Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?pAnnibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.
Penderfyniad: Cadarnhau’r Cynghorydd Carol Ellis fel Cadeirydd y Pwyllgor.
Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod wedi’i gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol. Gan fod y Cynghorydd Carol Ellis wedi’i phenodi i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd Carol Ellis fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. .
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.
Ar ôl pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth 2017.
Penderfyniad: Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|