Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

28.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Medi and 5 Hydref 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod Rhif 21: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - mewn ymateb i ymholiad yngl?n âFforymau Cleifion a Meddygon Teulu gan y Cynghorydd Hilary McGuill, dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg A Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fod Gareth Bowdler wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ddydd Mercher, 13 Rhagfyr, ac y byddai’n anfon e-bost dilynol at Jane Brynant yn gofyn am wybodaeth yngl?n â’r practisau meddygon teulu a oedd yn dal i gynnal y Fforymau.

 

 (ii)       Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2017.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod Rhif 23: Diweddariad ar y sector gofal i gynnwys ffioedd ychwanegol a buddsoddi i arbed cymorth y sector gofal – gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd llythyr wedi’i anfon ar ran y Pwyllgor i wneud sylwadau i Aelodau'r Cynulliad am gyfraniad tecach gan GIG Cymru tuag at gostau gofal.Cadarnhaodd yr Hwylusydd fod llythyr wedi’i anfon a bod yr ymateb a gafwyd gan Mark Isherwood, Aelod Cynulliad, wedi’i ddosbarthu o amgylch y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

29.

Strategaeth Pobl Hyn a Heneiddio'n Dda. pdf icon PDF 122 KB

I roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i weithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Heneiddio'n Dda.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones adroddiad i roi diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i weithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Heneiddio'n Dda. Gwahoddodd Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod y Cynllun Heneddio’n Dda yn Sir y Fflint yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu gweithgareddau a fydd o gymorth i bobl h?n gadw rheolaeth o’u bywydau er mwyn iddynt allu cynnal eu hannibyniaeth a pharhau i chwarae rhan weithgar yn y gymuned. Darparodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd ar y cynnydd a wnaed o fewn y meysydd blaenoriaeth canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn dangos y cysylltiadau cryf gyda phartneriaid, gan enwi grwpiau cymunedol a grwpiau i bobl h?n fel enghreifftiau, a sefydliadau trydydd sector a oedd yn allweddol wrth fwrw ymlaen â’r gwaith:

 

·         Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed

·         Atal Codymau

·         Cymunedau Cefnogol i Ddementia

·         Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth

·         Unigrwydd ac Unigedd

 

Diolchodd Hilary McGuill i Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n am adroddiad ardderchog. Croesawodd y fenter i hyfforddi swyddogion tân Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru i gynnal Asesiadau o Risg Codymau yn ystod gwiriadau diogelwch tân yn y cartref a gofynnodd am gadarnhad i sicrhau bod yr holl Orsafoedd Tân o fewn Sir y Fflint yn gweithredu’r asesiadau hyn. Cadarnhaodd y Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy ‘o blaid’ a dywedodd y byddai’n cadarnhau sefyllfa Gorsaf Dân Bwcle yn dilyn y cyfarfod.Wrth sôn am y gwaith Unigrwydd ac Unigedd mewn ardaloedd gwledig o ogledd Sir y Fflint, gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut y byddai taflenni gweithgareddau / gwybodaeth yn cael eu dosbarthu i'r ardaloedd targed.Cadarnhaodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n y byddai taflenni’n cael eu cyflwyno drwy Gynghorau Tref a Chymuned, sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol a gwasanaethau. Dywedodd fod Aelodau etholedig hefyd wedi cynnig dosbarthu taflenni mewn rhai ardaloedd ac roedd yn cydnabod yr angen i ddefnyddio adnoddau presennol.

 

Soniodd y Cynghorydd Dave Healey am y cyfle i gyfuno dwy dasg a dosbarthu’r taflenni o fewn y newyddlenni sy’n cael eu hanfon allan gan Aelodau a’r posibilrwydd o ddefnyddio Cynghorwyr lleol, sydd â rhwydweithiau sydd wedi’u hen sefydlu, i ddosbarthu taflenni.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hilary McGuill am yr hyfforddiant ‘Cyfeillion Dementia’ a oedd wedi’i ddarparu i Sgowtiaid Mynydd Isa, a oedd yn arddangos ymagwedd gadarnhaol tuag at gymunedau cyfeillgar i ddementia ar draws ystod eang o oedrannau. Gwnaeth sylw ar gynlluniau’r Awdurdod i godi treth busnes o 20% ar sefydliadau gwirfoddol a mynegodd bryder y gallai hyn arwain at orfod cau clybiau sgowtiaid a grwpiau eraill o fewn cymunedau lleol.

 

Bu i’r Cynghorydd Dave Mackie gydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem o unigrwydd ac unigedd ac fe groesawodd y mentrau 'Datrysiadau Dementia’. Pwysleisiodd fod unigrwydd yn broblem ddifrifol yn enwedig ymysg yr henoed ac awgrymodd efallai nad oedd rhai unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn ymweld â Chaffis  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Diogelu - Oedolion a Phlant pdf icon PDF 197 KB

I dderbyn adroddiad cynnydd ar ddiogelu a materion cyfredol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ddarparu gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant ar y Cyd o fewn ffiniau’r sir. Soniodd am lwyddiant yr Uned Ddiogelu a dywedodd fod yr adroddiad wedi’i lunio yn y fformat newydd eleni, gan ddod â gwybodaeth am ddiogelu oedolion a phlant ynghyd i hysbysu Aelodau o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth am berfformiad y plant ac oedolion mewn perygl, y mae’r Awdurdod yn gyfrifol am eu diogelu. Ychwanegodd fod yr adroddiad o gymorth i gyfuno gwasanaethau a thaflu goleuni ar wasanaethau megis Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu, wybodaeth gefndirol. ac fe adroddodd ar y prif ystyriaethau, manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran Diogelu Plant, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, Diogelu Oedolion ac Oedolion Mewn Perygl. Adroddodd hefyd ar y rolau a chyfrifoldebau allweddol ar draws bortffolio’r Uned Ddiogelu a Diogelu Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod lleoliadau y tu allan i’r sir o fewn cylch gwaith yr adroddiad. Hefyd, er nad oedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, gellid ystyried eu cynnwys mewn adroddiadau eraill yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pam fod nifer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn cynyddu, sut oedd y costau cynyddol yn cael eu hariannu, a phwy fyddai'n ariannu'r gofal nyrsio pe bai’r asesiad yn arddangos yr angen am lefel uwch o ofal.Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Awdurdod yn gwneud cyfraniad bychan rhwng £5,000 - £10,000 i ariannu Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Byddai hyn yn costio oddeutu £250,000 y flwyddyn i’r Awdurdod ac roedd yn bwysau heb ei ariannu. Byddai'r costau ychwanegol ar gyfer lefel uwch o ofal yn cael eu hystyried fesul achos gydag arian Gofal Iechyd Parhaus mewn rhai achosion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu nad oedd terfyn amser ar ba mor hir y gall plentyn aros ar y Gofrestr Amddiffyn Plant hyd at 18 oed. Dywedodd nad oedd plant yn cael eu cadw ar y Gofrestr am fwy o amser nag oedd angen a’r amser ar gyfartaledd oedd 12 i 14 mis.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith pwy oedd yn penderfynu a oedd asesiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn briodol. Cadarnhaodd Swyddogion mai’r darparwr oedd yn gwneud cais am Asesiad Lles Gorau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa drefniadau oedd yn eu lle i ddelio ag achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant a chamfanteisio’n rhywiol ar-lein. Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu fod gan Sir y Fflint Banel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a oedd yn gweithio’n agos gyda Thîm ONYX yr Heddlu. Dywedodd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo mewn ysgolion a bod Sir y Fflint yn arweiniol yn y maes hwn o waith, sef Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant, a bod siroedd eraill yn dilyn ein hesiampl.

 

Mewn ymateb i  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Cynnig Gofal Plant Am Ddim pdf icon PDF 122 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y rhaglen cynnig gofal plant am ddim sy’n datblygu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd adroddiad i roi diweddariad ar raglen cynnig gofal plant am ddim a cheisio cytundeb i ymestyn y cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod system bwrpasol eisoes wedi’i hadeiladu yn Sir y Fflint i gysylltu â systemau presennol, gan nodi Dechrau'n Deg a Derbyniadau Ysgol fel enghreifftiau, a diolchodd i John Snead o’r Adran TG a Thîm y System Gwybodaeth Ddaearyddol am eu holl waith caled i sicrhau bod y system yn llwyddiannus wrth ddiwallu anghenion gweithredu’r cynllun.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd ar y prif feysydd ystyriaeth, manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran y cynnig gofal plant, yr hyn mae’n ei olygu i riant, addysg gynnar, cymhwyster ac amcanion y cynllun peilot.  Dywedodd mai dim ond dau gais oedd wedi’u gwrthod hyd yma ac nad oedd y cynnig yn cynnwys costau bwyd a chludiant. Dywedodd y bu iddynt brofi rai heriau ond bu iddynt gydweithio’n dda gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt weithredu’r Cynnig Gofal Plant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, cadarnhaodd nad oedd cap ar yr incwm a dderbynnir ar gyfer gweithredu’r cynnig yn gynnar. Dywedodd hefyd fod y cynllun yn seiliedig ar Wardiau yn Sir y Fflint a bod y wefan www.childcarechoices.gov.uk yn darparu dull i bennu cymhwyster drwy chwiliad cod post.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dave Healey y cynllun hwn a dywedodd ei fod yn canolbwyntio ar ardaloedd o gyflogaeth uchel.Gofynnodd a oedd y cynllun wedi cael ei brofi o fewn cymunedau gwledig yn Sir y Fflint, i ddarparu cymorth i’r rhieni hynny a oedd hefyd angen darpariaeth gofal plant. Cydnabu’r Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd y pwyntiau a wnaethpwyd ac eglurodd fod y Tîm yn gweithio’n galed i nodi’r bylchau a chynyddu darpariaeth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â gwiriadau cymhwyster rhieni a'r perygl o beidio â chael digon o leoliadau gofal plant i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.Awgrymwyd y dylid defnyddio codau post ardaloedd wrth gytuno ar gymhwyster yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Cynnig Gofal Plant ac estyniad arfaethedig y Cynllun Peilot i bob rhan o Sir y Fflint.

32.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad hanner blwyddyn i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Eglurodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 67% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.Yn ogystal â hyn, roedd 65% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Dywedodd y Prif Swyddog fod risgiau hefyd yn cael eu rheoli’n llwyddiannus, gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau, ac adroddodd ar y risgiau mawr, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at Adroddiad Cynnydd Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017 / 18, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a’r dangosydd perfformiad ar y nifer o ofalwyr i oedolion a nodwyd, gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill, sut allai Sir y Fflint sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed gan fod llawer o ofalwyr heb eu nodi o fewn ardal yr Awdurdod. Cydnabu’r Prif Swyddog y byddai rhai gofalwyr i oedolion yn anhysbys i’r Awdurdod, fodd bynnag, darparwyd y wybodaeth hon gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru ac roedd gwaith yn parhau er mwyn cael a gwella data'r gofalwyr gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach gan y Cynghorydd Hilary McGuill, mewn perthynas â chanran yr atgyfeiriadau amddiffyn plant sydd wedi arwain at “ddim camau pellach”, eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu’r cefndir i'r dangosydd perfformiad a’r angen i ostwng y ffigwr.Eglurodd hefyd nad oedd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn weithredol yn ystod mis Ebrill, Mai a Mehefin a’r nod oedd cyrraedd ffigwr o dan 35, dylid gallu cyflawni hyn bellach gan fod y Ganolfan Cymorth Cynnar wedi'i sefydlu. Cadarnhaodd fod y dangosyddion cynnar yn dangos fod y Ganolfan yn llwyddiannus iawn a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Y dylid nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18.

33.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

Cofnodion:

Cafwyd adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliad y Cynghorwyr Christine Jones a David Wisinger i AROSFA, Yr Wyddgrug a soniwyd am yr amgylchedd cyfeillgar a’r gwelliannau a wnaed i’r gerddi a’r cyfleusterau parcio.

 

Cafwyd adborth gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Hilary McGuill yn dilyn eu hymweliad â Hafan Deg, Yr Wyddgrug. Soniasant am y croeso cynnes a gafwyd gan bawb yno.

 

Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Mike Allport yn dilyn ei ymweliad cadarnhaol â Marleyfield House a dywedodd ei fod wedi siarad â sawl defnyddiwr gwasanaeth a oedd wedi mynegi ei foddhad â Marleyfield House.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

34.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai Cyfarfod y Pwyllgor, i’w gynnal ar 25 Ionawr 2018, yn cael ei gynnal yn Llys Jasmine, Yr Wyddgrug. Dywedodd hefyd y byddai cyfarfod y Pwyllgor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2017.

 

Mewn ymateb i’r trafodaethau a oedd wedi’u cynnal yn gynharach yn ystod y cyfarfod am y Ganolfan Cymorth Cynnar, dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad i ddarparu diweddariad ar yr eitem hon yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr.

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a dywedodd, yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017, penderfynwyd y dylid holi barn bob Pwyllgor am amseroedd y cyfarfodydd fel rhan o’u rhaglen gwaith i'r dyfodol. Cyfeiriodd at y dewisiadau, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a gofynnodd y Pwyllgor i fynegi barn o ran ei batrwm cyfarfod. Eglurodd y byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylai’r Pwyllgor gadw at y trefniadau presennol a chyfarfod ar fore a phrynhawn Iau am 10.00am a 2.00 pm ac fe gafodd hyn ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

 (c)     Y dylai'r Hwylusydd roi adborth i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn nodi fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cefnogi’r penderfyniad i gadw cyfarfodydd ar ddydd Iau am 10.00am a 2.00pm.

 

35.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.