Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.  Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ymddiheuro i’r ymgeisydd am yr oedi ar ddechrau’r cyfarfod.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

3.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

4.

Gwrandawiad A Phenderfyniad Ar Y Cais

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

5.

Ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig

Pwrpas:        Er mwyn i Aelodau ystyried ymddygiad gyrrwr cerbyd hurio preifat/cerbyd hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â chollfarn ddiweddar.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn perthynas ag euogfarnau diweddar. Tynnodd sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar ymdriniaeth ag euogfarnau, rhybuddion a chosbau eraill wedi’u cofnodi fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i’r panel bod yr ymgeisydd wedi derbyn rhybudd am drosedd ychydig o flynyddoedd ynghynt (2011), a gafodd, yn unol â’r canllawiau, ei gymryd i ystyriaeth pan gyflwynodd yr ymgeisydd gais am drwydded ac ni chafodd effaith ar gyflwyno’r drwydded bryd hynny.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth am yr euogfarnau diweddar a chefndir y rhybudd blaenorol a ddisgrifiodd fel achos unigol. Fel y nodir yn ei sylwadau ysgrifenedig, dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn edifarhau’r euogfarnau diweddar ac eglurodd ei fod yn rhannol o ganlyniad i gyd-ddigwyddiad anffodus honedig. Dywedodd ei fod yn deall difrifoldeb y troseddau ac eglurodd ei amgylchiadau personol.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd a oedd o’n dymuno gwneud unrhyw sylwadau eraill, dywedodd fod ei ymddygiad a arweiniodd at yr euogfarn diweddar allan o gymeriad iddo.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod i alluogi’r panel i ddod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Ymdriniaeth ag Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir.Nid oedd y panel yn fodlon – ar ôl pwyso a mesur – bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd) a phenderfynwyd y dylid ei dirymu.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr y penderfyniad (isod) a chyn cau’r cyfarfod, cadarnhaodd y Cadeirydd hawl yr ymgeisydd i apelio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad hwn, y cofnod o euogfarnau, y sylwadau a wnaed gan ddeiliad y drwydded, gan gynnwys ei lythyr dyddiedig 19 Awst 2021, ac ar ôl ystyried y Canllawiau ar Ymdriniaeth ag Euogfarnau, penderfynodd yr Is-bwyllgor, yn ôl pwysau tebygolrwydd, nad yw’r unigolyn yn gymwys ac yn addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio/preifat Hacni (ar y cyd) ac y dylid dirymu ei drwydded. Nid yw'r Is-bwyllgor wedi cymryd y Rhybudd yn 2011 i ystyriaeth.