Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

19.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

20.

Cofnodion pdf icon PDF 161 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2019 a chofnodion y Cyd-gyfarfod o Gyfarfod Trosolwg a Craffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 25 Gorffennaf 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 18 Gorffennaf 2019.

(ii)        Cyflwynwyd cofnodion cyd-gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 25 Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

21.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 14 Tachwedd. Gan gyfeirio at gyflwyniad ar Storfa Offer Cymuned Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i’w gyflwyno yng nghyfarfod 30 Ionawr 2020, dywedodd bod awgrymiad i gynnal y cyfarfod yn NEWCES.Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a godwyd o’r cyfarfodydd blaenorol.Eglurodd bod y camau gweithredu sydd i’w penderfynu yn parhau ar yr adroddiad tracio camau gweithredu nes y bydd wedi'u datrys, ac yn cael eu hadrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. Gofynnodd i’r Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, i roi diweddariad ar gynnydd y materion a godwyd o gyd-gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn ymwneud â phryderon y pwyllgor ynghylch y galw am adnoddau digonol i ateb yr heriau am leoliadau Tu Allan i’r Sir; a’r cwestiynau a godwyd gan Shaun Hingston ynghylch y data ymgynghori sy’n berthnasol i bobl ifanc. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

22.

Diweddariad ar y Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Rhoidiweddariad ar y Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, adroddiad i ddarparu diweddariad ar raglen 'Gynnydd i Ddarparwyr - Creu rhywle a elwir yn Gartref …Darparu beth sy’n Bwysig’, gan gynnwys cyflwyno'r Rhaglen i ddarparwyr gofal cartref.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gwnaeth yr Uwch Reolwr egluro, er mwyn cydnabod y cynnydd roedd y cartrefi gofal yn ei gyflawni o ran gweithredu arferion gofal sy’n canolbwyntio ar unigolyn, roedd yr Awdurdod wedi datblygu ei becyn gwaith hunanasesu ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ ei hun.  Roedd y pecyn gwaith yn nodi disgwyliadau’r Awdurdod o ran darparu gofal unigol ac roedd yn cefnogi unigolion cyfrifol a rheolwyr ac arweinwyr mewn cartrefi drwy ddarparu amrywiaeth o adnoddau a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn a oedd yn helpu timau staff i newid y ffordd roeddent yn cefnogi pobl a sut roeddent yn ymgysylltu â theulu a ffrindiau. Roedd y pecyn gwaith ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ hefyd yn helpu darparwyr i hyrwyddo rhagor o ddewis a rheolaeth i’r rhai a oedd yn cael gofal a oedd yn caniatáu i ddarparwyr ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bob unigolyn.

 

Er mwyn dangos cynnydd, esboniodd yr Uwch Reolwr bod yr Awdurdod wedi cyflwyno 3 lefel o achrediad a gaiff eu dilysu gan Dîm Contract a Chomisiynu Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r rheolwyr cartrefi gofal.Bydd achrediad Efydd, Arian ac Aur yn helpu rheolwyr i wirio eu cynnydd eu hunain a dangos yn gyhoeddus eu bod yn dal i wneud cynnydd ar hyd y ffordd i gynnig gofal sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn.Ym mis Medi 2018, enillodd y prosiect Wobr Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ‘ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff’. Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – ‘Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU’.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y cynnydd hyd yma a’r camau nesaf, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ynghylch cyfranogiad elusennau’r Lluoedd Arfog, esboniodd yr Uwch Reolwr bod nifer o ddathliadau wedi cael eu cynnal mewn cartrefi gofal i nodi digwyddiadau’r gorffennol a oedd wedi cael eu llywio gan y Lluoedd Arfog.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei longyfarchiadau i'r Prif Swyddog a'r Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu a’i thîm am eu gwaith a’u cyflawniadau. Cynigodd bod llythyr i'w anfon gan y Pwyllgor i fynegi ei gydnabyddiaeth a'i werthfawrogiad am y gwaith a gynhaliwyd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei llongyfarchiadau ar y llwyddiant a gafwyd a gofynnodd a oedd modd rhoi mwy o gyhoeddusrwydd er cydnabyddiaeth y cartrefi gofal a oedd wedi ennill achrediad Efydd, Arian neu Aur. Teimlai y byddai hyn yn annog cartrefi gofal eraill i ymuno â'r Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)     Bod y Pwyllgpr yn croesawu'r camau a’r arloesi sy’n cael eu gwneud i yrru’r Prosiect yn ei  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Cynnig Gofal Plant Cymru, Sir y Fflint pdf icon PDF 259 KB

Pwrpas:        Amlinellu sut y gellir rhoi cefnogaeth i fwy o deuluoedd gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant 30 awr a chynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith hwn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gofal Cymdeithasol) adroddiad yn amlinellu sut y gall rhagor o deuluoedd gael eu cefnogi i gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant 30 awr a’r cynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith hwn.Darparodd wybodaeth gefndir ac esboniodd mai nod y Cynnig oedd helpu i gefnogi teuluoedd gyda gofal o ansawdd sy’n hyblyg, ac yn fforddiadwy. Roedd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar incwm y teulu hefyd, ac yn helpu rhieni i gael gwaith gan leihau perygl y teulu o dlodi. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog bod y Cynnig Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus yn Sir y Fflint, a fyddai o fudd i deuluoedd, y sector gofal plant a chymunedau. Oherwydd ei lwyddiant, gofynnwyd am nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, a cafodd hyn ei gymeradwyo yn ddiweddar.Adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a cyfeiriodd at y cynnydd wrth ddatblygu a darparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, Cynllun Cyfathrebu Gwybodaeth ac Ymgysylltiad, nawdd grantiau cyfalaf, cytundeb trwyddedu meddalwedd Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint, system cenedlaethol a pheilot Hawl Bore Oes o £4.50 yr awr.  

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie y Prif Swyddog a’i dîm ar lwyddiant Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint a gofynnodd bod diolch yn cael ei basio ymlaen i bawb arall a gyfrannodd eu gwaith caled. Cynigodd bod llythyr yn cael ei anfon i’r Cadeirydd gan Swyddogion a staff i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgor o’r gwaith sy’n cael ei gynnal i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r cynnig.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn yr adroddiad; a

 

 (b)     Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Pwyllgor i’r Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Chefnogaeth i’r Teulua’i thîm, i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgoro’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefngoi teuluoedd i gael mynediadi’r Cynnig.

24.

Diweddariad Adnewyddu Arosfa pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am wasanaeth ychwanegol i ddarparu mwy o lety ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth yn hytrach na threfnu lleoliad y tu allan i’r sir.  Bydd Cyllid refeniw ICF yn cael ei ddefnyddio i staffio 2 ystafell wely ychwanegol ar sail hirdymor a byrdymor a bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a'r Gweithlu, adroddiad ar wasanaeth ychwanego i ddarparu rhagor o lety i bobl ifanc gydag anghenion cymhleth.Darparodd wybodaeth cefndir ac esboniodd bod cynlluniau i adnewyddu adain wag o’r adeilad i ddarparu lle i ddau wely ychwanegol yn Arosfa, a fydd yn lletya dau breswyliwr parhaol tymor hir a darparu gwasanaeth lleol o ansawdd fel dewis arall i leoliadau tu allan i'r sir. Cynghorodd bod nawdd gan y Gronfa Gofal Integredig wedi cael ei nodi ar gyfer costau refeniw ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth estynedig.

 

                        Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a godwyd ynghylch parcio ceir a’r gymuned leol. Esboniodd y Brif Swyddog y byddai gwaith yn cael ei gynnal i sicrhau bod y gymuned leol yn gwybod am y cynlluniau, ond nad oedd disgwyl y byddai galw ychwanegol ar gyfleusterau lleol na threfniadau parcio ceir.

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei longyfarchiadau i’r Brif Swyddog, yr Uwch Reolwr a’i dîm, am eu gwaith i leihau dibyniaeth ar leoliadau tu allan i’r sir ac i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, o fewn y Sir.

 

PENDERFYNIAD:

 

Cefnogi cynlluniau i ailwampio Arosfa.

25.

Adroddiad Gwasanaeth Anableddau Dysgu Rhanbarthol ar Gynnydd pdf icon PDF 194 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Bwrdd Prosiect Rhanbarthol ar y prosiect ‘Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl ag Anableddau”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddarparu diweddariad i’r Bwrdd Prosiect Rhanbarthol mewn perthynas â “Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd:Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu” a noddir gan Lywodraeth Cymru.Cyflwynodd Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen, Gwasanaethau Di-dor ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu i’r cyfarfod. 

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y pum ffrwd waith a nodwyd yn y Strategaeth Anableddau Dysgu, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cynghorodd bod Sir y Fflint yn arwain ar y ffrwd waith newid Cymuned a Diwylliant ac maent wedi’u cynnwys, ymysg pethau eraill, mewn prosiectau o amgylch y cyfle i feddwl yn wahanol am ddefnydd taliadau uniongyrchol, chwiliad prosiect, perthnasau a phertnasau carwriaethol, yn ogystal â’r ymgyrch ‘aros i fyny’n hwyr’. Estynodd y Brif Swyddog wahoddiad i'r Rheolwr Rhaglen i roi drosolwg o’r rhaglen ‘Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu’. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Rhaglen y byddai'n darparu rhagor o wybodaeth ar ddarpariaeth addysg ryw i bobl ifanc yn dilyn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Rheolwr Rhaglen i’r Prif Swyddog a’i dîm, am eu gwaith caled. Dywedodd bod y camau a’r mentrau sy’n cael eu cynnal i gefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn gaboledig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r mentrau o fewn y rhaglen ac yn cefnogi’r cynnydd a wnaed.

26.

Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 380 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2018/23 sy’n darparu dadansoddiad ar flaenoriaeth ‘Cyngor Cefnogol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. 

 

Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%). 

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at ddangosyddion perfformiad sy’n dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.Cyfeiriodd at dudalen 154 yr adroddiad, IP1.5.2.1 ar nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol ar gyfer oedran 75+, ac adroddodd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnooddau Corfforaethol wedi atgyfeirio’r dangosydd perfformiad ar Oedi mewn Trosglwyddiad Gofal a oedd yn dangos patrwm negyddol er ystyriaeth pellach y Pwyllgor. Cynigodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Integredig Oedolion ei sylwadau ar yr heriau a’r gwaith sylweddol a wnaed gan dîm ymroddedig o staff i sicrhau nad yw pobl yn aros yn yr ysbyty am hirach na’r angen ac yn gallu dychwelyd i amgylchedd diogel pan mae’r gofal yn parhau, os oes angen.Cyfeiriodd hefyd ar y gefnogaeth a ddarperir i sicrhau bod pobl yn osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty os yw’n bosib.   

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalennau 151 (IP 1.4.1.3) a 153 (IP 1.4.3.3.)yr adroddiad.  Darparodd Swyddogion eglurhad o ran y dadansoddiad a gyflwynwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

27.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorwyr Gladys Healey a Mike Allport ar eu hymweliadau i Arosfa. Dywedon nhw bod yr ymweliad wedi bod yn gadarnhaol ac yn fwynhad, a bod proffesiynoldeb staff a safon uchel y gofal a ddarperir wedi creu argraff arnynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

28.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.