Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 28 Gorffennaf 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022, a gynigwyd gan y Cynghorydd Mackie ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol a dywedodd bod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gadael. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Jill Harris a oedd wedi gweithredu fel Prif Weithredwr (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yn flaenorol yn cyflenwi’r swydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gofynnodd y Cadeirydd os oes gan unrhyw Aelod gwestiynau ar gyfer y cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd ar 30 Tachwedd, a bod angen eu cyflwyno i’r Hwylusydd erbyn 1 Tachwedd er mwyn eu hanfon ymlaen i’r Bwrdd allu ymchwilio’r cwestiynau a chael atebion ar y diwrnod yn hytrach nag ateb ar ddyddiad diweddarach.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr Aelodau y byddai staffio yn cael ei gyfeirio mewn adolygiad o Adroddiad Perfformiad ar 8 Rhagfyr, ac roedd y Cynghorydd Claydon wedi codi pryder amdano, yn arbennig y pwysau o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Anogodd yr Hwylusydd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau maent yn dymuno ychwanegu i’r Rhaglen.
Hysbysodd yr Uwch Reolwr - Oedolion yr Aelodau bod ffeiliau staff a phobl sydd yn byw â chymorth mewn fformat digidol bellach, fodd bynnag roedd Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru dal yn gofyn am gopi papur ac roedd yr Hwylusydd yn dweud mai hwn yw’r eitem sydd dal heb ei gwblhau ar olrhain camau gweithredu.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Rob Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Pwrpas: Rhoi cyfle i’r aelodau graffu ar effeithlonrwydd y weithdrefn cwynion a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth gwasanaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cwynion yr adroddiad yn cynghori’r Aelodau bod cynnydd bach yn y nifer o gwynion o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ond bod gwersi wedi eu dysgu, ac ar nodyn positif bod 251 o ganmoliaeth wedi dod i law. Hefyd dywedodd bod nifer o gwynion wedi gostwng o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a bod 204 o ganmoliaeth wedi dod i law.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Swyddog Cwynion a’r holl Reolwyr a ymatebodd i’r cwynion mewn ffordd effeithiol ac effeithlon a nodwyd bod cwynion yn gyfle ar gyfer dysgu.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno’n dda, ond gofynnwyd a ddylai’r Cynghorwyr wneud mwy fel Pwyllgor Craffu. Ymatebodd y Cadeirydd yn dweud y byddai’n esgeulus iddynt beidio sôn amdano os oedd patrwm yn y cwynion, ond dylid rhoi’r cyfrifoldeb i’r Swyddogion o ddydd i ddydd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n fodlon gydag effeithiolrwydd y drefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth. |
|
Darpariaeth Gofal Dydd PDF 89 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddarpariaeth gofal dydd yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad yn hysbysu Aelodau bod dwy Ganolfan Gofal Dydd ffurfiol i Bobl H?n dan berchnogaeth y Cyngor, sef Croes Atti yn Fflint a Marleyfield ym Mwcle. Cymrodd y cyfle i gyflwyno Chris Philips y Rheolwr Gwasanaeth newydd i Wasanaethau Pobl H?n i’r Pwyllgor, cyn i’r Rheolwr Comisiynu a’r Uwch Swyddog Oedolion roi adolygiad mwy cynhwysfawr o’r gwasanaethau.
Dywedodd y Rheolwr Comisiynu lle’r oedd y lefel uchel o angen, roedd y gwasanaethau gofal dydd wedi parhau ar lefel bach drwy’r pandemig a alluogodd i bobl aros gartref yn hytrach nag i mewn i ofal tymor hir. Mi alluogodd hyn y cyfle i edrych yn ehangach i alluogi pobl i fodloni eu hanghenion mewn ffordd oedd yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd 10 mlynedd yn ôl.
Hysbysodd yr Aelodau bod gofalwr Meicro wedi sefydlu eu gwasanaeth dydd eu hunain yn Fflint, a bod pobl yn cael mynediad drwy daliadau uniongyrchol, gan alluogi pobl sydd ddim yn dod yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol gael mynediad at gefnogaeth atal lefel isel. Hefyd roeddynt yn bwriadu sefydlu un yn ardal Saltney. Hefyd dywedodd eu bod mewn sefyllfa i’r Cyngor gomisiynu eu gwasanaethau.
Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod gofal dydd wedi datblygu yn ystod cyfnod y pandemig, a bellach nid oedd lleoliad y gallai bobl fynd am y diwrnod i roi seibiant haeddiannol i ofalwyr, er bod gofal dydd dal yn bresennol i’r rheiny sydd ei angen. Roedd y galw bellach yn ddull mwy cymysg a chyfatebol i wella hobïau a diddordebau. Mae grwpiau cymunedol wedi ymddangos yn cael eu cynnal gan gymunedau lleol, rhai mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Sir y Fflint, sydd yn rhoi ystod ehangach o hobïau a gwasanaethau. Dywedodd bod Croes Atti dal yn weithredol a bod capasiti am ychydig o ddiwrnodau, sydd ar sail tymor byr yn cael ei gynnig i ddefnyddwyr cyfredol, ynghyd â hysbysebu a chynghori’r tîm SPOA a Gweithwyr Cymdeithasol, sydd yn fynediad rheolaidd i bobl i gael seibiant a’r angen am ofal dydd, i unrhyw un. Ar hyn o bryd nid oes gan Marleyfield unrhyw ofal dydd oherwydd y diffyg yn y galw. Dywedodd ei bod mewn ymgynghoriad gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i feddwl am syniadau i gydweithio i ehangu gwasanaethau y gellir eu darparu yma, gyda’r posibilrwydd o ddod yn ganolfan clyd a oedd yn cael ei ddatblygu gan y Gwasanaeth Tai ac o bosib banc bwyd neu Gegin Gymunedol. Roedd yn ceisio cefnogaeth gan ddau Aelod, un ar gyfer pob canolfan, a fyddai gan ddiddordeb i helpu a gofynnwyd iddynt gysylltu â’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd, i roi eu henwau ymlaen.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie a’r Cynghorydd Cunningham ar yr adroddiad a chroesawyd yr atebion manwl i’r cwestiynau a godwyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Buckley a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau yn deall yr argaeledd cyfredol o ddarpariaeth ... view the full Cofnodion text for item 22. |
|
Diweddariad tîm Un Pwynt Mynediad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod y Tîm Un Pwynt Mynediad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi’u lleoli ym Mhreswylfa, yr Wyddgrug a dyma ble roedd atgyfeiriadau yn cael eu hadrodd a’u hatgyfeirio i’r tîm priodol. Hefyd roeddynt yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth saith diwrnod yr wythnos. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth i Bobl H?n bod dros 2,000 o adroddiadau gan yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans yn flynyddol a oedd angen eu hymdrin, a chanmolodd y Swyddogion sydd wedi delio â hwy.
Hysbysodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu’r Aelodau mai’r rhif i gysylltu â’r Tîm SPOA oedd 03000 858 858. Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod swyddogion yn cael hyfforddiant gorfodol cynhwysfawr, yn ogystal ag hyfforddiant ychwanegol yn ôl y gofyn, i’w galluogi i roi’r cyngor gorau ar ystod eang o amgylchiadau. Yn ogystal roedd swyddogion yn cael ôl-drafodaeth ar ôl achosion cymhleth.
Rhoddodd y Cynghorydd Cunningham sylw ar ba mor ffodus oeddynt i gael y gwasanaeth gwych, yn aml iawn roedd pobl yn cysylltu gyda’r Cynghorwyr am gymorth a chyngor. Dywedodd y Cynghorydd Maddison ei bod wedi defnyddio eu gwasanaeth ar wahanol achlysuron a phob amser wedi cael ymateb prydlon a phroffesiynol. Dyma hefyd oedd safbwynt y Cynghorydd Owen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd Buckley.
PENDERFYNWYD:
(a)
Bod yr Aelodau yn derbyn a
nodi’r adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas
â’r Un Pwynt Mynediad ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol i Oedolion a; (b) Bod yr Aelodau yn rhoi sylw dyledus i amrywiaeth o weithgaredd ar draws Un Pwynt Mynediad a nodi datblygiad a gwelliant parhaus yn y ddarpariaeth gwasanaeth. |
|
Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 PDF 83 KB Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf, gofynnwyd bod pob amserlen camau gweithredu adolygu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyda nifer o ddyddiadau cwblhau targed yn cael eu gosod ym mis Mawrth 2023 Mae’r adolygiad wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd dyddiadau wedi cael eu hadolygu gan Swyddogion i sicrhau bod targedau cywir yn cael eu hadnabod. Roedd y ddogfen yn cynnwys dyddiadau targed wedi’u diweddaru a rhesymeg ar gyfer y newidiadau neu dim newidiadau. Tri chategori o resymeg oedd:-
· Busnes Craidd - gweithgaredd yn barhaus · Prosiect - gweithgaredd gyda dyddiad dechrau a gorffen amlwg · Menter Newydd - gweithgaredd gyda dyddiad dechrau amlwg a all ddatblygu yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am y nifer o eitemau sy’n cael eu hadolygu o’i gymharu â’r Cynllun y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai hwn oedd crynodeb o’r rhestr hyd y gwyddai. Byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd yn gwirio gyda’r tîm perfformiad ac adrodd yn ôl iddo.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Makie a’u heilio gan y Cynghorydd Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cytuno i adolygu Rhan 1 Cynllun y Cyngor a diweddaru’r amserlenni ar gyfer cwblhau ar ôl adolygu’r gwreiddiol. |
|
Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023/24 PDF 96 KB Cyfrannu i ddatblygiad Cynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd wrth yr Aelodau bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i adnewyddu i adlewyrchu’r prif flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd, fel gofyniad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfer sefydliadau i osod unrhyw gamau gweithredu i gynyddu faint mae’r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad. Eglurodd bod adolygiad llawn wedi cael ei gynnal a oedd yn cynnwys:-
· Camau Gweithredu Blaenoriaeth a fydd yn parhau o 2023 ymlaen ar gyfer sylw parhaus. · Camau Gweithredu Blaenoriaeth a ellir eu tynnu gan eu bod wedi’u cwblhau neu wedi dod yn weithredol. · Camau Gweithredu Blaenoriaeth sy’n dod i’r amlwg yn 2023-28
Mae’r strwythur a fwriedir i gynllun y Cyngor 2023-28 yn cynnwys saith blaenoriaeth, amcanion lles ac is-flaenoriaethau fel y rhestrir yn 1.03 o’r adroddiad.
Bydd y cynllun terfynol ar gael fel dogfen ar y we a gyhoeddir ar wefan y Cyngor ar ôl i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ym mis Mehefin 2023. Roedd tabl yn yr adroddiad yn darparu trosolwg o flaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28 mewn perthynas â lles cymunedol a phersonol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod pum elfen yn yr adroddiad ond yn grynodeb o’r hyn sydd yn mynd i mewn i’r Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Ychwanegoddyr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y byddai dadansoddiad yn rhan 2 o’r cynllun hwn, a fydd yn cael ei wneud ar ddyddiad yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Makie a’u heilio gan y Cynghorydd Buckley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi blaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1. |
|
Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth Sylfaenol PDF 167 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar newidiadau arfaethedig i’r Ddeddfwriaeth Sylfaenol gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Comisiynu bod Llywodraeth Cymru yn ceisio safbwyntiau ar nifer o gynigion am newidiadau gael eu gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol drwy broses ymgynghori, gyda holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn dod i law erbyn 7 Tachwedd. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys:-
· Dileu elw o’r gofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. · Cyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus · Hysbysu gorfodol am blant ac oedolion sy’n wynebu risg · Newidiadau i reoliadau i ddarparwyr gwasanaeth, unigolyn cyfrifol a gweithlu gofal cymdeithasol.
Cafodd ymateb drafft gan Reolwyr Gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol eu cynnwys o fewn yr adroddiad. Byddai safbwyntiau gan Bortffolio eraill o fewn y Cyngor yn cael eu casglu ac roedd Aelodau hefyd yn cael eu hannog i gyflwyno unrhyw sylwadau roeddynt eisiau eu cynnwys i’r Rheolwr Comisiynu cyn bydd yr ymateb yn cael ei gwblhau.
Cododd y Cynghorydd Mackie bryderon ynghylch effaith y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth i ddileu elw o Gartrefi Gofal Plant, ac awgrymodd petai Lywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arian i’r gwasanaeth yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu, yna byddant yn gallu cynnal eu hunain. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad o’u rhaglen i Lywodraeth i ddileu elw o farchnad gofal preswyl yng Nghymru. Ychwanegodd bod y Cyngor yn cytuno gyda hyn mewn rhai ffyrdd, sef eu bod eisiau gwasanaeth rheoledig mewnol yn gyhoeddus, ond ni fyddai’n gallu fforddio i ansefydlogi’r farchnad ofal gan eu bod yn dibynnu ar y darparwyr.
Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ar daliadau uniongyrchol rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) os oedd gan rywun ofal a ariennir gan awdurdod lleol, gallent gael taliadau uniongyrchol a oedd yn rhoi rhyddid iddynt wneud penderfyniadau eu hunain, ond nid oedd hyn wedi bod yn bosibl gyda Gofal Iechyd Parhaus GIG a oedd yn credu ei fod yn anghywir. Roedd nifer o bobl sy’n cael eu cefnogi gan y Cyngor yn symud ar hyd y sbectrwm o awdurdod lleol i Ofal Iechyd Parhaus ac yn colli’r hawl hynny.
Eglurodd y Rheolwr Comisiynu i ryw raddau, roedd taliadau uniongyrchol gyda CHC eisoes ar y ffordd i ddatblygu ymddiriedolaeth wedi’u personoli, ac roedd y Cyngor yn croesawu hyn gan y byddai’n rhoi fwy o hyblygrwydd i unigolion a dewis iddynt dros eu gofal a chymorth. Fodd bynnag, dywedodd er mwyn sefydlu’r system bod ychydig o rwystrau roedd angen eu goresgyn a phrosesau oedd angen eu rhoi mewn lle.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Makie a’u heilio gan y Cynghorydd Owen.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau yn cefnogi’r ymateb y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i gynhyrchu i’w roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cynigion am newid i ddeddfwriaeth sylfaenol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |