Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

 

 

50.

Cofnodion pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr 2018.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 8, paragraff 6: Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod wedi mynegi’r farn na ddylid rhoi budd ariannol i rieni pobl ifanc sy’n mynychu coleg preswyl, a gofynnodd i’r cofnodion gael eu newid i adlewyrchu hyn.

 

Materion yn Codi

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, dywedodd y Prif Swyddog ei fod wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drosglwyddo pryderon y Pwyllgor  o ran yr effaith roedd y gwasanaeth carchardai lleol yn ei gael ar ysbytai lleol a dywedodd y byddai’n rhannu’r ymateb â’r Pwyllgor pan fyddai’n dod i law. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

 

 

51.

Lle i’w alw’n gartref pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas: Rhoi gwybod am gynnwys ‘Lle i’w alw’n ‘Adref’ Sir y Fflint – Adroddiad Dadansoddi Effaith.

Rhoi manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar y gweill o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn parhau i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal Sir y Fflint.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i hysbysu ar gynnwys adroddiad “Lle i'w Alw’n Gartref? - Effaith a Dadansoddiad” Sir y Fflint ac i ddarparu manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar waith o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i barhau i wella ansawdd bywydau preswylwyr yng nghartrefi gofal Sir y Fflint. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Darparodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a dywedodd, ers cyhoeddi’r adroddiad, bod Sir y Fflint wedi bod wrthi’n datblygu strategaethau i wella profiad ac ansawdd bywyd unigolion sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint ac adolygwyd y gwaith hwn gan Gomisiynydd Pobl H?n Cymru a oedd wedi cwblhau asesiad effaith a dadansoddiad llawn o bob asiantaeth bartner yn 2017. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a gwnaeth sylw ar adolygiad dilynol Comisiynydd Pobl H?n Cymru a dywedodd, o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dim ond 4 ymateb awdurdod lleol a ddyfarnwyd yn ddigonol ar draws yr holl ofynion ar gyfer gweithredu. Dywedodd mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i gyflawni’r canlyniad hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Christine Jones sylw ar y gwaith pontio cenedlaethau a’r hyfforddiant cyfeillgar i ddementia a oedd yn cael ei gynnal mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir y Fflint i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.  

 

Mewn ymateb i’r awgrym gan y Cynghorydd Kevin Hughes, sef y dylid creu swydd cydlynydd gweithgareddau dynodedig ar gyfer cartrefi gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar y gellid ystyried i sut ariannu’r swydd. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie o blaid yr adroddiad a llongyfarchodd y Prif Swyddog a’r Tîm ar eu cyflawniadau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey y farn bod angen rhoi safon uwch i hyfforddiant gorfodol cymorthyddion gofal. Dywedodd hefyd y dylai mwy o staff mewn cartrefi gofal allu siarad Cymraeg. Cydnabyddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu'r pwyntiau a wnaed a chyfeiriodd at y rhaglenni  hyfforddi a chyflwyno roedd cymorthyddion gofal yn gweithio tuag atynt. Dywedodd fod yr Awdurdod, mewn partneriaeth ar y cyd â Choleg Cambria, wedi sefydlu rhaglen i hyfforddi staff gofal i ddysgu Cymraeg mewn lleoliad gofal. Cyfeiriodd hefyd at y cynlluniau gwirfoddol i ddysgu Cymraeg, a oedd yn cael eu darparu yng Nghapel Methodistaidd a Chanolfan Wirfoddol Leol Sir y Fflint, Yr Wyddgrug, a’r rhaglen e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n helpu staff gofal i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Hilary McGuill o ran monitro cartrefi gofal preifat yn Sir y Fflint, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/ Blynyddoedd Cynnar bod ymweliadau heb eu cyhoeddi yn cael eu cynnal gan AGGCC a gwnaeth sylw ar y gweithdrefnau monitro cadarn a oedd ar waith gan y tîm monitro contractau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y byddai’n hoffi gweld mwy o gyfeiriad at gefnogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog mewn cartrefi gofal ar draws y Sir.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a chyfeiriodd at effaith y blaengynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

Lleoliadau Plant y Tu Allan i'r Sir pdf icon PDF 305 KB

Pwrpas: I gymeradwyo adolygiad sylfaenol o leoliadau preswyl i blant a phobl ifanc.  Nod yr adolygiad yw galluogi’r Cyngor i: i) cefnogi plant diamddiffyn sydd ag anghenion gofal ac addysg cymhleth yn fwy rhagweithiol ii) rheoli’r galw am leoliadau yn well; a iii) datblygu’r farchnad i fod yn fwy ymatebol a fforddiadwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cyfeirio’r ddarpariaeth, a’r costau’n gysylltiedig â lleoliadau y tu allan i’r sir i blant a phobl ifanc, at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, adroddiad i gymeradwyo  adolygiad sylfaenol o leoliadau preswyl i blant a phobl ifanc.  Dywedodd mai nod yr adolygiad oedd galluogi’r Cyngor i gefnogi plant diamddiffyn sydd ag anghenion gofal ac addysg cymhleth yn fwy rhagweithiol, rheoli’r galw am leoliadau yn well; a datblygu’r farchnad i fod yn fwy ymatebol a fforddiadwy.

 

                        Darparodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a chyd-destun, a gwnaeth sylw ar yr her bresennol wrth geisio canfod lleoliadau preswyl priodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyfeiriodd at brosiect ar draws bortffolios y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir i ddatblygu mewnwelediad pellach i’r angen presennol ac yn y dyfodol, yr opsiynau ar gyfer cefnogaeth/ lleoliadau, a chostau cysylltiedig.  Adroddodd ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

                        Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â’r angen i gynyddu gofal maeth yn Sir y Fflint, eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu bod ystod o fentrau yn cael eu hystyried i wella’r sefyllfa leol.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â chost gyfartalog lleoliad fesul blwyddyn a gwnaeth sylw ar yr effaith negyddol ar recriwtio gofalwyr maeth asiantaeth yn Sir y Fflint. 

 

                        Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd ynghylch gofal maeth, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu nad oedd anhawster o ran canfod lleoliadau gofal maeth ar gyfer plant ifanc, fodd bynnag, roedd y sefyllfa o ran canfod lleoliadau ar gyfer grwpiau mawr o frodyr neu chwiorydd a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth yn fwy heriol. 

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd McGuill i ddefnyddio canolfannau gweithgareddau preswyl allanol neu ddigwyddiadau dros y tymor byr i reoli sefyllfaoedd anodd, eglurodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y gellid ond darparu gofal a chefnogaeth mewn sefydliad cofrestredig.

 

                        Mynegodd y Cadeirydd bryder am nad oedd darpariaeth ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r Awdurdod pe bai’n gorfod darparu ar gyfer gr?p o frodyr neu chwiorydd gydag anghenion cymhleth.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar yr amseroedd aros i bobl ifanc gael eu hasesu gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y bu buddsoddiad cenedlaethol sylweddol yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a bod Plant Sy'n Derbyn Gofal yn flaenoriaeth ac y byddent yn derbyn asesiad gany Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o fewn 28 diwrnod. Yn ystod trafodaeth, cytunwyd gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.

PENDERFYNWYD:

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull a ddefnyddir i sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol o ganlyniadau cadarnhaol ar  ...  view the full Cofnodion text for item 52.

53.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18. Cynghorodd bod yr Adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor Cefnogol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog bod yr Adroddiad Monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.  Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).    

 

            Adroddodd y Prif Swyddog ar y dangosydd perfformiad a oedd yn dangos statws coch ar gyfer y perfformiad presennol yn erbyn targed a'r risgiau mawr i'r Pwyllgor fel y manylir yn yr adroddiad.

                    

            Wrth gyfeirio at y risg bod y galw am fod yn fwy na’r cyflenwad ar gyfer argaeledd gwlâu gofal cartref preswyl a nyrsio, eglurodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar fod gwerthusiad o opsiynau yn cael ei gynnal ar ddichonoldeb y tir ar safle Cartref Preswyl Marleyfield House, Bwcle, i’w ddatblygu i greu 32 o ystafell gwely ychwanegol.     

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18.

 

54.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman fod ei hymweliad i Groes Atti wedi bod yn gadarnhaol. Dywedodd ei bod wedi gweld adeilad gwag ar diroedd Croes Atti a gofynnodd pam nad oedd yn cael ei ddefnyddio.  Eglurodd  yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion fod yr adeilad ac unrhyw gynllun wedi’u rhoi o’r neilltu, fodd bynnag, pe bai cyllid ychwanegol ar gael byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w ddefnydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

55.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn cymeradwyo amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 1 Mai, y byddai’n poblogi’r Rhaglen ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.  

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Mai, a’r eitemau i’w trefnu ar gyfer y dyfodol. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o Drais Domestig i Aelodau.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Kevin Hughes, cytunwyd gwahodd aelod o'r cyhoedd i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o Syndrom Asperger.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

 (c)      Gwahodd aelod o'r cyhoedd i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o Syndrom Asperger.

 

56.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.