Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 49 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin 2017.

 

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2017 wedi

eu cylchredeg i Aelodau gyda’r agenda.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

8.

Amrywiaeth Yn Nhrefn Yr Agenda

Cofnodion:

Wedi awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd i newid trefn y rhaglen fel bod eitem 9 ar yr agenda – Gofalwyr Ifanc - yn cael ei dwyn ymlaen.

9.

Gofalwyr Ifanc pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:  Rhoi gwybod i’r aelodau am newidiadau i Wasanaethau Gofalwyr Ifanc ac amlinellu’r strategaeth ar gyfer symud ymlaen

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau i Wasanaethau Gofalwyr Ifanc ac amlinellu’r strategaeth wrth symud ymlaen.  Gwahoddodd Chisty Hoskings, Swyddog Cynllunio a Datblygu, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y cytundeb dan gontract gyda Barnados Cymru i ddarparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc.  Eglurodd fod yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda Barnados Cymru a gofalwyr ifanc i ail gynllunio rhannau o'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn unol â gofynion gofalwyr ifanc, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac yn gallu cyflawni arbedion ariannol a osodwyd gan yr Awdurdod gyda’r effaith lleiaf posib ar ddarpariaeth gwasanaeth. Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaethpwyd ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a’r canlyniadau a gyflawnwyd. 

 

Adroddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a rhoddodd wybod fod y ddarpariaeth gwasanaeth newydd wedi ei gynllunio o amgylch pum llwybr at les Sir y Fflint ar gyfer Gofalwyr Ifanc.    Adroddodd hefyd ar y gwasanaeth yn ystod 2016/17, y canlyniadau craidd a gyflawnwyd, heriau'r gwasanaeth, a’r gwaith wrth symud ymlaen at 2017/18.

 

Mewn trafodaeth ymatebodd Swyddogion i gwestiynau Aelodau am heriau’r Gwasanaeth a rhoddwyd sylwadau ar y toriadau ariannol sy’n digwydd bob blwyddyn, a’r newidiadau oherwydd hynny yn y ddarpariaeth Gwasanaeth er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posib gyda llai o adnoddau. Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu hefyd at y gwaith a wnaed i godi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc a’u hanghenion drwy wasanaethau plant ac ysgolion, a’r gwaith a wneir ar y cyd gyda chyrff eraill a’r gymuned yn ehangach.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi ail gynllun, cynnydd a chanlyniadau’r gwasanaeth; 

 

 (b)      Fod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Uwch Reolwr Diogelu a    

Chomisiynu, er mwyn mynegi pryderon am oblygiadau cyllido pellach; a

 

(c)       Fod y Pwyllgor yn gofyn am ddiweddariad ar y goblygiadau ariannol a'r heriau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

10.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas: Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad diweddaru rheolaidd i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 100% o’r camau y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 82% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.  Yn ogystal â hyn, mae 66% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn.  Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at fonitro gweithgareddau, perfformiad a risgiau.  Adroddodd hefyd ar y cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yn y Cynllun y manylir amdanynt yn atodiad yr adroddiad. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i'r Prif Swyddog a'i dîm am fformat yr adroddiad a'r manylder oedd ynddo, sy'n llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol iawn.  Cyfeiriodd at y dangosydd perfformiad ar y nifer o gartrefi gofal a oedd yn ‘Wasanaeth sy’n destun Pryder’ a nododd fod y targed yn anghywir.  Cytunodd Swyddogion y dylid cywiro'r ffigwr hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17.

11.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: Ystyried y targedau a'r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir, mae'r Cyngor (Gwelliant) Cynllun 2017-23 ac yn rhoi adborth i'r Cabinet cyn ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir ar gyfer ei gyhoeddi terfynol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ystyried y ddogfen targedau a cherrig milltir, Cynllun (Gwella) y Cyngor 2017 – 23 ac i roi adborth i’r Cabinet cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu fel cyhoeddiad terfynol.

 

                        Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar Gynllun drafft (Gwella) y Cyngor 2017-23 a atodwyd at yr adroddiad. Cynghorodd y byddai arch-strwythur y Cynllun yn aros yr un fath â chynlluniau blaenorol a'u bod bellach yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y chwe blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor o brosiectau a dyheadau’r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin nad oedd cyfeiriad yng Nghynllun (drafft) Gwella y Cyngor at Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at dudalennau 41 a 44 y cynllun drafft oedd yn cynnwys cyfeiriadau at y Ddeddf.

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y ddogfen arfaethedig “Sut rydym ni’n Mesur” oedd wedi ei atodi fel atodiad 2 i’r adroddiad a dosbarthodd gopïau o’r newidiadau arfaethedig i’r ddogfen. Adroddodd ar bob un o'r newidiadau arfaethedig a gofynnodd i Aelodau ddarparu unrhyw sylwadau neu newidiadau arfaethedig.

 

                         0>Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith pe gellid cynnwys geirfa o'r talfyriadau / termau a ddefnyddir yn yr adroddiad ar gefn yr adroddiad perthnasol.

 

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman pe gellid rhannu'r fideo ar Brofiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod gyda'r Pwyllgor yn y dyfodol.

           

            PENDERFYNWYD: 

 

Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) a Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017 – 23 ac yn hysbysu’r Cabinet, cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu i’w gyhoeddi yn derfynol.

12.

Adolygiad AGGCC o Berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas: Mae’r llythyr blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn berthnasol i’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a Mawrth 2017, ac yn cynnwys gwybodaeth gan arolygiaeth AGGCC, adolygiad ar berfformiad a gweithgaredd ymgysylltu yn ystod y flwyddyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a chynghorodd fod y llythyr blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017. Mae'r llythyr yn nodi meysydd cynnydd a'r datblygiad gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn 2016/17 ac yn darparu adborth ar themâu ymgysylltu blynyddol, sylwadau ar gynnydd o archwiliadau AGGCC, ac yn disgrifio cynlluniau AGGCC ar gyfer archwiliadau, ymgysylltu ac adolygu yn y dyfodol.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog fod y llythyr yn bositif a bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd parhaol wrth ddiwallu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Dywedodd fod sylwadau positif hefyd yngl?n â datblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn Gwasanaethau Oedolion a’r Canolbwynt Cymorth Cynnar yn Gwasanaethau Plant.  Roedd y llythyr hefyd yn nodi datblygiadau gwasanaeth positif eraill.  Themâu ffocws AGGCC ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf oedd gofalwyr a diogelu oedolion a byddai gosod trothwyon diogelu a chanllawiau newydd yn eu lle yn parhau fel blaenoriaeth i'r flwyddyn nesaf.

           

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad.

 

13.

Canolfan Ymyrraeth Gynnar a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:Rhoi diweddariad ar drefniadau amlasiantaeth newydd ar gyfer ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad er mwyn diweddaru ar drefniadau aml-asiantaeth newydd ar gyfer ymyrraeth gynnar er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac amlinellodd brif fwriad y Canolbwynt Cymorth Cynnar sef darparu’r lefel uchaf o wybodaeth a dadansoddi cudd-wybodaeth a gwybodaeth ar draws y bartneriaeth aml-asiantaeth er mwyn sicrhau fod plant, pobl ifanc a theuluoedd â mynediad at gyngor  a gwybodaeth am gymorth cynnar perthnasol er mwyn adeiladu sgiliau ymdopi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyn iddynt waethygu.  Ar gyfer teuluoedd lle mae risg uwch o broblemau cynyddol, roedd mynediad at ymyraethau amlddisgyblaethol yn flaenoriaeth.  Eglurodd yr Uwch Reolwr nad oedd y Canolbwynt Cymorth Cynnar yn disodli’r cymorth ymyrraeth gynnar safonol oedd eisoes yn ei le ar draws Sir y Fflint ac roedd y Canolbwynt Cymorth Cynnar yn targedu teuluoedd gyda 2 neu fwy o Brofiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod. 

 

                        Dywedodd yr Uwch Reolwr fod y Canolbwynt wedi cychwyn gyda “lansiad meddal” ar 30 Mehefin 2017 ac yn ymateb i atgyfeiriadau presennol gan asiantaethau partner. Bydd lansiad llawn yn cael ei gynnal yn ystod Hydref 2017 wedi seminarau gwybodaeth ehangach. Bwriedir cynnal ymarfer hunan werthuso gyda phartneriaid allanol mewn 12 mis er mwyn asesu canlyniadau.

 

                        Wrth ymateb i gwestiynau a ofynnwyd, eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r gwasanaeth ar gael i Sir y Fflint i gyd. Ymatebodd hefyd i’r cwestiynau pellach yngl?n â materion amddiffyn a diogelu plant.

 

                        Diolchodd yr Aelodau i’r Uwch Reolwr a’i dîm am y gwaith caled a'r ymrwymiad â wnaed i sefydlu’r Canolbwynt Cymorth Cynnar.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y Pwyllgor yn croesawu datblygiad y Canolbwynt Cymorth Cynnar ac yn cefnogi’r cynigion; a

 

 (b)      Fod diweddariad ar y cynnydd yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

14.

Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas: Trafod yr Adroddiad Blynyddol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cwynion ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016  -17. Dywedodd y gall adborth ar ffurf ganmoliaeth neu gwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teulu neu eu gofalwyr amlygu lle mae gwasanaethau yn gweithio'n dda neu lle mae angen newid gwasanaethau.

 

                        Adroddodd y Swyddog Cwynion ar yr ystyriaethau allweddol, a chyfeiriodd at y trosolwg o gwynion yn Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, fel y nodir yn yr adroddiad, a’r gwersi a ddysgwyd. Eglurodd y Swyddog Cwynion fod crynodeb o gwynion ac archwiliadau ar draws y meysydd gwasanaeth wedi eu hatodi at yr adroddiad.

 

                        Cynghorodd y Swyddog Cwynion hefyd fod Gwasanaethau Cymdeithasol I Oedolion wedi derbyn 168 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn a bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi derbyn 53 o ganmoliaethau.  Atodwyd crynodeb o’r canmoliaethau o’r ddau faes gwasanaeth fel atodiad 5 i’r adroddiad. 

 

            Nododd y Cynghorydd Andy Dunbobbin mai cyfeirio at fenywod oedd y crynodeb o gwynion a chanmoliaethau yn bennaf.    Cytunodd y Swyddog Cwynion i ddarparu iaith heb fod yn rhyw benodol o fewn y dogfennau crynhoi yn y dyfodol a darparu manylion rhyw o fewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol 2016-17.

15.

Ymweliadau Rota

 

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Hwylusydd wybod i’r Pwyllgor y cynhelir sesiynau hyfforddi ar Ymweliadau Rota a Hyfforddiant Dementia Gyfeillgar ar 12 ac 19 Medi 2017. 

 

16.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd y cytunwyd y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ystod Medi 2017, er mwyn trefnu eitemau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddai aelodau’n cael gwybod am y dyddiad maes o law.  

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at Bapur Gwyn y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd wedi ei anfon ar e-bost i’r Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog y dylai ymatebion gael eu hanfon at yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu erbyn diwedd Awst 2017.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn ddibynnol ar y newid uchod.

 

 (b)      Fod ymatebion Aelodau i Bapur Gwyn y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd wedi eu hanfon ar e-bost at y Pwyllgor yn cael eu hanfon at yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu erbyn diwedd Awst 2017.  

 

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.