Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote attendance meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

3.

Cais am drwydded yrru cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynniri’r Aeoldau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).  

 

Gofynnodd Aelodau’r Panel nifer o gwestiynau y gwnaeth yr Ymgeisydd ddarparu ymatebion manwl.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad os oedd y geiriad ym mhwyntiau 4.13 a 4.15 yn cynnwys y trosedd hwn. Cadarnhawyd ei fod yn drosedd anghyffredin a bod yr arweiniad a gyfeirir ato yn yr adroddiad yn cynnig ychydig o wybodaeth ond ni allai fynd i’r afael â’r holl feini prawf.

 

Yna parhaodd y Cyfreithiwr i holi yngl?n â nifer o bwyntiau a oedd yn berthnasol  i’w euogfarnau blaenorol a throseddau gyrru a methiant i ddatgelu yr un fath ar y cais.   Cafwyd eglurhad o ran yr amgylchiadau yn arwain at yr euogfarn a’r amserlen ers ei ryddhau o’r Carchar ac unrhyw amgylchiadau lliniarol.  

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

            Roedd aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisi’r Cyngor ar euogfarnau a safonau’r adran drafnidiaeth, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd.  

 

            Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl euogfarnau blaenorol. Roedden nhw’n fodlon bod y rhai rhwng 1968 a 1976 yn hanesyddol a ddim yn wirioneddol berthnasol ond roedd yr euogfarn yn 2011 yn berthnasol o ran dyddiad yr euogfarn a natur y drosedd.   Roedden nhw’n ystyried yr eglurhad a ddarparodd yr Ymgeisydd am yr amgylchiadau yngl?n â’r euogfarn hwn ond nid oedd yr aelodau o’r farn bod hynny’n cael gwared ar y ffaith ei fod wedi’i gael yn euog.  Roedd yr aelodau wedi ystyried arweiniad y Cyngor ar euogfarnau ond nid oedden nhw o’r farn ei fod yn darparu unrhyw gymorth iddyn nhw ar gyfer y math yma o drosedd. Fodd bynnag roedd Safonau’r Adran Drafnidiaeth o ryw fath o gymorth iddyn nhw ac roedden nhw wedi ystyried yr arweiniad na fydd trwydded yn cael ei chaniatáu i ymgeisydd oni bai fod o leiaf 10 mlynedd wedi bod ers cwblhau’r ddedfryd am rai troseddau o natur debyg.  Ni allai’r ymgeisydd ddarparu’r data i gwblhau’r ddedfryd o garchar ond gallai ddarparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau ei ddedfryd yn y carchar erbyn o leiaf Hydref 2014.   Dyma’r aelodau hefyd yn ystyried ei bod yn berthnasol fod yna gosbau eraill wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i euogfarn 2011 ac roedden nhw o’r farn mai dim ond un o’r ffactorau perthnasol oedd y cyfnod o amser ers cwblhau’r cyfnod yn y carchar.   Dyma nhw’n ystyried fod yr euogfarn yn ddifrifol ac roedd hynny’n cael ei fynegi gyda natur y gosb. Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried y ffaith bod yr ymgeisydd heb ddarparu manylion o’i gyn-euogfarnau ar y ffurflen gais ac felly nid yn fodlon gyda’r eglurhad hwn.  Gan nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.