Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatgania o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Reece gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen – Ymddygiad ac Euogfarnau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd), gan ei fod wedi mynychu’r un ysgol â’r gyrrwr dros 50 mlynedd yn ôl.  Cymerodd gyngor cyfreithiol a, gan nad oedd wedi gweld y gyrrwr ers amser maith ac nad oedd ganddo berthynas bersonol â’r gyrrwr, roedd yn fodlon aros ar yr Is-bwyllgor. Cytunodd yr ymgeisydd nad oeddent wedi gweld ei gilydd ers amser maith, ac roedd yntau’n fodlon i’r Cynghorydd Reece fod ar yr Is-bwyllgor.     

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol, gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir I’r Aelodau ystyried a phenderfynu as gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i’r cyfarfod.  Cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).  Roedd y cais wedi’i gyflwyno ger bron yr Is-bwyllgor oherwydd natur rhybuddiad yr ymgeisydd, a’r ffaith fod llai na phum mlynedd ers iddo ei dderbyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, aelodau’r Is-bwyllgor a’r Cyfreithiwr gwestiynau i’r ymgeisydd oedd yn ymwneud yn benodol â’r euogfarn am aflonyddu, ac fe ymatebodd yntau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i wneud sylwadau.  Rhoddodd fanylion y cefndir a arweiniodd at y drosedd fel yr amlinellwyd yn y ffurflen gais ac ar y ffurflen DBS.  Eglurodd yr amgylchiadau esgusodol a arweiniodd iddo ymateb i sefyllfa mewn ffordd a oedd yn anghydnaws â'i gymeriad.  Eglurodd nad oedd erioed wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu cyn hynny, nac wedyn, a’i fod wedi bod yn brofiad trawmatig iddo.

 

Rhoddodd fanylion ei waith blaenorol, oedd wedi bod gyda’r un cwmni ers 20 mlynedd, a’i fod wedi gweithio ers gadael yr ysgol pan gychwynnodd ar brentisiaeth.  Roedd yn teimlo ei fod yn weithiwr diwyd, da oedd yn dod ymlaen yn dda â phobl; roedd nifer o bobl wedi dweud wrtho y byddai’n gwneud gyrrwr tacsi da.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd ddarpar gyflogwr yr ymgeisydd i siarad.  Dywedodd ei fod wedi adnabod yr ymgeisydd ers blynyddoedd lawer, ac mai ef oedd y person mwyaf digyffro yr oedd yn ei adnabod.  Dywedodd fod diogelwch cwsmeriaid yn hollbwysig i'w gwmni tacsis a'i fod yn ymddiried yn yr ymgeisydd yn y rôl honno.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor, eglurodd yr ymgeisydd agweddau ar ei euogfarn, gan gynnwys manylion ei fywyd personol.  Dywedodd ei fod yn ei ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd, ei ddarpar gyflogwr ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad. 

 

Penderfyniad

                      

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau  a wnaed ac amgylchiadau'r euogfarn am aflonyddu.  Teimlai’r Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod a rhoi gwybod am y penderfyniad.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ac y dylid caniatáu’r Drwydded.  

4.

Ymddygiad a Chosfarnau am Drwydded Yrru / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) Preifat

Pwrpas:        I’rAelodau ystyried ymddygiad gollfarnau diweddar Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd), a phenderfynu a yw’n parhau I fod yn berson addas a phriodol I barhau I ddal y drwydded.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y gyrrwr i’r cyfarfod.  Cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad ar Ymddygiad ac Euogfarnau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd), gan gynnwys y rhesymau pam ei fod yn cael ei gyflwyno ger bron yr Is-bwyllgor.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, aelodau’r Is-bwyllgor a’r Cyfreithiwr gwestiynau i’r ymgeisydd mewn perthynas â dwy euogfarn y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, ac fe ymatebodd yntau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i wneud sylwadau.  Rhoddodd fanylion llawn yr euogfarnau, gan gynnwys y rheswm pam na roddodd wybod amdanynt o fewn 7 niwrnod i’w derbyn.  Rhoddodd fanylion hefyd am ei waith presennol a’r ffaith fod ei gyflogwyr yn ei gefnogi.  

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor, eglurodd y gyrrwr agweddau ar ei euogfarnau, gan gynnwys manylion ei fywyd personol.  

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r gyrrwr ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad. 

 

Penderfyniad

                      

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau'r euogfarnau a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Teimlai’r Is-bwyllgor fod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r gyrrwr yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod a rhoi gwybod am y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu’r Drwydded.