Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

19.

Eitem Ychwanegol

Cofnodion:

Nododd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fod y Pwyllgor wedi derbyn cais i ystyried eitem ychwanegol dan y teitl ‘Ymgynghoriad Papur Gwyn – Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol – Ansawdd a Llywodraethiant ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr eitem ychwanegol.

20.

YMGYNGHORIAD PAPUR GWYN - GWASANAETHAU SY'N ADDAS I'R DYFODOL - ANSAWDD A LLYWODRAETHIANT YM MAES IECHYD A GOFAL YNG NGHYMRU

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adborth cychwynnol i’r ymgynghoriad Papur Gwyn gan staff a swyddogion mewnol. Roedd y Papur Gwyn yn ceisio barn ar gynigion yn cynnwys nifer o faterion iechyd a gofal cymdeithasol a allai fod angen deddfwriaeth yn y dyfodol. 

 

            Roedd y cynigion yn cynnwys cryfhau byrddau iechyd lleol fel eu bod yn gweithredu fel sefydliadau integredig, atebol, ar sail poblogaeth; dyletswyddau newydd gonestrwydd ac ansawdd; meysydd lle gallai iechyd a gofal cymdeithasol weithredu’n fwy cydweithredol; ac archwilio, rheoleiddio a gwrando ar lais dinasyddion yn fwy effeithiol. Rhannwyd yr ymgynghoriad yn bedwar pennod, gyda chrynodeb o bob un ohonynt yn yr adroddiad.

           

            Nododd y Cynghorydd Dave Mackie, wrth siarad fel cynrychiolydd a benodwyd gan y Sir i'r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC), fod pryder wedi ei fynegi gan y Cyngor Iechyd Cymuned ynghylch y cynigion a oedd wedi eu modelu ar system yr Alban a holodd pam fod hyn yn digwydd gan fod y model Albanaidd eisoes yn cael ei adolygu. Dywedodd hefyd fod gan aelodau o’r CIC ddealltwriaeth o’r hyn oedd ynghlwm â’r archwiliadau gan fod sawl aelod wedi ymddeol o’r system gofal iechyd ac yn darparu arbenigedd wrth gynnal archwiliadau. Roedd yn pryderu os mai’r cynigion oedd y byddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal arolygiadau gan eu bod ond yn cynnal nifer fechan o’u cymharu â’r CIC. Dywedodd fod pob aelod o’r CIC yn wirfoddolwyr ac y dylid cefnogi parhad gwaith gwirfoddolwyr a bod mantais i fod ar lawr gwlad yn ymweld ag ysbytai lle'r oedd staff yn teimlo fod cyfle iddynt amlinellu problemau roeddent yn dod ar eu traws.

 

Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn cefnogi’r sylwadau a wnaed ond eglurodd nad nod y cynigion oedd bod AGIC yn cymryd lle'r CIC. Cytunodd fod angen cynnal profiad a gwybodaeth gwirfoddolwyr ac awgrymodd y dylid cryfhau’r ymateb i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Mackie. Cytunodd hefyd i gwestiynu a oedd y cynigion wedi eu modelu ar system yr Alban.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at werth gweithio ar y cyd ac agweddau positif cynnwys y 3ydd sector. Cytunodd y Prif Swyddog i sicrhau fod yr ymateb yn cynnwys sylwadau yn nodi y dylai’r 3ydd sector fod yn rhan allweddol o ddeddfwriaeth yn y dyfodol. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y syniad o ofal wedi ei ganoli ar yr unigolyn ond roedd yn bryderus na fyddai unrhyw gyllid ar gael fel rhan o’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth a gan ei bod yn teimlo fod cleifion yn aml yn cael eu symud o ysbyty i gartref nyrsio oherwydd cyfyngiadau ariannol. Teimlai y dylai’r arian bob amser ddilyn y person.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cryfhau’r ymateb drafft i adlewyrchu’r pryderon. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)  Nodi’r adroddiad; a

 

(b)  Cryfhau’r ymateb i Lywodraeth Cymru i adlewyrchu’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor.

21.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf icon PDF 356 KB

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac  ystyried Cynllun Gweithredu ar y Cyd ar gyfer Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl a Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod.

 

            Rhoddodd Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau Iechyd Meddwl gefndir datblygiad y Strategaeth Iechyd Meddwl ac eglurodd fod yr adroddiad mesurau arbennig wedi nodi’r angen i ddatblygu’r Strategaeth Iechyd Meddwl. Roedd y strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y camau olaf o gael ei datblygu a’i chymeradwyo ac yn amlinellu ystod o egwyddorion a chamau gweithredu i’r cymryd ymlaen hyd at 2022. Amlygodd y Cynllun Gweithredu, y darparwyd copi ohono i Aelodau gyda’r rhaglen, gan nodi’n benodol yr ymagwedd gyffredinol at weithredu, sefydlu Timau Gweithredu Lleol, swyddogaethau’r strwythurau gweithredu a’r cynllun dirprwyo arfaethedig. Roedd Atodiad 1 y ddogfen yn dangos darlun gweledol o’r trefniadau arfaethedig ar gyfer gweithredu gydag Atodiad 2 yn dangos esiampl ymarferol o’r gwaith sy’n codi ar gyfer gofal aciwt, fel un o flaenoriaethau cynnar y broses weithredu.  Dywedodd ei bod yn barod i rannu copi llawn o’r Strategaeth Iechyd Meddwl drafft gyda’r Pwyllgor.        

 

            Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y Strategaeth Iechyd Meddwl ond dywedodd nad oedd y cynllun gweithredu yn amlinellu sut y byddai adnoddau’n cael eu defnyddio i atal pobl rhag mynd i Adrannau Argyfwng gyda materion Iechyd Meddwl.  Amlinellodd Lesley Singleton y gwaith oedd wedi ei wneud gyda’r elusen Cariad a’r digwyddiad diweddar gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a’r heddlu i sicrhau fod dewisiadau eraill yn cael eu cyflwyno i atal pobl rhag dod i’r Uned Frys. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os gallai meddygon teulu ddarparu gwybodaeth i gleifion gyda materion iechyd meddwl i’w hatal rhag mynd i’r Uned Frys. Amlinellodd Rob Smith y gwaith oedd yn cael ei wneud i sicrhau y byddai sawl ffordd y gellid cyfeirio cleifion iechyd meddwl i’r meysydd gwasanaeth perthnasol.   

 

            Croesawodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y Strategaeth Iechyd Meddwl. Nododd mai dim ond 7% o elusennau’r Lluoedd Arfog oedd yn delio â phroblemau iechyd meddwl a holodd sut y gallai’r Strategaeth wella gwasanaethau iechyd meddwl i bersonél y Lluoedd Arfog. Nododd Lesley Singleton ei bod yn aelod o Fforwm y Lluoedd Arfog a dywedodd y byddai’r Strategaeth Iechyd Meddwl yn cysylltu â’r Fforwm honno. Amlinellodd brosiect peilot a oedd wedi cael ei gynnal gan Brifysgol Glynd?r ynghyd â GIG Cymru lle’r oedd cyn-filwyr y lluoedd arfog yn derbyn cefnogaeth gan gymheiriaid i sicrhau eu bod ynghlwm â derbyn canlyniadau positif.           

 

            Roedd cwestiynau a ddarparwyd gan Aelodau’r Pwyllgor wedi cael eu cyflwyno cyn y cyfarfod hwn. Darparwyd yr ymatebion canlynol gan Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl:-

 

1.    Mae pryder am ddiffyg gwlâu Iechyd Meddwl neu bobl sydd angen cymorth fel cleifion mewnol. A fydd y Strategaeth hon yn helpu hynny a beth mae BIPBC yn gwneud am hyn ar hyn o bryd?

 

Cadarnhaodd Lesley Singleton y byddai’r Strategaeth yn cynnig rhagor o ffocws ar gefnogaeth llwybro, gan gynnwys darpariaeth i gleifion mewnol ond hefyd dewisiadau eraill yn lle gwlâu, ond  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.