Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter (01325 702322)  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

2.

Cais am Drwydded Eiddo pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas: Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo a gyflwynwyd gan TH UK & Ireland Limited.  Yr eiddo dan sylw oedd Tim Hortons, Parc Manwerthu Brychdyn, Brychdyn, Sir y Fflint, CH40DP a dangoswyd y lleoliad yn Atodiad A yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod y cais ar gyfer Trwydded Eiddo newydd (dim alcohol).  Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am luniaeth hwyr tu mewn a thu allan a chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio ac heb ei seinchwyddo tu mewn yn unig.  Atodwyd ffurflenni a chynlluniau’r ymgeisydd yn Atodiad B yr adroddiad.  Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer lluniaeth hwyr tu mewn a thu allan oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00.  Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer cerddoriaeth wedi’i recordio a heb ei seinchwyddo tu mewn oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00.  Mae’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn diffinio darpariaeth lluniau gyda’r hwyr fel cyflenwad o fwyd poeth a diodydd poeth rhwng yr oriau 11.00pm a 5.00am.  Nid oes angen trwydded ar gyfer darpariaeth cyn 11.00pm neu ar ôl 5.00am. 

 

Roedd yr Uned Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau nad oedd ganddynt bryderon diogelu.  Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd ganddynt sylwadau i'w gwneud ar y cais.  Derbyniwyd sylwadau gan y partïon â diddordeb ac atodwyd y rhain yn Atodiad C yr adroddiad.  Eglurwyd gyda rhai o bartïon â diddordeb  nad oedd y cais yn cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol. 

 

Gofynnwyd i Heddlu Gogledd Cymru wneud sylwadau ar y pwyntiau a wnaed yn y llythyrau sylwadau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a threfn gyhoeddus. Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ers 2022 bod un digwyddiad mewn perthynas â Tim Hortons a oedd yn bryder ar gyfer diogelwch ond nid oedd yn ymwneud â’r eiddo ei hun. Roedd yr unig ddigwyddiad arall yn ymwneud â digwyddiad am 11pm ym Maes Parcio McDonalds yn ymwneud â 2 gar ac fe gafodd diogelwch eu galw, fodd bynnag ni welsant unrhyw geir ac nid oeddent yn gwybod am ddim. Hefyd fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd unrhyw adroddiadau o god post Vickers Way (CH4 0FX) ar gyfer 2022, a bod y ffigyrau ar eu gwefan cyhoeddus ar gyfer ward gyfan Gogledd Ddwyrain Brychdyn a oedd yn cynnwys eiddo Tîm Hortons ac ardal llawer ehangach.

 

Roedd y camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu wedi’u gosod allan yn Atodiad D yr adroddiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Matthew Williams, Rheolwr Rhanbarthol i siarad ar ran yr ymgeisydd.  Rhoddodd Mr Williams wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod eiddo Tim Hortons ym Mharc Manwerthu Brychdyn ar hyn o bryd yn masnachu o 6.00am i 1.00pm yn ddyddiol a’u bod yn ceisio am drwydded eiddo er mwyn galluogi’r busnes i weithredu 24 awr o 6.00am i hanner nos ar gyfer lluniaeth gyda’r hwyr tu mewn a thu allan (gyrru drwodd - ceir yn unig), ac o hanner nos masnachu tu allan (gyrru drwodd) yn unig.  Dywedodd Mr Williams  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

AELODAU O'R CYHOEDD HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 10.48am)

 

 

………………………………

Cadeirydd

 

4.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED:

 

That the press and public be excluded from the meeting for the following item as it is considered to contain exempt information by virtue of paragraph(s) _______ of Part 1 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 (as amended).