r Aelodau a chymeradwyo bod                 Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â’r Strategaeth hon yng ngogledd                Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu’r adroddiad i ddarparu trosolwg o Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ac i gefnogi Cyngor Sir y Fflint wrth iddo ymuno â’r strategaeth.

 

Darparodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth gefndir ac eglurodd fod tair rhan i’r strategaeth, sef:

 

·         Gweledigaeth gogledd Cymru ar gyfer gwasanaethau gofalwyr

·         Safonau gwasanaeth

·         Cynllun gweithredu

 

Adroddodd yr Uwch-Reolwr ar y prif benderfyniadau a gweithgareddau sydd wedi’u gwneud i ddatblygu Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, fel y crynhoir yn yr adroddiad.Eglurodd bod y strategaeth yn gofyn i waith comisiynu lleol, is-ranbarthol a rhanbarthol roi llais i ofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau lleol a sicrhau bod yr holl wasanaethau yn yr ardal yn dod yn fwy ymwybodol o ofalwyr ac yn gyfeillgar i ofalwyr. Mae hefyd yn ddyletswydd ar y rheiny sy’n comisiynu i sicrhau y cynllunnir gwasanaethau i ganfod gofalwyr a’u helpu i nodi anghenion ac i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ofalwyr gydag anghenion cefnogi a/neu hawliau penodol.Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru - strategaeth i ofalwyr o bob oed, sydd wedi’i atodi i'r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cyng. Kevin Hughes sut caiff gofalwyr ifanc yn Sir y Fflint eu hadnabod a’u cefnogi. Eglurodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu nad yw’r awdurdod yn gwybod am bob gofalwr ifanc a dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo gydag asiantaethau, ysgolion a phobl ifanc i adnabod a chysylltu â gofalwyr ifanc i gynnig cefnogaeth a gwybodaeth a’u cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill. Cyfeiriodd at y llwybrau atgyfeirio a gytunwyd arnynt gyda Barnardo's a dywedodd y byddai’n gofyn i Barnardo's ddarparu data i ddangos i’r Pwyllgor beth yw eu barn am bobl ifanc.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid gwahodd cynrychiolwyr o NEWCIS A Barnardo's i gyfarfod o’r Pwyllgor.Cynigiodd y Cyng. Hilary McGuill y dylid cynnwys hyn fel eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Gwnaeth y Cyng. McGuill sylwadau ar anghenion gofalwyr oedrannus a mynegodd bryder ynghylch methu eu cyfeirio at yr wybodaeth a’r gwasanaethau priodol sydd ar gael i’w cynorthwyo.

 

Soniodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu am bwysigrwydd adnabod cynnar ac asesu a deall anghenion gofalwyr o bob oed.Cyfeiriodd at effaith gofalu ar unigolion a nod Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru i roi llais i ofalwyr pan wneir penderfyniadau ac i’w helpu i nodi eu hanghenion a’u hawliau.

 

Gwnaeth y Cyng. Andy Dunbobbin sylw ar yr angen i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Tynnodd yr Uwch-Reolwr sylw at y cynlluniau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth ar gyfer partneriaid allweddol ac ategodd yr angen i adnabod gofalwyr yn gynnar a darparu cefnogaeth gynnar. Dywedodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu y cynhelir Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr ym mis Mehefin 2019 ac awgrymodd y dylai'r Pwyllgor ystyried hyrwyddo’r wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi gofalwyr.

 

Siaradodd y Cyng. Gladys Healey am anghenion gofalwyr ifanc, yn arbennig gofalwyr ifanc sy’n dal mewn addysg lawn amser.Dywedodd hefyd am yr arbedion ariannol a wneir yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol oherwydd y gofal a ddarperir gan bobl ifanc.

 

Diolchodd  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Gronfa Gofal Integredig pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Diweddaru Craffu ar ddefnydd y Gronfa Gofal Integredig, y ffordd mae ei                           defnydd yn cael ei reoli ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a’r                                  gwahaniaeth y mae’r nawdd yn ei wneud i breswylwyr Sir y Fflint.

                       

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddefnydd y Gronfa Gofal Integredig; y ffordd y rheolir ei defnydd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’r gwahaniaeth y mae’r cyllid yn ei wneud i breswylwyr Sir y Fflint. Rhoddodd ychydig o wybodaeth gefndir a chyd-destun, a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau wrth ddyrannu'r cyllid, y rhaglen refeniw a’r rhaglen gyfalaf.Yna, gwahoddodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr a’r Arweinydd Partneriaeth i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Soniodd y Cadeirydd am effaith y cyllid a’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r Gronfa Gyllid Integredig sy’n arbed arian i’r gwasanaeth iechyd.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad y Cyng. Hilary McGuill yngl?n â’r gwasanaeth dychwelyd ac atal, eglurodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod hwn yn bartneriaeth rhwng CAMHS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Gweithredu dros Blant, sy’n darparu gwasanaethau cymorth therapiwtig pan fo risg o leoliad yn methu. Yn ystod y drafodaeth ymatebodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu i gwestiynau a sylwadau pellach gan y Cyng. McGuill yngl?n â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac eglurodd sut mae’r gwasanaeth yn hwyluso’r angen i ariannu addasiadau angenrheidiol i eiddo preswyl preifat ac yn diogelu arian cyhoeddus.

 

                        Awgrymodd y Cyng. Andy Dunbobbin y dylid ystyried gwneud cais am gyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd.

           

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi Rhaglen y Gronfa Gofal Integredig; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r fenter i ddefnyddio ffynonellau ariannu tymor byr i    ddarparu yn erbyn blaenoriaethau strategol a gweithredol y Cyngor a phartneriaid   allweddol.

43.

Gwasanaeth Gofal Maeth Sir y Fflint pdf icon PDF 792 KB

Pwrpas:        Nodi cynigion i ddatblygu a gwella dull Sir y Fflint o ymdrin â                                    maethu.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu adroddiad yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu a gwella dull Sir y Fflint ar gyfer maethu.Eglurodd fod gan y Cyngor wasanaethau maethu effeithiol sy’n cael eu rhedeg yn dda, a dywedodd fod gofalwyr maeth yn rhan bwysig o’r gweithlu sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel.Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn wynebu heriau sylweddol, fel denu a datblygu gofalwyr maeth i gefnogi plant gydag anghenion cymhleth, plant h?n a brodyr a chwiorydd; ymateb i derfynau amser y llys i asesu ‘Person Cysylltiedig’; a chystadlu gydag asiantaethau maethu annibynnol sy’n cynnig taliadau uwch am faethu.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu at y prif ystyriaethau, sydd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad, a’r ystod o ddulliau rhagweithiol ac arloesol y mae’r gwasanaeth yn eu defnyddio i ymateb i’r heriau uchod.Dywedodd fod y gwasanaeth wedi derbyn grant yn ddiweddar, drwy gynllun 'Arloesi i Arbed’ NESTA, i ddarparu cyllid i ymchwilio i fodel newydd o ofal maeth o’r enw Rhaglen Gofal Teulu Mockingbird y Rhwydwaith Maethu.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cyng. Kevin Hughes ar gychwyn ymgyrch recriwtio yn y wasg leol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, amlinellodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu y mentrau sy’n mynd rhagddynt yn y gwasanaeth i fynd i’r afael â materion recriwtio a chyfeiriodd at yr ymgyrchoedd rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer un model i Gymru gan Lywodraeth Cymru y mae’r gwasanaeth wedi buddsoddi’n sylweddol ynddo.

 

            Soniodd y Cyng. Dave Mackie am y broses asesu ar gyfer Person Cysylltiedig a phwysleisiodd bwysigrwydd y gofal a ddarperir gan Berson Cysylltiedig a’r amgylchiadau sy’n newid bywyd sy’n gallu digwydd o ganlyniad.

 

            Datganodd yr aelodau eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad i'r gwaith a wneir gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith presennol Gwasanaethau Maethu Sir y Fflint i ddarparu ei rwymedigaethau statudol a chyfreithiol wrth i ni weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru);

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi dull y gwasanaeth o arloesedd parhaus i nodi a gweithredu modelau newydd ar gyfer trefniadau gofal maeth; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth i adlinio a buddsoddi adnoddau a staff wrth ddatblygu gwasanaeth sy’n cefnogi ein dull i leihau lleoliadau preswyl ‘y tu         allan i’r sir’.

44.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfleusterau Gofal Ychwanegol Fflint a Threffynnon pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr Gwasanaethau Integredig adroddiad i ddarparu diweddariad ar ddatblygiad dau gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod y cynllun gofal ychwanegol yn y Fflint (Llys Raddington) wedi’i orffen ac yn llawn.Mae’r adborth gan y preswylwyr a’r teuluoedd yn gadarnhaol o ran y broses symud i mewn a’r cyfleusterau sydd ar gael. Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at daith ddiweddar y Pwyllgor o amgylch yr adeilad a diolchodd i’r aelodau am eu sylwadau a’u hadborth cadarnhaol. Dywedodd bod gwaith adeiladu cynllun gofal ychwanegol Treffynnon yn mynd rhagddo ac, ar ôl ei orffen, bydd y cyfleuster yn cynnwys 55 o randai a rhandai penodol ar gyfer bobl sydd â dementia. Bydd y cynllun ar gael i oedolion h?n (50 oed a h?n) ond bydd rhywfaint o hyblygrwydd i dderbyn unigolion iau gydag anghenion gofal tebyg. Mae cefnogi unigolion mewn cyfleuster gofal ychwanegol yn fwy cost effeithiol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol na gofal preswyl, sy’n gyfrifol am sicrhau bod anghenion gofal yn cael eu diwallu.Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod disgwyl i’r gwaith adeiladu orffen yn ystod gwanwyn 2020, a bod enw'r cynllun yn destun ymgynghoriad gyda grwpiau Cymraeg, aelodau lleol a’r Cyngor Tref.

 

Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y swyddogion i sylwadau a chwestiynau ar gostau refeniw a’r posibilrwydd o gynlluniau tebyg eraill yn Sir y Fflint.

 

Gofynnodd y Cyng. Paul Johnson sut mae Cynllun Gofal Ychwanegol Treffynnon yn cael ei hyrwyddo i drigolion lleol, yn arbennig pobl oedrannus.Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod digwyddiad cyn gwerthu wedi’i gynnal a bod sesiynau gwybodaeth pellach a digwyddiadau hyrwyddo yn cael eu cynnal mewn lleoliadau lleol ddechrau 2019. Siaradodd y Cyng. Gladys Healey o blaid cynllun Llys Raddington a gofynnodd a fyddai modd trefnu digwyddiad gwybodaeth ar gyfer preswylwyr ei ward.

 

Gofynnodd y Cyng. Hilary McGuill a oes unrhyw beth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â chostau atgyweirio ac ailwampio cynlluniau h?n.Eglurodd yr Uwch-Reolwr fod rhai costau cynnal a chadw yn rhan o’r ffioedd ar gyfer y rhandai a chadarnhaodd fod cronfa ar gael ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw i sicrhau y cedwir yr adeiladau mewn cyflwr da.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi datblygiad cynlluniau gofal ychwanegol yn Sir         y Fflint;  

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn ymgysylltu â’r digwyddiadau cyhoeddusrwyddac             ymgynghori a fydd yn hyrwyddo datblygiad gofal ychwanegol Treffynnonsy’n     dechrau yn 2019; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi ystod oedran newydd datblygiad gofal ychwanegol     Treffynnon.

45.

Cynllun y Cyngor 2018/19 - Monitro Canol blwyddyn pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau                             perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun              y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed.Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai mawr.Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Dave Mackie at dudalen 176 o’r adroddiad a’r dangosydd perfformiad ar gyfer canran y plant sy'n derbyn gofal sy’n derbyn asesiad iechyd amserol. Roedd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu yn cydnabod pryderon y Cyng. Mackie ac eglurodd bod rhywfaint o welliant i’w weld ond bod y mater yn parhau’n fater y mae’r gwasanaeth yn ei godi’n gyson gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Soniodd y Cadeirydd am y risg bod y galw yn trechu’r cyflenwad o argaeledd gwlâu cartrefi preswyl a nyrsio.Gofynnodd y Cyng. McGuill sawl gwely sydd ar gael mewn cartrefi gofal preswyl o gymharu â deng mlynedd yn ôl.Eglurodd yr Uwch-Reolwr bod nifer y gwlâu yn llai heddiw.Gofynnodd y Cadeirydd a fydd modd rhoi gwybod i’r Pwyllgor faint o bobl h?n bregus eu meddwl sy’n aros am wlâu.Soniodd y Cadeirydd am y nifer cyfyngedig o gartrefi gofal yn Sir y Fflint a dywedodd bod y galw yn fwy na'r cyflenwad, a bod disgwyl i'r broblem waethygu oherwydd demograffeg y sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19.

46.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adroddiad ar ymweliadau rota.

47.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a                            Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 31 Ionawr 2019, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:

 

·         Y Cyngor Iechyd Cymunedol

·         Rhaglen Rhianta

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r rhaglen yn cael ei diweddaru i gynnwys cais y Pwyllgor bod cynrychiolwyr Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) a Barnardo's yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod i drafod adnabod gofalwyr ifanc.

 

Soniodd y Cyng. Dave Mackie am y broses ar gyfer rhyddhau cleifion traws-ffiniol yn Ysbyty Iarlles Caer a dywedodd y rhoddwyd gwybod iddo fod oedi wrth ryddhau cleifion sy’n byw yng Nghymru yn arwain at gostau ychwanegol i’r ysbyty. Eglurodd Uwch-Reolwr Gwasanaethau Integredig bod cynrychiolwyr o’r Awdurdod yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag Ysbyty Iarlles Caer a bod cleifion a dderbynnir o Sir y Fflint yn cael eu hadolygu fesul achos.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y cynnydd mewn amseroedd aros yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Soniodd hefyd am lefelau staffio Ysbyty Glan Clwyd.Gofynnodd y Cadeirydd pa gyfraniad ariannol a wneir gan BIPBC i Ysbyty Iarlles Caer.

 

Yn ystod y drafodaeth cytunwyd i gynnwys eitem ar oedi wrth drosglwyddo gofal ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

48.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.