Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol fel un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Pwrpas: Derbyn diweddariad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r cyfarfod. Rhannwyd a chyhoeddwyd ymatebion i gwestiynau a godwyd gan Aelodau cyn y cyfarfod ar y wefan.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Fel Prif Weithredwr dros dro, rhannodd Gill Harris y wybodaeth ddiweddaraf ar newidiadau strwythurol o fewn BIPBC sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn Sir y Fflint. Rhoddodd wybod, yn dilyn mesurau ymyrraeth a gyflwynwyd ar gyfer gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd, newidiwyd y sgoriau i adlewyrchu’r heriau presennol ac roedd cynnydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r cynllun hirdymor i wneud gwelliannau. Er mwyn paratoi ar gyfer heriau’r gaeaf, roedd gwaith yn mynd rhagddo i wella gofal brys yr un diwrnod ar safleoedd acíwt a pharatoi canolfannau Gofal Sylfaenol brys mewn cymunedau iechyd. Yn ogystal â hynny, roedd BIPBC yn gweithio gyda chydweithwyr i leihau effaith y gweithredu diwydiannol a oedd ar y gweill gan weithwyr y GIG. Roedd cynllun peilot yn mynd rhagddo i sicrhau bod modd nodi cleifion a gaiff eu rhyddhau o gartrefi gofal ac roedd cefnogaeth dros y ffôn i gartrefi gofal yn cael ei hymestyn. Gan gydnabod effaith argaeledd cyfyngedig gofal cymdeithasol, nodwyd bod 37 o gleifion yn ysbytai Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau i ganolfannau gofal priodol. Ar hyn, diolchwyd i’r Cyngor a phartneriaid eraill am eu gwaith i gynyddu adnoddau mewn cymunedau. I fynd i’r afael â’r heriau sylweddol mewn perthynas â gofal wedi’i gynllunio, roedd BIPBC yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru (LlC) i greu capasiti ychwanegol i gleifion sy’n aros am gyfnodau hir. Gan anelu at gyflawni egwyddorion arfer orau, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda cholegau a LlC i ‘gael pethau’n iawn y tro cyntaf’.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid BIPBC, nododd Sue Hill bod gwaith yn parhau gyda phartneriaid ar gamau lliniaru i fynd i’r afael â diffyg disgwyliedig o £10 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn a oedd wedi cael ei effeithio gan bwysau chwyddiant a dyraniadau cyflog.
Rhannodd y Cynghorydd Carol Ellis bryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai gan nad oedd modd rhyddhau cleifion, fel y soniwyd mewn adroddiad diweddar. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i gyflymu darpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a rhoddodd enghraifft o’r effaith ar unigolyn a gafodd ei atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol ddiwedd mis Awst.
Wrth rannu’r pryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai, rhoddodd Gill Harris sicrwydd o ymrwymiad BIPBC i fynd i’r afael â hyn, ac roedd gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i gynyddu’r capasiti mewn Adrannau Brys drwy’r strategaeth Gofal Sylfaenol gan gynnwys cartrefi gofal a WAST.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion wybod bod 24 o drigolion yn Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau ar draws ysbytai acíwt a chymunedol ar draws y Sir (gan gynnwys Ysbyty Iarlles Caer), ac roedd disgwyl i bedwar ohonynt gael eu rhyddhau dros y dyddiau nesaf. Sicrhaodd aelodau ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Responses to questions PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
WAST Presentation Slides PDF 2 MB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |