Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Llys Jasmine, Jasmine Crescent, Yr Wyddgrug, CH7 1TP
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Ian Smith ddatgan cysylltiad personol mewn perthynas ag eitem 5 ar yn rhaglen - Cyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Tachwedd and 13 Rhagfyr 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Tachwedd 2017.
(ii) Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Rhagfyr 2017.
Materion yn codi
Cofnod rhif 37: Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cytunodd Swyddogion i ddarparu gwybodaeth bellach am y rhif cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Plant.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Cynllun Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru PDF 112 KB Adolygu a chymeradwyo’r Cynllun Drafft Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i adolygu a chymeradwyo fersiwn drafft o Gynllun Rhanbarthol Asesu Poblogaeth Gogledd Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod awdurdodau lleol a Byrddau iechyd yn gorfod paratoi cynllun ardal ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth erbyn 1 Ebrill 2018.
Rhoddodd y Prif Swyddog adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad yn ymwneud â’r blaenoriaethau rhanbarthol, ymateb i benodau’r asesiad poblogaeth a’r themâu craidd, a’r casgliadau cyffredinol. Rhoddodd gyflwyniad ar Gynllun Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:
· Plant a phobl ifanc · Pobl h?n · Iechyd, anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau · Anableddau dysgu · Iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau · Gofalwyr · Trais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol · Ystâd ddiogel · Cyn filwyr · Tai a digartrefedd · Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei gyflwyniad a gwahoddodd aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pa gefnogaeth oedd ar gael i deuluoedd oedd mewn sefyllfa o argyfwng oherwydd eu bod yn gofalu am berthynas h?n oedd yn dioddef o ddementia a heb fod mewn ysbyty na chartref nyrsio. Cyfeiriodd hefyd at ASD a’r angen am ymyrraeth gynnar a gofynnodd pa oed y dylid rhoi meddyginiaeth i blant. Dywedodd y Prif Swyddog fod asesiad meddygol yn cael ei wneud o’r unigolyn ond nad oedd oedran penodol ar gyfer gwneud hyn.
Eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cefnogi’n rhagweithiol bobl â dementia a chyfeiriodd at y ddarpariaeth seibiant a gwasanaethau cymorth gofal yn y cartref oedd ar gael i helpu pobl i ymdopi. Dywedodd Uwch Swyddog - Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion fod yr Awdurdod hefyd yn ariannu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru a oedd yn darparu gwybodaeth am Linell Ofal Argyfwng i ofalwyr a chyfeiriodd at y cynllun ‘pontio’r bwlch’.
Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylwadau yngl?n â phroblem digartrefedd oedd yn datblygu a bod prinder llety addas, ac effaith hyn ar ymddygiad plant, a lles meddyliol rhieni.
Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â chynnydd yn nifer y plant ar y Gofrestr Diogelu Plant, eglurodd y Prif Swyddog fod y cynnydd o 9% y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn rhanbarthol a bod cynnydd cenedlaethol yng Nghymru. Dywedodd Uwch Swyddog, Plant a Gweithlu, fod y cynnydd yn deillio’n rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth ymysg asiantaethau o ddiogelwch a materion diogelu plant ac ymyrraeth gynnar. Hefyd cyfeiriodd at brosiect oedd ar fin dechrau i gefnogi mamau oedd yn beichiogi’n gyson ac yn methu â gofalu am eu plant.
Gwnaeth y Cynghorydd Kevin Hughes sylwadau ar y mater o fwlio ar-lein a’r angen i hysbysu a gweithio’n agos gydag ysgolion i gefnogi disgyblion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i weithio gydag ysgolion i hybu bwyta’n iach a mynd i’r afael â phroblem gordewdra. Rhoddwyd sicrwydd gan y Cynghorydd Christine Jones a’r Prif Swyddog fod y ddau fater yn cael sylw ym mholisi ... view the full Cofnodion text for item 43. |
|
Cyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 PDF 111 KB Darparu’r cyfle i'r Aelodau adolygu a chraffu ar amrywiaethau allweddol mewn gwariant refeniw Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i adolygu a chraffu ar amrywiadau allweddol mewn gwariant refeniw. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn egluro sefyllfa bresennol y gyllideb, y dylanwadau mewn perthynas â gorwariant yn ôl maes gwasanaeth, a’r camau a gynlluniwyd i reoli’r gorwariant trwy’r posibilrwydd o newid y gyllideb i gwrdd â’r pwysau penodol ar y gwasanaeth a mesurau eraill. Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r gwaith monitro ariannol o fewn tri maes canlynol gwasanaethau oedolion, fel y manylir yn yr adroddiad.
Iechyd Meddwl/lleoliadau gofal preswyl
Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â chost lleoliadau iechyd meddwl a’r ffigyrau o fewn rhan 1.05 o’r adroddiad. Eglurodd Swyddogion y byddai cost lleoliadau iechyd meddwl yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymorth oedd ei angen ac roedd yn cynnwys ystod o leoliadau, rhai tymor byr a thymor hir. Cyfeiriodd Swyddogion at lwyddiant adsefydlu unigolion, oedd yn arwain at gostau is ar gyfer pecynnau. Eglurodd Swyddogion hefyd y gallai lleoliadau oedd yn cael eu hariannu ar y cyd â’r gwasanaeth iechyd fod yn gymhleth. Roedd gwaith wedi’i wneud ar fodel adfer i gefnogi unigolion i gael annibyniaeth lai cyfyngedig ac wedi’i oruchwylio. Ailadroddodd Rheolwr Gwasanaeth, Anableddau, lwyddiant gweithio gyda phobl i’w galluogi i wneud cynnydd. Dywedodd y Prif Swyddog fod y gyllideb yn annigonol i gwrdd â gofynion presennol y Gwasanaeth ac er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiadau yn y gyllideb iechyd meddwl roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y gyllideb. Ychwanegodd y gallai’r gofynion cynyddol ar y gwasanaeth ac anghenion cymhleth un lleoliad gael effaith sylweddol ar y gyllideb.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â sefyllfaoedd argyfwng a ph’un ai a oedd Iechyd yn cymryd perchnogaeth, cadarnhaodd Uwch Swyddog Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion, yn ôl yr adborth, fod Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd wedi gweithredu cyn gyflymed â phosibl.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at feysydd tanwariant cyfatebol a dywedodd y byddai’r adran yn ceisio cysoni’r mater hwn.
Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis ei phryderon yngl?n ag arbedion pellach a nodwyd yn y gyllideb, £0.450m yng Ngham 1 a 0.982 yng Ngham 2.
Cydnabu’r Pwyllgor fod oblygiadau pwysau ar Iechyd hefyd yn ffactor pwysig, gyda lleoliadau’n cael eu hariannu ar y cyd rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Hefyd roedd cynnydd yn y niferoedd oedd yn gymwys i gael cefnogaeth o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis y gallai’r lleoliadau Iechyd Meddwl/gofal preswyl roi’r Cyngor mewn sefyllfa debyg i’r un yr oedd yn ei hwynebu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.
Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa’r gyllideb o ganlyniad i’r esboniadau uchod.
Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw am orwariant y credai nad oedd yn bwysig a dywedodd fod cynnydd yn nifer y bobl oedd yn gymwys i gael cefnogaeth yn sgil Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru. Hefyd gwnaeth sylw am yr oedi o ran trosglwyddo’r gwasanaeth cyfleoedd dydd a ... view the full Cofnodion text for item 44. |
|
Darparu gwybodaeth i aelodau mewn perthynas â Gwasanaethau Pontio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Swyddog – Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar swyddogaeth a phwrpas y Tîm Trawsnewid ar gyfer pobl ifanc ag Anableddau yn Sir y Fflint. Dywedodd fod yr adroddiad wedi defnyddio enghreifftiau achos i ddangos sut oedd y Tîm y gweithio a dangos canlyniadau cadarnhaol a sicrhawyd ar gyfer pobl ifanc. Yn yr adroddiad hefyd nodwyd prif heriau i’r Gwasanaeth lle mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc ag anghenion cymhleth. Estynnodd yr Uwch Swyddog wahoddiad i Reolwr Gwasanaeth, Anabledd, Cynnydd ac Adfer, i gyflwyno’r astudiaethau achos. Cwestiynodd y Cynghorydd Dave Mackie y costau ar gyfer lleoliadau preswyl ac eraill a mynegodd bryderon yngl?n â’r cynnydd arfaethedig yng nghostau lleoliadau yn y dyfodol. Cyfeiriodd at yr wybodaeth a roddwyd yn yr adroddiad oedd yn rhoi enghraifft o gostau lleoliad coleg a gofynnodd a oedd ellid darparu data cymharol ar ddarpariaeth breswyl ac arall lleol. Hefyd holodd y Cynghorydd Mackie ynghylch darpariaeth seibiant. Eglurodd Uwch Swyddog - Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion os oedd unigolyn ifanc yn mynd i goleg lleol yna gellid darparu seibiant drwy amryw o ffyrdd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â thalu Taliadau Uniongyrchol i bobl ifanc sy’n mynychu coleg preswyl, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Cynnydd ac Adfer mai’r unig Daliad Uniongyrchol yr oedd yr unigolyn ifanc yn ei dderbyn oedd ar gyfer seibiant yn ystod gwyliau’r Haf. Gofynnodd y Cynghorydd McGuill a oedd y Gwasanaeth yn gweithio gyda Choleg Garddwriaethol Llaneurgain a Choleg Glannau Dyfrdwy i ddarparu gweithgareddau y tu allan i oriau a’i ariannu fel gwasanaeth mewnol. Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Cynnydd ac Adfer fod y Gwasanaeth yn gweithio gyda Choleg Llaneurgain i ddatblygu ffyrdd i leihau costau a dywedodd fod y Coleg wedi cytuno i gyflogi unigolyn a fyddai’n lleihau'r gofal personol y byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth ei ddarparu i gefnogi myfyrwyr. Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd McGuill yngl?n ag addysg rhyw, eglurodd Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Cynnydd ac Adfer mai gan Nyrsys Cymuned ar y cyfan oedd yr arbenigedd a’r adnoddau i ddarparu addysg rhyw i bobl fanc mewn colegau ac ysgolion. Gwnaeth y Cynghorydd Marion Bateman sylw na ddylai rhieni pobl ifanc sy’n mynd i goleg preswyl gael budd ariannol. Gwnaeth y Cynghorydd Andy Dunbobbin sylw ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a dywedodd fod angen edrych ar y strategaeth addysg ochr yn ochr â’r strategaeth trawsnewid. Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan Aelodau eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi gwneud popeth o fewn ei allu i annog pobl ifanc, rhieni, i ddefnyddio’r colegau a’r cyfleusterau lleol ond yn y pen draw mai gan yr unigolyn oedd y dewis. PENDERFYNWYD: (a) Nodi pwrpas y Gwasanaeth Trawsnewid; a (b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y cam a gymerwyd i leihau costau coleg lleol a hybu ymdrechion pellach i sicrhau mwy o gadernid o fewn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
|
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Kevin Hughes adborth ar ei ymweliad cadarnhaol â Marleyfield House a thynnodd sylw at erthygl ddiweddar a oedd wedi ymddangos yn y wasg leol oedd yn tynnu sylw at amgylchedd cartrefol a chyfeillgar a’r ysbryd cymunedol ymysg defnyddwyr gwasanaeth.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a dywedodd y byddai Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn eitem ar y rhaglen i’w hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfod ar 29 Mawrth 2018. Dywedodd hefyd y cytunwyd y byddai cyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac Addysg ac Ieuenctid wedi’u trefnu ar 24 Mai 2018.
Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â’r Hwylusydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i drefnu cyfarfod ar y cyd cyn i’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) adael ar ddiwedd Ebrill 2018.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei diweddaru’n unol â hyn; a
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad a Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, pe bai angen.
|
|
Aelodau o'r Wasg a'r Cyhoedd yn y Cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ond dim un aelod o’r cyhoedd.
|